Neidio i'r prif gynnwy

Mae saith o aelodau newydd wedi'u penodi i Gyngor Celfyddydau Cymru gan yr Arglwydd Elis Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyngor Celfyddydau Cymru yw llais y celfyddydau yng Nghymru, ac mae'n defnyddio cyllid cyhoeddus i greu cyfleoedd i bobl fwynhau a chymryd rhan yn y celfyddydau.

Wedi'i ariannu'n bennaf gan Lywodraeth Cymru - ond hefyd yn gorff dosbarthu y Loteri Cenedlaethol ac yn elusen gofrestredig - mae Cyngor y Celfyddydau yn ceisio annog pobl i gymryd rhan yn y celfyddydau, ac i greu profiadau diwylliannol o safon uchel i bawb, waeth ble y maent yn byw na beth yw eu cefndir.

Mae Aelodau'r Cyngor yn chwarae rôl bwysig wrth gefnogi sector gelfyddydau ddeinamig a chreadigol. Gyda'i gilydd, maent yn gyfrifol am sicrhau bod arian Llywodraeth Cymru a'r Loteri yn cael ei fuddsoddi yn iawn.

Mae aelodau'r cyngor hefyd yn gyfrifol am:

  • bennu cyfeiriad strategol Cyngor y Celfyddydau
  • datblygu, gweithredu a monitro'r polisi celfyddydau
  • cytuno ar Gynlluniau Corfforaethol a Gweithredol
  • pennu y gyllideb flynyddod
  • dyrannu grantiau yn flynyddol i sefydliadau sy'n cael eu hariannu gan arian refeniw
  • sicrhau bod Cyngor y Celfyddydau yn rheoli ei faterion yn effeithiol ac yn atebol amdanynt

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas:

"Dwi'n falch iawn o weld ystod mor amrywiol o benodiadau, pob un ohonynt â phrofiad helaeth o'r sector celfyddydol. Mae sicrhau amrywiaeth a chynhwysiant ar baneli a chynghorau nid yn unig y peth iawn i'w wneud ond mae hefyd yn bwysig i'r agenda fusnes. Mae sefydliadau ar eu gorau pan fydd amrywiaeth o ran diwylliant, syniadau a safbwyntiau."

"Gyda gwybodaeth ymarferol o'r heriau presennol sy'n wynebu sefydliadau celfyddydol, Cyngor y Celfyddydau a'r bobl sy'n gweithio gyda'r celfyddydau, dwi'n hyderus bod gan yr unigolion hyn y gallu i feddwl yn greadigol ynghylch sut y gellir mynd i'r afael â'r materion hyn."

Meddai Phil George, Cadeirydd Cyngor  Celfyddydau Cymru:

"Fel corff cyhoeddus, mae gan Gyngor Celfyddydau Cymru awydd a chyfrifoldeb i sicrhau bod profiadau celfyddydol ar gael ar draws amrywiol gymunedau Cymru.  Mae aelodau newydd y Cyngor wedi'u dewis gan eu bod yn dod â gweledigaeth, profiad a sgiliau pwerus i wireddu'r uchelgais honno. Mae ganddynt syniad da o'r hyn fyddai'n sicrhau bod y celfyddydau ar gael mewn gwirionedd i bobl ledled y wlad.

"Mae'n gyffrous i feddwl am y cyfraniad a'r heriau a ddaw gyda hwy i fwrdd y Cyngor."

Penodiadau Cyngor Celfyddydau Cymru 2019

  • Alison Mears
  • Devinda De Silva
  • Gwennan Mair Jones
  • Lhosa Daly
  • Sarah Younan
  • Tudur Hallam
  • Victoria Provis.