Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae gwasanaethau adsefydlu COVID hir yn helpu claf uned gofal critigol i adfer o COVID ar ôl cyfnod hir yn yr ysbyty.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg o’r claf

Nid oedd gan y claf 55 oed gyflyrau a oedd eisoes yn bodoli cyn dal COVID-19 ym mis Mawrth 2020.

Cafodd ei dderbyn i’r uned gofal critigol yn ei ysbyty lleol. Tra oedd yn ddifrifol wael, dioddefodd strôc. O ganlyniad, roedd ganddo wendid yn ei fraich dde a’i goes dde. Mae hefyd yn cael trafferthion o ran llyncu a chyfathrebu, ac mae’n dioddef blinder difrifol a phoen.

O’r adeg pan gafodd ei dderbyn i’r ysbyty i’r adeg pan gafodd ei ryddhau, treuliodd y claf 59 o ddiwrnodau yn yr ysbyty.

Adsefydlu’r claf

Dechreuwyd y broses adsefydlu tra oedd yn dal i fod yn yr uned gofal critigol i gefnogi ei adferiad.

Parhaodd y broses adsefydlu ar ôl ei symud i ward feddygol acíwt. Cafodd gymorth adsefydlu dwys ar ôl gadael yr uned gofal critigol er mwyn hybu ei symudedd, gwella ei anadlu a’i helpu i wneud gweithgareddau arferol pob dydd.

Cyn ei ryddhau, dysgwyd iddo sut i ddefnyddio technoleg gofal iechyd. Roedd hyn yn golygu ei fod yn gallu cael cymorth adsefydlu drwy gyfuniad o therapi wyneb yn wyneb a therapi o bell.

Ar ôl cael ei ryddhau o’r ysbyty, rhoddodd y Tîm Rhyddhau’n Gynnar ar ôl Strôc a’r Gwasanaeth Adsefydlu Niwro Cymunedol gymorth iddo yn ei gartref.

Cafodd y claf 16 wythnos o gymorth adsefydlu cymunedol dwys, gan gynnwys:

  • ystod eang o ymyriadau gan gynnwys adsefydlu defnydd o’i fraich a’i goes
  • ailddysgu cerdded
  • rheoli ei anadlu
  • therapi cyfathrebu
  • therapi llyncu
  • rheoli blinder

Drwy gydol y broses adsefydlu, fe’i hanogwyd i reoli a gofalu am ei iechyd ei hun er mwyn hybu ei adferiad. Fe’i hanogwyd i ddysgu sgiliau i allu rheoli ei gyflwr yn well yn y tymor hwy.

Mae’n dal i gael cymorth adsefydlu o bell gan y Gwasanaeth Adsefydlu Niwro Cymunedol. Mae hyn yn ei helpu i wella ei gerdded, ei gryfder a’i oddefiant ymarfer corff ymhellach o fewn terfynau ei flinder ôl-COVID.