Mae'r canlynol yn rhoi crynodebau o'r penderfyniadau a wnaed gan weinidogion.
Manylion
Yr ymateb i Wcráin – Taliadau chwyddo i letywyr 2026 i 2027
1 Ebrill 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cytuno i barhau i dalu taliadau ‘diolch’ (£150 y mis) i unigolion sy’n lletya gwesteion o Wcráin, ond dim ond ar gyfer y rheini sydd wedi cyrraedd trwy lwybr uwch-noddwyr Llywodraeth Cymru. Bydd y taliad misol ar gael i letywyr am y 12 mis cyntaf ar ôl i’w gwesteion gyrraedd y DU.
Ehangu a digideiddio Asesiad Llythrennedd GoFaL
31 Mawrth 2026
Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ehangu a digideiddio Asesiad Llythrennedd GoFaL a chytunodd y bydd y cyfrifoldeb am ariannu a chyflawni o 2026 i 2027 ymlaen yn trosglwyddo i Adnodd.
Cyllid ychwanegol i CLlLC
31 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i ddyrannu cyllid ychwanegol i CLlLC drwy eu grant Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol.
Diogelwch Adeiladau
31 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ymestyn gweithrediad y Cyd-dîm Arolygu tan 31 Mawrth 2027.
Bil Diogelwch Adeiladu (Cymru) - Cynlluniau Gweithredu
31 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno ar amserlenni arfaethedig ar gyfer gweithredu'r darpariaethau yn y Bil Diogelwch Adeiladu (Cymru), yn ogystal â diweddaru awdurdodau lleol ac awdurdodau tân ac achub ar gynlluniau gweithredu.
Cryfhau Model Cenedlaethol Hwb
31 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i gryfhau Model Cenedlaethol Hwb Llywodraeth Cymru i sicrhau system ddigidol fwy diogel sy'n barod at y dyfodol. Mae rhaglen newid tair blynedd wedi'i chymeradwyo i gynyddu hyblygrwydd ac ymreolaeth ysgolion, gyda chefnogaeth model cyfrifoldeb a rennir newydd a chydweithrediad agosach ag awdurdodau lleol.
Cynlluniau Gwario
31 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar gynlluniau gwario arfaethedig ar gyfer cyllidebau'r Is-adran Safonau, Gwella a Gwybodaeth ar gyfer y flwyddyn ariannol 2026 i 2027.
Egwyddorion Parodrwydd ar gyfer Pandemig y Pedair Gwlad
31 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo egwyddorion lefel uchel ar gyfer sut y bydd pedair cenedl y DU yn gweithio gyda'i gilydd i wella ein parodrwydd ar gyfer pandemig ar y cyd, a gyhoeddwyd fel rhan o Strategaeth Parodrwydd ar gyfer Pandemig Llywodraeth y DU.
Prynu tir ar gyfer y newid arfaethedig i wasanaeth ailgylchu Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
31 Mawrth 2026
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar gyllid cyfalaf o £5,111,000 ar gyfer prynu tir hen safle Kautex lle mae Parc Busnes Dyffryn, Alder Ave, Ystrad Mynach, CF82 7YW i alluogi Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i adeiladu Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff newydd.
Ystyried dirwy bosibl am berfformiad Ailgylchu
31 Mawrth 2026
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi penderfynu na ddylid cymhwyso dirwy bosibl o £1,521,800 ar gyfer y blynyddoedd targed 2022 i 2023 a 2023 i 2024 i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Gwaredu tir
31 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a thai wedi cytuno i drosglwyddo tir yn y Rhyl i'r Cyngor.
Gwella gwasanaethau Ailgylchu
31 Mawrth 2026
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar gyllid o £2,207,080 ar gyfer cerbydau, cynwysyddion a seilwaith cysylltiedig er mwyn galluogi Cyngor Sir Caerfyrddin i ddechrau trosglwyddo eu gwasanaeth ailgylchu i gydymffurfio â Glasbrint Casgliadau Llywodraeth Cymru (fel rhan o Gam 1). Hefyd, cyllid mewn egwyddor o £19,100,000 yn amodol ar gyflwyno achos busnes llawn ar gyfer Cam 2.
Ailbenodi Cadeirydd Partneriaeth Arfordiroedd a Moroedd Cymru – (CaSP Cymru)
31 Mawrth 2026
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi ailbenodi Dr David Tudor am 3 blynedd o 1 Mehefin 2026 tan 31 Mai 2029.
Dyraniad Cyllid Refeniw Bwyd mewn Ysgolion
31 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar ddyraniad cyllid refeniw sy’n gysylltiedig â bwyd mewn ysgolion ar gyfer 2026 i 2027.
Estyniad Contract Gwerthusiad Ffurfiannol y Cwricwlwm i Gymru
31 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i weithredu'r estyniad dewisol o 16 mis i'r contract ar gyfer Gwerthusiad Ffurfiannol y Cwricwlwm i Gymru ar gyfer y cyfnod rhwng Rhagfyr 2026 a Mawrth 2028, gyda gwariant wedi'i gapio ar £453,000.
Cynllun Busnes Cadw
31 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cymeradwyo Cynllun Busnes Cadw ar gyfer 2026 i 2027.
Cyllid i barhau â'r gwerthusiad o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020
31 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo gwariant o £275k wedi'i wasgaru ar draws blynyddoedd ariannol 2026 i 2027, 2027 i 2028 a 2028 i 2029 i barhau â'r gwerthusiad o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020.
Ymestyn Cyllid Grant i Hyb ACE Cymru
31 Mawrth 2026
Mae'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i ymestyn cyllid grant i Hyb ACE (Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod) Cymru, 2026 i 2028.
Ailbenodi Aelodau Anweithredol i Fwrdd Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Llais Cymru
31 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi ailbenodi Bamidele Adenipekun, Karen Lewis a Dr Rajan Madhok am 4 blynedd, o 01 Gorffennaf 2026 tan 30 Mehefin 2030.
Cyllid Digwyddiadau Cymru
31 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar gyllid i'w ddyfarnu gan Digwyddiadau Cymru i gefnogi llwyfannu Pencampwriaeth Golff Agored Hŷn yn 2027, a chriced rhyngwladol dynion a menywod rhwng 2026 a 2028.
Caffael Diweddariadau i SAP / SBEM i alinio â Gofynion yn y Rheoliadau Adeiladu
31 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i gaffael modelau SBEM (Simplified Building Energy Model) a SAP (Standard Assessment Procedure) wedi'i ddiweddaru i ddangos cydymffurfiaeth â Rhan L (cadwraeth tanwydd a phŵer a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr) o Reoliadau Adeiladu 2010.
Cymwyseddau Technegol Gorfodol Cynllun Personau Cymwys
31 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cytuno y gall unrhyw fân ddiwygiadau i Gymwyseddau Technegol Gorfodol y Cynllun Personau Cymwys y tu allan i'r broses adolygu ffurfiol gael eu cymeradwyo gan swyddogion heb y gofyniad am gytundeb Gweinidogol pellach.
Trydan Gwyrdd Cymru
31 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno y gall Gweinidogion Cymru ymrwymo i gytundebau opsiwn tirfeddianwyr preifat ar gyfer prosiectau Glyn Cothi a Carreg Wen sy'n cael eu datblygu gan Trydan Gwyrdd Cymru.
Costau ymgynghorwr
30 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo gwariant ar ddarparu seilwaith yn Abertawe.
Ad-dalu blaendal
30 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo dychwelyd blaendal sy'n ymwneud â thir yng Nghastell-nedd.
Ailbenodi Aelodau Annibynnol i Iechyd a Gofal Digidol Cymru
30 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi penodi Alistair Klaas Neill am 2 flynedd o 8 Awst 2026 tan 7 Awst 2028 a Marilyn Bryan Jones o 14 Gorffennaf 2026 tan 13 Gorffennaf 2028.
Rheoli cyllidebau Ysgolion
30 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Estyn 'Cefnogaeth awdurdodau lleol i ysgolion reoli eu cyllidebau'.
Gweithredu Taliadau Uniongyrchol Gofal Iechyd Parhaus y GIG
30 Mawrth 2026
Mae'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno y gall swyddogion fwrw ymlaen â chaffael Gwerthusiad ar gyfer Gweithredu Taliadau Uniongyrchol Gofal Iechyd Parhaus y GIG.
Ysgol Uwchradd Caergybi
30 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cynnig Cyngor Sir Ynys Môn i adleoli Ysgol Uwchradd Caergybi.
Ymchwil Addysg Drydyddol
30 Mawrth 2026
Mae'r Gweinidog Addysg Bellach ac Addysg Uwch ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer gweithgareddau ymchwil a gwerthuso sy'n gysylltiedig â gweithredu Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 ar gyfer y flwyddyn ariannol 2026 i 2027, ynghyd â chyllid parhaus dau ymchwilydd.
Cymorth busnes
30 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar Gyllid Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect ym Merthyr Tudful.
Rhestrau aros niwroamrywiaeth
30 Mawrth 2026
Mae'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Lles wedi cytuno ar ddyrannu cyllid rhwng 2026 a 2027 i gynnal sefyllfa o ddileu aros 3 blynedd, gyda rhywfaint o hyblygrwydd i fyrddau iechyd sydd wedi perfformio'n well er mwyn caniatáu iddynt fuddsoddi mewn trawsnewid system ehangach.
Cyllideb Trawsnewid a Deddfwriaethol Llywodraeth Leol
30 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cymeradwyo parhau i gyllido’r swyddi staff a gyllidir gan raglen y Gyfarwyddiaeth Llywodraeth Leol
Banc Datblygu Cymru – Dyraniadau Cyfalaf ar gyfer Trafodion Ariannol
30 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar ddyraniadau cyfalaf ar gyfer dwy gronfa a reolir gan Fanc Datblygu Cymru, sef Cronfa Cyd-fuddsoddi Angylion Cymru a Chronfa Micro-fenthyciadau Cymru.
Gwaith adeiladu yn SA1, Abertawe
30 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo cynyddu gwariant i gwblhau’r gwaith braenaru ym Mhlot 9 a meysydd parcio’r Tidal Basin.
Cyllidebau Rhaglenni’r Gyfarwyddiaeth Ansawdd a Nyrsio
30 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar £5.03 miliwn o wariant ar gyllidebau’r Gyfarwyddiaeth Ansawdd a Nyrsio ar gyfer 2026 i 2027.
Cronfa Ddysgu ar gyfer Troseddwyr
30 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar gyllid ar gyfer darparu addysg, hyfforddiant a llyfrgelloedd mewn carchardai yng Nghymru ar gyfer blynyddoedd ariannol 2026 i 2027.
Darpariaeth i barhau i ariannu yn sgil asesiad o anghenion gofal annibynnol
30 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i ddarparu cyllid ychwanegol parhaus ar gyfer 2025 i 2026 a 2026 i 2027 i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i dalu am gostau gofal ychwanegol yn dilyn asesiad annibynnol ar gyfer cyn-dderbynnydd Grant Byw’n Annibynnol Cymru.
Cymeradwyaeth Porthladd Rhydd Ynys Môn o’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a Dyfarnu Cyllid
30 Mawrth 2026
Mae Ysgrifenyddion y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg a’r Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo trefniadau llywodraethiant a gweithio ffurfiol a rhyddhau arian ar gyfer 2025 i 2026.
Cyllid ar gyfer Trawsnewid Trefi
30 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cymeradwyo cyllido Trawsnewid Trefi i: gefnogi prynu 29 a 31 Taff Street ym Mhont-y-pridd; ailddatblygu 1 Oxford Street, Abertawe; cefnogi Cam 2 prosiect y Potters Wheel yn Abertawe; cefnogi o’r cam Dylunio i’r cam Cynllunio yng nghynllun amlennu blaen siopau Talbot Street ym Maesteg; a chefnogi datblygu Cynlluniau Creu Lleoedd yn Adamstown / Splott a Thref Bute / Bae Caerdydd.
Ailbenodi Aelod Annibynnol (Trydydd Sector) ar Fwrdd Addysgu Iechyd Powys
30 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi ailbenodi Jennifer Owen Adams am 4 blynedd o 30 Awst 2026 tan 29 Awst 2030.
Taliadau i Fusnesau a Rhanbarthau
30 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo cyllideb o £88,400 (gan gynnwys TAW) ar gyfer blwyddyn ariannol 2026 i 2027.
Penodi Dirprwy Gadeirydd a Chyfarwyddwyr Anweithredol Awdurdod Tomenni nas Defnyddir Cymru
30 Mawrth 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi penodi Marc Penny fel Dirprwy Gadeirydd o 15 Mehefin 2026 tan 14 Mehefin 2030 a James Williams, Kathryn Warren, Simon Power a Iwan Jones o 15 Mehefin 2026 tan 14 Mehefin 2029 fel Cyfarwyddwyr Anwerthredol Awdurdod Tomenni nas Defnyddir Cymru
Penodi Is-gadeirydd ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
30 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi penodi Will Smart am 4 blynedd o 5 Mai 2026 tan 4 Mai 2030.
Penodi Aelodau Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
30 Mawrth 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi penodi Adam Taylor am 4 blynedd o 1 Ebrill 2026 tan 31 Mawrth 2030 a Rajma Begum am 4 blynedd o 1 Ionawr 2027 tan 31 Rhagfyr 2030.
Lleisiau Eraill, Aberteifi 2026
30 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar gymorth cyllid o £100,000 i Lleisiau Eraill Aberteifi 2026.
Cyfarfod y Panel Buddsoddi 10 Mawrth 2026
30 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar gyllid Economi’r Dyfodol ar gyfer prosiect cynhyrchu creadigol yng Nghaerdydd.
Cynigion Tâl Rheoleiddio CNC ar ôl ymgynghori
30 Mawrth 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo Cynigion Terfynol CNC ar gyfer Tâl Rheoleiddio ar gyfer 2026 i 2027 ac wedi cytuno y caiff CNC godi’r tâl newydd o 1 Ebrill 2026.
Cymeradwyo newid o fewn blwyddyn i gronfa wella llywodraeth leol ar gyfer 2025 i 2026
30 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno ar newid o fewn blwyddyn i gyllid y sector i gefnogi arloesedd ar gyfer Menywod mewn Arweinyddiaeth Llywodraeth Leol ac i Ffederasiwn Blaenau Gwent a Thor-faen er lles llywodraeth leol yng Nghymru.
Cyllid grant i CLlLC i gefnogi gwelliant mewn llywodraeth leol a chymorth Digidol
30 Mawrth 2026
Mae’r Prif Weinidog wedi cymeradwy grant i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddarparu gwelliannau o dan arweiniad y sector a chymorth digidol yn 2026 i 2027 a chyllid mewn egwyddor yn 2027 i 2028.
Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru)
30 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i wneud Rheoliadau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2026, fydd yn diwygio Rheoliadau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2020.
Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (LDTCS)
30 Mawrth 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno y bydd yr LDTCS yn defnyddio ffenestri cyllido byrrach neu orgyffwrdd yn 2026 i 2027, y caiff ymgynghoriad ac adolygiad statudol eu cynnal cyn gynted â phosibl ar ôl yr etholiad, y caiff cynllun diwygiedig ei gyflwyno yn 2027 i 2028 ac y caiff cyllideb LDTCS ei throsglwyddo i raglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.
Cyfarfod y Panel Buddsoddi 3 Mawrth 2026
30 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar gyllid Economi’r Dyfodol ar gyfer prosiect cynhyrchu creadigol yng Nghaerdydd.
Cyfarfod y Bwrdd Cynghori ar Ddatblygu Diwydiannol
30 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar gyllid Economi’r Dyfodol ar gyfer prosiect cynhyrchu creadigol yng Nghaerdydd.
Parthau Twf Deallusrwydd Artiffisial a Deallusrwydd Artiffisial
30 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Parthau Twf Deallusrwydd Artiffisial a Rhaglen Deallusrwydd Artiffisial er Lles yr Economi.
Ailgylchu Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru
30 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wedi cytuno i estyn cyfnod ailgylchu cyfalaf Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru, er mwyn i Fanc Datblygu Cymru allu ailfuddsoddi dros gyfnod hirach a sicrhau manteision gorau tymor hir cyfalaf cyhoeddus.
Cyfarfod y Panel Buddsoddi 10 Mawrth 2026
30 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar gyllid Economi’r Dyfodol ar gyfer prosiect cynhyrchu creadigol yng Nghaerdydd.
Cyfarfod y Panel Buddsoddi 10 Mawrth 2026
30 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar gyllid Economi’r Dyfodol ar gyfer prosiect cynhyrchu creadigol yng Nghaerdydd.
Parth Buddsoddi’r De-ddwyrain – cynigion llawn ar gyfer y Porth (achos busnes)
30 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo cynnig achos busnes llawn, wedi’i baratoi gan Gyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain, ar gyfer Parth Buddsoddi’r De-ddwyrain.
Cymeradwyo Cynllun Cyflenwi Blynyddol 2025/26 ar gyfer Parth Buddsoddi’r De-ddwyrain
30 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo, mewn perthynas â Pharth Buddsoddi’r De-ddwyrain, Gynllun Cyflenwi Blynyddol 2025 i 2026, y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth sy’n nodi’r fframwaith llywodraethiant ffurfiol rhwng y Gweinidog Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru a Chyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyain a grant ar gyfer cynnal gweithgareddau yn 2025 i 2026.
Cynllun cwynion Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol (OIA)
26 Mawrth 2026
Mae'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cyllid i Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol i ddarparu gwasanaethau sefydliadol a gwasanaethau cynghori wrth baratoi ar gyfer ehangu cynllun cwynion yr OIA i gyrsiau addysg bellach a phrentisiaethau.
Grant Cyfalaf Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr
26 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip yn cymeradwyo cynigion cyllido cyfalaf i ail-broffilio grantiau a ddyfarnwyd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Penfro ar gyfer 2026 i 2027. Mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn cymeradwyo cynigion cyllid cyfalaf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gwerth £700,865; ac oddi wrth Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ar gyfer grantiau gwerth £57,370 a ddyfarnwyd i'w cwblhau yn 2026 i 2027 ac oddi wrth Ynys Môn ar gyfer grant gwerth £1,261,335 a ddyfarnwyd i'w gwblhau yn 2027 i 2028.
Uned Tir – Cyflawni Rhaglen a Rheoli Asedau 2026 i 2027
26 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno i ddefnyddio cyllidebau'r Uned Tir o fewn yr Is-adran Lle ar gyfer darparu mwy o gartrefi.
Awdurdod lleol Sir Benfro - Cais am gyllid ar gyfer Ysgol Aberdaugleddau
26 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cyllid i awdurdod lleol Sir Benfro ar gyfer llesiant dysgwyr a chymorth iechyd meddwl ychwanegol.
Penodi Cyfarwyddwr Anweithredol ar gyfer Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
26 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi penodi Umar Ahmad am 4 blynedd o 01 Ebrill 2026 tan 31 Mawrth 2030.
Cynllun Buddsoddi Gwledig - Cyllid TB gwartheg
26 Mawrth 2026
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog / Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ddyraniadau cyllideb ychwanegol y Cynllun Buddsoddi Gwledig yn ystod blwyddyn ariannol 2026 i 2027 i gefnogi gwaith dileu TB mewn gwartheg.
Penodi Pedwar Aelod Bwrdd Annibynnol i Fwrdd Hybu Cig Cymru (HCC)
26 Mawrth 2026
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi penodi Sophie Nixon, Wyn Owen, Jon Tanner a Darren Williams am dair blynedd rhwng 01 Ebrill 2026 a 31 Mawrth 2029.
Penodi Aelodau i Fwrdd Chwaraeon Cymru
26 Mawrth 2026
Mae'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi penodi Parul Patel, Phil Newman, a Dr Anna Bryant am 3 blynedd rhwng 01 Hydref 2026 a 30 Medi 2029.
Cyfarfod y Panel Buddsoddi ar 24 Chwefror 2026
26 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar Gyllid Cynhyrchu Creadigol Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Adroddiad Blynyddol Cymraeg 2050 a Chynllun Gweithredu Cymraeg 2050
26 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wedi cytuno ar gynnwys a chyhoeddi Adroddiad Blynyddol Cymraeg 2050 ar gyfer 2024 i 2025 a Chynllun Gweithredu Cymraeg 2050 ar gyfer 2026 i 2027.
Cyfarfod y Panel Buddsoddi ar 10 Mawrth 2026
26 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar Gyllid Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yn Sir Benfro.
Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy
26 Mawrth 2026
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi darparu cymeradwyaeth ar gyfer cyllideb o £850,000 o refeniw i Taliadau Gwledig Cymru i sicrhau adnoddau amgylcheddol ychwanegol i gyflawni'r Adolygiad o Gynefinoedd, asesiad fferm gyfan sy'n rhan o Haen Opsiynol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Penodi Aelodau o Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru
26 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi penodi Anwen Elias, Ian Brancroft, a Siwan Davies am 4 blynedd o 01 Mai 2026 tan 30 Ebrill 2030.
Cynnig Gofal Plant i Gymru – Adolygu Cyfraddau 2026/27
26 Mawrth 2026
Mae'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i gynyddu'r gyfradd fesul awr ar gyfer y Cynnig Gofal Plant i £6.67, sy'n gynnydd o 4.18%. Bydd y gyfradd ddiwygiedig yn dod i rym o 6 Ebrill 2026.
Cyllideb Cymunedau Cydlynol
26 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cytuno ar ddyraniad o £3.15miliwn o'r Gangen Polisi Cydlyniant a Chasineb o'r Gyllideb Cymunedau Cydlynol ar gyfer 2026 i 2027.
Cyllideb Cymunedau Cydlynol
26 Mawrth 2026
Gofynnwyd i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip gymeradwyo £20,000 o gyllid diogelwch amddiffynnol dros ddwy flynedd ar gyfer partner trydydd sector.
Dyfodol Ystad Fferm Pwllperian
26 Mawrth 2026
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog a'r Ysgrifennydd Cabinet dros Faterion Gwledig wedi cytuno ar gynlluniau i Ystâd Fferm Pwllpeiran ddechrau trafodaethau ffurfiol gydag IBERS/Prifysgol Aberystwyth ar delerau ar gyfer prydles hirdymor newydd.
Dyrannu Cyllideb Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2026 i 2027
26 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cymeradwyo dyraniadau cyllideb ar draws y gyllideb refeniw Cydraddoldeb, Cynhwysiant a Hawliau Dynol ar gyfer y Flwyddyn Ariannol 2026 i 2027.
Trawsnewid Trefi, Adfer Marchnad Caerdydd
26 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo newid cwmpas prosiect Adfer Marchnad Caerdydd er mwyn sicrhau y gall gwaith hanfodol i atal dirywiad pellach yr adeilad rhestredig Gradd ll* fynd rhagddo.
Grant Datblygu Eiddo
26 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo Grant Datblygu Eiddo gwerth £500k ar gyfer Snowdonia Fire Protection i ddatblygu pencadlys newydd 988 metr sgwâr ar blot C4 Ystâd Ddiwydiannol Cibyn, Caernarfon, Gwynedd.
Cyllid Offer Diagnostig
26 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar £12miliwn o gyllid ar gyfer offer diagnostig a thriniaeth newydd ar gyfer 2026 i 2027.
Datgniad Sefyllfa Cyd-bwyllgorau Corfforaethol
26 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar Ddatganiad Sefyllfa'r Cyd-bwyllgorau Corfforaethol 2026 i 2027 a'i gyhoeddi.
Caffael ac Adnewyddu Eiddo Newydd
26 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i gaffael ac adnewyddu Uned 1 Ystâd Ddiwydiannol Hirwaun.
Ail-benodi Cyfarwyddwr Anweithredol Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
26 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cabinet wedi ailbenodi Nick Eliot am 4 blynedd o 01 Ebrill 2026 tan 31 Mawrth 2030.
Cyllid ar gyfer Partneriaethau Bwyd Lleol
26 Mawrth 2026
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i gyllid ar gyfer Partneriaethau Bwyd Lleol a dechrau'r broses ymgeisio ac arfarnu ar gyfer y Cynllun Partneriaeth Bwyd Lleol ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2026 i 2027.
Gwerthusiad Ffurfiannol o Cwricwlwm Cymru
26 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar ymateb y llywodraeth i'r astudiaeth ansoddol Dysgu Sylfaen yng Nghwricwlwm Cymru, fel rhan o'r gwerthusiad ffurfiannol o Gwricwlwm Cymru.
Diwygio’r cynllun codi tâl a gyhoeddwyd
26 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar daliadau diwygiedig ar gyfer Cynllun Codi Tâl y Proffesiwn Rheoli Adeiladu.
Taliad Swm Cymudo i Associated British Ports
26 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo talu swm cymudo yn SA1, Abertawe.
Prosiectau Ynni Adnewyddadwy ar Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru – ceisiadau am gytundeb Adran 83
26 Mawrth 2026
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog wedi cymeradwyo caniatâd ar gyfer hawddfraint ar gyfer cebl allforio wedi'i gladdu ar gyfer fferm wynt ar y môr Mona ar Ystâd Gwrych a chydsyniad i brydlesu tir ar gyfer chwe tyrbin gwynt ger fferm wynt weithredol 28 tyrbin bresennol ym Mrechfa. Mae'r Prif Weinidog wedi cymeradwyo caniatâd i brydlesu tir ar gyfer 15 tyrbin ger prosiect Trydan Gwyrdd Cymru Afan yn Nwyrain Afan.
Rheoli Tiwna Glas Dwyrain yr Iwerydd yng Nghymru yn ystod 2026
26 Mawrth 2026
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i agor pysgodfa dal a rhyddhau hamdden ar gyfer tiwna glas i longau siarter yn 2026, wrth ystyried treialon bach ar gyfer trwyddedau unigol. Mae'r dirprwy Brif Weinidog hefyd wedi cytuno i ganiatáu pysgota masnachol wedi'i dargedu ar gyfer tiwna glas ym mharth Cymru ac wedi cytuno i ganiatáu gwerthu tiwna glas wedi'i ddal.
Grantiau Adfywio Adeiladau Rhestredig Cadw
26 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a'r Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cymeradwyo 13 o gynigion grant cyfalaf Adfywio Adeiladau Rhestredig gwerth cyfanswm o £2,275,877 ar gyfer buddsoddi rhwng 2026 a 2027.
Prosiectau a Argymhellir Rhaglen y Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso - Penrhos
26 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Gweinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer cynnig o dan y Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso.
Cymorth ariannol ar gyfer datblygu elfennau tlodi tanwydd Arolwg Tai Cymru
26 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cytuno ar gyllid i bennu cwestiynau tlodi tanwydd priodol ar gyfer arolwg Tai Cymru sydd ar ddod yn 2027 i 2028.
Y Gangen Cyfoeth Naturiol a Chymunedau - Cyllideb a Gwariant ar gyfer 2026 i 2027
26 Mawrth 2026
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog a'r Ysgrifennydd Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo trosglwyddo cyllideb y Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi i gyllideb Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.
Cyllideb Ymfudo a Chenedl Noddfa
25 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cytuno ar ddyraniad o £5.88 miliwn o’r Gyllideb Cymunedau Cydlynnol ar gyfer 2026 i 2027 i ariannu gweithgarwch Ymfudo a Chenedl Noddfa.
Penodi Aelod o Fwrdd Dysgu
25 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi penodi Jayne Woods, Claire Williams, Trefor Jones a Paul Jones am 4 blynedd o 1 Ebrill 2026 tan 31 Mawrth 2030.
Cyllido Prosiectau Cyfalaf Gofal Plant a Blynyddoedd Cynnar
25 Mawrth 2026
Mae’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer pum achos busnes lleoliadau gofal plant gwerth cyfanswm o £4.55 miliwn, a chwe amrywiad i gyllid ar gyfer prosiectau sy’n bod eisoes, gwerth cyfanswm o £841,844.
Diwygio a Llywodraethu cynllun Rhentu i Berchenogi Cymru 2018-21
25 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar newid mân i Gynllun Rhentu i Berchenogi Cymru ac wedi dirprwyo awdurdod i Brif Swyddog Cyfrifol y cynllun i wneud mân benderfyniadau.
Estyn tymhorau penodi aelodau annibynnol o’r Bwrdd Teithio Llesol
25 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno i roi estyniad o 6 mis i dymhorau penodi aelodau annibynnol y Bwrdd Teithio Llesol tan 30 Medi 2026.
Prynu eiddo
25 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cymeradwyo prynu eiddo.
Estyniad i Diwydiant Cymru
25 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar estyniad tymor byr i Diwydiant Cymru o Ebrill tan Fehefin sy’n cynnwys cadw’r Pennaeth am y cyfnod hwn. Neilltuir cyllideb o hyd at £84,186 gan gynnwys costau cyflogau er mwyn i gamau terfynol dirwyn Diwydiant Cymru i ben gael eu cymryd. Penodi uwch swyddog o LlC fel Cyfarwyddwr cwmni i helpu’r broses gau.
Tystiolaeth i Brif Adolygiad y Corff Adolygu Cyflogau Uwch Swyddogion
25 Mawrth 2026
Mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi cymeradwyo’r dystiolaeth a gyflwynir gan Lywodraeth Cymru i Brif Adolygiad y Corff Adolygu Cyflogau Uwch Swyddogion o Strwythur Cyflogau Barnwrol.
Llythyr Cylch Gwaith a Chynllun Gwaith Gofal Cymdeithasol Cymru
25 Mawrth 2026
Mae’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo Llythyr Cylch Gwaith a Chynllun Gwaith Gofal Cymdeithasol Cymru i ddarparu cymorth critigol i weithlu blynyddoedd cynnar a gofal plant 2026 i 2027.
Gwaredu Tir yng Ngwynedd
25 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar waredu tir yng Ngwynedd.
Adolygu argaeledd band eang cyflym iawn ledled Cymru
25 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i ddyfarnu contract ar gyfer cymorth arbenigol i adolygu argaeledd band eang cyflym iawn ledled Cymru.
Cyllid cyd-bwyllgorau Corfforaethol
25 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ariannu Cyd-bwyllgorau Corfforaethol ar gyfer 2026-2027.
Cyllid ar gyfer dileu Dolur Rhydd Feirysol buchol
25 Mawrth 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i gefnogi rhaglen dileu Dolur Rhydd Feirysol buchol 2026 i 2027.
Cyllid sefydlogi hosbysau
25 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i ddyrannu £4.3miliwn o gyllid sefydlogi untro ychwanegol yn 2025 i 2026 i gefnogi hosbysau plant ac oedolion ar draws Cymru.
Penodi Aelod Annibynnol (Prifysgol) ar Fwrdd Iechyd Addysgu Powys
25 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi penodi Simon Wright am 4 blynedd o 8 Awst 2026 tan 7 Awst 2030.
Uned Ymholiadau cyhoeddus – cytundeb cyllido
25 Mawrth 2026
Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno ar gynigion cyllido o £4.631miliwn i gefnogi’r ymateb i Ymchwiliad Cyhoeddus Covid-19 2026 i 2027 a’r gwaith a ddisgwylir mewn cysylltiad â’r Ymchwiliad i Giangiau Grwmio, y disgwylir ei sefydlu ddiwedd Mawrth 2026.
Pennu ffi trwyddedau cocos Cymru
25 Mawrth 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac ysgrifenydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i gynyddu ffi trwydded gocos Llywodraeth Cymru 2027 i £600.
Adolygiad o’r Farchnad Cysylltiadau Symudol
25 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar ymateb Llywodraeth Cymru i gais yr Adran Wyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg am dystiolaeth ar gyfer yr Adolygiad o’r Farchnad Cysylltiadau Symudol.
Cyfarfod y Panel Buddsoddi 3 Mawrth 2026
25 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar Gyllid Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Benthyciadau Datblygu i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig 2025 i 2026
25 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wedi cytuno i roi hyd at werth £45 miliwn o fenthyciadau o dan y Cynllun Benthyciadau Datblygu i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a fydd yn darparu 159 o gartrefi carbon isel i’w rhentu yn y sector cymdeithasol.
Cynllun Busnes a Llythyr Ariannu Trafnidiaeth Cymru
25 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar Gynllun Busnes Trafnidiaeth Cymru (TrC) 2026 – 2027, dyraniad o £402,422 miliwn o refeniw o’r Gyllideb Cymorth i Reilffyrdd a chydsyniad ar gyfer y trosglwyddiadau tir ac eiddo hysbys ar draws ystâd TrC.
Estyniad byr i Gontract Platfform Gwefan Hwb
25 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar estyniad o dri mis i gontract platfform Gwefan Hwb, o 1 Hydref 2026 i 31 Rhagfyr 2026, i sicrhau parhad y gwasanaeth a chymorth ar gyfer pontio esmwyth i’r trefniadau contractyddol newydd.
Cyllid ar gyfer Prosiectau cyfalaf Gofal Plant a Blynyddoedd Cynnar
25 Mawrth 2026
Mae’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer chwe lleoliad gofal plant posibl, gwerth cyfanswm o £4.9 miliwn a phedwar amrywiad i’r cyllid ar gyfer prosiectau sy’n bod eisoes, gwerth £2.1 miliwn.
Cwynion GIG Cymru
24 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo canllawiau mewn perthynas â Gwrando ar Bobl: proses ddiwygiedig GIG Cymru ar gyfer cwynion, digwyddiadau a gwneud iawn.
Cwynion GIG Cymru
24 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo Cylchlythyr Iechyd Cymru mewn perthynas â Gwrando ar Bobl: proses ddiwygiedig GIG Cymru ar gyfer cwynion, digwyddiadau a gwneud iawn.
Fframwaith Organau, Meinweoedd a Chelloedd
24 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i’r Fframweithiau Cyffredin ar Organau, Meinweoedd a Chelloedd, a Diogelwch ac Ansawdd Gwaed, a gymeradwywyd gan y pedair gwlad.
Taliadau hwyr
24 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i’r Fframwaith Cyffredin ar Daliadau Hwyr a gymeradwywyd gan y pedair gwlad.
Iechyd y cyhoedd
24 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i’r Fframwaith Cyffredin ar Iechyd y Cyhoedd a Diogelu Iechyd y Cyhoedd a gymeradwywyd gan y pedair gwlad.
Gwrteithiau
24 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i’r Fframwaith Cyffredin ar Reoleiddio Gwrteithiau a gymeradwywyd gan y pedair gwlad.
Sylweddau ymbelydrol
24 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i’r Fframwaith Cyffredin ar Sylweddau Ymbelydrol a gymeradwywyd gan y pedair gwlad.
Caffael Cyhoeddus
24 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg wedi cytuno i’r Fframwaith Cyffredin ar Gaffael Cyhoeddus a gymeradwywyd gan y pedair gwlad.
Cynllun Cyflenwi Morol
24 Mawrth 2026
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar y Cynllun Cyflawni Morol a’r dyraniadau cyllid ar gyfer 2026 i 2027.
Llythrennedd a rhifedd
24 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i drosglwyddo 8 grant cymorth llythrennedd a rhifedd gan Lywodraeth Cymru i Dysgu o 1 Ebrill 2026 ymlaen.
Depo criw trên Caerfyrddin
24 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno y gall Trafnidiaeth Cymru fwrw ymlaen i gaffael tir ger Gorsaf Reilffordd Caerfyrddin a elwir yn 'Adeilad Howards'.
Sefydliadau Ôl-16 Arbenigol Annibynnol
24 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cais gan un Sefydliad Ôl-16 Arbenigol Annibynnol i gael ei gynnwys ar y rhestr gyhoeddedig; ac wedi gwrthod cais gan Sefydliad Ôl-16 Arbenigol Annibynnol arall i gael ei gynnwys ar y rhestr gyhoeddedig.
Cyllid ar gyfer awdurdodau lleol
24 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno ar ddyraniad o hyd at £50 miliwn o gyllid cyfalaf heb ei neilltuo i awdurdodau lleol yn 2025 i 2026, wedi'i ddosbarthu ar sail fformiwla cyfalaf cyffredinol 2025 i 2026.
Sefydliad Iechyd y Byd
24 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i gynnwys Menter Arbennig i gryfhau cydweithrediad ar degwch iechyd fel rhan o adnewyddu'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Swyddfa Ranbarthol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Ewrop. Mae hyn yn cynnwys dyraniad o £150k o gyllid yn 2026 i 2027.
Ymestyn trwydded maes parcio SA1
23 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i ymestyn trwydded bresennol yn SA1 y Glannau Abertawe.
Cylch Gwaith a Llythyron Ariannu Adnodd
23 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo Cylch Gwaith a Llythyron Ariannu i Adnodd ar gyfer 2026 i 2027.
Ailbenodi Aelodau i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru
23 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi ailbenodi Frank Cuthbert, Ginger Wiegand, a Michael Imperato am gyfnod o 4 blynedd o 1 Hydref 2026 hyd at 30 Medi 2030.
Ailbenodi Aelodau i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
23 Mawrth 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi ailbenodi Delyth Lloyd am gyfnod o 4 blynedd o 1 Awst 2026 hyd at 31 Gorffennaf 2030 a Naomi Luhde-Thompson am gyfnod o 4 blynedd o 1 Mai 2026 hyd at 30 Ebrill 2030.
Caffael tir o dan Adran 83 gan Gyfoeth Naturiol Cymru
23 Mawrth 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i gyflwyniad gweinidogol Adran 83 Cyfoeth Naturiol Cymru i gaffael tir i ehangu Ystad Goetir Llywodraeth Cymru.
Ailddyrannu Cymorth Grant Cyfoeth Naturiol Cymru
23 Mawrth 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i leihau cyllideb refeniw Cymorth Grant Cyfoeth Naturiol Cymru £4miliwn ar gyfer 2025 i 2026, gan gyfrifo ar gyfer ei rhagolygon tanwario tebygol, ac i ddefnyddio hyn i gyflymu adennill y ddarpariaeth gyllidebol a neilltuwyd i gefnogi ei atebolrwydd IR35.
Ailddyrannu Cymorth Grant Cyfoeth Naturiol Cymru
23 Mawrth 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i roi cyllid cyfalaf ychwanegol o £0.8miliwn i Gyfoeth Naturiol Cymru yn 2025 i 2026 i gefnogi prosiectau gweithredol a nodwyd a datblygiadau Technoleg Cyfathrebu Gwybodaeth.
Awdurdod Tomenni Nas Defnyddir
23 Mawrth 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ddyfarnu contractau i ddau gyflenwr ar gyfer darganfod a gweithredu gwasanaethau digidol Llinell Fusnes ar gyfer yr Awdurdod Tomenni Nas Defnyddir.
Awdurdod Tomenni Nas Defnyddir
23 Mawrth 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo cyllid ychwanegol ar gyfer contractau gweithredu digidol Llinell Fusnes i sefydlu’r Awdurdod Tomenni Nas Defnyddir.
Y Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth
23 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo rhaglen waith flynyddol y Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth ar gyfer 2026 i 2027, ynghyd â’r dyraniad cyllideb graidd y mae ei angen i’w chyflawni.
Cyllido Galluoedd Gwydnwch Cenedlaethol y Gwasanaethau Tân ac Achub
23 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno i dalu £2,200,000 o refeniw a £1,020,000 o gyfalaf ar gyfer cynnal a datblygu Galluoedd Gwydnwch Cenedlaethol y tri Gwasanaeth Tân ac Achub yn 2026 i 2027.
Cysylltiad Data 10GB newydd, Canolfan 7, Parc Busnes Porth Caerdydd
23 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i wariant sy’n gysylltiedig â’r cysylltiad data newydd yng Nghanolfan 7.
Cyllid ar gyfer y Sefydliad Banc Tanwydd
23 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cytuno ar gyllid ar gyfer y Sefydliad Banc Tanwydd ar gyfer 2026 i 2027.
Effeithlonrwydd Adnoddau a Chyllideb Economi Gylchol 2026 i 2027
23 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar y gymeradwyaeth ymlaen llaw ar gyfer prosiectau’r Gronfa Economi Gylchol sy’n bodloni’r meini prawf, ac ar y prosesau a dirprwyo i Swyddogion hyd at uchafswm o £150,000 o fewn y llinellau cyllideb Refeniw a Chyfalaf.
Cymeradwyo ffioedd ymgynghoriaeth, Plot C2, Celtic Lakes, Casnewydd
23 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i benodi Arup yn gynghorwyr rheoli ecolegol arbenigol mewn perthynas â thir yng Nghasnewydd.
Cyllid Cyflawni Cyfiawnder Troseddol
19 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cytuno i ariannu gweithgarwch blaenoriaeth ar draws y portffolio Cyflawni Cyfiawnder Troseddol ar gyfer blwyddyn ariannol 2026 i 2027.
Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol
19 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i roi cymorth fel y gellir cynnal pob cynllun Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol Bwyd a Hwyl cymwys yn ystod Haf 2026.
Symleiddio Budd-daliadau Cymru
19 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cytuno i roi cyllid ychwanegol i gwblhau datblygu ffurflen gais sengl ar-lein o dan fap trywydd cam un Symleiddio Budd-daliadau Cymru.
Tlodi Plant – Astudiaeth Hydredol Rhieni a Gofalwyr
19 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cytuno i ariannu hwb gan Gymru i ‘Tlodi Plant – Astudiaeth Hydredol Rhieni a Gofalwyr’ dan arweiniad Llywodraeth y DU.
Strategaeth Drafnidiaeth a Chyllideb Polisi 2026 i 2027
19 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth wedi cytuno i ddyrannu cyllid i Awdurdodau Lleol ar gyfer Grantiau Trafnidiaeth Lleol, Trafnidiaeth Cymru, a Phartneriaid Cyflawni eraill. Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno i ddyrannu cyllid i Awdurdodau Lleol ar gyfer cynlluniau a oedd o fewn etholaeth Ysgrifennydd y Cabinet.
Ariannu Rhaglenni Diogelwch Cymunedol yr Awdurdod Tân ac Achub
19 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno i talu £378,000 o gyllid refeniw i’r tri Awdurdod Tân ac Achub ar gyfer eu rhaglenni ymgysylltu ac ymyrraeth ar gyfer ieuenctid a phobl ifanc, a £918,000 o gyllid cyfalaf i’r tri awdurdod tân ac achub i brynu offer i gefnogi eu rhaglen diogelwch yn y cartref, yn 2026 i 2027.
Cyllid ar gyfer gofynion gwerthuso data
19 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cymeradwyo’r costau ychwanegol ar gyfer gofynion data a fydd yn hysbysu gwerthusiad Cynllun Peilot Dwyfor, am gost o £32,529.
Estyniad Diogelu Rhag Tlodi
19 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i roi estyniad i’r Cynllun Peilot Diogelu Rhag Tlodi, gan ddyrannu £85,000 ar gyfer blwyddyn ariannol 2025 i 2026 a £185,000 ar gyfer blwyddyn ariannol 2026 i 2027.
Crynoadau Adar
19 Mawrth 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo newidiadau i’r polisi crynoadau adar yng Nghymru.
Dyfarniad Adolygiad Barnwrol Ôl-16 – costau hawlio
18 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i negodi setliad o’r costau cyfreithiol.
Y Broses Apeliadau Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig
18 Mawrth 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog / Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddileu eitem o’r Hawliad Grant Busnes i Ffermydd (Ffenestr 8) yn dilyn archwiliad fferm lle nodwyd nad oedd y rholer a brynwyd yn cyd-fynd â’r manyleb technegol a oedd yn ofynnol ar gyfer eitem F024 (rholer cnydau âr).
Canolfan Ganser Newydd Felindre
18 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer adnodd digidol ychwanegol i gynorthwyo gyda darparu seilwaith ddigidol Canolfan Ganser newydd Felindre. Mae Ysgrifennydd y Cabinet hefyd wedi cymeradwyo cyllid am ddau Gyflymydd Llinellol newydd a’r feddalwedd ar gyfer y peiriannau.
Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu
18 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cytuno i ariannu Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu ar draws Cymru ym mlwyddyn ariannol 2026 i 2027.
Datblygu Prosiect
18 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth wedi cytuno i ailbroffilio cyllid mewn perthynas â phrosiect rheilffordd yn Ne Cymru.
Tynnu Cynllun Datblygu Lleol Wrecsam yn ôl
18 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi rhoi cyfarwyddyd y bydd Cynllun Datblygu Lleol Wrecsam yn cael ei dynnu’n ôl o dan A66(1) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004.
Taliadau uniongyrchol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG
18 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo rhyddhau £150,000 o gyllid ar gyfer 2025 i 2026 i gefnogi sefydlu adnoddau pwrpasol o fewn y Byrddau Iechyd Lleol i gydlynu gwaith paratoi hanfodol cyn gweithredu taliadau uniongyrchol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG.
Penodi Cadeirydd i Fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru
18 Mawrth 2026
Mae’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi penodi Katija Dew fel Cadeirydd Bwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru rhwng 16/07/2026 a 15/07/2030.
Prosiectau Cronfa Datblygu Tir ac Adeiladau
18 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno i gefnogi wyth prosiect Cronfa Datblygu Tir ac Adeiladau gyda chyfanswm gwerth grant o £14.147miliwn.
Ailbenodi 3 Aelod Bwrdd Anweithredol o Llais, Corff Llais Dinasyddion Cymru
18 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cytuno i ailbenodi Bamidele Adenipekun, Karen Lewis a Rajan Madhok fel Aelodau Anweithredol o’r Bwrdd a bydd eu hail dymor yn dechrau ar 1 Gorffennaf.
Grant Cystadleuol Cydraddoldeb a Chynhwysiant 2026
18 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cytuno ar gyfres o ddyfarniadau gwerth cyfanswm o £974,636 ym mlwyddyn ariannol 2026 i 2027 i gefnogi 23 o Brosiectau.
Grant Urddas Mislif yn yr Ysgol a’r Gymuned
17 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wedi cytuno i ddyrannu £2,809,068 i’r Grant Urddas Mislif yn yr Ysgol a’r Gymuned ar gyfer blwyddyn ariannol 2026 i 2027.
Dyrannu cyllid refeniw diwedd y flwyddyn i Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol
17 Mawrth 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ddyrannu cyllid refeniw ychwanegol i’r tri Awdurdod Parc Cenedlaethol yn 2025 i 2026.
Grant Cyllid Craidd ar gyfer Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru
17 Mawrth 2026
Mae’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid craidd i gefnogi Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn ystod blwyddyn ariannol 2025 i 2026.
Banc Datblygu Cymru – Adolygiad o Ffioedd
17 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i addasu’r ffi a godir gan Fanc Datblygu Cymru am reoli Cronfa Buddsoddi Hyblyg Cymru.
Cyllid cyfalaf a chyllid refeniw y Cynllun Cymorth Ariannol Brys
17 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno i ddyrannu £921k o gyllid refeniw i’r Cynllun Cymorth Ariannol Brys yn 2025 i 2026 ar gyfer Cynghorau Sir Gaerfyrddin a Sir Fynwy yn sgil y llifogydd ym mis Tachwedd 2025; £928k o gyllid cyfalaf yn 2025 i 2026 i dalu costau adfer ar gyfer yr un cynghorau yn sgil llifogydd mis Tachwedd, a £937k ar gyfer y costau cyfalaf sy’n weddill ar gyfer trwsio’r llyncdwll a achoswyd gan Storm Bert ar gyfer Cyngor Merthyr Tudful. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg hefyd wedi cytuno ar gyllid cyfalaf o £9.2 miliwn yn 2026 i 2027 ar gyfer costau adfer i Sir Gaerfyrddin a Sir Fynwy wedi’r llifogydd ym mis Tachwedd 2025.
Ailddynodi cyllid refeniw ar gyfer grant llifogydd a ddarperir i ALlau
17 Mawrth 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer ail-ddynodi cyllid refeniw yn grant llifogydd ar gyfer ALlau yn sgil y stormydd diweddar ac amrywiad diogelwch tomenni glo yn 2025 i 2026.
Rhwydo ar y glannau yng Nghymru – cais i lansio system cofnodi dalfa wirfoddol
17 Mawrth 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog wedi cytuno i lansio system cofnodi dalfa wirfoddol o fis Ebrill 2026 am gyfnod cychwynnol o 18 mis, er mwyn casglu gwybodaeth am weithgarwch rhwydo ar y glannau yng Nghymru.
Recriwtio ar gyfer Penodiadau i’r Bwrdd Pysgod Môr 2026
17 Mawrth 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i benodi Paul McCourt yn Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg a Pam Vick yn Aelod Annibynnol o’r Bwrdd Pysgod Môr.
Ailbenodi Cyfarwyddwr Anweithredol i Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
17 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi ailbenodi Kate Young am gyfnod o 4 blynedd o 1 Ebrill 2026 hyd at 31 Mawrth 2030.
Adolygu Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013
17 Mawrth 2026
Mae’r Gweinidog Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi cytuno ar yr adroddiad drafft ar yr adolygiad statudol o Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.
Gosod copi o adroddiad 5 mlynedd Comisiynydd y Gymraeg
17 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wedi cytuno i osod adroddiad 5 mlynedd Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2021 i 2025 – Cyfle ein cenhedlaeth: Sefyllfa’r Gymraeg 2021-2025 yn y Senedd.
Rhaglen Addysg Ryngwladol
17 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar ddyraniadau sy’n dod i gyfanswm o £0.299 miliwn yn 2026 i 2027 i gefnogi’r Rhaglen Addysg Ryngwladol.
Rhaglen 2026 i 2027 yr Is-adran Diogelwch Gwladol a Gwydnwch
17 Mawrth 2026
Mae’r Prif Weinidog wedi cytuno ar y blaenoriaethau gwariant ar gyfer 2026 i 2027 i gefnogi Diogelwch Gwladol a Gwydnwch, a Seiberwydnwch, fel rhan o barodrwydd am argyfwng a gwaith rheoli argyfyngau Llywodraeth Cymru, gan gefnogi Gweinidogion i gyflawni eu swyddogaethau statudol.
Y Broses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig
17 Mawrth 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog / Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i dderbyn apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i gymhwyso arwynebedd a dynnir fel cosb am orddatgan ac adennill taliadau o dan gynlluniau Glastir - Creu Coetir, Premiwm Creu Coetir Glastir, a Glastir - Rheoli coetir yn dilyn cynnal arolygiad ar y safle.
Rhaglen y Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso
17 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Gweinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, a’r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno ar gyllid ar gyfer cynnig o dan y Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso.
Penodi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
17 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi penodi Andrew Morgan OBE am 4 blynedd o 5 Mai 2026 tan 4 Mai 2030. Fel rhan o'r gofynion ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus, mae Andrew Morgan wedi datgan gweithgarwch gwleidyddol a wnaed yn ystod y pum mlynedd diwethaf: Cynghorydd Llafur ward Aberpennar yn Rhondda Cynon Taf (Rhondda Cynon Taf) (2004 hyd heddiw - disgwylir iddo ddod i ben ym mis Mai 20270; Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf (Mehefin 2014 hyd heddiw - bydd yn dod i ben 29 Ebrill 2026); ac, Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (Tachwedd 2019 hyd heddiw - bydd yn dod i ben yn gynnar ym mis Mehefin 2026).
Gwaredu tir
17 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo gwaredu tir ym Mhowys.
Penodi pedwar cyfarwyddwr i Fwrdd Dysgu
17 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i benodi Jayne Woods, Trefor Jones, Claire Williams, a Paul Jones yn gyfarwyddwyr ar Fwrdd Dysgu. Byddant yn dechrau ar eu tymhorau pedair blynedd ym mis Ebrill 2026.
Penodi Aelod Annibynnol i Addysg a Gwella Iechyd Cymru
17 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi penodi Elizabeth Treasure am gyfnod o 4 blynedd o 1 Ebrill 2026 hyd at 31 Mawrth 2030.
Rhestr Adran 7: Rhywogaethau a chynefinoedd o bwysigrwydd pennaf yng Nghymru
16 Mawrth 2026
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo diweddariad o’r rhestr Adran 7 o Rywogaethau a Chynefinoedd o Bwysigrwydd Pennaf yng Nghymru.
Digarbon
16 Mawrth 2026
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg wedi cytuno ar gyllid ychwanegol i Digarbon gan ddefnyddio tanwariant cyfalaf sydd ar gael.
Cyllid Refeniw Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig, a Thrais Rhywiol
16 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cymeradwyo dyraniad manwl y Cyllid Refeniw Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar gyfer 2026 i 2027.
Ceisiadau am gyllid y Cynllun Diogelwch Adeiladu
16 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno â chanlyniad Panel Diogelwch Adeiladu Chwefror 2026, a fydd yn gweld hyd at £1,634,626 o gyllid cyfalaf yn cael ei ddyrannu drwy Gronfa Diogelwch Adeiladu Cymru.
Defnyddio Tanwariant Cyfalaf Cadw at ddibenion gwahanol
16 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a'r Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno i ddefnyddio tanwariant cyfalaf Cadw o £0.8 miliwn at ddibenion gwahanol, i roi hwb i'r buddsoddiad mewn henebion a'r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol.
Cymoedd Technegol – hybiau HiVE
16 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo cyllid o raglen Cymoedd Technoleg i gefnogi parhad gwaith cyswllt hybiau HiVE ar gyfer y flwyddyn ariannol 2026 i 2027.
Hyrwyddo ac achrediad Cyflog Byw Gwirioneddol
16 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a'r Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar gynnig o gymorth i Cynnal Cymru mewn perthynas â'u gwaith yn hyrwyddo'r Cyflog Byw Gwirioneddol ac ymgysylltu â chyflogwyr yn y broses achredu.
Cymoedd Technoleg – Goldworks – Cyllid Gweithredol
16 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo cyllid o raglen Cymoedd Technoleg i gefnogi gweithrediad canolfan busnesau bach Goldworks ar gyfer blwyddyn ariannol 2026 i 2027.
Cymoedd Technoleg – Cysylltedd Ysgolion Cynradd
16 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo cyllid o raglen Cymoedd Technoleg i gefnogi'r broses o ddarparu cysylltedd 1GB i bob ysgol gynradd ar draws Blaenau Gwent.
Cynllun Benthyciadau Amaethyddiaeth Gynaliadwy
16 Mawrth 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wedi cytuno i sefydlu Cynllun Benthyciadau Amaethyddiaeth Gynaliadwy ar y cyd â Banc Datblygu Cymru.
Adolygiad o hawl i wyliau blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
12 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cytuno i’r cyfeiriad at hawl i wyliau yn nhelerau ac amodau cyflogaeth Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru gael ei ddileu er mwyn caniatáu i'r Comisiynydd osod hawl i wyliau sy'n gyson â staff y Comisiynydd a Chomisiynwyr eraill Cymru.
Marchnata Busnes Cymru
12 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo rhoi cymorth ariannol ar gyfer 2026 i 2027 i gefnogi gweithgareddau marchnata, gan gynnwys costau asiantaethau i hybu gwasanaethau Busnes Cymru – a gwneir hynny er mwyn cefnogi busnesau newydd, entrepreneuriaid, mentrau bach a chanolig eu maint a busnesau micro.
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd
12 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno ar ddyraniad cyllid refeniw 2026 i 2027 ar gyfer yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, gan gynnwys y dyraniad cyllid cyfalaf rheolaidd o 2026 i 2027 ymlaen.
Bwrdd Cynghorol Cymru ar Ddatblygu Diwydiannol
12 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i ailbenodi Aelod o’r Bwrdd, Trefor Owen, am dymor arall o dair blynedd.
Tîm Atebion Digidol Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg
12 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar £1.242 miliwn o gyllid ar gyfer blwyddyn ariannol 2026 i 2027 i gefnogi costau blynyddol gwasanaethau TGCh, gan gynnwys costau staff i weithredu rhaglenni yn y sector addysg drydyddol.
Dyraniadau’r Gyllideb ar gyfer Cysylltiadau Rhyngwladol a Datblygu Cynaliadwy Rhyngwladol
12 Mawrth 2026
Mae Prif Weinidog Cymru wedi cymeradwyo dyraniadau’r gyllideb ar gyfer Cysylltiadau Rhyngwladol a Datblygu Cynaliadwy Rhyngwladol ar gyfer 2026 i 2027.
Cyllid ychwanegol ar gyfer Adran Actiwari'r Llywodraeth
12 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno i gynyddu cyllideb Adran Actiwari’r Llywodraeth drwy roi £95,000 ychwanegol, sy’n cynyddu cyfanswm y gyllideb ar gyfer 2025 i 2026 i £335,000.
Cadwch Gymru’n Daclus – Cyllid Grant
12 Mawrth 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar £1.2 miliwn o gyllid grant refeniw ar gyfer blwyddyn ariannol 2026 i 2027 fel bod gan gymunedau ac awdurdodau lleol gymorth ariannol cyson i fynd i’r afael ag ansawdd gwael yr amgylchedd lleol.
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd
12 Mawrth 2026
Mae’r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno i sefydlu fframwaith ar gyfer cytundeb sy’n caniatáu rhannu gwybodaeth gyfrinachol rhwng Llywodraeth Cymru a’r Asiantaeth Safonau Bwyd pan fo’r wybodaeth er budd cyffredin i’r ddau sefydliad.
Ailbenodi Aelod Cyswllt, Cadeirydd y Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid
12 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Tegryn Jones fel Aelod Cyswllt (Cadeirydd y Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am gyfnod o ddwy flynedd.
Cadeirydd a Chomisiynwyr Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
12 Mawrth 2026
Mae’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cymeradwyo ymgyrch i benodi Cadeirydd parhaol i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac i benodi hyd at dri o Gomisiynwyr, gan gynnwys ceisio cymeradwyaeth gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus i ymestyn tymor y Cadeirydd Dros Dro yn ystod y broses recriwtio.
Adolygiad o swyddogaeth yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru
12 Mawrth 2026
Mae’r Gweinidog Iechyd a Llesiant wedi cytuno ar adroddiad yr Adolygiad o swyddogaeth yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru.
Polisi dysgu proffesiynol a chyllid Dysgu
12 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar gyllid ar gyfer llunio polisi ar gyfer gweithgareddau dysgu proffesiynol, a chyllid ar gyfer Dysgu yn 2026 i 2027. Dysgu yw’r corff cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth. Yn ogystal, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wedi cytuno i drosglwyddo cyllid i Dysgu.
Penodi Aelod Annibynnol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
11 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi penodi Lorna McCourt am 4 blynedd o 9 Mawrth 2026 hyd 8 Mawrth 2030.
Cyllid Medr
11 Mawrth 2026
Mae’r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i roi £25.5miliwn ychwanegol i Medr, ac wedi cytuno i ailgyfeirio’r £0.5miliwn o gyfalaf gweithredu Medr.
Buddsoddi yng nghadwyn gyflenwi ffermydd gwynt arnofiol ar y môr drwy Fenthyciad Trosadwy
11 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo £3.7miliwn o Gyfalaf Ynni Glân a £4.3miliwn i’w drosglwyddo i Ynni Glân o FLOW Capital.
Rhaglen Cronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso
11 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Gweinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, a’r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno ar gyllid ar gyfer wyth cynnig o dan Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso.
Ailbenodi i Fwrdd Adnodd
11 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo ailbenodi saith aelod i Fwrdd Adnodd: Owain Gethin Davies (Cadeirydd), Sioned Wyn Roberts, Lesley Bush, Huw Lloyd Jones, Nicola Wood, Catherine Mair Gwynant, Natalie Jones am ail dymor.
Cyllid Opera Cenedlaethol Cymru
11 Mawrth 2026
Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol i ryddhau cyllid ychwanegol o £767,000 i Gyngor Celfyddydau Cymru yn 2025 i 2026 er mwyn cefnogi Opera Cenedlaethol Cymru.
UNESCO yn datgan Aberystwyth yn Ddinas Lenyddiaeth
11 Mawrth 2026
Cytunodd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol i ddarparu £158,830 o gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer costau gweithredol a rhaglennu menter Dinas Lenyddiaeth UNESCO yn Aberystwyth, ar gyfer y cyfnod rhwng Rhagfyr 2025 a Mawrth 2026.
Ailbenodi Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru
11 Mawrth 2026
Mae’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ynghylch ailbenodi Maggie Russell, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, ac un aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru, am ail dymor yr un.
Cyllid i Arolygiaeth Gofal Cymru
11 Mawrth 2026
Mae’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Arolygiaeth Gofal Cymru er mwyn helpu i weithredu Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (‘Deddf 2016’) yn ystod 2026 i 2027.
Prosiect Cartrefi Gofal Cymru
11 Mawrth 2026
Mae’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo’r cynnydd a wnaed ar Brosiect Cartrefi Gofal Cymru, ac wedi cytuno ar gyllid ar gyfer 2026 i 2027.
Gwaith i wella SA1 Glannau Abertawe
11 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer gwaith yn SA1.
Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig
9 Mawrth 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog / Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi cosb Trawsgydymffurfio o 50% a chosbau Glastir.
Tir ar gyfer Cynllun Tai
9 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol a'r Prif Weinidog wedi cymeradwyo rhoi benthyciadau i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ar gyfer ceisiadau y maent wedi’u hailgyflwyno a oedd cynt yn aflwyddiannus o dan Gynllun Tir ar gyfer Tai 2025 i 2026 ar ôl ail asesiad.
Ymgysylltiad rhanddeiliaid ar Ganllaw Ymarfer drafft cyfnerthedig Cymru Gyfan ar ddiogelu plant rhag eu hecsbloetio
9 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Trefnydd a'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i gyflwyno Canllaw Ymarfer drafft cyfnerthedig Cymru Gyfan ar ddiogelu plant rhag eu hecsbloetio i Fwrdd Prosiect Gweithdrefnau Diogelu Cymru iddo ei adolygu a chasglu adborth dethol gan randdeiliaid a phrofiad byw yr un pryd.
Cymorth Ariannol i MediWales 2026 i 2027
9 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo hyd at £94,000 o gyllid (heb gynnwys TAW) i gefnogi cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau y7n y sector gwyddorau bywyd sydd wedi’u trefnu gan MediWales.
Fforwm Buddsoddi a Seilwaith Eiddo Tirol y DU (UKREiiF)
5 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno ar wariant ar gyfer cynnal stondin yn UKREiiF yn 2026.
Cyllideb yr Is-adran Pysgodfeydd
5 Mawrth 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar gyllideb yr is-adran Pysgodfeydd ar gyfer 2026 i 2027.
Dyraniadau’r Grant Hanfodion Ysgol
5 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar ddyraniadau’r Grant Hanfodion Ysgol gwerth £12.2 miliwn ar gyfer blwyddyn ariannol 2026 i 2027.
Cod ymarfer i Atal Lledaeniad Llysiau’r Gringroen
5 Mawrth 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i osod Cod Ymarfer diwygiedig i Atal Lledaeniad Llysiau’r Gingroen yn y Senedd ac i’w gyhoeddi ar dudalennau gwe Llywodraeth Cymru.
Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig
5 Mawrth 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog / Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno cosbau am gyflwyno hawliad o dan Gynllun Glastir - Tir Comin 2021 yn hwyr.
Iechyd Cyhoeddus Cymru – llythyr cylch gwaith a dyraniad ariannol
5 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cymeradwyo’r llythyr cylch gwaith a dyraniad craidd gwerth £157.719 i Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2026 i 2027.
Cais Prifysgol Wrecsam am Bwerau Dyfarnu Graddau Ymchwil
5 Mawrth 2026
Mae’r Prif Weinidog yn rhinwedd ei swydd fel aelod arweiniol Cyfrin Gyngor Cymru ar faterion addysg wedi argymell i’r Cyfrin Gyngor bod Pwerau Dyfarnu Graddau Ymchwil yn cael eu rhoi i Brifysgol Wrecsam.
Asesiad Gweithlu Ôl-osod y Ganolfan Economeg ac Ymchwil Busnes
5 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio wedi cytuno i gyhoeddi canlyniad ymchwil i’r gweithlu ôl-osod a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru.
Taliadau Busnes a Rhanbarthau
4 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo taliadau ar gyfer mis Mawrth 2026 ar gyfer yr Is-adran Busnes a Rhanbarthau.
Cyllid ar gyfer rhaglen(ni) ôl-16
4 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglen(ni) astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach Arbenigol.
Ailbenodi 3 aelod o gyfran 5 Panel Apelio Annibynnol
4 Mawrth 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ailbenodi Mr Trefor Owen, Mrs Judith Webb a Mr Tim Jones yn Aelodau Panel Annibynnol tan 27 Chwefror 2029.
Grant Cyfalaf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2026 i 2027
4 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cymeradwyo prosiectau Cyllid Cyfalaf gwerth £2,230,367; cyfarpar gwella diogelwch gwerth £262,246.50; ariannu prosiectau eraill yn rhannol gwerth £342,037 ac i gadw’r £265,348 sy’n weddill ar gyfer prosiectau cyfalaf a nodir yn ystod y flwyddyn ariannol.
Penodi Aelodau Annibynnol i Gyngor Llywodraethu Tribiwnlys Prisio Cymru
4 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wedi penodi Nigel Hollett a Tripti Megeri am 3 blynedd o 1 Ebrill 2026 tan 31 Mawrth 2029.
Cyd-fenter Caerdydd Cysylltiedig Arfaethedig
4 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i ddatblygu cynigion ar gyfer datblygu safleoedd sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru yn ne Caerdydd.
Gwella cymorth cadwyn gyflenwi a chryfhau swyddogaeth niwclear fewnol
4 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo cynlluniau i wella cymorth i’r gadwyn gyflenwi sydd ar gael i fusnesau drwy Busnes Cymru a chryfhau swyddogaeth niwclear fewnol Llywodraeth Cymru mewn ymateb i’r cyhoeddiad ynghylch darparu Adweithyddion Modiwlar Bach yn Wylfa.
Gwerthu canolfan brofi cyffuriau flaenorol, Gwaun Elai
3 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo gwaredu eiddo yn Rhondda Cynon Taf.
Cydweithredu Rhyngwladol ar Addysg
3 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i barhau aelodaeth Llywodraeth Cymru o’r Atlantic-Rim Collaboratory.
Cyfarfod Panel Buddsoddi ar 13 Ionawr 2026
3 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar gyllid Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yng Nghaerdydd.
Cyllideb Refeniw Is-adrannau Gwasanaethau Digodol Ysgolion
3 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo y dyraniad a gynlluniwyd, a gwariant cyllideb refeniw Is-adrannau Gwasanaethau Digidol Ysgolion ar gyfer 2026 i 2027.
Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau
3 Mawrth 2026
Mae y Dirprwy Brif Weinidog / Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i dderbyn yn rhannol apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod hawliad Opsiwn 6 Rheoli Glastir Sylfaenol a Gwaith Cyfalaf Glastir Uwch 2019.
Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig
3 Mawrth 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog / Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio a thalu hawliad Glastir – Tir Comin 2017 gan na dderbyniwyd unrhyw hawliad ar-lein erbyn dyddiad cau yr hawliad.
Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig
3 Mawrth 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog / Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i dderbyn yn rhannol apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i adfer taliadau a wnaed o dan eu Contract Glastir - Creu Coetir.
Proses Apelio Annibynnol dros Grantiau a Thaliadau Gwledig
3 Mawrth 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog / Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i addasu taliad Glastir 2018.
Proses Apelio Annibynnol dros Grantiau a Thaliadau Gwledig
3 Mawrth 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog / Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i bennu cosb o 4% i hawliad 2019 ac yn ôl-weithredol i daliadau Glastir 2015 i 2018 yn dilyn torri contract Glastir a ganfu mewn archwiliad.
Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig
3 Mawrth 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog / Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i dderbyn apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod hawliad Ffenestr 8 Grant Busnes i Ffermydd.
Cyfarfod Panel Buddsoddi ar 10 Chwefror 2026
3 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar Gyllid Cynhyrchu Creadigol Dyfodol yr Economi yng Ngwynedd.
Dadansoddiad o’r farchnad eiddo Masnachol
3 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i gomisiynu adroddiad ar ymyriadau eiddo masnachol.
Ffioedd caffael tir
3 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i dalu ffioedd sy’n gysylltiedig â chaffael tir.
Pridiannau tir
3 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i ryddhau pridiant dros dir yng Nghaerdydd.
Y gronfa eiddo Masnachol
3 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i ddarparu mwy o gyllid ar gyfer datblygu eiddo cyflogaeth a adeiledir ymlaen llaw.
Rhwydwaith ffeibr llawn lleol
3 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i ddarparu Prosiect Cefnffyrdd Rhwydwaith Ffeibr Llawn Lleol.
Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
3 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i ymestyn cyfnod Phil Robson fel Is-gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, am dri mis o 01 Ebrill 2026 i 30 Mehefin 2026.
Cynllun Busnes Twristiaeth a Marchnata
3 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar y Cynllun Busnes Twristiaeth a Marchnata ar gyfer 2026 i 2027 i gefnogi’r sectorau lletygarwch, twristiaeth a busnes.
Ymddygiad mewn Ysgolion
3 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar becyn newydd o brosiectau i gefnogi ysgolion ar draws Cymru gydag ymddygiad, llesiant ac ymgysylltiad.
Rheoli perygl llifogydd ac erydu Arfordirol
3 Mawrth 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno ar y rhaglen gyfalaf a refeniw ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol ar gyfer blwyddyn ariannol 2026 i 2027.
Storfa Ddiogelu Cymru
3 Mawrth 2026
Mae'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer cyflwyno opsiynau Storfa Ddiogelu Cymru o fis Ebrill 2026 ymlaen.
Grant Cyfalaf Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr
3 Mawrth 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip yn cymeradwyo cyllid gwerth £10,080 i Gyngor Sir Caerdydd; gwerth £18,100 i Gyngor Sir y Fflint; gwerth £19,123 i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot; gwerth £3,350 i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a gwerth £50,000 i Gyngor Abertawe, sef grantiau a ddyfernir rhwng 2025 a 2026.
Rheoliadau Addysg
3 Mawrth 2026
Mae’r Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol a Phlant sy’n cael eu Haddysg drwy Ddarpariaeth Amgen) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026.
Ardal Adnoddau Naturiol Genedlaethol Gwastadeddau Gwent
27 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i gyhoeddi Canllawiau Cynllunio Strategol ar gyfer Ardal Adnoddau Naturiol Cenedlaethol Gwastadeddau Gwent (sy’n ategu Cymru’r Dyfodol, Polisi 9) a fydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus hyd at 31 Mawrth 2026.
Penodiad i Awdurdod Tomenni Nas Defnyddir Cymru
27 Chwefror 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cadarnhau y bydd Christina Harrhy yn cael ei phenodi’n Brif Swyddog Gweithredol Awdurdod Tomenni Nas Defnyddir Cymru. Bydd Christina yn dechrau yn ei rôl ar 13 Ebrill 2026
Hawliau pobl hŷn
27 Chwefror 2026
Mae’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i helpu i weithredu polisi sy’n ymwneud â hawliau pobl hŷn yng Nghymru.
Safleoedd Naturfa
26 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo’r gwaith o gydnabod y safleoedd Naturfa cyntaf yng Nghymru.
Awdurdod Cyllid Cymru
26 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wedi cytuno i derfynu’n ffurfiol y cytundeb asiantaeth, drwy adran 83 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ag Awdurdod Cyllid Cymru a ddechreuodd ar 3 Ebrill 2024.
Ysbyty’r Tywysog Siarl
26 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i gyflawni cam olaf y gwaith o adnewyddu llawr daear a llawr cyntaf Ysbyty’r Tywysog Siarl.
Dysgu digidol ar gyfer ymarferwyr ysgol
26 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo dyraniadau cyllid i ddatblygu a chyflawni dysgu proffesiynol o ran technolegau digidol a deallusrwydd artiffisial ar gyfer ymarferwyr ysgolion ar gyfer y flwyddyn ariannol 2026 i 2027.
Trwyddedu Anifeiliaid Cymru
26 Chwefror 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo cyllid pellach gwerth £1 miliwn i Trwyddedu Anifeiliaid Cymru ar gyfer 2026 i 2027.
Brosiect Ysgol Gymraeg Rhyd y Grug
26 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo argymhellion y Panel Buddsoddi mewn Addysg i ddyrannu cyllid ychwanegol i brosiect Ysgol Gymraeg Rhyd y Grug Merthyr Tudful drwy’r Grant Cyfalaf Addysg Cyfrwng Cymraeg a’r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar.
Canllawiau i reolwyr coetir
26 Chwefror 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo canllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru GN072: “Rhywogaethau a Warchodir: Canllawiau i reolwyr coetir – ein dull rheoleiddio” a Chanllawiau Arferion Da cysylltiedig ar gyfer madfallod dŵr cribog, dyfrgwn, pathewod ac ystlumod.
Cymdeithas Pysgod Cregyn Prydain Fawr
24 Chwefror 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i roi nawdd gwerth £7,000 i Gymdeithas Pysgod Cregyn Prydain Fawr ar gyfer cynnal Cynhadledd Flynyddol 2026 yn ogystal â rhoi cyfraniad gwerth £2,000 i’r Gymdeithas ar gyfer talu costau archwiliad Gweinyddiaeth Gyffredinol Tollau Tsieina yn 2026.
Cyfarfod o’r Panel Buddsoddi a gynhaliwyd 27 Ionawr 2026
24 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar Gyllid Cynhyrchu Creadigol Dyfodol yr Economi i brosiect ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Dyrannu cyllid cyfalaf diwedd y flwyddyn i Awdurdodau Parciau Cenedlaethol
24 Chwefror 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ddyrannu cyllid cyfalaf ychwanegol i’r tri Awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer 2025 i 2026 i ostwng ôl-groniad o waith cynnal a chadw a chostau rhedeg, moderneiddio ystadau a gweithrediadau, gwella’r amgylchedd a gwasanaethau i ymwelwyr.
Penodi Aelodau i Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru
24 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi penodi Kalwant Grewal a Ravi Pawar yn Aelodau o Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru. Bydd y penodiadau yn dechrau ar 1 Mai 2026 ac yn dod i ben ar 30 Ebrill 2031.
Diweddaru seilwaith yn Brocastle, Pen-y-bont ar Ogwr
23 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i hwyluso’r gwaith o ddiweddaru seilwaith ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Y Rhwydwaith Maethu – Cyllid Maethu Lles
23 Chwefror 2026
Mae’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithsaol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Rhaglen Maethu Lles ar gyfer 2026 i 2027.
Cymunedau Dysgu Cynaliadwy – Model Buddsoddi Cydfuddiannol – Coleg Gwent
23 Chwefror 2026
Mae’r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wedi cymeradwyo’r argymhelliad i ganiatáu i brosiect Model Buddsoddi Cydfuddiannol Coleg Gwent – Newport Knowledge Quarter symud ymlaen i gam nesaf yr achos busnes.
Arfarniadau o dechnoleg iechyd
23 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i ddiwygio’r Cyfarwyddiadau i Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG yng Nghymru 2003 (fel y’u diwygiwyd) ar gyfer prosesau’n ymwneud ag arfarniadau o dechnoleg iechyd.
Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy
23 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo dyraniadau cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol 2026 i 2027 a nodir gan y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.
Dyfarniadau Grant y Rheoleiddiwr Tai Cymdeithasol a'r Is-adran Busnes Strategol
23 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar ddyfarniadau grant refeniw ar gyfer 2026 i 2027 i Tai Pawb, TPAS Cymru, y Sefydliad Tai Siartredig, LEASE a Chymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd.
Cyllideb yr Is-adran Ynni
23 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar gyllideb, rhaglenni a gweithgareddau yr Is-adran Ynni ar gyfer blwyddyn ariannol 2026 i 2027.
Cyllid Pwysau Iach Cymru Iach
23 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid parhaus ar gyfer prosiectau atal sy'n cefnogi'r gwaith o gyflawni Strategaeth a Chynllun Cyflawni Pwysau Iach Cymru Iach ar gyfer 2025 i 2027.
Dyraniad o’r Gronfa Ddiogelwch Integredig
18 Chwefror 2026
Mae’r Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wedi cymeradwyo dyrannu £475,000 o Gronfa Ddiogelwch Integredig Llywodraeth y DU i Uned Seiberwydnwch Llywodraeth Cymru, i gefnogi’r gwaith o gyflawni prosiectau seiberwydnwch hollbwysig.
Ailbenodi Aelod Annibynnol (Prifysgol) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
18 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi ailbenodi Chantal Patel am 4 blynedd o 2 Awst 2026 hyd 1 Awst 2030.
Peilot Animateur Pysgodfeydd Cymru
18 Chwefror 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i estyniad 12 mis ar gyfer Peilot Animateur Pysgodfeydd Cymru.
Setliad Taliad sy’n ddyledus ym Mro Morgannwg
18 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo’r setliad cynnar o daliad sy’n ddyledus mewn cysylltiad ag eiddo ym Mro Morgannwg.
Gwaith Seilwaith ym Mharc Busnes Bro Tathan
18 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo gwariant i gwblhau gwaith ym Mharc Busnes Bro Tathan.
Ariannu Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG
18 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG i gyflawni gweithgarwch yn ymwneud â rhoi organau a meinweoedd ar gyfer 2026 i 2027.
Dyraniadau Cyllid Terfynol Cymorth ac Atal Digartrefedd
17 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wedi cytuno i ddyraniadau cyllid Cymorth ac Atal Digartrefedd 2026 i 2027, gan gynnwys ar gyfer y Grant Cymorth Tai.
Cytuno ar gyllid i estyn y Gwasanaeth Di-waith
17 Chwefror 2026
Mae’r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i estyn cymorth y Gwasanaeth Di-waith o fis Awst 2026 i fis Mawrth 2027 ac i ariannu gwerthusiad o’r Gwasanaeth Di-waith.
Trydan Gwyrdd Cymru
17 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i ariannu Trydan Gwyrdd Cymru yn 2025 i 2026.
Ailddyrannu Cyllid i Gefnogi Cymorth Bwyd Brys
17 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cytuno i ddarparu cyllid canol blwyddyn ychwanegol i gefnogi gweithgareddau sy’n mynd i’r afael â thlodi bwyd.
Taliadau Busnes a Rhanbarthau
17 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo taliadau ar gyfer 2026 i 2027 i’r Is-adran Busnes a Rhanbarthau.
Cyllid i gefnogi datblygiad rhaglen rhwng yr Heddlu ac Ysgolion
16 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo £500,000 yn 2025 hyd 2026 a £1,000,000 yn 2026 hyd 2027 er mwyn cefnogi cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a phedwar awdurdod yr heddlu yng Nghymru i gefnogi ac atgyfnerthu cydweithredu gyda phedwar awdurdod yr heddlu, Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, Awdurdodau Lleol ac Ysgolion yng Nghymru i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant a phobl ifanc.
Cam 1, Canolfan Ddiagnostig Gymunedol
16 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Cam 1, Canolfan Ddiagnostig Gymunedol ym Mharc Iechyd Llantrisant.
Cynlluniau Cyfarpar a Chyfalaf Digidol Diwedd Blwyddyn
16 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i brynu cyfarpar amrywiol a chyflenwi cynigion digidol erbyn 31 Mawrth 2026.
Grant Cyfalaf Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr
16 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cymeradwyo cynigion cyllid cyfalaf i ailbroffilio grantiau a ddyfarnwyd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ar gyfer 2025 hyd 2026 a 2026 hyd 2027.
Cais i ddiwygio’r Rhestr Cymwysterau â Blaenoriaeth ar gyfer Prentisiaethau Adeiladu
16 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno i ddiwygio’r Rhestr o Gymwysterau â Blaenoriaeth er mwyn cefnogi newidiadau i brentisiaethau adeiladu, gan gynnwys cyflwyno cymwysterau Lefel 2 newydd a chymwysterau Lefel 3 diwygiedig. Maent hefyd wedi cytuno i danysgrifennu costau posibl sydd ynghlwm wrth ddatblygu cymwysterau hyd at £120,000 yn 2025 hyd 2026, a bydd £120,000 yn ychwanegol yn cael ei ymrwymo yn 2026 hyd 2027 o’r gyllideb Prentisiaethau.
Caniatâd Cynllunio
16 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi rhoi caniatâd cynllunio, yn amodol ar amodau ar gyfer cais gan Lightsource BP i greu fferm solar gyda lle storio batri ar dir ar Ystad Plas Power, Ffordd Rhuthun, Wrecsam.
Cronfa Tai â Gofal
16 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo £10,014,065 ar gyfer pedwar cynllun ar ddeg ar draws 6 rhanbarth yng Nghymru a £3,300,000 ar gyfer y Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl. Mae Prif Weinidog Cymru wedi cymeradwyo £663,380 ar gyfer un cynllun ar draws 1 rhanbarth yng Nghymru gan ei fod o fewn etholaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol.
Egwyddorion Cydlyniant
16 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cymeradwyo dwy ddogfen am Egwyddorion Cydlyniant.
Canllaw Ymarferol ar gyfer y Trydydd Sector
16 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cymeradwyo canllaw er mwyn helpu sefydliadau’r trydydd sector i ddiogelu eu hunain rhag casineb ac aflonyddu.
Rheolladau Deddf Gofal Plant 2006 (Asesiad Awdurdod Lleol) (Cymru) (Diwygio) 2026
12 Chwefror 2026
Mae’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar Reolladau Deddf Gofal Plant 2006 (Asesiad Awdurdod Lleol) (Cymru) (Diwygio) 2026
Ail Gyllideb Atodol Iechyd a Gofal Cymdeithasol
12 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol a’r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno ar Ail Gyllideb Atodol Prif Grŵp Gwariant Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2025 i 2026.
Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol
11 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cytuno i ddyfarnu cyllid i EYST i gyflawni gweithgareddau cydraddoldeb hil sy'n cyd-fynd â nodau Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol
11 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cytuno i ddyfarnu cyllid i Race Equality First i gyflawni gweithgareddau cydraddoldeb hil sy'n cyd-fynd â nodau Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol
11 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cytuno i ddyfarnu cyllid i Race Council Cymru i gyflawni gweithgareddau cydraddoldeb hil sy'n cyd-fynd â nodau Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
Cynllun Iechyd Lloegr
11 Chwefror 2026
Mae'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno i swyddogion archwilio opsiynau ar gyfer cydweithio â Llywodraeth y DU ar faes o fewn eu Cynllun Iechyd 10 Mlynedd ar gyfer Lloegr.
Diwygiadau i'r Bil Dedfrydu
11 Chwefror 2026
Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip i ymrwymo £80,000 rhwng 2026 a 2027 tuag at gost ymchwil i effaith diwygiadau Bil Dedfrydu Llywodraeth y DU ar wasanaethau datganoledig.
Safonau mewn ysgolion a cholegau
11 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i gefnogi'r gwaith o ddarparu Rhaglen Gyfathrebu’r Llywodraeth, yn enwedig safonau mewn ysgolion a cholegau.
Memorandwm Dealltwriaeth wedi’i Ddiweddaru
11 Chwefror 2026
Mae'r Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth diwygiedig rhwng y BBC a Chymru Greadigol.
Cymorth pellach ar gyfer darlledu a’r cyfryngau
11 Chwefror 2026
Mae'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno i gefnogi darlledu a'r cyfryngau ymhellach yn 2025 i 2026.
Isafswm Lwfansau Cenedlaethol ar gyfer Gofalwyr Maeth
11 Chwefror 2026
Mae'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo'r Isafswm Lwfansau Cenedlaethol ar gyfer Gofalwyr Maeth ar gyfer 2026 i 2027.
Ail-benodi Cadeirydd i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys
11 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi ailbenodi Carl Cooper am 4 blynedd o 17 Hydref 2026 tan 16 Hydref 2030.
Adolygiad y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo o'r Rhestr Prinder Dros Dro
11 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch wedi cytuno ar yr ymateb i adolygiad y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo o'r Rhestr Prinder Dros Dro.
Gwasanaethau Gofal a Chymorth Rheoleiddiedig
9 Chwefror 2026
Mae’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo: y Cod Ymarfer ar Sicrhau Ansawdd a Rheoli Perfformiad, Uwchgyfeirio Pryderon, a Chau Gwasanaethau Gofal a Chymorth Rheoleiddiedig a’r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig; Cod Ymarfer ar Sicrhau Ansawdd a Rheoli Perfformiad, Uwchgyfeirio Pryderon a Chau Gwasanaethau, mewn perthynas â Gwasanaethau Gofal a Chymorth Rheoleiddiedig – Gorchymyn (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2026, a gwneud Cyfarwyddiadau ar gyfer Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG yng Nghymru o ran Sicrhau Ansawdd a Rheoli Perfformiad, Uwchgyfeirio Pryderon, a Chau Gwasanaethau Gofal a Chymorth Rheoleiddiedig 2026.
Cynllun Tir ar gyfer Tai
9 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wedi cymeradwyo ceisiadau am fenthyciad o dan y Cynllun Tir ar gyfer Tai, a chais am £11.223m ychwanegol o gyllid FTC ar gyfer y cynllun yn 2025 i 2026, ynghyd â chytuno’r prifswm ar gyfer cynnig estyniadau i ddyfarniadau benthyciadau blaenorol lle mae’r meini prawf yn cael eu bodloni.
Trawsnewid Trefi
9 Chwefror 2026
Mae’r Prif Weinidog wedi cymeradwyo cyllid Trawsnewid Trefi i gefnogi’r gwaith o ddatblygu, dylunio, a chynllunio gwaith ar gyfer 14 y Stryd Fawr, Casnewydd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth leol a Thai wedi cymeradwyo cyllid Trawsnewid Trefi i helpu i Gaffael Eiddo yn Nhredegar; ailddatblygu lloriau uchaf y clwb nos Barcode gynt ym Merthyr Tudful; cefnogi gwelliannau allanol i Theatr y Metropole yn Abertyleri; ac adnewyddu Adeiladau’r Emporium ym Margoed. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai hefyd wedi cymeradwyo adennill cyllid a ddyfarnwyd yn wreiddiol i Ferthyr Tydfil.
Trawsnewid Trefi
9 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cymeradwyo cyllid Trawsnewid Trefi ar gyfer cefnogi cam 1 Porth y Gogledd ym Mhontypridd; ailddatblygu adeilad rhestredig Gradd 1 Park House yng Nghaerdydd; a chefnogi’r gwaith o ailddatblygu Civic Square ym Mhort Talbot.
Sefydliad Iechyd y Byd
9 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i adnewyddu’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Swyddfa Ranbarthol Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd.
Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo
9 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cymeradwyo cyllid ychwanegol ar gyfer Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo i weithredu 10 o brosiectau grantiau cymunedol yn 2025 i 2026.
Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr Estynedig ar gyfer Pecynwaith
9 Chwefror 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog wedi cytuno â’r argymhelliad i gynnal ymgynghoriad 12 wythnos ar yr opsiynau i ehangu cyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig ar gyfer pecynwaith i gynnwys gwastraff pecynnau sydd wedi eu taflu er mwyn helpu i fwrw ymlaen â hyn yn y dyfodol.
Ailbenodi Aelod i Fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru
9 Chwefror 2026
Mae’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo ailbenodi Helen Mary Jones yn Aelod o Fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer tymor arall o 4 blynedd.
Setliad Terfynol yr Heddlu
9 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno ar y sail ar gyfer cyfrifyddu a dyrannu Setliad Terfynol yr Heddlu 2026 i 2027.
Dyfarniad Cyflog ar gyfer Cyflogau Gweithredol ac Uwch ac Adolygiad o Swyddi
9 Chwefror 2026
Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno â chynnydd o 3.25% i staff y GIG ar delerau ac amodau cyflog Gweithredol ac Uwch ar gyfer 2025 i 2026. Hefyd, mae’r Gweinidog wedi cytuno â’r argymhellion sy’n deillio o adolygiad annibynnol, ac wedi cytuno ar gynllun gweithredu tri cham (2025 i 2027) i ddatblygu pecyn o ddiwygiadau cynhwysfawr ac ystyrlon ar gyfer trefniadau cyflog a chontract Swyddi Gweithredol ac Uwch ar draws GIG Cymru.
Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Gofalwyr Di-dâl
9 Chwefror 2026
Mae’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo’r ymgynghoriad ar y Strategaeth Genedlaethol ddrafft ar gyfer Gofalwyr Di-dâl.
Cyfarfod Panel Buddsoddi a gynhaliwyd ar 30 Ionawr 2026
9 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar Gyllid Cynhyrchu Creadigol Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yng Nghaerdydd.
Groundwork Cymru
9 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer 2026 i 2027 tuag at barhau i weithredu Groundwork Cymru.
Contract Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus
5 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i ddechrau ar broses ailgaffael contract Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus.
Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
5 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i ryddhau cyllid cyfalaf 2025 i 2026 ar gyfer Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Ailbenodi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
5 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi ailbenodi Michael Grey yn Aelod Cyswllt o’r Bwrdd (Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol), am 2 flynedd o 30 Ionawr 2026 tan 29 Ionawr 2028.
Cyllid ar gyfer Prosiectau Cyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar
5 Chwefror 2026
Mae'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo'r cyllid o £1,250,000 ar gyfer Cylch Chwarae Mochdre, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, a'r ddau amrywiad i'r cyllid ar gyfer rhaglenni a ariannwyd yn flaenorol ar gyfer Cyngor Caerdydd, cyfanswm o £1,764,065.
Cyflawni cynllun y gweithlu Cymraeg mewn Addysg
5 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i ddarparu £7.870 miliwn yn 2026 i 2027 a £1.640 miliwn yn 2027 i 2028 i gefnogi'r gwaith o gyflawni cynllun y gweithlu Cymraeg mewn addysg.
Cyllidebau Rhaglenni’r Gyfarwyddiaeth Ansawdd a Nyrsio
5 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo gwariant o £6.886 miliwn o'r cyllidebau Ansawdd a Nyrsio ar gyfer 2025 i 2026.
Setliad Terfynol Llywodraeth Leol
5 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar y sail ar gyfer cyfrifo a dyrannu Setliad Llywodraeth Leol Terfynol 2026 i 2027.
Cymraeg 2050
4 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i’r dyraniadau cyllideb a grant terfynol ar gyfer 2026 i 2027.
Tanwariant Cymraeg 2050
4 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg wedi cytuno i ailbwrpasu tanwariant o fewn maes cyllideb y Gymraeg ar gyfer 2025 i 2026.
Dirprwyadau Cymraeg 2050
4 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i'r dyraniad arfaethedig o wariant cyllideb refeniw a chyfalaf Cymraeg 2050 ar gyfer 2026 i 2027 o dan gyllidebau y Gymraeg, Comisiynydd y Gymraeg a'r Gymraeg mewn Addysg a chylch cyllido tair blynedd ar gyfer derbynwyr grant Cymraeg 2050 o 2026 i 2027.
Dysgu Proffesiynol Cam 2
4 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer CBAC i gefnogi'r gwaith o gyflwyno Dysgu Proffesiynol Cam 2 ar gyfer y TGAU ‘gwneud-i-Gymru’ newydd.
Proses apelio annibynnol ar gyfer grantiau a thaliadau gwledig
2 Chwefror 2026
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i wrthod apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod saith hawliad Grantiau Bach Glastir.
Proses apelio annibynnol ar gyfer grantiau a thaliadau gwledig
2 Chwefror 2026
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i dderbyn argymhelliad y Panel Apelio Annibynnol i dderbyn yn rhannol apêl yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i adennill taliadau ar gyfer eitemau Gwaith Cyfalaf Glastir Uwch yn dilyn arolygiad ar y safle.
Penodi Cadeirydd i'r Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol
2 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg wedi penodi Llinos Roberts am 5 mlynedd o 1 Ebrill 2026 i 31 Mawrth 2031.
Estyniad i’r Ganolfan Ddydd Haematoleg yn Ysbyty Athrofaol Cymru
2 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo darparu hyd at £2.666 miliwn ar draws 2025 i 2026 a 2026 i 2027 ar gyfer yr estyniad i’r Ganolfan Ddydd Haematoleg ac wedi cytuno i ddyfarnu'r contract cysylltiedig sy'n ofynnol i gyflawni'r cynlluniau.
Theatr fasgwlaidd ymroddedig yn Ysbyty Treforys
2 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo darparu hyd at £10.436 miliwn ar draws 2025 i 2026 a 2026 i 2027 ar gyfer datblygu Theatr Hybrid Fasgwlaidd bwrpasol yn Ysbyty Treforys, Abertawe.
Uned Ddiogel Isel Taith Newydd
2 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo darparu hyd at £5.935 miliwn ar draws 2025 i 2026 a 2026 i 2027 ar gyfer adfer ward Cedar yn Uned Ddiogel Isel Taith Newydd ac wedi cytuno i ddyfarnu'r contract cysylltiedig sy'n ofynnol i gyflawni'r cynllun.
Rhaglen ddymchwel yn Ysbyty Athrofaol Cymru
2 Chwefror 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo darparu hyd at £1.834 miliwn ar draws 2025, 2026 a 2026 i 2027, ar gyfer y rhaglen ddymchwel yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac wedi cytuno i ddyfarnu'r contract cysylltiedig sy'n ofynnol i gyflawni'r cynllun.
Deallusrwydd Artiffisial
30 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar gefnogaeth i weithgareddau Deallusrwydd Artiffisial yn Academi Ddelweddu Genedlaethol Cymru.
System Gwybodaeth Gofal Dwys Cymru
30 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Lles wedi cytuno i weithredu System Gwybodaeth Gofal Dwys Cymru yn raddol, gan gynnwys cynnig cyllid a threfniadau llywodraethu ar gyfer y rhaglen.
Iechyd Meddwl
30 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Lles wedi cytuno ar ddyraniad cyllid iechyd meddwl ar gyfer 2026 i 2027.
Ailbenodiad i Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
30 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi ailbenodi Hannah Rowan yn Gyfarwyddwr Anweithredol, am 4 blynedd o 1 Ebrill 2026 tan 31 Mawrth 2030.
Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol
29 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar gyllid ar gyfer y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol ar gyfer 2026 i 2027.
Ailbenodi Aelod Annibynnol i Addysg a Gwella Iechyd Cymru
29 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi ailbenodi John Gammon am 4 blynedd o 1 Awst 2026 a 31 Gorffennaf 2030.
Rhaglen Frechu rhag y Feirws Syncytiol Anadlol
29 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i gyhoeddi cyfarwyddydau deddfwriaethol a manyleb gwasanaeth wedi'u diweddaru ar gyfer y rhaglen frechu rhag y Feirws Syncytiol Anadlol o fis Chwefror 2026.
Tirweddau Dynodedig a Mynediad i Gefn Gwlad
29 Ionawr 2026
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo dyraniadau cyllid refeniw a chyfalaf ar gyfer tirweddau dynodedig a mynediad i gefn gwlad ar gyfer 2026 i 2027.
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys – Cam Ad-drefnu 2b Ysbyty Coffa Llandrindod
29 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ar gyfer gwaith gwella yn Ysbyty Coffa Llandrindod.
Cyfarfod y Panel Buddsoddi ar 16 Rhagfyr 2025
29 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar gyllid o Gronfa Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yn Wrecsam.
Cyllid ar gyfer swyddfa Bae Baglan
29 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cytuno i ddyrannu £25k o gyllid cyfalaf ar gyfer safle Llais, Corff Llais y Dinesydd Cymru, yng Nghanolfan Arloesi Bae Baglan ar gyfer blwyddyn ariannol 2025 i 2026.
Trawsnewid Trefi - Trefi Smart Cymru
29 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai wedi cytuno y bydd y contract gyda Menter Môn ar gyfer cyflawni rhaglen Trefi Smart Trawsnewid Trefi Cymru yn dod i ben fel y bwriadwyd ar 31 Mawrth 2026.
Diwygio'r diffiniad o blant milwyr
29 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i adolygu'r diffiniad o 'blentyn milwr' o fis Ebrill 2026 ymlaen. Mae newidiadau allweddol yn cynnwys estyn cymhwystra i hyd at 18 oed a chaniatáu i blant cyn-filwyr yn yr ysgol gael mynediad at gymorth am hyd at chwe blynedd ar ôl gadael y gwasanaeth.
Ardal Prawf Ynni Morol – Fforwm Arfordir Sir Benfro
29 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar gymorth grant refeniw ar gyfer blwyddyn ariannol 2025 i 2026 i Fforwm Arfordir Sir Benfro ar gyfer gweithredu'r Prosiect Ardal Prawf Ynni Morol.
Cymorth i'r sector Cynghorau Cymunedol a Thref
29 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i barhau â'r gefnogaeth i'r sector cymuned a thref yn 2026 i 2027. Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd ar flwyddyn ychwanegol o gyllid 'mewn egwyddor' i Un Llais Cymru, corff aelodaeth y sector, a Chymdeithas Clercod Cynghorau Lleol, os derbynnir cynlluniau cyflawni derbyniol.
Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025
28 Ionawr 2026
Mae'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar y cynigion pellach ar gyfer astudiaeth ddilynol i lywio gwerthusiad o ddileu elw.
Sefydlu Bwrdd Cynghori Allanol y Cynllun Hawliau Pobl Anabl
28 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd, a'r Prif Chwip wedi cymeradwyo'r Cylch Gorchwyl, y broses aelodaeth, a'r costau ar gyfer Bwrdd Cynghori Allanol y Cynllun Hawliau Pobl Anabl.
Ysbyty Gwynedd - Safle Glanio Hofrenyddion Ysbyty
28 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo cyllid cyfalaf o £0.982miliwn ar gyfer ailddatblygu'r Helipad yn Ysbyty Gwynedd rhwng 2026 a 2027.
Perthynas Strategol Busnes yn y Gymuned
28 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo cyllideb o £20,000 ar gyfer Perthynas Strategol Busnes yn y Gymuned rhwng 2026 a 2027.
Rhaglen Gydweithredu Cymru ar Asedau (ACPW) 3
28 Ionawr 2026
Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno ar argymhellion Panel Grant ACPW3 i ddyfarnu cyfanswm o £126,980 o refeniw cynllun grant ACPW3 ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025 i 2026.
Trosglwyddo'r Gronfa Tai â Gofal i Iechyd a Gofal Cymdeithasol
28 Ionawr 2026
Mae Ysgrifenyddion y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Cyllid a'r Gymraeg ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo trosglwyddo £175,000 o Tai a Llywodraeth Leol i Iechyd a Gofal Cymdeithasol fel rhan o ymarfer yr ail gyllideb atodol ar gyfer 2025 i 2026.
Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol
28 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno i ymestyn y trefniant gyda Skills Development Scotland ar gyfer 2026 i 2027 i barhau i gynnal rheolaeth y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol, a chyllid cysylltiedig.
Cyllid Cyfalaf ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Plant
28 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cytuno i ddarparu cyllid cyfalaf o £15k i ariannu offer TG newydd yn Swyddfa'r Comisiynydd Plant rhwng 2025 a 2026.
Penodi Aelod Cyswllt i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
28 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i ailbenodi Lisa Curtis-Jones yn Aelod Cyswllt o'r Bwrdd yn swydd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg am gyfnod o dair blynedd.
Hyfforddiant arweinyddiaeth wrth-hiliol CLlLC
28 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg wedi cytuno ar gyllid o £60,000 i CLlLC i gyflwyno rhaglen hyfforddiant arweinyddiaeth wrth-hiliaeth genedlaethol ar gyfer uwch arweinwyr awdurdodau lleol.
Penodi Cadeirydd y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol
28 Ionawr 2026
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi penodi Roisin Willmott am 3 blynedd o 01 Chwefror 2026 tan 31 Ionawr 2029.
Cais cynllunio a alwyd i mewn
27 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi gwrthod caniatâd cynllunio ar gyfer un annedd sengl a dwy annedd bâr ar dir ger 37 Cader Avenue, Bae Cinmel, Conwy.
Rhaglen(ni) ôl-16
27 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer rhaglenni astudio ôl-16 mewn sefydliadau Addysg Bellach Arbenigol.
Rheoleiddio’r proffesiwn rheolaeth adeiladu
27 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i ddynodi swyddogaethau ar gyfer rheoleiddio'r proffesiwn rheolaeth adeiladu i'r Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladu, a dod â'r cytundebau presennol â'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i ben ar gyfer y swyddogaethau hynny.
Eurogames 2027
27 Ionawr 2026
Mae'r Prif Weinidog, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, a’r Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno ar £110,000 o gyllid i gefnogi Eurogames 2027 yng Nghaerdydd.
Astudiaeth Gwydnwch Menai
27 Ionawr 2026
Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, ar ran Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, i gyhoeddi argymhellion Astudiaeth Gwydnwch Menai a chamau nesaf gwaith datblygu’r opsiynau a ddewiswyd.
Rhaglen dathlu 40ain mlynedd o ymrwymiad i CEDAW
27 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cytuno ar gyllid o hyd at £15,000 i gefnogi rhaglen Cyngor Caerdydd i ddathlu 40ain mlynedd ers ymrwymo ei deyrngarwch i'r Confensiwn ar Ddiddymu pob math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod (CEDAW), a chaiff ei chynnal yng Nghaerdydd ym mis Mawrth 2026.
Grid trydan
26 Ionawr 2026
Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio i gyhoeddi adroddiad y Grŵp Cynghori Annibynnol ar Grid Trydan y Dyfodol i Gymru.
Ardrethi annomestig
26 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg wedi cytuno ar ganllawiau ar gadw ardrethi annomestig a rhyddhad ar gyfer Parthau Buddsoddi yng Nghymru.
Ambiwlans Awyr Cymru
26 Ionawr 2026
Mae'r Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cymeradwyo rhodd Cadw o eitemau stoc sydd wedi dyddio, gwerth £1,571 i elusen enwebedig Llywodraeth Cymru, Ambiwlans Awyr Cymru.
Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
26 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cytuno i ail-bwrpasu tanwariant o fewn y gyllideb Cyfiawnder Cymdeithasol ar gyfer 2025 i 2026 i gefnogi prosiectau cyllido cyfalaf ychwanegol o fewn y portffolio Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.
Tair ar y Cyd
26 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo cyllid ychwanegol ar gyfer Partneriaeth Tai ar y Cyd.
Gweithgarwch Gorfodi gan Awdurdodau Lleol ym maes Iechyd a Lles Anifeiliaid
26 Ionawr 2026
Mae Dirprwy Brif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer 2025 i 2026 a 2026 i 2027i banel Penaethiaid Safonau Masnachu fel y gall Awdurdodau Lleol gynnal gweithgarwch gorfodi ym maes iechyd a lles anifeiliaid sy’n ychwanegol at eu cyfrifoldebau statudol.
Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru
22 Ionawr 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i chweched cylch o gyllid gael ei agor ar gyfer Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru.
Penodi Aelod Annibynnol (Prifysgol) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
22 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi penodi Charlotte Reed am bedair blynedd, o 2 Chwefror 2026 tan 1 Chwefror 2030.
Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru – Gosod yr Adroddiad Blynyddol
22 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i osod Adroddiad Blynyddol Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2025 yn Llyfrgell y Senedd.
Estyniad i’r Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol
22 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefydd a’r Prif Chwip, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid gwerth hyd at £133,000 ar gyfer 2026 i 2027 i estyn y Gwasanaeth Cynghori Cenedlaethol tan 30 Medi 2026, gyda’r opsiwn i’w estyn tan ddiwedd mis Mawrth 2027 yn dilyn adolygiad, os oes angen.
Ailbwrpasu tanwariant Cymunedau Cydlynus
22 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cytuno i ailbwrpasu tanwariant Cymunedau Cydlynus yn 2025 i 2026, drwy ddyrannu’r cyllid i awdurdodau lleol drwy gyllid wrth gefn Wcráin a Chynllun MedEvac Gaza.
Taliad gorswm
21 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo taliad gorswm ar 13.1 o erwau o dir amaethyddol yn Croes Atti, Y Fflint, Sir y Fflint.
Diogelwch Adeiladau
21 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo fersiwn ddrafft derfynol o’r Memorandwm Dealltwriaeth rhwng yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a Llywodraeth Cymru ar y cynllun Adrodd Gwirfoddol ar gyfer Digwyddiadau.
Gosod ffi trwyddedau cocos Cymru ar gyfer 2026 hyd 2027
21 Ionawr 2026
Mae Dirprwy Brif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ymgynghoriad gyda deiliaid trwyddedau cocos a rhanddeiliaid eraill perthnasol i’w gynnal o 26 Ionawr hyd 9 Chwefror ar gynnig i gynyddu ffi’r drwydded gocos i £600.
Adolygiad Polisi y Grant Datblygu Disgyblion
20 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar gyhoeddiad a chwmpas Adolygiad Polisi y Grant Datblygu Disgyblion.
Dyraniadau’r Grant Datblygu Disgyblion
20 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno ar y dyraniadau cyllid arfaethedig ar gyfer y Grant Datblygu Disgyblion rhwng 2026 a 2027, gan gynnwys ehangu’r cynllun fel bod dysgwyr sydd wedi bod yn gymwys i gael Prydau Ysgol Am Ddim yn y naill neu'r llall o'r ddwy flynedd ddiwethaf yn gymwys i gael cyllid.
Casglu data’r Grant Datblygu Disgyblion
20 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i ddyrannu £230k o gyllideb y Grant Datblygu Disgyblion 2026 i 2027 i ariannu'n rhannol yr ymarfer darganfod digidol ynghylch systemau ysgolion, a fydd yn cynnwys casglu data cwmpasu ar wariant ac effaith y Grant.
Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol Hybu Cig Cymru (HCC)
20 Ionawr 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog wedi cytuno i osod y Cyfrifon Blynyddol a'r Datganiadau Ariannol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024 i 2025 gerbron y Senedd, a'u cyhoeddi ar wefan HCC.
Rhaglenni Blynyddol Amnewid Fflyd
20 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo £23.110miliwn fel rhan o raglen Amnewid Cerbydau Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a £1.190miliwn i Bartneriaeth Cydwasanaethau’r GIG ar gyfer rhaglen Fflyd Gwasanaethau Negesydd Iechyd yn 2026 i 2027.
Setliad Dros Dro yr Heddlu
20 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i'r sail ar gyfer cyfrifo a dyrannu Setliad Dros Dro yr Heddlu 2026 i 2027.
Diweddariad arfaethedig i'r Canllawiau Parhad Dysgu
20 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo Canllawiau Parhad Dysgu diwygiedig ar gyfer Ysgolion a Lleoliadau Addysg Eraill.
Perfformiad ailgylchu
20 Ionawr 2026
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog a'r Ysgrifennydd Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi penderfynu na ddylai dirwy bosibl o £838,200 i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar gyfer y flwyddyn darged 2021 i 2022 fod yn gymwys.
Cyllid ychwanegol ar gyfer mudiadau gwirfoddol
20 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, y Dirprwy Brif Weinidog, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cymeradwyo cyllid ychwanegol o £254,200 i Ymddiriedolaeth y Brenin, Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, GISDA, Groundworks Gogledd Cymru a Mind Casnewydd, drwy'r Grant Strategol ar gyfer Sefydliadau Gwaith Ieuenctid Gwirfoddol yn 2025 i 2026.
Cryfhau'r sail ddeddfwriaethol ar gyfer gwaith ieuenctid
20 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i waith pellach gael ei wneud ar beilot posibl o'r fframwaith statudol arfaethedig newydd.
Corff Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Ieuenctid
20 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i ddechrau ar waith i sefydlu corff cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru, gan gynnwys sefydlu grŵp cynghori allanol a dyrannu £20,000 i'r gwaith hwn rhwng 2025 a 2026, ac i ymgysylltu ymhellach â phartneriaid ar y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer gwaith ieuenctid gyda'r bwriad o'i gyhoeddi ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2025 i 2026.
Trefniadau Marchnata a Chyfathrebu Gwaith Ieuenctid
20 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i wahodd datganiadau newydd o ddiddordeb gan sefydliadau yn y sector gwaith ieuenctid i gyflawni swyddogaeth farchnata a chyfathrebu traws-sector o fis Medi 2025 ymlaen.
Corff Cenedlaethol a Fframwaith Statudol ar gyfer Gwaith Ieuenctid
20 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i sefydlu Bwrdd Cyflawni ac is-grwpiau i gefnogi’r gwaith o ddatblygu corff cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru, ac i fireinio agweddau allweddol ar y fframwaith statudol ar gyfer gwaith ieuenctid er mwyn ystyried adborth gan randdeiliaid.
Gweithgareddau ychwanegol ar gyfer ymgysylltu â ieuenctid – y camau nesaf
20 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo'r dyraniad o £400,000 yn 2025 i 2026 a £399,700 yn 2026 i 2027 i gefnogi ystod o weithgareddau i ddatblygu a bwrw ymlaen ag argymhellion y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro a chefnogi'r cynnig addysg i bobl ifanc yng Nghartref Plant Diogel Hillside.
Fframwaith statudol ar gyfer gwaith ieuenctid - y camau nesaf
20 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i waith fynd rhagddo i gwblhau'r fframwaith statudol drafft ar gyfer gwaith ieuenctid i ddod ag ef i rym erbyn Ebrill 2026, i 25,000 gael ei ddyrannu i grant craidd Cyngor Gwasanaeth Ieuenctid Gwirfoddol Cymru rhwng 2025 a 2026 i gefnogi sefydliadau ar lawr gwlad i baratoi ar gyfer y fframwaith newydd, ac i £50,000 arall gael ei ddyrannu i Safonau Hyfforddiant Addysg Cymru i ehangu ar y gweithgarwch a gynhaliwyd i gyflawni rhaglen datblygu'r gweithlu gwaith ieuenctid traws-sector rhwng 2025 a 2026 i fynd i'r afael â rhai o'r rhwystrau sy'n wynebu sefydliadau'r sector gwirfoddol o ran cael mynediad at hyfforddiant.
Trosglwyddiadau cyllideb Cysylltiadau Rhyngwladol ar gyfer cydweithio
20 Ionawr 2026
Mae'r Prif Weinidog, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg wedi cymeradwyo trosglwyddo £230k o'r gyllideb Cysylltiadau Rhyngwladol i gyllideb WEFO ar gyfer blwyddyn ariannol 2025 i 2026 i ariannu cydweithio ar gyfer prosiectau Agile Cymru.
Prosiect Cysylltedd Croeso
20 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cytuno na fydd elfen Tocyn Croeso y Prosiect Cysylltedd Croeso yn mynd rhagddo yn ei ffurf bresennol yn ystod tymor y Senedd hon.
Cwricwlwm i Gymru
20 Ionawr 2026
Mae Cyfarwyddwr y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i gyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad cyfansoddi cam 1 asesiad ffurfiannol y Cwricwlwm i Gymru.
Y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy
20 Ionawr 2026
Mae’r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cyllid cyfalaf ar gyfer y prosiectau canlynol: Coleg Catholig Dewi Sant, MBIR Cam 3; Coleg Penybont, caffael Tŷ Bracla; a Choleg Sir Benfro, estyniad i’r fynedfa flaen ac ailwampio G7.
Y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy
20 Ionawr 2026
Mae’r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo’r prosiectau canlynol ar gyfer symud ymlaen i gam nesaf y broses fusnes: Coleg Caerdydd a’r Fro, Cynllun Amlinellol Strategol Diwygiedig; Coleg Catholig Dewi Sant, Prosiect Coetir; Coleg Catholig Dewi Sant, Adeilad STEM newydd; a Grŵp NPTC, Academi Sgiliau Gwyrdd y Drenewydd.
Grant Cyfalaf Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr
20 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cymeradwyo cynigion cyllid cyfalaf gan Gyngor Sir Penfro, hyd at werth £100,000 a chan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent hyd at werth £25,000 yn 2025 i 2026; ac i ailbroffilio’r grantiau a ddyfarnwyd i Gyngor Sir Caerdydd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i mewn i 2026 i 2027.
Model Buddsoddi Cydfuddiannol Felindre
20 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar amrywiad contractiol sy’n gosod Dangosyddion Perfformiad Allweddol a chategorïau newydd o ran buddion cymunedol i’w darparu yn ystod y gwaith o adeiladu Canolfan Ganser newydd Felindre.
Coedwig Genedlaethol Cymru
20 Ionawr 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ddau safle newydd gael Statws Coedwig Genedlaethol; ac wedi cymeradwyo estyniad a chyllid ar gyfer contract arwyddion gyda Sefydliad y Deillion Merthyr Tudful; ac wedi cytuno ar drydydd gam safleoedd Ystad Goetiroedd Llywodraeth Cymru yn uno â Choedwig Genedlaethol Cymru.
Ailbenodi dau Aelod Annibynnol (Digido a Chyllid) i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
20 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi ailbenodi Dafydd Vaughan yn Aelod Annibynnol (Digidol) o 10 Mai 2026 hyd 9 Mai 2030. Mae Iwan Jones wedi cael ei ailbenodi’n Aelod Annibynnol (Cyllid) o 24 Mawrth 2026 hyd 23 Mawrth 2030.
Penodi Aelod Cyswllt i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
20 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i benodi’r Cynghorydd Alun Llewellyn yn Aelod Cyswllt o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe am gyfnod o ddwy flynedd.
Dyfarnu cyllid ar gyfer Caffi Trwsio Cymru a Benthyg Cymru
20 Ionawr 2026
Mae Dirprwy Brif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i ddarparu cyllid sefydlog ynghyd â chynnydd ar sail chwyddiant o 3% i Benthyg Cymru a Chaffi Trwsio Cymru ar gyfer mentrau atgyweirio ac ailddefnyddio, am gost o £532, 464 o 1 Ebrill 2026 hyd 31 Mawrth 2027.
Rhaglen Heneiddio’n Iach
20 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i ddyrannu £228,000 i Age Cymru ar gyfer y Rhaglen Heneiddio’n Iach. Bydd y cyllid ar gyfer blwyddyn ariannol 2026 hyd 2027.
Cyllid gan Great British Energy ar gyfer prosiectau ynni lleol
20 Ionawr 2026
Mae Dirprwy Brif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wedi cytuno y gall cyllid gan Great British Energy gael ei ddyrannu i Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru ac maent hefyd wedi cytuno ar Femorandwm Dealltwriaeth sy’n cadarnhau’r dull cyllido a’r nodau.
Penodi Aelod Cyswllt i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
19 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i benodi Dr Sarah Anne Medlicott fel Aelod Cyswllt Ychwanegol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg am gyfnod o un flwyddyn.
Cymunedau Dysgu Cynaliadwy – Achosion Busnes - Ysgolion
19 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cyfres o argymhellion a wnaed gan Banel Buddsoddi mewn Addysg y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy wnaeth gyfarfod ym mis Rhagfyr i symud ymlaen i gam nesaf y broses fusnes ar gyfer Wrecsam, Ysgol Arbennig St Christopher; Casnewydd – Ysgol Gyfun Caerllion; a Rhondda Cynon Taf, Ysgol Gyfun Gymraeg - Cwm Rhondda.
Cymunedau Dysgu Cynaliadwy – Achosion Cyfiawnhad Busnes ac Amrywiadau - Colegau
19 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo cyfres o argymhellion a wnaed gan Banel Buddsoddi mewn Addysg y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy wnaeth gyfarfod ym mis Rhagfyr i ddyfarnu cyllid cyfalaf ar gyfer y prosiectau canlynol: Rhondda Cynon Taf, Ysgol Uwchradd Sant Ioan Fedyddiwr; Blaenau Gwent, Ysgol Gyfun Tredegar; Caerffili – Ysgol Gynradd Llanfabon / Llancaeach; yn ogystal ag amrywiad yn ymwneud ag Ysgol Gynradd Townhill Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd.
Rhaglen Arloesi, Technoleg a Phartneriaethau
14 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno, yn amodol ar gyllideb derfynol Llywodraeth Cymru, i ariannu’r Rhaglen Arloesi, Technoleg a Phartneriaethau ar gyfer blwyddyn ariannol 2026 i 2027.
Ymwybyddiaeth o AI a’i Fabwysiadu
14 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer cymorth busnes deallusrwydd artiffisial (AI) penodedig i fusnesau yn 2025 i 2026 a 2026 i 2027 gan gynnwys darpariaeth Busnes Cymru o raglen ymwybyddiaeth a mabwysiadu AI ar gyfer busnesau micro a busnesau bach a chanolig yng Nghymru, prosiect peillio AI a hyfforddiant AI penodol i’r sector ar gyfer busnesau yn y sector twristiaeth a digwyddiadau.
Ailddyrannu’r gyllideb Cydraddoldeb i’r gyllideb Cefnogi Cymunedau
14 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cytuno i ddyrannu cyllid ychwanegol i gefnogi camau gweithredu tlodi tanwydd brys drwy’r Sefydliad Banc Tanwydd.
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
14 Ionawr 2026
Mae’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ar gyfer 2024 i 2025.
Cynlluniau cyfalaf diwedd blwyddyn
13 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid ar gyfer amryw o gynigion am offer, digidol a man waith i’w cyflawni erbyn 31 Mawrth 2026.
Cyllideb Academi Seren 2025 i 2026
13 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo’r cynigion ar gyfer dyrannu cyllideb Academi Seren ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025 i 2026, ac eithrio £200,000 sydd angen ei drafod ymhellach.
Cyllideb Academi Seren 2025 i 2026
13 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo’r cynigion ar gyfer y dyraniadau sy’n weddill o gyllideb Academi Seren ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025 i 2026.
Aildendro Contract Cyflawni
13 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cytuno i aildendro Contract Cyflawni Academi Seren.
Ailbenodi Cadeirydd i Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
12 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi ailbenodi Colin Dennis am bedair blynedd o 1 Hydref 2026 hyd 30 Medi 2030.
Cynnyrch diogelu planhigion
12 Ionawr 2026
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch arfer y swyddogaeth benderfynu ar gymeradwyo echdynnyn dyfrllyd o hadau eginedig Lupinus albus pêr, sylwedd gweithredol risg isel newydd a ddefnyddir mewn cynhyrchion diogelu planhigion, mewn perthynas â Chymru.
Cynyddu’r Cyflog Byw Gwirioneddol ym mis Ebrill 2026
12 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar gynnydd i isafswm cyfradd fesul awr staff y GIG yn yr Agenda ar gyfer Newid i adlewyrchu’r cynnydd yng nghyfradd y Living Wage Foundation i £13.45 yr awr. Cynnydd dros dro yw hwn cyn y dyfarniad cyflog blynyddol ar gyfer 2026 i 2027.
Ailbenodi Aelod o Fwrdd Careers Choices Dewis Gyrfa Ltd
12 Ionawr 2026
Mae’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi ailbenodi Joni Alexander am dair blynedd o 9 Ionawr 2026 hyd 8 Ionawr 2029.
Dysgwyr LHDTC+ a chymorth gwaith ieuenctid
12 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cytuno i ddarparu cyllid ychwanegol a fydd yn cael ei ddosrannu i awdurdodau lleol dros flynyddoedd ariannol 2025 i 2026 (£100,000) a 2026 i 2027 (£200,000) er mwyn darparu cyllid ychwanegol i wasanaethau cymorth ieuenctid lleol drwy’r Grant Cymorth Ieuenctid i weithio gydag ysgolion a darparwyr addysg yn eu hardal leol i wella’r gefnogaeth i ddysgwyr LHDTC+.
Cymeradwyo Cyllid i Gronfa Ddysgu Undebau Cymru a TUC Cymru
12 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno i gyllid er mwyn cynorthwyo â darparu gweithgareddau Cronfa Ddysgu Undebau Cymru a TUC Cymru yn y flwyddyn ariannol 2026 i 2027.
GIG Cymru
12 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno i gyllido ystod o ystadau, cyfarpar a chynigion digidol sydd i’w darparu erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2025 i 2026.
Dealltwriaeth artiffisial mewn lleoliadau clinigol yng Ngwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru
8 Ionawr 2026
Mae’r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant wedi cytuno ar gymorth ar gyfer cynlluniau i gyflwyno a mabwysiadu dealltwriaeth artiffisial mewn lleoliadau clinigol yng Ngwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru.
Peilot Cymorth Digartrefedd
8 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wedi cytuno i ariannu cynllun peilot ar gyfer digartrefedd yn 2025 i 2026 a 2026 i 2027.
Cynllun Indemniad y Llywodraeth
7 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, a’r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno y dylai’r broses ar gyfer cael gwared â chymalau Cynllun Indemniad y Llywodraeth yng Nghymru ddilyn y model a ddefnyddiwyd gan Gyngor y Celfyddydau yn Lloegr. Maent hefyd wedi cytuno y dylid defnyddio’r broses hon ar gyfer Arddangosfa Gwen John sydd ar ddod.
Llythyr Hysbysu Aelwydydd
7 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wedi cytuno i gefnogi’r trefniant i anfon Llythyr Hysbysu Aelwydydd i gartrefi yn Nghymru cyn etholiad Senedd 2026. Bydd y llythyr hwn yn rhoi gwybod i’r rhai sy’n dymuno pleidleisio drwy’r post neu drwy brocsi beth yw eu statws cofrestru a beth yw’r broses ar gyfer gwneud cais am bleidlais bost neu brocsi.
Dyraniad y Byrddau Iechyd
7 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar ddyraniad y Byrddau Iechyd ar gyfer 2026 i 2027.
Cynllun Personau Cymwys – Adolygiad o’r Amodau Awdurdodi
7 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar Gais am Dystiolaeth ar y cyd â Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladau Lloegr ar gyfer yr adolygiad o Amodau Awdurdodi’r Cynllun Personau Cymwys.
Llythyrau Cysur – Mudo a Chenedl Noddfa
7 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip wedi cytuno i anfon llythyrau cysur at sefydliadau’r trydydd sector, mewn perthynas â chyfanswm o £831,350 ar gyfer 2026 i 2027 oddi wrth Gymunedau Cydlynus.
Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion
6 Ionawr 2026
Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Lles i ariannu gwaith y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion am ddwy flynedd ariannol arall.
Cymunedau Dysgu Cynaliadwy
6 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo'r prosiectau canlynol i symud ymlaen i gam nesaf y broses fusnes: Ailddatblygu Ysgolion Aberdaugleddau, Sir Benfro; Ysgol Gynradd Penrhys, Rhondda Cynon Taf; Ysgol Gatholig y Santes Fair, Wrecsam; Canolfan Alwedigaethol Cyn-16 Castell-nedd Port Talbot. Ar ben hynny, dyfarnwyd cyllid i brosiect YGG Rhosafan Castell-nedd Port Talbot drwy'r Her Ysgolion Cynaliadwy; ac mae prosiect Ysgol Mynydd Bychan Caerdydd a phrosiect Ysgol Bro Elwern Sir Ddinbych wedi derbyn cyllid drwy'r Grant Cyfrwng Cymraeg.
Cymunedau Dysgu Cynaliadwy – Achosion Busnes - Colegau
6 Ionawr 2026
Mae’r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cymeradwyo’r prosiectau canlynol i symud ymlaen i gam nesaf y broses fusnes: Coleg Sir Benfro, Rhaglen Amlinellol Strategol ddiwygiedig; Coleg Dewi Sant, Rhaglen Amlinellol Strategol ddiwygiedig; Coleg Dewi Sant, Prif Adeilad Cam Adnewyddu Mewnol 3.
Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
6 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cytuno i gyhoeddi "llythyrau cysur" i sefydliadau'r trydydd sector a ariennir o'r gyllideb refeniw Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, er mwyn eu helpu i gynllunio ar gyfer 2026 i 2027.
Grant Cyfalaf Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr
6 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cymeradwyo cynigion cyllid cyfalaf: gan Gyngor Sir Penfro am £105,619 yn 2025 i 2026; £551,516k yn 2026 i 2027 a £131,408 yn 2027 i 2028; gan Gyngor Sir Ddinbych am £4,076 yn 2025 i 2026; a gan Gyngor Sir y Fflint am £368,330 yn 2025 i 2026.
Busnes Cymdeithasol Cymru
6 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo darparu gwasanaeth Busnes Cymdeithasol Cymru a chyllid craidd ar gyfer Cwmpas a Chwmnïau Cymdeithasol Cymru ar gyfer 2026 i 2027.
Rhaglenni Cyflogadwyedd
6 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar gyllid ar gyfer rhaglenni Twf Swyddi Cymru+, ReAct+, a Chymunedau am Waith+, a chyllid i gefnogi datblygiad gwasanaeth digidol sengl ESP o'r gyllideb ddrafft 2026 i 2027.
Darparu cyngor cyfreithiol ar fewnfudo
6 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cytuno i ailbwrpasu £60,000 i gefnogi gweithgarwch i wella'r ddarpariaeth o gyngor cyfreithiol ar fewnfudo yng Nghymru.
Tai a arweinir gan y gymuned
6 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ddyfarnu cyllid refeniw i barhau i gefnogi Cwmpas i gyflwyno a chefnogi Tai a arweinir gan y Gymuned yn 2026 i 2027.
Prosiectau Galluogi Tai Gwledig
6 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar £146,382 o gyllid refeniw ar gyfer prosiectau Hwyluso Tai Gwledig rhwng 2026 a 2027.
Tanwariant Cymunedau Cydlynus
6 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip wedi cytuno i ailbwrpasu £1.482 miliwn o danwariant i ddarparu cymorth ychwanegol i awdurdodau lleol.
Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy'n Heneiddio
6 Ionawr 2026
Mae'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cytuno ar gyllid i Age Cymru rhwng 2026 a 2027.
Datblygiad Warren Hall
6 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cymeradwyo gwariant ar gyfer gwaith seilwaith arfaethedig yn Warren Hall, Sir y Fflint.
Dyfarniadau grant dangosol y Rheoleiddiwr Tai Cymdeithasol a'r Is-adran Busnes Strategol
6 Ionawr 2026
Yn amodol ar gytundeb y Senedd ar y gyllideb derfynol ar gyfer 2026 i 2027, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar ddyfarniadau grant refeniw gwerth cyfanswm o £652.300 i Tai Pawb, TPAS Cymru, y Sefydliad Tai Siartredig, LEASE a Chymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd.
Tlodi Tanwydd
6 Ionawr 2026
Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip i ddefnyddio'r cyllidebau presennol i ariannu Ymchwil Data Gweinyddol Cymru sy'n gwneud gwaith i gasglu tystiolaeth ar dlodi tanwydd yng Nghymru.
Gwasanaethau cyfyngedig i blant
6 Ionawr 2026
Mae'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cymeradwyo cynigion ar gyfer astudiaeth ddilynol i lywio gwerthusiad o ddileu elw o wasanaethau plant cyfyngedig.
Cymorth i Brynu-Cymru
6 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar gyllideb ar gyfer ymgyrch gyhoeddusrwydd Cymorth i Brynu - Cymru, ac i gysoni’r trefniadau llywodraethiant ar gyfer mân benderfyniadau ynghylch cynlluniau tai sy'n cael eu cyflawni gan Fanc Datblygu Cymru.
Cyfarfod y Panel Buddsoddi ar 14 Hydref 2025
6 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno ar Gyllid Dyfodol yr Economi ar gyfer prosiect yn Sir Benfro.
Cyllid i helpu i hyrwyddo a chael achrediad Cyflog Byw Gwirioneddol
6 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a'r Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol wedi cytuno, yn amodol ar gyllideb derfynol Llywodraeth Cymru, i barhau i ariannu Cynnal Cymru i hyrwyddo a helpu i gael achrediad Cyflog Byw Gwirioneddol. Bydd hyn yn sicrhau parhad gweithgarwch o flwyddyn ariannol 2025 i 2026 i mewn i 2026 i 2027.
Y Gronfa Tai â Gofal – Cynigion Prosiect ar gyfer 2025 i 2026
6 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cymeradwyo £3,068,863 o gyllid cyfalaf y Gronfa Tai â Gofal ar gyfer wyth cynllun ar draws tri rhanbarth yng Nghymru. Mae'r Prif Weinidog wedi cymeradwyo £70,283 o gyllid cyfalaf y Gronfa Tai â Gofal ar gyfer dau gynllun mewn un rhanbarth o Gymru.
Rhaglen Byw'n Annibynnol
6 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol wedi cytuno ar ddyraniadau grant drafft y Rhaglen Byw'n Annibynnol ar gyfer 2026 i 2027.
Diwydiant Sero Net Cymru
6 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i ysgrifennu at Diwydiant Sero Net Cymru i gadarnhau parhad Diwydiant Sero Net Cymru, corff masnach, i gefnogi gweithgarwch datgarboneiddio diwydiannol yng Nghymru.
Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig
6 Ionawr 2026
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog / Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i wrthod apêl yn erbyn y penderfyniad i gymhwyso cosb am or-ddatgan ac adennill taliadau o dan gynlluniau Creu Coetir Glastir, Premiwm Creu Coetir Glastir, a Rheoli Coetir Glastir, ar ôl cwblhau'r gwiriadau gweinyddol.
Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig
6 Ionawr 2026
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog / Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i wrthod apêl yn erbyn y penderfyniad i wrthod hawliad Gwaith Cyfalaf Glastir Uwch 2020, gan ei fod wedi'i gyflwyno ar ôl dyddiad cau.
Proses Apelio Annibynnol ar gyfer Grantiau a Thaliadau Gwledig
6 Ionawr 2026
Mae'r Dirprwy Brif Weinidog / Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig wedi cytuno i dderbyn apêl yn erbyn y penderfyniad i gymhwyso gostyngiad taliad i hawliad Grant Cynhyrchu Cynaliadwy yn dilyn arolygiad.
Diwydiant Sero Net Cymru
6 Ionawr 2026
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio wedi cytuno i swyddogion gymryd y camau angenrheidiol er mwyn i Lywodraeth Cymru ddisodli Diwydiant Cymru fel gwarantwr cwmni ar gyfer Diwydiant Sero Net Cymru, ochr yn ochr ag opsiynau eraill sy'n cael eu harchwilio yn ôl yr angen.
