Aelodaeth
Aelodaeth grŵp Cyflawni ar Ymwrthedd Gwrthficrobaidd Mewn Anifeiliaid a'r Amgylchedd.
Thomas Bletcher
Mae Tom Bletcher yn ffermwr llaeth o'r Wyddgrug, Gogledd Cymru. Astudiodd e Amaethyddiaeth gyda Gwyddor Anifeiliaid ym Mhrifysgol Harper Adams ac mae wedi bod yn mynd ati mewn modd gweithredol i leihau'r defnydd o wrthfiotigau ar y fferm ers nifer o flynyddoedd, gan fod yn rhan o brosiect Arwain a mentrau eraill drwy ei brynwr llaeth.
Sarah Carr
Mae Sarah yn filfeddyg sydd wedi bod yn ymarfer yng Nghymru ers 2004. Mae ganddi ddiddordeb mewn cynhyrchu a rhywogaethau anifeiliaid anwes. A hithau'n gyn-lywydd Cangen Cymru o Gymdeithas Filfeddygol Prydain, mae hi'n aelod o Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru y mae'n ei gynrychioli ar y grŵp cyflawni hwn. Hefyd mae gan Sarah ddiadell o famogiaid croesfrid masnachol ac mae'n eiriolwr brwdfrydig dros amaethyddiaeth Cymru.
Meryl Davies
Ar hyn o bryd Meryl Davies yw Fferyllydd Gwrthficrobaidd Arweiniol Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer Gofal Sylfaenol a Chymunedol.
Mae Meryl wedi graddio o Brifysgol Caerdydd a dreuliodd flynyddoedd cynnar ei gyrfa yn gweithio fel Fferyllydd Clinigol yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth. Datblygodd Meryl ddiddordeb mewn stiwardiaeth gwrthficrobaidd a gweithiodd fel fferyllydd gwrthfiotigau ar gyfer Bronglais cyn symud ymlaen i weithio fel fferyllydd gwrthfiotigau gofal sylfaenol o fewn Tîm Rheoli Meddyginiaethau Hywel Dda, gan weithio'n agos gyda'r gwasanaeth meddygfeydd a microbioleg. Yn y gorffennol mae Meryl wedi bod yn Esiampl Bevan a chafodd hi'r fraint o gael ei henwi'n Fferyllydd y Flwyddyn yng Ngwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd Cymru yn 2019.
Mae Meryl yn ferch i ffermwyr ac mae'n chwarae rhan weithgar ar fferm y teulu ac yn mwynhau helpu gydag arddangos eu gwartheg British Blonde pedigri ac mae ganddi ddiddordeb brwd mewn iechyd pobl ac anifeiliaid.
Kitty Healey
Mae Kitty yn arwain y Tîm Polisi a Gwyliadwriaeth Gwrthficrobaidd yn y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol (VMD).
Ifan Lloyd
Mae Ifan yn filfeddyg gyda dros 30 mlynedd o brofiad mewn ymarfer cymysg clinigol preifat yng Nghymru. Ac yntau â diddordeb arbennig mewn anifeiliaid fferm, mae'n gweithio fel milfeddyg ymgynghorol rhan-amser yn St James Veterinary Group yn Abertawe. Ifan yw llywydd presennol Cangen Cymru Cymdeithas Filfeddygol Prydain (BVA), cyfarwyddwr milfeddygol Iechyd Da (gwledig) Ltd a chyfarwyddwr Cefn Gwlad Solutions Ltd. Mae Ifan yn cynrychioli Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru ar y grŵp cyflawni hwn.
Catrin Moore
Mae Catrin yn ddarllenydd mewn Iechyd Byd-eang a Chlefydau Heintus yn City St George's, Prifysgol Llundain. Mae hi wedi hyfforddi fel microbiolegydd ac mae hi'n gweithio mewn gwledydd incwm isel a chanolig ers dros ugain mlynedd. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR), ac ar hyn o bryd mae'n arwain prosiect ymchwil sy'n archwilio baich AMR yn y gymuned yn Uganda. Mae hi hefyd cyfranogi ym mhrosiectau Rhanbarthol Cronfa Fleming ac mae'n arweinydd Cymrodoriaeth Cronfa Fleming yn Eswatini. Hi yw cyd-gadeirydd y pwyllgor Effaith a Dylanwad yn y Gymdeithas Microbioleg, ac mae'n arwain y prosiect Knocking out AMR ar gyfer y gymdeithas.
Hywel Morgan
Mae Hywel yn ffermwr cig eidion a defaid yng Nghanolbarth Cymru, ar dir â Bannau Brycheiniog i'r gorllewin, ac mae'n gwerthu cynnyrch drwy farchnadoedd ffermwyr. Mae'n mwynhau hysbysu ei gwsmeriaid am sut mae ei anifeiliaid yn cael eu magu a'u defnyddio yn offeryn i reoli'r tir ar gyfer bioamrywiaeth. Mae Hywel yn credu'n gryf mewn gweithio gyda natur, nid yn ei erbyn. Mae'n fentor, yn gadeirydd y Rhwydwaith Ffermio Cyfeillgar i Natur, ac yn gadeirydd y Cymdeithasau Pori Tir Comin, ymhlith rolau eraill.
Gwen Rees
Mae Gwen Rees yn filfeddyg ac ar hyn o bryd mae'n Uwch Gydymaith Ymchwil yn Ysgol Filfeddygol Prifysgol Bryste. Ar gyfer ei PhD astudiodd Gwen ddefnyddio meddygaeth filfeddygol ar ffermydd llaeth ac mae'n arweinydd prosiect ar gyfer Arwain DGC, gan sefydlu Rhwydwaith Hyrwyddwyr Presgripsiynu Milfeddygol Cymru gyfan.
Robert Smith
Mae Rob yn filfeddyg anifeiliaid fferm gyda dros 36 mlynedd o brofiad mewn ymarfer fferm. Ef yw sylfaenydd ac uwch gyfarwyddwr Gwasanaethau Milfeddygol Farm First yn Ne-ddwyrain Cymru. Mae Robert ar fwrdd Iechyd Da, partner cyflenwi milfeddygol De Cymru, ac yn gadeirydd eu gweithgor ar y defnydd cyfrifol o feddyginiaeth gwrthficrobaidd yng Nghymru.
Christopher Teale
Mae Chris yn filfeddyg sy'n gweithio i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA). Mae'n arwain y gwaith ar ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) yn APHA. Mae Chris wedi gwasanaethu ar bwyllgorau sy'n ystyried AMR ar gyfer Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA), Cymdeithas Cemotherapi Gwrthficrobaidd Prydain, Asiantaeth Meddyginiaethau Ewrop (EMA) ac Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA).
Richard Pizzey
Mae Richard yn Gynghorydd Milfeddygol yn Swyddfa Prif Swyddog Milfeddygol Llywodraeth Cymru.
