Aelodaeth Bwrdd Llywodraeth Cymru
Nid yw'r aelodaeth yn dibynnu'n llwyr ar gyfrifoldebau gweithredol; y nod yw darparu cyngor a chymorth cytbwys i'r Ysgrifennydd Parhaol ac arweiniad ar y cyd i'r sefydliad cyfan.
Penodir Aelodau’r Bwrdd gan, ac yn ôl disgresiwn, yr Ysgrifennydd Parhaol.
Andrew Goodall
Ysgrifennydd Parhaol
Cafodd Dr Andrew Goodall ei benodi i rôl Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2021. Mae’n arwain Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru i gyflawni blaenoriaethau’r Prif Weinidog ac yn gweithredu fel y Prif Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer Llywodraeth Cymru. Cyn hyn, roedd yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol / Prif Weithredwr GIG Cymru, a hynny ers mis Mehefin 2014.
Mae Dr Goodall wedi bod yn Brif Weithredwr yn y GIG yng Nghymru ers 16 mlynedd. Mae ei swyddi blaenorol yn cynnwys Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, swydd y bu ynddi ers dechrau'r Bwrdd Iechyd ym mis Hydref 2009 tan 2014 ar ôl ad-drefnu'r GIG i fodel integredig y Bwrdd Iechyd.
Yn ystod ei yrfa 30 mlynedd yn y GIG, mae Dr Goodall wedi dal swyddi cynllunio a gweithredol ar draws nifer o sefydliadau'r GIG ledled De Cymru yn ogystal â rolau cenedlaethol. Mae ganddo feysydd diddordeb penodol mewn gwella diogelwch, ansawdd a phrofiad cleifion; gweithio mewn partneriaeth a chydweithio ar draws Gwasanaethau Cyhoeddus; a darparu gwasanaethau rheng flaen trwy wella a moderneiddio gwasanaethau.
Mae gan Dr Goodall radd yn y gyfraith o Brifysgol Essex a PhD mewn Rheoli Gwasanaeth Iechyd o Ysgol Fusnes Caerdydd. Dyfarnwyd CBE i Dr Goodall yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd 2018 am ei wasanaethau i'r GIG a gwasanaethau cyhoeddus.
Ellen Donovan
Cyfarwyddwr Anweithredol
Mae Ellen yn Gyfarwyddwr Bwrdd rheoli profiadol, gyda dros 25 mlynedd o brofiad busnes yn y sector preifat. Ymysg ei swyddi blaenorol, bu'n Gyfarwyddwr Masnachu yn gyfrifol am ddatblygu brandiau, cynnyrch a gwasanaethau ar gyfer Debenhams PLC, ac yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau yn arwain gweithlu o dros 5,000 o staff.
Fel Cyfarwyddwr Anweithredol profiadol, bu Ellen yn gwasanaethu ar nifer o Fyrddau, gan gynnwys Cymwysterau Cymru, Linc Cymru a Phwyllgor Archwilio a Rheoli Risg Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol yn Llywodraeth Cymru. Yn ystod y cyfnod hwn enillodd wybodaeth gwerthfawr ynghylch Tai, Gofal, Trafnidiaeth, yr Economi, Sgiliau ac Addysg.
Wedi treulio cryn dipyn o'i gyrfa yn Llundain, dychwelydd Ellen i Gymru yn 2006. Mae'n briod ac mae ganddi ddau o blant.
Gareth Lynn
Cyfarwyddwr Anweithredol
Mae Gareth yn weithiwr proffesiynol ym maes cyllid a busnes gyda thros 33 o flynyddoedd o brofiad yn y sectorau preifat a chyhoeddus. Cwblhaodd ei hyfforddiant cyfrifyddiaeth ffurfiol gydag Ernst & Young ac yn 1990 dechreuodd ei fusnes ei hun gyda chydweithwyr. Tyfodd y busnes gwasanaethau proffesiynol yn un o wasanaethau proffesiynol arweiniol Cymru ac yn Ebrill 2017 cafodd y cwmni ei gaffael gan Cogital Group, sef y grŵp gwasanaethau proffesiynol â'r twf cyflymaf yn y DU.
Yn ogystal â darparu gwasanaethau ariannol, busnes a masnachol i'r sector preifat mae Gareth wedi gweithio ers llawer o flynyddoedd gyda nifer o gyrff hyd braich y sector cyhoeddus yng Nghymru gan ddarparu gwasanaethau archwilio mewnol, cyngor i ymgyngoriaethau a hyfforddiant rheoli risg.
Mae gan Gareth brofiad helaeth ym maes llywodraethu corfforaethol ac ar lefel bwrdd a bu ganddo sawl rôl gynghorol annibynnol, gan gynnwys cadeirio'r Pwyllgorau Archwilio a Risg, ar gyfer cyrff pwysig yn genedlaethol ac yn strategol gan gynnwys yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd, y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ac Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau.
Mae ei rolau presennol yn cynnwys Cadeirydd Annibynnol Ymddiriedolwyr Cynllun Pensiwn Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, Cyfarwyddwr Anweithredol yn Spindogs Ltd (un o asiantaethau digidol gwasanaethau llawn arweiniol Cymru) ac ymgynghorydd i Baldwins Accountants, rhan o'r Cogital Group.
Meena Upadhyaya
Cyfarwyddwr Anweithredol
Derbyniodd yr Athro Meena Upadhyaya OBE ei Doethuriaeth gan Brifysgol Caerdydd, a chwblhaodd gymrodoriaeth gyda Choleg Brenhinol y Patholegwyr yn 2000.
Bu’n Athro yn Sefydliad Geneteg Canser Prifysgol Caerdydd, a bu’n cyfarwyddo Labordy Ymchwil a Datblygu Gwasanaeth Geneteg Meddygol Cymru Gyfan, yn rhinwedd ei swydd fel Genetegydd Moleciwlaidd Ymgynghorol, tan iddi ymddeol yn 2014. Yn ystod ei gyrfa ymchwil, mae wedi canolbwyntio ar lawer o anhwylderau genetig, yn benodol niwroffibromatosis math 1 (NF1) a nychdod cyhyrol fasioscapwlohwmerol. Fel Athro, bu’n gyfrifol am hyfforddi a mentora llawer o fyfyrwyr a gwyddonwyr, ac fel ymchwilydd a gwyddonydd, gwnaeth ddarganfyddiadau arloesol. Mae’n awdur 3 llyfr a thros 200 o erthyglau gwyddonol. Mae Meena wedi derbyn llawer o wobrau, gan gynnwys Gwobr Ysbrydoli! Cymru (2010), Gwobr Cymdeithas Niwroffibromatosis Ewrop (2013), OBE (2016), a Gwobr Dewi Sant am Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg (2017).
Ers iddi ymddeol, mae Meena wedi bod yn Athro Nodedig Anrhydeddus yn yr Is-adran Canser a Geneteg, Prifysgol Caerdydd, ac mae wedi cynrychioli Prifysgol Caerdydd mewn llawer o gyfarfodydd rhyngwladol. Derbyniodd Gymrodoriaeth Anrhydeddus gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn 2017, a Chymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2018, ac fe’i hetholwyd yn Aelod o Gyngor Coleg Brenhinol y Patholegwyr yn 2014 a Chymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2020. Mae Meena hefyd wedi gwasanaethu fel mentor ar gynllun y Fonesig Rosemary Butler, Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus, (2014-2015), ac mae’n gweithio’n ddiflino i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth, cydlyniant cymunedol, ac integreiddio. Hi yw sylfaenydd Gwobrau Cydnabod Llwyddiant Menywod Asiaidd Cymreig, cynllun sy’n cael ei adnabod bellach fel Cymdeithas Cydnabod Llwyddiant Menywod Cymreig Lleiafrifoedd Ethnig, a Menywod Lleiafrifoedd Ethnig mewn Gofal Iechyd yng Nghymru. Mae’n un o ymddiriedolwyr Race Equality First, Race Council Cymru, Cymdeithas Niwroffibromatosis Ewrop, ac mae hi ar Bwyllgor Cynghori Rhwydwaith Staff BME+ Prifysgol Caerdydd, ac yn aelod o’r Plac Porffor, a Monumental Welsh Women.
Tracey Burke
Cyfarwyddwr Cyffredinol - Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
Mae Tracey wedi ymwneud ag adfywio Cymru ac Iwerddon ers dros 20 mlynedd, a hynny yn Llywodraeth Cymru, Awdurdod Datblygu Cymru, Llywodraeth Iwerddon, Llywodraeth y DU yn ogystal â gweithio gyda'r Comisiwn Ewropeaidd.
Ganed Tracey yn y Sblot yng Nghaerdydd ac ymunodd â Llywodraeth Cymru yn 2006 o Awdurdod Datblygu Cymru. Ers hynny, bu gan Tracey swyddi mewn polisi economaidd a pholisi trafnidiaeth, yn ogystal â rôl strategol ehangach ar draws Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol. Penodwyd Tracey i swydd Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus ym mis Tachwedd 2017.
Desmond Clifford
Cyfarwyddwr Cyffredinol Swyddfa'r Prif Weinidog a Brexit
Yn ogystal â rheoli darpariaeth gwasanaethau i'r Prif Weinidog a'r Cabinet, mae Des yn arwain y gwaith o gydlynu busnes Brexit ar draws Llywodraeth Cymru a'n hagenda rhyngwladol. Ei her o ran Brexit yw sicrhau bod Llywodraeth Cymru'n barod i wynebu'r materion cywir a’i bod yn gweithio'n effeithiol gyda Llywodraeth y DU i gynrychioli buddiannau Cymru. Mae'n gyfrifol am ein rhwydwaith o swyddfeydd ar draws y byd, ac yn gweithio'n agos gyda'n cydweithwyr economaidd ar seilwaith masnach a buddsoddi.
Bu Des gyda Llywodraeth Cymru drwy gydol y daith ddatganoli, gan gynnwys cyfnod hir ym Mrwsel yn cynrychioli buddiannau Cymru yn yr UE. Cyn hynny, bu'n gweithio am ddegawd fel newyddiadurwr gyda'r BBC. Mynychodd Brifysgol Aberystwyth, ac mae'n siarad Cymraeg.
Andrew Slade
Cyfarwyddwr Cyffredinol - Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol
Dechreuodd Andrew yn ei swydd fel Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol ym mis Ionawr 2018.
Cyn hynny, ef oedd Cyfarwyddwr Arweiniol Adran yr Amgylchedd a Materion Gwledig i Lywodraeth Cymru, ac ar lefel gorfforaethol, ef oedd Pennaeth y Proffesiwn Polisi. Ymunodd Andrew â'r sefydliad yn 2012 lle gweithiodd i ddechrau ar raglenni'r UE ac yn ddiweddarach, fel Cyfarwyddwr Amaethyddiaeth, Bwyd a'r Môr.
Cyn dod i Gymru, bu Andrew yn arwain y gwaith o sefydlu gwasanaeth datblygu gwledig cenedlaethol newydd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Llywodraeth y DU (Defra). Rhwng 2006 a 2011, gweithiodd yn Ne-orllewin Lloegr, yn gyntaf yn Swyddfa’r Llywodraeth fel Dirprwy Gyfarwyddwr Rhanbarthol yn gyfrifol am ddatblygu cynaliadwy, ac yna fel Cyfarwyddwr Gweithredol Rhaglenni a Phartneriaethau yn Asiantaeth Datblygu Rhanbarthol De-orllewin Lloegr.
Roedd cefndir cynharach gyrfa Andrew yn Llywodraeth y DU (y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, ac yna Defra) yn Llundain, ac yn ystod y cyfnod hwnnw bu mewn nifer o swyddi, gan gynnwys y Prif Ysgrifennydd Preifat i'r Ysgrifennydd Gwladol.
Mae Andrew yn dysgu Cymraeg.
Judith Paget
Prif Weithredwr
Penodwyd Judith dros dro i rôl Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru ym mis Tachwedd 2021. Mae ei rôl yn cynnwys cefnogi blaenoriaethau Gweinidogol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol o fewn strwythurau’r Gwasanaeth Sifil, ac arweinyddiaeth a throsolwg o GIG Cymru.
Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan oedd swydd flaenorol Judith. Ymunodd Judith â’r Bwrdd Iechyd fel Cyfarwyddwr Cynllunio a Gweithrediadau ar 1 Hydref 2009 ac yn ddiweddarach, daeth yn Brif Swyddog Gweithredu/Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol cyn iddi gael ei phenodi yn Brif Weithredwr ym mis Hydref 2014.
Mae Judith wedi gweithio yn y GIG ers 1980 ac mae hi wedi ymgymryd ag amrywiaeth o rolau gweithredol, cynllunio a chomisiynu yn nifer o gyrff y GIG ar draws de, canolbarth a gorllewin Cymru. Penodwyd Judith i’w rôl gyntaf fel Prif Swyddog Gweithredol ym mis Ebrill 2003. Mae gan Judith ddiddordeb brwd mewn gweithio mewn partneriaeth ar draws gwasanaethau cyhoeddus; gofal sylfaenol a datblygu cymunedol; gofal iechyd sy’n seiliedig ar werth, datblygu staff a meithrin cysylltiadau â staff.
Dyfarnwyd Cymrodoriaeth Rheolwyr y Gwasanaeth Iechyd i Judith yn 2012 ac ym mis Mehefin 2014 enillodd Wobr Sefydliad y Cyfarwyddwyr –Cyfarwyddwr mewn Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Ym mis Mehefin 2019, dyfarnwyd CBE i Judith yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines am ei gwasanaethau i gyflenwi a rheoli yn GIG Cymru.
Reg Kilpatrick
Cyfarwyddwr Cyffredinol - Cydgysylltu Argyfwng COVID
Dechreuodd Reg ei yrfa fel peiriannydd awyrennau cyn gwneud gradd mewn Gwyddorau Ymddygiad. Ymunodd â'r Swyddfa Gymreig fel ystadegydd a bu’n gyfarwyddwr Cofrestrfa Canser Cymru. Yn dilyn cyfnod yn rheoli cyllideb y GIG a dyraniadau awdurdodau iechyd, cafodd ei wahodd i fod yn aelod o Fwrdd Canolfan Mileniwm Cymru a bu'n gweithio'n agos gyda'r cwmni i sicrhau'r gymeradwyaeth wleidyddol ac ariannol a alluogodd i’r ganolan gael ei hadeiladu.
Treuliodd beth amser yn datblygu Polisi Economaidd cyn symud i Gynllunio Ariannol lle'r oedd yn rheoli'r Cylch Gwariant blynyddol ar gyfer cyllideb £15 biliwn Llywodraeth Cymru. Ar ôl pum mlynedd, symudodd Reg wedyn i Bolisi Llywodraeth Leol gan ddatblygu polisïau ar strwythurau, ffiniau, materion etholiadol a pherfformiad cynghorau.
Yn 2011, daeth Reg yn Gyfarwyddwr Llywodraeth Leol a daeth yn gyfrifol am faterion polisi’n ymwneud â’r gwasanaeth tân, y berthynas â'r heddlu, argyfyngau sifil posibl a materion diogelwch cenedlaethol. Cyfarwyddodd y paratoadau ar gyfer Brexit heb gytundeb gan gynnwys elfen Cymru o Ymgyrch Yellowhammer. Fe'i penodwyd yn Gyfarwyddwr Cyffredinol yn 2020 i gydlynu'r ymateb traws-Lywodraethol i Bandemig COVID.
Helen Lentle
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
Helen Lentle yw Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol Llywodraeth Cymru. Mae Helen yn gweithio ym maes y gyfraith ers 30 mlynedd, a hynny’n bennaf yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Yn y 1990au, bu'n gweithio i 2 awdurdod lleol mawr yng Nghymru ac mae ganddi ddiddordeb brwd yng ngwasanaethau’r sector cyhoeddus. Mae hi'n credu yn y gwahaniaeth gwirioneddol y gall cyngor cyfreithiol dibynadwy a phragmatig ei wneud i wasanaethau cyhoeddus.
Mae Helen bellach yn arwain Adran Gyfreithiol Llywodraeth Cymru, sef y practis cyfreithiol mwyaf yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, a hi yw Pennaeth y Proffesiwn Cyfreithiol yng Ngwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru. Mae hi'n aelod o'r Grŵp Llywio Amrywiaeth a Chynhwysiant, yn Hyrwyddwr Amrywiaeth ar gyfer Swyddfa'r Prif Weinidog ac yn gefnogwr i Rwydwaith Staff LGBTQ+ Llywodraeth Cymru.
A hithau'n hyfforddwr ac yn fentor gweithredol hyfforddedig, mae Helen yn cefnogi cyflogeion drwy hyfforddi a mentora yn y sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru a'r Gwasanaeth Sifil ers sawl blwyddyn. Mae Helen yn ymddiriedolwr ar gyfer elusen dyslecsia ar hyn o bryd.
Daw Helen o Abertyleri a chafodd ei haddysgu yn Ysgol Gyfun Hŷn Nant-y-glo. Enillodd radd yn y gyfraith o Brifysgol De Montfort a chymhwyso'n Gyfreithiwr yn 1991. Mae ganddi MBA o Brifysgol Metropolitan Caerdydd, tystysgrif (Lefel 7 y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth) mewn Hyfforddi a Mentora Gweithredol o Brifysgol De Cymru ac mae hi wedi ymgymryd â datblygiad arweinyddiaeth ym Mhrifysgol Harvard.
Mae Helen yn mwynhau teithio yn rheolaidd gyda'i gŵr. Mae hi'n gweithio oriau cywasgedig sy'n ei helpu i fyw bywyd llawn a phrysur pan nad yw hi'n meddwl am y gyfraith a phwerau datganoledig.
David Richards
Cyfarwyddwr, Llywodraethu a Moeseg
Mae David Richards yn Gyfarwyddwr yn Llywodraeth Cymru. Ymunodd â'r Swyddfa Gymreig yn 1979 fel gwas sifil, gan weithio â chyfres o Weinidogion Cymru ar ystod o faterion polisi.
Bu'n Gyfarwyddwr Cyllid o 1996 hyd at 2006, ac yn rhan o'r uwch-dîm rheoli a weithiodd ar gyflwyno'r ddeddfwriaeth a'r trefniadau a oedd yn sail i sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Arweiniodd y prosiect llwyddiannus i godi adeilad y Senedd, a bu'n arwain ar sefydlu corff archwilio ac Archwilydd Cyffredinol i Gymru sy’n gweithredu ar wahân i’r Llywodraeth. Bu hefyd yn arwain adolygiad Wanless o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.
Yn fwy diweddar mae David wedi bod yn rhan o ad-drefnu'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, ac wedyn yn Gyfarwyddwr Buddsoddi Strategol, gan edrych ar sut y gallai'r sector cyhoeddus ddefnyddio mwy o ddulliau cyllido arloesol i wella'r seilwaith cyhoeddus. Ei rôl bresennol yw Cyfarwyddwr Llywodraethu, ac yn rhinwedd y rôl honno mae’n rhoi sicrwydd i'r Ysgrifennydd Parhaol am yr holl faterion Llywodraethu ar draws Llywodraeth Cymru.
Bu David hefyd yn cadeirio Bwrdd Llywio Swyddfa Eiddo Deallusol y DG am ddeng mlynedd hyd at fis Mawrth 2011.
Natalie Pearson
Pennaeth Datblygu Sefydliadol ac Ymgysylltu
Mae Natalie wedi gweithio yn y meysydd cyfathrebu strategol, ymgysylltu â gweithwyr a datblygu sefydliadol am fwy na phum mlynedd ar hugain. Ar ôl dilyn gyrfa yn y sector preifat, y sector gwirfoddol ac yn Whitehall, dychwelodd i Gymru ym 1999. Mae wedi cyflawni sawl swyddogaeth yn Llywodraeth Cymru, gan gynnwys arwain y gwaith o gynllunio cyfathrebu strategol, cyfathrebu mewn argyfwng a chyfathrebu digidol. Mae hefyd wedi bod yn bennaeth cyfathrebu i nifer o weinidogion portffolio. Mae ei swyddogaethau mwyaf diweddar wedi bod yn rhai sy'n canolbwyntio ar ddatblygu sefydliadol, ymgysylltu â gweithwyr a chymorth i arloesi yn y gwasanaeth sifil. Ar hyn o bryd, mae'n Bennaeth yr Is-adran Datblygu Sefydliadol ac Ymgysylltu ac yn Uwch-swyddog Cyfrifol menter Diogelu at y Dyfodol yr Ysgrifennydd Parhaol – rhaglen newid eang i helpu i ddatblygu gwasanaeth sifil galluog, hyderus a chryf ar gyfer y dyfodol.
Ganwyd Natalie yng Nghwm Ebwy ac fe'i magwyd yno. Mae bellach yn byw ger Brynbuga ac mae'n briod a chanddi dri mab.
Peter Kennedy
Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol
Mae Peter wedi bod yn Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol gyda Llywodraeth Cymru ers 2011. Mae'n gyfrifol am Adnoddau Dynol, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Lleoliadau a Diogelwch.
Ganwyd ac addysgwyd Peter yng Nghaerdydd. Mae'n un o Gymrodyr Siartredig y CIPD ac mae ganddo MA mewn addysg o Brifysgol Cymru. Ar ôl treulio 9 mlynedd yn gwasanaethu yn y Llu Awyr Brenhinol, gan gynnwys cyfnod gydag Awyrennau'r Frenhines, ymunodd â'r Weinyddiaeth Amddiffyn a threulio'r ddeng mlynedd ddilynol yn gweithio yn Whitehall, Sain Tathan, Caerfaddon, Perth a Hampshire mewn swyddogaethau amrywiol yn ymdrin â phob agwedd ar Adnoddau Dynol. Ei swydd olaf yn y Weinyddiaeth Amddiffyn oedd Pennaeth Adnoddau Dynol yn yr Asiantaeth Atgyweirio Awyrennau Amddiffyn. Ymunodd â Llywodraeth Cymru yn 2005 fel Pennaeth Adnoddau Dynol.
Mae'n briod ac mae ganddo ddau o blant, ac mae'n byw ger Caerdydd.
Gawain Evans
Cyfarwyddwr Cyllid
Cafodd Gawain ei benodi yn Gyfarwyddwr Cyllid ym mis Hydref 2015, ar ôl treulio tair blynedd yn rôl dirprwy gyfarwyddwr rheolaeth ariannol. Mae ei rôl yn cynnwys cefnogi Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, yr Ysgrifennydd Parhaol ac uwch-swyddogion, i sicrhau bod gwariant Llywodraeth Cymru yn cael ei reoli a'i adrodd yn briodol ac nad yw'n mynd yn uwch na'r terfynau wedi'u cymeradwyo. Mae Gawain yn gweithio gyda Phennaeth Archwilio Mewnol i ddarparu cyngor i'r holl Swyddogion Cyfrifyddu ar reoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian ynghylch gweithgareddau Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn glynu at y safonau uchaf o lywodraethu a rheoli risg. Gawain yw Pennaeth Proffesiwn i staff Cyllid a Chyfrifyddu Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn aelod o'r Bwrdd Cynghori ar Adroddiadau Ariannol sy'n cynghori Llywodraeth y DU ynglŷn â rhoi polisi cyfrifyddu ar waith, ac mae hefyd yn cadeirio Pwyllgor Archwilio Heddlu Dyfed Powys.
Cyn ymuno â Llywodraeth Cymru, bu Gawain yn gweithio yn y Weinyddiaeth Amddiffyn a hynny mewn amrywiaeth o feysydd. Roedd hyn yn cynnwys cyfnodau yn Whitehall ac mewn Caffael Amddiffyniad; lle'r oedd yn bennaeth y timau cyllid ar gyfer y Carrier a'r Eurofighter ac yn gweithio o dan brif weithredwr ym myd diwydiant fel Cyfarwyddwr Cyllid y Carrier Alliance. Mae Gawain yn briod a chanddo un ferch.
Andrew Jeffreys
Cyfarwyddwr Trysorlys
Astudiodd Andrew Jeffreys ym Mhrifysgol Newcastle, Ysgol Economeg Llundain (LSE), a Phrifysgol Caerdydd, lle cwblhaodd ei PhD yn 1999.
Yn 2000, ymunodd Andrew â’r gwasanaeth sifil fel swyddog ar y Llwybr Carlam. Roedd hyn ar ôl iddo weithio yn y sector gwirfoddol, fel ymchwilydd i ddau AS yn Ne Cymru, ac fel darlithydd athroniaeth rhan-amser.
Treuliodd nifer o flynyddoedd yn gweithio yn San Steffan. Gweithiodd i Dollau Tramor a Chartref EM ar y dechrau, yn rhedeg Swyddfa Breifat yr Ysgrifennydd Parhaol. Wedyn bu’n gweithio i Drysorlys EM ar bolisïau a strategaethau treth, gan arwain y tîm oedd yn gyfrifol am drethi treuliant.
Daeth yn ôl i Gymru yn 2006 i weithio i Lywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd mae’n Gyfarwyddwr Trysorlys Cymru.