Neidio i'r prif gynnwys

Cyflwyniad

Mae Monitor Entrepreneuriaeth y Byd (GEM) yn brosiect ymchwil rhyngwladol – oedd yn cynnwys 53 o economïau yn 2025 – sy’n rhoi gwybodaeth gynhwysfawr am y cyd-destun entrepreneuraidd ar draws gwledydd. Mae ymchwil helaeth wedi dangos bod entrepreneuriaeth yn rhan hollbwysig o’r gwaith o sbarduno twf economaidd, gwella cystadleurwydd, a chreu swyddi. Defnyddir canlyniadau GEM yn eang gan awdurdodau rhanbarthol a chenedlaethol fel dangosyddion meincnodi allweddol. Yn 2025, maint y sampl yng Nghymru oedd 1,282 o oedolion 18 oed a hŷn, wedi’i hybu gan gymorth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru fel rhan o arolwg cenedlaethol y DU.

Prif ganfyddiadau

Mae gweithgarwch entrepreneuraidd cyfnod cynnar yng Nghymru wedi aros yn sefydlog ar lefel uchel yn hanesyddol

Cyfradd cyfanswm y gweithgarwch entrepreneuraidd cyfnod cynnar (TEA) yng Nghymru yn 2025 oedd 11.1 y cant, mewn cymhariaeth â 10.8 y cant yn 2024. Nid oedd y newid hwn yn arwyddocaol yn ystadegol. Roedd cyfradd TEA Cymru yn is o lawer na chyfradd y DU, sef 16.8 y cant, a chyfradd Lloegr, sef 17.8 y cant, ond nid oedd yn wahanol iawn i’r Alban na Gogledd Iwerddon.

Mae cymhellion entrepreneuraidd yng Nghymru yn dal i adlewyrchu cyfuniad o ffactorau sy’n seiliedig ar werthoedd, angenraid a chyfle

Yn 2025, roedd entrepreneuriaid cyfnod cynnar yng Nghymru fwyaf tebygol o ddweud eu bod yn cael eu cymell i adeiladu cyfoeth mawr neu incwm uchel iawn (68.5 y cant), i ennill bywoliaeth oherwydd bod swyddi’n brin (65.8 y cant), neu i wneud gwahaniaeth yn y byd (64.3 y cant). Parhau â thraddodiad teuluol oedd y cymhelliant lleiaf cyffredin o hyd, ar 29.1 y cant.

Roedd cymhareb TEA menywod:dynion yng Nghymru tua 70 y cant yn 2025

Roedd cyfradd TEA menywod yn 9.1 y cant, mewn cymhariaeth ag 13.1 y cant ymhlith dynion, ond nid oedd y gwahaniaeth yn arwyddocaol yn ystadegol. Roedd y gymhareb wedi gostwng o 82 y cant yn 2024, gan adlewyrchu cynnydd yng nghyfradd TEA dynion ochr yn ochr â gostyngiad bach yng nghyfradd TEA menywod. Roedd cyfraddau TEA dynion a menywod yng Nghymru yn is o lawer na chyfraddau cyfatebol y DU, sef 14.7 y cant ar gyfer menywod ac 19.0 y cant ar gyfer dynion.

Roedd lefelau entrepreneuriaeth ieuenctid yng Nghymru yn dal yn uchel yn ôl safonau hanesyddol, ond yn is na’r uchafbwyntiau a welwyd yn ddiweddar

Yn 2025 y gyfradd TEA ymysg pobl 18–24 oed yng Nghymru oedd 11.3 y cant, sydd ychydig yn uwch na’r gyfradd yn 2024, sef 9.9 y cant, ond nid oedd y newid yn arwyddocaol yn ystadegol. Ymysg pobl 18–29 oed, 12.3 y cant oedd y gyfradd TEA, sy’n llai na’r gyfradd yn 2024, sef 13.5 y cant. Ond, mae’n dal yn fwy na thair gwaith y gyfradd a gofnodwyd yn 2002. Dros y tymor hwy, mae gweithgarwch entrepreneuraidd wedi cynyddu ar lefel gryfach ymysg pobl 18–29 oed nag ymhlith pobl 30–64 oed. Fodd bynnag, roedd y gwahaniaeth rhwng y ddau grŵp oedran yn llai yn 2025 nag yn y blynyddoedd diweddar lle bu’r lefelau ar eu huchaf, gan fod y gyfradd TEA ymysg pobl 30–64 oed hefyd yn dal yn uchel.

Roedd cysylltiad cryf rhwng statws graddedigion ac entrepreneuriaeth cyfnod cynnar yng Nghymru

Yn 2025, roedd y gyfradd TEA ymhlith graddedigion yng Nghymru yn 15.8 y cant, mewn cymhariaeth â 7.4 y cant ymhlith pobl nad ydynt yn raddedigion, ac roedd y gwahaniaeth hwn yn arwyddocaol yn ystadegol. Wrth gymharu â 2024, roedd y gyfradd graddedigion wedi cynyddu ychydig a’r gyfradd ar gyfer y rheini nad ydynt yn raddedigion wedi gostwng ychydig, ond nid oedd y newid o un flwyddyn i’r llall yn arwyddocaol yn ystadegol.

Roedd agweddau entrepreneuraidd yng Nghymru yn dal yn gymysg ond yn weddol sefydlog

Yn 2025, roedd 54.0 y cant o bobl nad ydynt yn entrepreneuriaid yng Nghymru yn adnabod rhywun a oedd wedi cychwyn busnes yn ystod y ddwy flynedd flaenorol, ac roedd 42.5 y cant yn credu bod ganddyn nhw eu hunain y sgiliau, yr wybodaeth a’r profiad i gychwyn busnes. Roedd y ddau fesur yn cyd-fynd yn fras â’r DU, er bod y sgiliau canfyddedig yng Nghymru yn dal yn is na chyfradd y DU, sef 48.0 y cant; nid oedd y gwahaniaeth hwn yn arwyddocaol yn ystadegol.

Dywedodd pobl ifanc yng Nghymru bod ganddynt gyswllt cryf ag entrepreneuriaeth, gyda llawer yn adnabod rhywun a oedd wedi cychwyn busnes yn ddiweddar, ond roedd ganddynt lai o hyder yn eu sgiliau eu hunain i gychwyn busnes

Yn 2025, dywedodd 63.4 y cant o bobl ifanc nad ydynt yn entrepreneuriaid yng Nghymru eu bod yn adnabod rhywun a oedd wedi cychwyn busnes yn ystod y ddwy flynedd flaenorol, sy’n debyg i gyfradd y DU, sef 64.8 y cant. Fodd bynnag, dim ond 31.2 y cant oedd yn credu bod ganddyn nhw eu hunain y sgiliau, yr wybodaeth a’r profiad i gychwyn busnes, sy’n is o lawer na chyfradd y DU, sef 47.0 y cant ar gyfer y grŵp oedran hwn.

Roedd y canfyddiadau o gyfleoedd i gychwyn busnes yn dal yn is yng Nghymru nag yn y DU yn gyffredinol

Yn 2025, roedd 34.9 y cant o bobl nad ydynt yn entrepreneuriaid yng Nghymru yn credu bod cyfleoedd da i gychwyn busnes yn eu hardal leol yn ystod y chwe mis i ddod. Roedd hyn yn uwch na’r gyfradd yn 2024, sef 31.9 y cant, ond nid oedd y cynnydd yn arwyddocaol yn ystadegol. Cyfradd gyfatebol y DU oedd 41.5 y cant, a oedd yn uwch o lawer na chyfradd Cymru.

Roedd ofn methu yn dal yn rhwystr sylweddol, er bod yr amcangyfrif yn 2025 yn is nag yn 2024

Ymysg y rheini a oedd yn gweld cyfleoedd da i gychwyn busnes, dywedodd 51.7 y cant yng Nghymru y byddai ofn methu yn eu hatal rhag cychwyn busnes. Mae hyn yn llai na’r gyfradd yn 2024, sef 60.8 y cant, ond nid oedd y gostyngiad hwn yn arwyddocaol yn ystadegol. Roedd cyfradd Cymru yn agos at gyfartaledd y DU yn 2025, sef 51.1 y cant.

Roedd bwriadau entrepreneuraidd wedi cyrraedd uchafbwynt newydd yng Nghymru

Yn 2025, roedd 24.3 y cant o oedolion o oedran gweithio nad ydynt yn entrepreneuriaid yng Nghymru yn disgwyl cychwyn busnes yn yr ardal leol yn ystod y tair blynedd nesaf. Roedd hyn yn uwch na’r gyfradd yn 2024, sef 22.6 y cant, ond nid oedd y newid yn arwyddocaol yn ystadegol. Roedd cyfradd y DU wedi cynyddu’n gyflymach i 34.2 y cant, ac yn uwch o lawer na chyfradd Cymru. Yng Nghymru, roedd bwriadau’n uwch o lawer ymysg dynion na menywod – 28.8 y cant yn achos dynion, ac 20.1 y cant yn achos menywod.

Ni welwyd unrhyw wahaniaeth sylweddol mewn cyfraddau TEA yn ôl gallu yn y Gymraeg

Yn 2025, roedd y gyfradd TEA yn 11.6 y cant ymysg y rheini a oedd yn gallu siarad ac ysgrifennu Cymraeg yn rhugl, yn 15.8 y cant ymysg y rheini a oedd yn gallu siarad a deall rhywfaint o Gymraeg, ac yn 9.0 y cant ymysg y rheini nad oedd ganddynt fawr ddim sgiliau Cymraeg neu ddim sgiliau Cymraeg o gwbl. Nid oedd y gwahaniaethau’n arwyddocaol yn ystadegol.

Cefndir

Mae Monitor Entrepreneuriaeth y Byd (GEM) yn brosiect rhyngwladol sy’n mesur ac yn monitro dyheadau, agweddau a gweithgarwch entrepreneuraidd ar draws gwledydd a rhanbarthau. Mae’n seiliedig ar y rhagdybiaeth bod ffyniant economi yn ddibynnol iawn ar sector entrepreneuraidd deinamig; bod capasiti entrepreneuraidd yn cynnwys unigolion o bob grŵp mewn cymdeithas sydd â gallu a chymhelliant amrywiol i ddod o hyd i gyfleoedd, i ddefnyddio adnoddau ac i gychwyn busnesau; a bod canfyddiadau cymdeithasol cadarnhaol am entrepreneuriaeth yn bwysig wrth gefnogi’r broses hon. Mae GEM hefyd yn cydnabod bod entrepreneuriaeth yn cyfrannu at swyddi newydd, arloesedd a gwydnwch economaidd, a bod cystadleurwydd cenedlaethol yn dibynnu ar allu mentrau newydd, a mentrau sy’n ehangu, i ddatblygu, goroesi a chael mynediad at farchnadoedd ehangach.

Mae Llywodraeth Cymru yn noddi elfen Cymru o brosiect ymchwil GEM UK. Mae ysgogi entrepreneuriaeth yn dal yn her polisi bwysig i Gymru, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd yr awenau i sicrhau bod entrepreneuriaeth yn rhan annatod o’i gweithgareddau craidd. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ariannu GEM UK ers tro drwy roi hwb blynyddol i’r sampl yng Nghymru. Ar draws arolygon GEM UK ar gyfer y cyfnod rhwng 2002 a 2025, mae tua 400,000 o oedolion wedi cael eu cyfweld, gan gynnwys dros 72,000 o ymatebwyr yng Nghymru. Felly, mae gan Gymru un o’r setiau data mwyaf ar agweddau, gweithgarwch a dyheadau entrepreneuraidd ymysg gwledydd y DU dros y cyfnod hwn. Mae hyn yn adnodd pwysig i ddadansoddi tueddiadau ymysg is-boblogaethau allweddol yng Nghymru, gan gynnwys menywod, pobl ifanc a phobl hŷn.

Mae awdurdodau rhanbarthol a chenedlaethol ar hyd a lled y byd yn defnyddio canlyniadau dadansoddiad data GEM fel dangosyddion meincnodi allweddol. Mae canlyniadau dadansoddiad data GEM hefyd yn ei gwneud yn bosibl i gymharu Cymru, gwledydd eraill y DU a gwledydd sy’n rhan o GEM. Mae gallu GEM i ddarparu tystiolaeth gymharol ar ymddygiad entrepreneuraidd dros amser, ac ar draws lleoedd, yn golygu ei fod yn adnodd gwerthfawr er mwyn deall a dilyn hynt entrepreneuriaeth.

Mae’n bwysig deall penderfynyddion entrepreneuriaeth cyfnod cynnar, oherwydd mae tystiolaeth o gysylltiad rhwng gweithgarwch entrepreneuraidd a ffyniant economaidd, yn enwedig mewn economïau datblygedig ac sy’n cael eu gyrru gan arloesedd. Ar gyfer Cymru, mae GEM yn darparu sylfaen dystiolaeth hirdymor er mwyn monitro’r ddeinameg hon a llywio polisi entrepreneuriaeth.

Sut mae GEM yn Mesur Gweithgarwch Entrepreneuraidd

Mae GEM yn creu mynegai o weithgarwch entrepreneuraidd cyfnod cynnar, a elwir yn Gyfanswm y Gweithgarwch Entrepreneuraidd cyfnod cynnar (TEA), gan ddefnyddio’r dull canlynol:

  • Cynhelir arolwg dros y ffôn ac ar-lein o sampl gynrychioladol o’r boblogaeth oedolion o oedran gweithio rhwng mis Mai a mis Medi. 
  • Mae mynegai TEA yn cynnwys ymatebwyr sy’n cael eu categoreiddio fel entrepreneuriaid cychwynnol neu fel perchnogion-reolwyr busnes newydd.

Y cam cynllunio gweithredol lle mae’r entrepreneur wedi gwneud rhywbeth yn ystod y 12 mis blaenorol i helpu i gychwyn busnes newydd, busnes newydd y bydd ef/hi yn berchen arno’n rhannol o leiaf, ac sydd heb dalu cyflogau nac incwm arall i’r perchnogion yn ystod y 3 mis blaenorol. 

Diffinnir yr ail gam fel cyfnod o 4-42 mis ar ôl i’r fenter newydd ddechrau darparu incwm i’r perchnogion.  Mae entrepreneuriaid sydd o leiaf yn rhannol berchen ar fusnes newydd ac yn ei reoli, lle mae’r busnes wedi bod yn talu rhyw fath o incwm i’r perchnogion ers o leiaf 4 mis a dim mwy na 42 mis, yn cael eu galw'n entrepreneuriaid cwmni newydd.

Nid yw’r mynegai TEA yn mesur pob gweithgarwch entrepreneuraidd, ac nid yw’n seiliedig ar arolwg o endidau busnes. Yn hytrach, mae’n mesur nodweddion unigolion entrepreneuraidd a’r mathau o fentrau maent yn ceisio eu sefydlu neu’n eu rhedeg ar hyn o bryd. O’r herwydd mae’n fesur unigryw, y gellir ei gymharu’n rhyngwladol, o duedd gwlad neu ranbarth i fod yn entrepreneuraidd.

Yn y gorffennol, roedd GEM yn gwahaniaethu rhwng gwahanol fathau o weithgarwch entrepreneuraidd drwy ddweud ai anghenraid oedd wrth wraidd y gweithgarwch, lle nad oedd opsiynau gwell am waith, neu ai cyfle oedd wrth wraidd y gweithgarwch, lle’r oedd entrepreneuriaid yn ceisio manteisio ar botensial newydd yn y farchnad. Mae’r cwestiynau presennol am gymhelliant yn darparu set ehangach o opsiynau ymateb, sy’n ein galluogi i ddeall y cymhellion entrepreneuraidd yn fanylach na’r gwahaniaeth deuaidd blaenorol. Yn ogystal â gweithgarwch, mae arolwg GEM yn holi’r holl ymatebwyr am eu hagweddau at entrepreneuriaeth, ac yn holi entrepreneuriaid am eu dyheadau.

Mae’r fethodoleg, maint y samplau a’r systemau pwysoli a ddefnyddiwyd ar gyfer Arolwg Poblogaeth Oedolion 2025 GEM UK yn cael eu hegluro’n fanylach yn adroddiad 2025/26 GEM UK. I ymateb i'r amharu a ddaeth yn sgil Covid-19, cyflwynodd GEM UK ddull casglu data cyfunol yn 2020, a oedd yn cyfuno deialu rhifau llinellau tir a ffonau symudol ar hap â phanel ar-lein BMG. Roedd hyn yn newid methodolegol allweddol gyda’r nod o sicrhau canlyniadau cadarn a dibynadwy. Yn 2025, cafodd tua 20 y cant o’r sampl crai yng Nghymru ei gasglu drwy Gyfweliadau Ffôn â Chymorth Cyfrifiadur (CATI), gydag oddeutu 80 y cant o'r sampl yn cael ei gasglu drwy’r panel ar-lein.

Mae’r adroddiad canlynol yn cyflwyno crynodeb o’r prif ganlyniadau a'r themâu allweddol sy’n codi yn arolwg GEM yn 2025, yn ogystal â dadansoddiad o ddata GEM dros bedair blynedd ar hugain (2002/25).

Cyfanswm Gweithgarwch Entrepreneuraidd Cyfnod Cynnar

Cyfradd y gweithgarwch entrepreneuraidd cyfnod cynnar yng Nghymru yn 2025 oedd 11.1 y cant, mewn cymhariaeth â 10.8 y cant yn 2024. Mae hyn yn awgrymu bod gweithgarwch entrepreneuraidd cyfnod cynnar yng Nghymru wedi aros yn weddol sefydlog dros y flwyddyn diwethaf. Roedd y gyfradd yng Nghymru yn is o lawer nag amcangyfrif y DU, sef 16.8 y cant, gyda’r gyfradd uchel iawn a gofnodwyd yn Lloegr yn dylanwadu ar hynny, lle cyrhaeddodd TEA uchafbwynt hanesyddol o 17.8 y cant. Roedd cyfradd TEA Cymru yn is o lawer na’r gyfradd yn Lloegr, ond nid oedd yn wahanol iawn i’r cyfraddau yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon, sef 11.7 y cant ac 11.9 y cant yn y drefn honno (Ffigur 1).

Yn gyffredinol, mae cyfradd TEA o 11.1 y cant yng Nghymru yn cyfateb i tua un o bob naw oedolyn 18–64 oed neu tua 282,000 o unigolion. Roedd y rhan fwyaf ohonynt yng nghamau cynnar iawn y broses o gychwyn busnes, gyda’r gyfradd entrepreneuriaeth gychwynnol yn 8.0 y cant. Roedd 3.6 y cant arall o oedolion Cymru yn berchnogion-reolwyr ar fusnes newydd a oedd rhwng 4 a 42 mis oed. Er mwyn cymharu, roedd cyfraddau’r DU yn uwch ar gyfer dwy elfen TEA, gydag entrepreneuriaeth gychwynnol yn 11.1 y cant a pherchnogaeth busnes newydd yn 6.2 y cant.

Image
Ffigur 1: Cyfanswm y gweithgarwch entrepreneuraidd cyfnod cynnar (TEA) yng Ngwledydd y DU, 2025 (Ffynhonnell: GEM APS)
Ffigur 1: Cyfanswm y gweithgarwch entrepreneuraidd cyfnod cynnar (TEA) yng Ngwledydd y DU, 2025 (Ffynhonnell: GEM APS)

Fel y mae Ffigur 2a yn dangos, roedd cyfradd y gweithgarwch entrepreneuraidd cyfnod cynnar yng Nghymru a’r DU wedi aros yn gymharol sefydlog rhwng 2004 a 2010, ar tua 6 y cant. Roedd y cyfraddau wedi ymwahanu ar ôl hynny, gyda mwy o anwadalrwydd i’w weld hefyd yn y ddwy gyfres. Yn yr un modd â rhannau eraill o’r DU, cyrhaeddodd gweithgarwch entrepreneuraidd cyfnod cynnar yng Nghymru uchafbwynt newydd yn 2021 – sef 10.3 y cant – cyn codi ymhellach i 11.5 y cant yn 2023, pan oedd yn uwch na chyfradd y DU sef 10.7 y cant. Yn 2025, arhosodd y gyfradd TEA yng Nghymru yn agos at y lefel uchel hon a welwyd yn ddiweddar, sef 11.1 y cant. Fodd bynnag, cynyddodd cyfradd y DU yn gyflym i 16.8 y cant, o ganlyniad i’r gyfradd uchel iawn a gofnodwyd yn Lloegr. O ganlyniad, ehangodd y bwlch rhwng Cymru a’r DU yn 2025.

Yn 2025, 8.0 y cant oedd y gyfradd gweithgarwch entrepreneuraidd cychwynnol yng Nghymru, sydd ychydig yn uwch na’r gyfradd a gofnodwyd yn 2024, sef 7.5 y cant, ond nid oedd y gwahaniaeth yn arwyddocaol yn ystadegol. Y gyfradd perchnogaeth busnes newydd oedd 3.6 y cant, sy’n is na’r gyfradd yn 2024, sef 4.2 y cant. Ond eto, nid oedd y gwahaniaeth yn arwyddocaol yn ystadegol. Mewn cymhariaeth, roedd y gyfradd entrepreneuriaeth gychwynnol yn y DU wedi cynyddu’n sylweddol o 8.1 y cant yn 2024 i 11.1 y cant yn 2025. Roedd y gyfradd perchnogaeth busnes newydd ar gyfer y DU hefyd wedi cynyddu’n sylweddol, o 5.0 y cant yn 2024 i 6.2 y cant yn 2025. O ganlyniad, yn 2025 roedd y gyfradd entrepreneuriaeth gychwynnol a’r gyfradd perchnogaeth busnes newydd yng Nghymru yn is o lawer na chyfraddau cyfatebol y DU. 

Image
Ffigur 2a: Cyfanswm y Gweithgarwch Entrepreneuraidd Cyfnod Cynnar yng Nghymru a’r DU, 2002-2025 (Ffynhonnell: GEM APS)
Ffigur 2a: Cyfanswm y Gweithgarwch Entrepreneuraidd Cyfnod Cynnar yng Nghymru a’r DU, 2002-2025 (Ffynhonnell: GEM APS)

Tan 2009, roedd y cyfraddau TEA yn Nwyrain a Gorllewin Cymru yn debyg (Ffigur 2b). Yn dilyn yr argyfwng ariannol byd-eang, daeth cyfraddau TEA yn fwy anwadal, ond mae’r gwahaniaethau rhwng Dwyrain a Gorllewin Cymru wedi aros yn gymharol ddi-nod o safbwynt ystadegol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn Nwyrain a Gorllewin Cymru am yn ail y gwelwyd y gyfradd TEA uchaf ond, ar y cyfan, nid yw’r gwahaniaethau hyn wedi bod yn arwyddocaol o safbwynt ystadegol. Yn 2025, roedd y gyfradd TEA yng Ngorllewin Cymru yn 11.1 y cant, mewn cymhariaeth â 10.2 y cant yn Nwyrain Cymru, a doedd y gwahaniaeth hwn ddim yn arwyddocaol yn ystadegol.

Mae Ffigur 2b yn defnyddio’r ddau ranbarth ystadegol a ddefnyddiwyd yn flaenorol ar gyfer Cymru ar lefel NUTS2: Dwyrain Cymru, a Gorllewin Cymru a’r Cymoedd. Mae’r rhaniad hwn yn parhau er mwyn sicrhau bod modd cymharu ag adroddiadau blaenorol GEM Cymru. Nid yw dadansoddiadau rhanbarthol manylach, er enghraifft ar gyfer Gogledd neu Ganolbarth Cymru, yn cael eu cofnodi oherwydd byddai samplau llai yn gwneud yr amcangyfrifon yn llai cadarn ar gyfer cymharu o un flwyddyn i’r llall.

Image
Ffigur 2b: Cyfanswm y Gweithgarwch Entrepreneuraidd Cyfnod Cynnar yn Nwyrain Cymru, yng Ngorllewin Cymru a’r Cyhoedd, yng Nghymru a’r DU, 2002-2025 (Ffynhonnell: GEM APS)
Ffigur 2b: Cyfanswm y Gweithgarwch Entrepreneuraidd Cyfnod Cynnar yn Nwyrain Cymru, yng Ngorllewin Cymru a’r Cyhoedd, yng Nghymru a’r DU, 2002-2025 (Ffynhonnell: GEM APS)

Ers 2019, mae GEM wedi defnyddio dull diwygiedig o fesur cymhellion sylfaenwyr dros gychwyn busnes. Roedd dull gwahaniaethu’r cwestiwn cynharach yn fwy cul ei natur, gan wahaniaethu rhwng entrepreneuriaeth sy’n deillio o anghenraid ac entrepreneuriaeth sy’n deillio o gyfle. Mae’r dull presennol yn galluogi entrepreneuriaid i sôn am gyfuniad o gymhellion, gan roi darlun mwy realistig o’r ffactorau sy’n sbarduno gweithgarwch cychwyn busnes.

Y pedwar cymhelliant yw “gwneud gwahaniaeth yn y byd”, “adeiladu cyfoeth mawr neu incwm uchel iawn”, “parhau â thraddodiad teuluol” ac “ennill bywoliaeth oherwydd bod swyddi’n brin”. Gellir dehongli’r ddau gyntaf fel rhai sy’n cael eu gyrru mwy gan gyfle, ac mae’r trydydd yn fwy cymhleth gan y gallai adlewyrchu cyfle neu anghenraid. Gellir dehongli’r cymhelliant olaf fel un sy’n cael ei yrru mwy gan anghenraid. Yn bwysig, nid yw’r opsiynau hyn yn annibynnol ar ei gilydd: gall entrepreneuriaid sôn am fwy nag un cymhelliant a dweud i ba raddau maent yn uniaethu â phob un. Nid yw’r cymhellion hyn yn cynnwys ymreolaeth nac annibyniaeth, gan fod rhag-brofion GEM yn dangos bod hyn yn gymhelliant i bron pob entrepreneur, a’i fod felly’n llai defnyddiol er mwyn gwahaniaethu rhwng gwahanol fathau o entrepreneuriaid. 

Mae Ffigur 3 yn rhoi dadansoddiad o gymhellion entrepreneuraidd yn ôl gwledydd y DU, a fynegir fel canran o entrepreneuriaid cyfnod cynnar. Yn yr un modd â blynyddoedd blaenorol, roedd entrepreneuriaid ar draws holl wledydd y DU lleiaf tebygol o ddweud bod “parhau â thraddodiad teuluol” yn gymhelliant dros gychwyn busnes. Yng Nghymru, y cymhellion mwyaf cyffredin yn 2025 oedd “adeiladu cyfoeth mawr neu incwm uchel iawn” ac “ennill bywoliaeth oherwydd bod swyddi’n brin”, gyda 68.5 y cant a 65.8 y cant o entrepreneuriaid cyfnod cynnar, yn y drefn honno, yn dweud hynny. Dywedodd cyfran debyg, 64.3 y cant, eu bod yn cael eu cymell i “wneud gwahaniaeth yn y byd”. Wrth gymharu â 2024, roedd cyfran yr entrepreneuriaid cyfnod cynnar yng Nghymru a ddywedodd fod “gwneud gwahaniaeth yn y byd” yn gymhelliant wedi cynyddu o 59.5 y cant i 64.3 y cant, ac roedd y gyfran a ddywedodd fod cyfoeth neu incwm uchel yn gymhelliant wedi aros fwy neu lai yr un fath. Roedd y gyfran a ddywedodd fod “ennill bywoliaeth oherwydd bod swyddi’n brin” yn gymhelliant wedi gostwng ychydig, o 68.0 y cant i 65.8 y cant, ond roedd yn dal yn un o’r ddau gymhelliant mwyaf cyffredin. Wrth gymharu â chyfartaledd y DU, roedd entrepreneuriaid cyfnod cynnar yng Nghymru yn llai tebygol o ddweud bod eu cymhelliant yn cynnwys adeiladu cyfoeth mawr neu incwm uchel iawn, gwneud gwahaniaeth yn y byd, neu barhau â thraddodiad teuluol, ond dywedodd lefel debyg ohonynt fod eu cymhelliant yn cael ei yrru gan anghenraid.

Image
Ffigur 3: Cymhelliant dros Entrepreneuriaeth yng Ngwledydd y DU, 2025 (Ffynhonnell: GEM APS)
Ffigur 3: Cymhelliant dros Entrepreneuriaeth yng Ngwledydd y DU, 2025 (Ffynhonnell: GEM APS)

Pwy yw'r Entrepreneuriaid yng Nghymru?

Rhywedd

Fel arfer, mae’r gyfradd gweithgarwch entrepreneuraidd cyfnod cynnar yn uwch ar gyfer dynion na menywod. Yn 2025, 13.1 y cant oedd cyfradd TEA dynion yng Nghymru, mewn cymhariaeth â chyfradd o 9.1 y cant ar gyfer menywod. Er bod y gyfradd ar gyfer dynion yn uwch, nid oedd y gwahaniaeth yn arwyddocaol yn ystadegol (Ffigur 4). Roedd cyfraddau TEA dynion a menywod yng Nghymru yn is o lawer na chyfraddau cyfatebol y DU, sef 19.0 y cant ar gyfer dynion ac 14.7 y cant ar gyfer menywod. 

Yn hanesyddol, mae’r gymhareb menywod:dynion ar gyfer gweithgarwch entrepreneuraidd cyfnod cynnar yn y DU wedi bod tua 50 y cant, ond mae’r bwlch wedi lleihau’n sylweddol dros amser. Yn 2025 roedd cymhareb TEA menywod:dynion yn y DU yn 77 y cant, sy’n uwch na’r gymhareb yn 2024, sef 69 y cant. Yng Nghymru roedd y gymhareb yn 70 y cant yn 2025, sy’n is na'r gymhareb yn 2024, sef 82 y cant. Mae hyn yn adlewyrchu cynnydd yng nghyfradd TEA dynion ochr yn ochr â gostyngiad bach yng nghyfradd TEA menywod. Ymysg gwledydd y DU, Lloegr oedd â’r gymhareb uchaf o ran menywod:dynion yn 2025, sef 79 y cant, ac yna Cymru a’r Alban ar tua 70 a 68 y cant yn y drefn honno. Gogledd Iwerddon oedd â'r gymhareb isaf, sef 55 y cant.

Image
Ffigur 4: Cyfanswm y Gweithgarwch Entrepreneuraidd Cyfnod Cynnar fesul Rhywedd yng Ngwledydd y DU yn 2025 (Ffynhonnell: GEM APS)
Ffigur 4: Cyfanswm y Gweithgarwch Entrepreneuraidd Cyfnod Cynnar fesul Rhywedd yng Ngwledydd y DU yn 2025 (Ffynhonnell: GEM APS)

Mae cyfradd TEA menywod yng Nghymru wedi amrywio ers 2011, gan gyrraedd y lefel uchaf erioed – sef 9.8 y cant – yn 2021. Cyrhaeddwyd y lefel honno eto yn 2024 yn dilyn y gostyngiad yn 2022 (Ffigur 5). Yn 2025 roedd cyfradd TEA menywod yng Nghymru yn 9.1 y cant, ychydig yn is na chyfradd 2024. Ond, nid oedd y gwahaniaeth yn arwyddocaol yn ystadegol, ac roedd y gyfradd yn dal yn uwch na’r rhan fwyaf o lefelau a welwyd cyn 2021. Mae Ffigur 5 yn dangos bod y cyfraddau TEA ar gyfer menywod yng Nghymru yn cyfateb yn fras i duedd y DU tan 2010 ac, ar ôl gwyro oddi wrth y duedd am gyfnod, roedd yn ymddangos eu bod yn dilyn tuedd y DU eto rhwng 2018 a 2024. Fodd bynnag, yn 2025 cynyddodd cyfradd TEA menywod y DU yn gyflym i 14.7 y cant, gyda’r gyfradd yng Nghymru yn aros yn weddol sefydlog. O ganlyniad, roedd cyfradd TEA menywod yng Nghymru yn is o lawer na chyfradd y DU yn 2025.

Image
Ffigur 5: Cyfanswm y Gweithgarwch Entrepreneuraidd Cyfnod Cynnar ymysg Menywod yng Nghymru a’r DU, 2002-2025 (Ffynhonnell: GEM APS)
Ffigur 5: Cyfanswm y Gweithgarwch Entrepreneuraidd Cyfnod Cynnar ymysg Menywod yng Nghymru a’r DU, 2002-2025 (Ffynhonnell: GEM APS)

Oedran

Fel arfer, unigolion 25–34 oed sydd â'r cyfraddau uchaf o weithgarwch entrepreneuraidd cyfnod cynnar yn y DU, ac roedd hyn yn wir eto yn 2025. Ar draws y DU, roedd y gyfradd TEA ar gyfer pobl 25–34 oed yn 24.4 y cant, mewn cymhariaeth ag 19.6 y cant ymysg pobl 18–24 oed ac 19.7 y cant ymysg pobl 35–44 oed. Roedd gweithgarwch entrepreneuraidd yn is ymhlith grwpiau oedran hŷn, yn enwedig pobl 55–64 oed, lle’r oedd cyfradd TEA y DU yn 8.3 y cant.

Roedd proffil oedran tebyg yn amlwg yng Nghymru, er bod y gwahaniaethau rhwng grwpiau oedran yn llai amlwg ac ddim yn arwyddocaol yn ystadegol. Roedd y gyfradd TEA ar ei uchaf yng Nghymru ymysg pobl 25–34 oed, ar 13.7 y cant, gyda phobl 35–44 oed yn dilyn ar 13.1 y cant. Roedd y cyfraddau ymysg pobl 18–24 oed a 45–54 oed hefyd yn gymharol debyg, sef 11.3 y cant ac 11.7 y cant yn y drefn honno. Fel yn y DU yn gyffredinol, roedd y gyfradd ar ei hisaf ymhlith pobl 55–64 oed, ar 6.4 y cant (Ffigur 6).

Image
Ffigur 6: Cyfanswm y Gweithgarwch Entrepreneuraidd Cyfnod Cynnar yn ôl Oedran yng Ngwledydd y DU, 2025 (Ffynhonnell: GEM APS)
Ffigur 6: Cyfanswm y Gweithgarwch Entrepreneuraidd Cyfnod Cynnar yn ôl Oedran yng Ngwledydd y DU, 2025 (Ffynhonnell: GEM APS)

Ers blynyddoedd lawer, mae gweithgarwch entrepreneuraidd ymhlith pobl 18–24 oed yng Nghymru wedi bod yn bur anwadal, gyda chynnydd amlwg yn ystod cyfnodau o darfu economaidd. Yn ystod y Dirwasgiad Mawr, cyrhaeddodd y gyfradd TEA ymysg pobl 18–24 oed yng Nghymru uchafbwynt yn 2011, sef 10.2 y cant, cyn gostwng yn y blynyddoedd dilynol. Gwelwyd cynnydd tebyg yn ystod ac ar ôl y pandemig, pan gyrhaeddodd y gyfradd y lefel uchaf erioed, sef 16.5 y cant, yn 2021. Yn 2025, y gyfradd TEA ar gyfer pobl 18–24 oed yng Nghymru oedd 11.3 y cant, sydd ychydig yn uwch na’r gyfradd a gofnodwyd yn 2024, sef 9.9 y cant, ond nid oedd y gwahaniaeth hwn yn arwyddocaol yn ystadegol (Ffigur 7).

Mewn cymhariaeth, cynyddodd cyfradd y DU ar gyfer y grŵp oedran hwn yn sydyn yn 2025, gan gyrraedd y lefel uchaf erioed – sef 19.6 y cant – gan godi o’r gyfradd a welwyd yn 2024, sef 13.7 y cant. Roedd hyn yn uwch o lawer na’r gyfradd ar gyfer pobl 18–24 oed yng Nghymru. Felly, mae’r duedd yng Nghymru yn ymddangos yn gymharol sefydlog yn 2025 wrth gymharu â’r cynnydd llawer cyflymach a welwyd ar lefel y DU, gyda’r gyfradd uchel a gofnodwyd yn Lloegr yn dylanwadu’n gryf ar hynny.

Image
Ffigur 7: Tuedd yng Nghyfanswm y Gweithgarwch Entrepreneuraidd cyfnod cynnar ymysg pobl 18–24 oed yng Nghymru a’r DU, 2002-2025 (Ffynhonnell: GEM APS)
Ffigur 7: Tuedd yng Nghyfanswm y Gweithgarwch Entrepreneuraidd cyfnod cynnar ymysg pobl 18–24 oed yng Nghymru a’r DU, 2002-2025 (Ffynhonnell: GEM APS)

Am ddadansoddiad mwy craff o bosibl, gellir edrych ar duedd cyfraddau TEA ar gyfer grŵp oedran 18–29 oed – lle mae toriad naturiol i’w weld yn nata GEM y DU – a’i chymharu â grŵp oedran 30–64 oed. Mae Ffigur 8 yn dangos, er y bu amrywiadau sylweddol o un flwyddyn i’r llall, bod y gyfradd TEA ar gyfer oedolion ifanc yng Nghymru wedi cynyddu mwy na thair gwaith drosodd dros y ddau ddegawd diwethaf, gan godi o 3.4 y cant yn 2002 i 12.3 y cant yn 2025. Yn nodedig, mae’r ddau brif uchafbwynt o ran gweithgarwch entrepreneuraidd ieuenctid – tua 2011 a 2021 – yn cyd-daro â chyfnodau mawr o darfu economaidd: yr argyfwng ariannol byd-eang a phandemig Covid-19. Er bod cyfradd 2025 ychydig yn is na chyfradd 2024, sef 13.5 y cant, roedd yn dal yn uchel yn ôl safonau hanesyddol.

Mae’r gyfradd TEA ymysg pobl 30–64 oed yng Nghymru hefyd wedi codi dros amser, gan gyrraedd 10.8 y cant yn 2025, ond bu’r cynnydd yn fwy sefydlog nag ymysg oedolion iau. Felly, mae’r bwlch rhwng oedolion iau a hŷn yng Nghymru wedi lleihau wrth gymharu â’r uchafbwynt a welwyd yn 2021. Fodd bynnag, ar draws y DU, cynyddodd y gyfradd TEA ar gyfer pobl 18–29 oed yn sydyn yn 2025, gan gyrraedd y lefel uchaf erioed sef 23.2 y cant. Roedd Lloegr wedi dylanwadu’n gryf ar y cynnydd hwn ar lefel y DU, lle cododd y gyfradd TEA ar gyfer y grŵp oedran hwn i 25.1 y cant. Mewn cymhariaeth, roedd y cyfraddau ar gyfer pobl 18–29 oed yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gymharol debyg yn 2025, sef 12.3 y cant, 13.2 y cant ac 11.4 y cant yn y drefn honno (Ffigur 9a).

Image
Ffigur 8: Tuedd yng Nghyfanswm y Gweithgarwch Entrepreneuraidd cyfnod cynnar ar gyfer pobl 18–29 oed a 30–64 oed yng Nghymru, 2002-2025 (Ffynhonnell: GEM APS)
Ffigur 8: Tuedd yng Nghyfanswm y Gweithgarwch Entrepreneuraidd cyfnod cynnar ar gyfer pobl 18–29 oed a 30–64 oed yng Nghymru, 2002-2025 (Ffynhonnell: GEM APS)
Image
Ffigur 9a: Tuedd yng Nghyfanswm y Gweithgarwch Entrepreneuraidd cyfnod cynnar ar gyfer pobl 18–29 oed yng Ngwledydd y DU, 2002-2025 (Ffynhonnell: GEM APS)
Ffigur 9a: Tuedd yng Nghyfanswm y Gweithgarwch Entrepreneuraidd cyfnod cynnar ar gyfer pobl 18–29 oed yng Ngwledydd y DU, 2002-2025 (Ffynhonnell: GEM APS)

Mae’r cynnydd mewn gweithgarwch entrepreneuraidd cyfnod cynnar ymysg y grŵp oedran 30–64 wedi bod yn arafach dros y ddau ddegawd diwethaf nag ymysg y grŵp oedran 18–29 (Ffigur 8). Yng Nghymru, cododd y gyfradd TEA ar gyfer pobl 30–64 oed o 4.4 y cant yn 2002 i 10.8 y cant yn 2025, gan aros ychydig yn uwch na’r gyfradd o 10.4 y cant a gofnodwyd yn 2024. Gwelwyd cyfraddau uwch na 10 y cant yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon hefyd yn 2025, sef 11.5 y cant a 12.1 y cant yn y drefn honno. Cynyddodd cyfradd y DU ar gyfer y grŵp oedran hwn i 15.3 y cant yn 2025, gan adlewyrchu’r gyfradd uwch a gofnodwyd yn Lloegr, lle’r oedd y gyfradd TEA ymysg pobl 30–64 oed yn 16.0 y cant (Ffigur 9b).

Image
Ffigur 9b: Tuedd yng Nghyfanswm y Gweithgarwch Entrepreneuraidd cyfnod cynnar ar gyfer pobl 30–64 oed yng Ngwledydd y DU, 2002-2025 (Ffynhonnell: GEM APS)
Ffigur 9b: Tuedd yng Nghyfanswm y Gweithgarwch Entrepreneuraidd cyfnod cynnar ar gyfer pobl 30–64 oed yng Ngwledydd y DU, 2002-2025 (Ffynhonnell: GEM APS)

Addysg

Yng Nghymru, fel yn y DU yn fwy cyffredinol, mae gan raddedigion gyfraddau uwch o weithgarwch entrepreneuraidd cyfnod cynnar na phobl nad ydynt yn raddedigion. Yn 2025, 15.8 y cant oedd y gyfradd TEA ar gyfer graddedigion yng Nghymru, mewn cymhariaeth â 7.4 y cant ar gyfer pobl nad ydynt yn raddedigion (Ffigur 10). Mae hyn yn golygu bod graddedigion yng Nghymru tua dwywaith yn fwy tebygol na’r rhai nad ydynt yn raddedigion o gymryd rhan mewn gweithgarwch entrepreneuraidd cyfnod cynnar, ac roedd y gwahaniaeth yn arwyddocaol yn ystadegol. Wrth gymharu â 2024, roedd cyfradd TEA graddedigion wedi cynyddu o 13.9 y cant i 15.8 y cant, gyda’r gyfradd ar gyfer pobl nad ydynt yn raddedigion wedi gostwng ychydig, o 8.3 y cant i 7.4 y cant. Ond, nid oedd y newid o un flwyddyn i’r llall yn arwyddocaol yn ystadegol.

Ar draws holl wledydd y DU yn 2025, roedd cyfraddau TEA graddedigion yn uwch na’r cyfraddau TEA ar gyfer pobl nad ydynt yn raddedigion. Roedd y gymhareb graddedigion/ddim yn raddedigion ar ei huchaf yn yr Alban, lle’r oedd cyfradd TEA graddedigion tua 2.4 gwaith y gyfradd ar gyfer pobl nad ydynt yn raddedigion. Cofnodwyd cymarebau o ychydig dros 2 yng Nghymru a Lloegr, ac roedd y gymhareb yng Ngogledd Iwerddon hefyd yn agos at 2. Ar lefel y DU, cododd cyfradd TEA graddedigion i 23.1 y cant yn 2025, mewn cymhariaeth â 10.6 y cant ymhlith pobl nad ydynt yn raddedigion. Dylanwadwyd ar y ffigur hwn ar lefel y DU gan y gyfradd TEA uchel iawn ar gyfer graddedigion a gofnodwyd yn Lloegr, sef 24.2 y cant.

Image
Ffigur 10: Cyfanswm y Gweithgarwch Entrepreneuraidd Cyfnod Cynnar yng Ngwledydd y DU yn ôl Statws Graddedig, 2025 (Ffynhonnell: GEM APS)
Ffigur 10: Cyfanswm y Gweithgarwch Entrepreneuraidd Cyfnod Cynnar yng Ngwledydd y DU yn ôl Statws Graddedig, 2025 (Ffynhonnell: GEM APS)

Agweddau a Bwriadau Entrepreneuraidd

Mae GEM yn cynnwys nifer o fesurau agwedd sy’n rhoi syniad o botensial entrepreneuraidd mewn gwlad neu ranbarth. Mae’r mesurau hyn yn cynnwys a yw unigolion yn adnabod rhywun sydd wedi cychwyn busnes yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, a ydynt yn teimlo bod cyfleoedd da i gychwyn busnes, a ydynt yn credu bod ganddynt y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i gychwyn busnes, ac a fyddai ofn methu yn eu hatal rhag gwneud hynny.

Dim ond i unigolion nad ydynt eisoes yn ymwneud â gweithgarwch entrepreneuraidd y mae’r data agwedd sy’n cael sylw yma yn berthnasol. Y rheswm am hynny yw y gallai’r rheini sydd eisoes yn ymwneud ag entrepreneuriaeth fod yn fwy tebygol o roi ymatebion cadarnhaol yn yr Arolwg o’r Boblogaeth Oedolion, yn enwedig mewn perthynas â’u barn am y sgiliau, y cyfleoedd a'r bwriad i gychwyn busnes.

Yn 2025, dywedodd 54.0 y cant o unigolion nad ydynt yn entrepreneuriaid yng Nghymru eu bod yn adnabod rhywun a oedd wedi cychwyn busnes yn ystod y ddwy flynedd diwethaf. Roedd hyn yn uwch na’r ganran yn 2024, sef 48.1 y cant, ond nid oedd y newid yn arwyddocaol yn ystadegol. Roedd yn debyg i gyfradd y DU, sef 53.1 y cant (Ffigur 11). Cyfran y bobl nad ydynt yn entrepreneuriaid yng Nghymru a oedd yn credu bod ganddynt y sgiliau, yr wybodaeth a’r profiad i gychwyn busnes oedd 42.5 y cant, a oedd wedi aros yn weddol sefydlog wrth gymharu â’r gyfran yn 2024, sef 42.3 y cant. Roedd hyn ychydig yn is na chyfradd y DU, sef 48.0 y cant, ond nid oedd y gwahaniaeth yn arwyddocaol yn ystadegol.

Yn 2025, roedd 34.9 y cant o bobl nad ydynt yn entrepreneuriaid yng Nghymru yn credu y byddai cyfleoedd da i gychwyn busnes yn eu hardal leol yn ystod y chwe mis i ddod, mewn cymhariaeth â 31.9 y cant yn 2024. Ond, nid oedd y cynnydd hwn yn arwyddocaol yn ystadegol. Roedd y canfyddiadau o gyfleoedd i gychwyn busnes yn dal yn wannach yng Nghymru nag yn y DU yn gyffredinol. Cyfradd gyfatebol y DU yn 2025 oedd 41.5 y cant, a oedd yn uwch o lawer na chyfradd Cymru. Roedd y lefelau ofn methu yn dal yn uchel hefyd: dywedodd 65.3 y cant o bobl nad ydynt yn entrepreneuriaid yng Nghymru y byddai ofn methu yn eu hatal rhag cychwyn busnes, o’i gymharu â 60.8 y cant yn y DU. Nid oedd y gwahaniaeth rhwng Cymru a’r DU yn arwyddocaol yn ystadegol.

Image
Ffigur 11: Agweddau a Chanfyddiadau Entrepreneuraidd yng Nghymru a’r DU, 2025 (Ffynhonnell: GEM APS)
Ffigur 11: Agweddau a Chanfyddiadau Entrepreneuraidd yng Nghymru a’r DU, 2025 (Ffynhonnell: GEM APS)

Mae Ffigur 12 yn dangos yr un set o agweddau at entrepreneuriaeth, gan ganolbwyntio dim ond ar bobl 18–24 oed nad ydynt eisoes yn ymwneud â gweithgarwch entrepreneuraidd. Yn 2025, dywedodd 63.4 y cant o unigolion ifanc nad ydynt yn entrepreneuriaid yng Nghymru eu bod yn adnabod rhywun a oedd wedi cychwyn busnes yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, mewn cymhariaeth â 64.8 ar draws y DU. Roedd y canfyddiadau o gyfleoedd i gychwyn busnes hefyd yn eithaf tebyg: roedd 41.5 y cant o unigolion ifanc nad ydynt yn entrepreneuriaid yng Nghymru yn credu y byddai cyfleoedd da i gychwyn busnes yn eu hardal leol yn ystod y chwe mis i ddod, mewn cymhariaeth â 47.5 y cant yn y DU. Nid oedd y naill wahaniaeth na’r llall yn arwyddocaol yn ystadegol.

Y prif wahaniaeth rhwng oedolion ifanc nad ydynt yn entrepreneuriaid yng Nghymru ac yn y DU oedd y canfyddiad o sgiliau entrepreneuraidd. Yng Nghymru, roedd 31.2 y cant o unigolion ifanc nad ydynt yn entrepreneuriaid yn credu bod ganddynt y sgiliau, yr wybodaeth a’r profiad i gychwyn busnes, mewn cymhariaeth â 47.0 y cant ar draws y DU, ac roedd y gwahaniaeth hwn yn arwyddocaol yn ystadegol. Roedd y lefelau ofn methu yn dal yn uchel ymysg pobl ifanc yng Nghymru yn ogystal â'r DU – 67.6 y cant a 62.6 y cant yn y drefn honno – ac nid oedd unrhyw wahaniaeth arwyddocaol rhyngddynt o safbwynt ystadegol.

Wrth gymharu â’r boblogaeth ehangach nad yw’n entrepreneuraidd yng Nghymru – a ddangosir yn Ffigur 11 – roedd pobl ifanc yn fwy tebygol o adnabod rhywun a oedd wedi cychwyn busnes yn ddiweddar ac o deimlo bod cyfleoedd da i gychwyn busnes. Fodd bynnag, nid yw'r gwahaniaethau hyn yn arwyddocaol yn ystadegol. Ar lefel y DU, roedd pobl ifanc yn llawer mwy tebygol na’r boblogaeth ehangach nad yw’n entrepreneuraidd o adnabod rhywun a oedd wedi cychwyn busnes yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, ond nid oedd unrhyw wahaniaethau sylweddol yn y mesurau eraill sy’n ymwneud ag agwedd. 

Image
Ffigur 12: Agweddau a Chanfyddiadau Entrepreneuraidd ymysg oedolion 18–24 oed yng Nghymru a’r DU, 2025 (Ffynhonnell: GEM APS)
Ffigur 12: Agweddau a Chanfyddiadau Entrepreneuraidd ymysg oedolion 18–24 oed yng Nghymru a’r DU, 2025 (Ffynhonnell: GEM APS)

Yn arolwg 2025, roedd 34.9 y cant o’r boblogaeth oedran gweithio nad yw’n entrepreneuraidd yng Nghymru yn cytuno bod cyfleoedd da i gychwyn busnes yn eu hardal leol o fewn y chwe mis i ddod. Roedd hyn yn uwch na’r gyfradd a gofnodwyd yn 2024, sef 31.9 y cant, ond nid oedd y gwahaniaeth yn arwyddocaol yn ystadegol. Ar draws y DU, y gyfradd gyfatebol oedd 41.5 y cant yn 2025, sydd ychydig yn is na’r gyfradd a gofnodwyd yn 2024, sef 43.2 y cant.

Felly, roedd y canfyddiadau o gyfleoedd yng Nghymru yn dal yn is o lawer nag yn y DU yn gyffredinol yn 2025, ond roedd y bwlch wedi lleihau wrth gymharu â 2024. Ers yr argyfwng ariannol byd-eang, mae’r gwahaniaeth rhwng Cymru a’r DU wedi bod yn arwyddocaol o safbwynt ystadegol yn y rhan fwyaf o flynyddoedd, ond roedd wedi lleihau yn dilyn argyfwng Covid-19 ac nid oedd yn arwyddocaol o safbwynt ystadegol yn 2022. Ehangodd y bwlch eto yn 2023 a 2024, cyn dod yn llai amlwg yn 2025 (Ffigur 13).

Image
Ffigur 13: Canfyddiad o Gyfleoedd i Gychwyn Busnes yng Nghymru a’r DU, 2002-2025 (Ffynhonnell: GEM APS)
Ffigur 13: Canfyddiad o Gyfleoedd i Gychwyn Busnes yng Nghymru a’r DU, 2002-2025 (Ffynhonnell: GEM APS)

Cyfran y boblogaeth nad yw’n entrepreneuraidd yng Nghymru a oedd yn teimlo bod cyfleoedd da i gychwyn busnes, ond a ddywedodd y byddai ofn methu yn eu hatal rhag cychwyn busnes, oedd 51.7 y cant yn 2025 (Ffigur 14). Roedd hyn yn is na’r gyfradd a gofnodwyd yn 2024, sef 60.8 y cant, ond nid oedd y gwahaniaeth yn arwyddocaol yn ystadegol. Gostyngodd cyfradd gyfatebol y DU hefyd, o 58.2 y cant yn 2024 i 51.1 y cant yn 2025, ac roedd y gostyngiad hwn yn arwyddocaol yn ystadegol.

Mae Ffigur 14 yn dangos bod y lefelau ofn methu ymysg y rheini sy’n teimlo bod cyfleoedd da i gychwyn busnes wedi codi’n sylweddol yng Nghymru o 2017 ymlaen – o 38.7 y cant yn 2017 i 60.8 y cant yn 2024. Roedd hyn yn adlewyrchu’n fras y duedd ar i fyny a welwyd ar draws gwledydd eraill y DU, a gallai adlewyrchu’r ansicrwydd economaidd a gwleidyddol cynyddol yn ystod y cyfnod hwn, gan gynnwys ansicrwydd o ran Brexit ac, wedi hynny, pandemig Covid-19. Yn 2025 gostyngodd cyfradd Cymru i 51.7 y cant, a oedd yn golygu ei bod yn agos at y cyfraddau a gofnodwyd yn Lloegr a’r Alban, sef 50.5 y cant a 52.5 y cant yn y drefn honno, yn ogystal â chyfartaledd y DU sef 51.1 y cant. Arhosodd cyfradd Gogledd Iwerddon yn uwch, ar 63.6 y cant, ond nid oedd y gwahaniaeth â Chymru yn arwyddocaol yn ystadegol.

Image
Ffigur 14: Ofn Methu ymysg y rheini sy’n gweld Cyfleoedd yng Ngwledydd y DU, 2002-2025 (Ffynhonnell: GEM APS)
Ffigur 14: Ofn Methu ymysg y rheini sy’n gweld Cyfleoedd yng Ngwledydd y DU, 2002-2025 (Ffynhonnell: GEM APS)

Yn 2025, dywedodd 24.3 y cant o oedolion o oedran gweithio nad ydynt yn entrepreneuriaid yng Nghymru eu bod yn bwriadu cychwyn busnes o fewn y tair blynedd nesaf. Roedd hyn ychydig yn uwch na’r gyfradd a gofnodwyd yn 2024, sef 22.6 y cant, ond nid oedd y gwahaniaeth yn arwyddocaol yn ystadegol (Ffigur 15). Serch hynny, mae cyfradd 2025 yn cynrychioli’r lefel uchaf a gofnodwyd yng Nghymru dros gyfres GEM, ac mae’n dal yn uwch o lawer na’r lefelau cyn y pandemig.

Ar draws y DU, cynyddodd bwriadau entrepreneuraidd yn gyflymach – o 26.4 y cant yn 2024 i 34.2 y cant yn 2025 – sy'n gynnydd arwyddocaol yn ystadegol. O ganlyniad, roedd cyfradd y DU yn uwch o lawer na’r gyfradd yng Nghymru yn 2025. Mae’n bosibl bod cynnydd blaenorol mewn bwriadau entrepreneuraidd yn ystod cyfnodau o darfu economaidd, fel yr argyfwng ariannol byd-eang a phandemig Covid-19, wedi adlewyrchu cymysgedd o gymhellion sy’n deillio o anghenraid a chymhellion sy’n deillio o gyfle. Yn yr un modd, mae’n bosibl bod y cynnydd parhaus ers 2020 yn adlewyrchu ansicrwydd y farchnad lafur yn ogystal â chyfleoedd newydd sy’n gysylltiedig â newidiadau o ran ffyrdd o weithio a digideiddio.

Image
Ffigur 15: Disgwyliadau Cychwyn Busnes yn y Dyfodol (o fewn 3 blynedd) yng Nghymru a’r DU ymysg y boblogaeth nad yw’n entrepreneuraidd, 2002-2025 (Ffynhonnell: GEM APS)
Ffigur 15: Disgwyliadau Cychwyn Busnes yn y Dyfodol (o fewn 3 blynedd) yng Nghymru a’r DU ymysg y boblogaeth nad yw’n entrepreneuraidd, 2002-2025 (Ffynhonnell: GEM APS)

Yn 2025, dywedodd 28.8 y cant o ddynion nad ydynt yn entrepreneuraidd weithgar yng Nghymru eu bod yn bwriadu cychwyn busnes o fewn y tair blynedd nesaf, mewn cymhariaeth ag 20.1 y cant o fenywod (Ffigur 16). Roedd y ddwy gyfradd ychydig yn uwch nag yn 2024, pan oeddent yn 26.3 y cant ac yn 18.9 y cant yn y drefn honno. Yn 2025, roedd y gwahaniaeth rhwng bwriadau entrepreneuraidd dynion a menywod yng Nghymru yn arwyddocaol yn ystadegol.

Y gymhareb bwriad ar gyfer menywod:dynion yng Nghymru oedd tua 70 y cant, sy’n agos at y cymarebau cyfatebol yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon, sef 68 y cant a 74 y cant yn y drefn honno. Yn Lloegr y gwelwyd y gymhareb uchaf ar gyfer menywod:dynion, sef 87 y cant, gan gyfrannu at gyfartaledd y DU o 85 y cant. Roedd cyfraddau bwriad entrepreneuraidd dynion a menywod yng Nghymru yn is o lawer na chyfraddau cyfatebol y DU, sef 37.0 y cant ar gyfer dynion a 31.4 y cant ar gyfer menywod.

Image
Ffigur 16: Disgwyliadau Cychwyn Busnes yn y Dyfodol (o fewn 3 blynedd) yng Ngwledydd y DU yn ôl Rhywedd, 2025 (Ffynhonnell: GEM APS)
Ffigur 16: Disgwyliadau Cychwyn Busnes yn y Dyfodol (o fewn 3 blynedd) yng Ngwledydd y DU yn ôl Rhywedd, 2025 (Ffynhonnell: GEM APS)

Rhuglder y Gymraeg a Gweithgarwch Entrepreneuraidd

Nid oedd unrhyw wahaniaethau arwyddocaol o safbwynt ystadegol yn 2025 o ran cyfraddau TEA pobl yng Nghymru yn ôl gallu yn y Gymraeg. Y gyfradd oedd 11.6 y cant ymysg y rheini a oedd yn gallu siarad ac ysgrifennu Cymraeg yn rhugl, 15.8 y cant ymysg y rheini a oedd yn gallu siarad a deall rhywfaint o Gymraeg, a 9.0 y cant ymysg y rheini nad oedd ganddynt fawr ddim sgiliau Cymraeg neu ddim sgiliau Cymraeg o gwbl.

Sylwadau terfynol

Roedd gweithgarwch entrepreneuraidd yng Nghymru yn dal yn gryf yn 2025. Roedd y gyfradd TEA yng Nghymru yn 11.1 y cant, sydd ychydig yn uwch na’r gyfradd a gofnodwyd yn 2024 – sef 10.8 y cant – ond nid oedd y gwahaniaeth yn arwyddocaol yn ystadegol. Mae hyn yn awgrymu bod gweithgarwch entrepreneuraidd cyfnod cynnar yng Nghymru wedi aros yn weddol sefydlog yn dilyn y lefelau uchel diweddar a welwyd yn 2021 a 2023. Ar yr un pryd, roedd cyfradd y DU wedi cynyddu’n sydyn i 16.8 y cant, o ganlyniad i’r gyfradd uchel iawn a gofnodwyd yn Lloegr. Yn sgil hynny, roedd cyfradd TEA Cymru yn is o lawer na chyfartaledd y DU yn 2025, er ei bod yn dal yn uchel yn ôl safonau hanesyddol Cymru.

Roedd lefel bwriadau entrepreneuraidd yng Nghymru yn dal yn uchel hefyd. Yn 2025, roedd 24.3 y cant o oedolion o oedran gweithio nad ydynt yn entrepreneuriaid yng Nghymru yn disgwyl cychwyn busnes yn ystod y tair blynedd nesaf. Dyma’r lefel uchaf a gofnodwyd yng nghyfres GEM Cymru. Nid oedd y cynnydd ers cyfradd 2024, sef 22.6 y cant, yn arwyddocaol yn ystadegol, ond mae’r cynnydd tymor hwy ers 2020 yn dal yn glir. Mae hyn yn awgrymu bod cronfa barhaus o weithgarwch entrepreneuraidd posibl yng Nghymru, er bod cyfradd y DU wedi codi’n gyflymach yn 2025.

Mae proffil gweithgarwch entrepreneuraidd yng Nghymru yn dal i amlygu gwahaniaethau pwysig rhwng grwpiau. Roedd graddedigion yn llawer mwy tebygol na phobl nad ydynt yn raddedigion o gymryd rhan mewn gweithgarwch entrepreneuraidd cyfnod cynnar, gyda chyfradd TEA graddedigion yn 15.8 y cant mewn cymhariaeth â 7.4 y cant ymhlith pobl nad ydynt yn raddedigion. Roedd lefelau entrepreneuriaeth ieuenctid hefyd yn dal yn uchel yn ôl safonau hanesyddol, er bod y gyfradd 18–29 oed yng Nghymru wedi gostwng ychydig o 13.5 y cant yn 2024 i 12.3 y cant yn 2025. Mae hyn yn wahanol i’r cynnydd sydyn yng nghyfradd y DU ar gyfer y grŵp oedran hwn, gyda Lloegr yn dylanwadu’n fawr ar y gyfradd. Roedd cymhareb TEA menywod:dynion yng Nghymru yn 70 y cant yn 2025, sy’n is na'r gymhareb yn 2024, sef 82 y cant. Mae hyn yn adlewyrchu cynnydd yng nghyfradd TEA dynion ochr yn ochr â gostyngiad bach yng nghyfradd TEA menywod. Serch hynny, nid oedd y gwahaniaeth rhwng cyfraddau TEA dynion a menywod yng Nghymru yn arwyddocaol yn ystadegol.

Mae agweddau entrepreneuraidd yng Nghymru yn creu darlun cymysg. Roedd cyfran y bobl nad ydynt yn entrepreneuriaid a oedd yn adnabod rhywun a oedd wedi cychwyn busnes yn ddiweddar wedi cynyddu i 54.0 y cant yn 2025, ac roedd y gyfran a oedd yn credu bod ganddyn nhw eu hunain y sgiliau, yr wybodaeth a’r profiad i gychwyn busnes wedi aros yn weddol sefydlog ar 42.5 y cant. Roedd y canfyddiadau o gyfleoedd i gychwyn busnes yn yr ardal leol wedi gwella ychydig, o 31.9 y cant yn 2024 i 34.9 y cant yn 2025, ond nid oedd y newid hwn yn arwyddocaol yn ystadegol. Serch hynny, roedd canfyddiadau o gyfleoedd yn dal yn is o lawer yng Nghymru nag ar draws y DU gyfan. Roedd amcangyfrif 2025 ar gyfer ofn methu ymysg y rheini a oedd yn gweld cyfleoedd da yn is nag yn 2024 – sef 51.7 y cant mewn cymhariaeth â 60.8 y cant – gan ddod â Chymru yn agos at gyfartaledd y DU; fodd bynnag, nid oedd y gostyngiad o un flwyddyn i’r llall yng Nghymru yn arwyddocaol yn ystadegol.

Mae’r dangosyddion cymhelliant yn dal i ddangos bod cyfuniad o ffactorau economaidd a phersonol yn gyrru entrepreneuriaeth yng Nghymru. Yn 2025, roedd entrepreneuriaid cyfnod cynnar yng Nghymru fwyaf tebygol o ddweud eu bod yn cael eu cymell gan yr uchelgais i adeiladu cyfoeth neu incwm uchel, a chan yr angen i ennill bywoliaeth oherwydd bod swyddi’n brin. Dywedodd cyfran debyg eu bod hefyd yn cael eu cymell i wneud gwahaniaeth yn y byd. Mae hyn yn cyfleu proffil cymhelliant cymysg, lle mae cymhellion ar sail gwerthoedd, anghenraid a chyfle yn dal yn berthnasol.

Yn gyffredinol, mae canlyniadau 2025 yn awgrymu bod entrepreneuriaeth yng Nghymru yn dal yn gadarn ac yn hanesyddol gryf, yn hytrach na’i bod yn cyflymu’n sydyn. Yng Nghymru, gwelir darlun o sefydlogrwydd ar lefel uwch, gyda bwriadau entrepreneuraidd mawr, cryfder parhaus ymysg graddedigion, ac entrepreneuriaeth ieuenctid yn dal yn uwch na’r rhan fwyaf o lefelau a welwyd cyn y pandemig. Y brif her o hyd yw’r canfyddiad cymharol wan o gyfleoedd lleol i gychwyn busnes, sy’n dal i osod Cymru ar wahân i gyfartaledd y DU. Mae’r cynnydd cyflym yng ngweithgarwch entrepreneuraidd y DU yn 2025, yn enwedig yn Lloegr, yn golygu bod Cymru bellach yn ymddangos yn llai cryf mewn termau cymharol, er bod ei dangosyddion ei hun yn dal yn gadarn yn ôl safonau hanesyddol.

Ymwadiad

Mae’r adroddiad hwn yn seiliedig ar ddata a gasglwyd gan gonsortiwm GEM a thîm GEM UK; cyfrifoldeb yr awduron yn unig yw dadansoddi a dehongli’r data.

I gael rhagor o wybodaeth am brosiect GEM UK, cysylltwch drwy ddefnyddio’r manylion canlynol:

Professor Mark Hart
Warwick Business School
University of Warwick
Scarman Road, Coventry, CV4 7AL
E-bost: mark.hart@wbs.ac.uk