Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir a chyd-destun cyfreithiol

Mae Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) 2011 yn cael eu gwneud o dan Adran 30 Deddf Addysg 2002 (Saesneg yn unig) ac maent yn nodi’r cynnwys a’r trefniadau dosbarthu ar gyfer adroddiadau blynyddol llywodraethwyr.

Mae Rheoliadau Adroddiadau Blynyddol Llywodraethwyr Ysgolion (Cymru) (Diwygio) 2013 yn gwneud newidiadau i Reoliadau 2011 o ganlyniad i adran 94 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.

Mae Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Gwybodaeth Asesiadau Athrawon) (Cymru) 2018 yn dileu’r gofyniad i ddata cymharol gael eu cynnwys ac mae Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Datblygu Ysgolion) (Cymru) 2014 yn mewnosod gofyniad i gynnwys crynodeb o’r cynlluniau datblygu ysgol.

Yn ogystal, mae Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009 yn mewnosod darpariaeth i Ddeddf Addysg 2002 bod yn rhaid i adroddiadau blynyddol llywodraethwyr gynnwys gwybodaeth am y camau a gymerwyd i hyrwyddo bwyta ac yfed iach ymhlith ddisgyblion yr ysgol.

Mae’n ofynnol i bob corff llywodraethu ysgol a gynhelir lunio adroddiad blynyddol. Mae’r cynnwys statudol wedi’i nodi yn y canllawiau hyn. Gall cyrff llywodraethu ddewis ychwanegu gwybodaeth ategol a fydd, yn eu barn hwy, o gymorth.

Amseriad

Nid oes amser penodol o’r flwyddyn ar gyfer cyhoeddi adroddiadau blynyddol llywodraethwyr. Fodd bynnag, i gyd-fynd â gosod targedau, anogir cyrff llywodraethu i gyhoeddi eu hadroddiadau yn ystod tymor yr hydref.

Dosbarthu a hygyrchedd

Rhaid i gyrff llywodraethu ddarparu copi o’r adroddiad blynyddol am ddim i’r holl rieni a gofalwyr sydd â phlant wedi’u cofrestru yn yr ysgol. Mae llawer o ysgolion yn cyhoeddi eu hadroddiad blynyddol ar wefan yr ysgol i bawb ei weld.

Dylai cyrff llywodraethu ystyried hygyrchedd yr adroddiad ar gyfer anghenion gwahanol rieni a gofalwyr. Gall awdurdod lleol gyfarwyddo corff llywodraethu i sicrhau bod ei adroddiad blynyddol ar gael mewn iaith arall.

Cynnwys gorfodol yr adroddiad blynyddol

Rhaid cynnwys yr wybodaeth ganlynol yn yr adroddiad blynyddol i rieni a gofalwyr. Fodd bynnag, nid oes angen iddo ddilyn y drefn na’r fformat hwn. Dylai cyrff llywodraethu sicrhau eu bod yn croeswirio â’r ddeddfwriaeth fel y rhestrir uchod er mwyn i’r rhestr gyflawn o’r wybodaeth ofynnol gael ei chynnwys yn eu hadroddiadau.

Manylion cyfarfodydd gyda rhieni a gofalwyr dros y flwyddyn ddiwethaf

  • Dyddiadau’r cyfarfodydd ac ymhle y cawsant eu cynnal.
  • Y rhesymau a roddwyd gan y rhieni neu’r gofalwyr am ddeisebu i gael cyfarfod.
  • Enwau’r rhai a oedd yn bresennol yn y cyfarfod (ac eithrio rhieni a gofalwyr).
  • Nifer y rhieni a gofalwyr a oedd yn bresennol.
  • Cofnod o faterion a drafodwyd a’r camau gweithredu a ddeilliodd o’r trafodaethau.

Manylion y llywodraethwyr

  • Enwau a chyfeiriadau ysgol y clerc a’r cadeirydd.
  • Enwau aelodau’r corff llywodraethu, eu telerau swydd, categori a statws (er enghraifft rhiant, athro, llywodraethwr sefydledig, aelod cyfetholedig, aelod a benodwyd fel arall, aelod ex-officio).
  • Yn achos llywodraethwr a benodwyd, pwy â’u penododd, pryd y daw’r penodiad i ben (ac eithrio llywodraethwyr ex-officio), a gwybodaeth am yr etholiad rhiant llywodraethwr nesaf.

Gwybodaeth am berfformiad a thargedau

  • Ar gyfer ysgolion uwchradd, y crynodeb o berfformiad ysgol uwchradd diweddaraf mewn perthynas â’r ysgol.
  • Nifer a chanran absenoldebau anawdurdodedig ac absenoldebau awdurdodedig.
  • Gwybodaeth cyrchfan ynghylch dysgwyr sy’n gadael yr ysgol, o ran yr addysg barhaus, y cyflogaeth neu’r hyfforddiant a ddilynir gan y rhai sy’n gadael yr ysgol.

Datganiad ariannol

  • Atgynhyrchu neu grynhoi unrhyw ddatganiad ariannol a ddarparwyd i’r corff llywodraethu gan yr awdurdod lleol ers yr adroddiad llywodraethwyr blaenorol.
  • Manylion cyffredinol am sut y gwariwyd yr arian a ddarparwyd gan yr awdurdod lleol.
  • Manylion unrhyw anrhegion a roddwyd i’r ysgol.
  • Swm unrhyw lwfansau teithio a chynhaliaeth a gawsant eu talu i aelodau’r corff llywodraethu.

Camau gweithredu a gymerwyd gan y corff llywodraethu neu’r ysgol

  • Newidiadau i bolisïau neu benderfyniadau a wnaed o ganlyniad i unrhyw benderfyniadau a basiwyd yn y cyfarfod diwethaf â’r rhieni a’r gofalwyr.
  • Cynnydd mewn perthynas â chynllun gweithredu ôl-arolygiad yr ysgol.
  • Datblygu neu gryfhau cysylltiadau â’r gymuned (gan gynnwys cysylltiadau â’r heddlu).
  • Crynodeb o newidiadau i brosbectws yr ysgol ers ei gyhoeddi.
  • Unrhyw adolygiad o bolisïau’r ysgol (er enghraifft polisïau ymddygiad, polisi gwrth-hiliaeth, polisi diogelwch).
  • Gweithredu ac adolygu strategaethau ysgol penodol.

Trefniadaeth, cynlluniau a pholisïau

  • Crynodeb o’r cynllun datblygu ysgol.
  • Dyddiadau tymhorau’r ysgol, gan gynnwys gwyliau, ar gyfer y flwyddyn i ddod.
  • Manylion polisi anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yr ysgol, gan gynnwys ei lwyddiant, dyraniad adnoddau neu newidiadau a wnaed, unrhyw ymgynghoriad gyda’r awdurdod lleol ac ysgolion eraill.
  • Disgrifiad o’r trefniadau derbyn ar gyfer dysgwyr sydd ag anableddau (gan gynnwys y trefniadau derbyn ar gyfer dysgwyr sydd ag ADY heb ddatganiadau).
  • Manylion y camau a gymerwyd i rwystro dysgwyr sydd ag anableddau rhag cael eu trin yn llai ffafriol na dysgwyr eraill.
  • Manylion y cyfleusterau a ddarperir i gynorthwyo dysgwyr sydd ag anableddau i gael mynediad i’r ysgol (er enghraifft mynediad corfforol neu fynediad at y cwricwlwm).
  • Cynnydd o ran cyflawni nodau ym maes chwaraeon, ac unrhyw gyflawniadau nodedig.

Bwyta ac yfed yn iach

  • Y camau a gymerwyd i hyrwyddo bwyta ac yfed yn iach ymhlith dysgwyr yr ysgol.

Cwricwlwm a threfniadaeth addysg a dulliau addysgu

  • Datganiad am y cwricwlwm a threfniadaeth addysg a’r dulliau addysgu yn yr ysgol.
  • Manylion unrhyw drefniadau arbennig yn y cwricwlwm neu fel arall ar gyfer categorïau penodol o ddysgwyr, gan gynnwys y rhai sydd ag ADY.

Y Gymraeg

  • Gwybodaeth am gategori ieithyddol yr ysgol.
  • Y defnydd a wneir o’r Gymraeg yn yr ysgol gan ddysgwyr o bob grŵp oedran.
  • I ba raddau y mae’r Gymraeg yn iaith gyfathrebu arferol yn yr ysgol.
  • Disgrifiad byr o’r trefniadau yn yr ysgol i hwyluso parhad o ran defnyddio sgiliau yn y Gymraeg.

Y ddarpariaeth o ran cyfleusterau toiled yn yr ysgol

  • Datganiad byr ar ddarpariaeth cyfleusterau toiledau yr ysgol i ddysgwyr.
  • Y trefniadau sydd ar waith ar gyfer glanhau cyfleusterau toiled o’r fath.

Eitemau dewisol a awgrymir ar gyfer eu cynnwys mewn adroddiadau blynyddol

  • Rhagair gan y cadeirydd yn nodi ei farn ynghylch sut yr aeth pethau’r flwyddyn ddiwethaf, sut mae’r corff llywodraethu, tîm arweinyddiaeth yr ysgol a’r awdurdod lleol wedi gweithio gyda’i gilydd, a beth yw’r prif heriau am y flwyddyn i ddod.
  • Gwybodaeth am unrhyw dargedau ar gyfer presenoldeb dysgwyr a lleihau absenoldebau anawdurdodedig. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y canllawiau gwella presenoldeb mewn ysgolion.
  • Rhestr o newyddion, digwyddiadau a dathliadau am gyflawniadau’r ysgol dros y flwyddyn ddiwethaf.
  • Adran ‘edrych tuag at y dyfodol’ gan gynnwys dyddiadau allweddol i rieni neu ofalwyr fod yn ymwybodol ohonynt dros y flwyddyn i ddod, megis nosweithiau rhieni a diwrnodau chwaraeon, ac unrhyw gynlluniau y bydd y corff llywodraethu o bosib yn gofyn barn y rhieni a’r gofalwyr arnynt.
  • Rhestr o’r hyfforddiant y mae llywodraethwyr wedi’i gael drwy gydol y flwyddyn.
  • Rhestr termau ar gyfer unrhyw fyrfyriadau ac acronymau a ddefnyddir yn yr adroddiad blynyddol.