Neidio i'r prif gynnwy

Manylion yr adroddiad

Comisiynwyd yr adolygiad hwn gan yr Is-adran Addysg Bellach a Phrentisiaethau ar ran Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i werthuso cyffredinrwydd aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ac adolygu’r diwylliant a’r prosesau sy’n helpu i ddiogelu a chefnogi dysgwyr 16 i 18 oed mewn colegau yng Nghymru. Mae’n dilyn 'dydyn ni ddim yn dweud wrth ein hathrawon' (Estyn) sef adolygiad tebyg o ysgolion uwchradd a gyhoeddwyd yn 2021.

Crynodeb o'r prif gasgliadau

At ei gilydd, mae aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr 16 i 18 oed mewn colegau yn gymhleth ac wedi’i dangofnodi.

Mae dysgwyr addysg bellach yn cydnabod llawer o enghreifftiau o aflonyddu rhywiol fel ymddygiad maent naill ai wedi’i weld neu ei brofi eu hunain. Sylwadau neu jôcs rhywiol digroeso (naill ai wyneb-yn-wyneb neu ar-lein) neu sylwadau cas am gorff, rhywedd, rhywioldeb neu olwg rhywun i achosi cywilydd, gofid neu fraw yw’r mathau mwyaf cyffredin. Mae dysgwyr benywaidd a LHDTC+ yn aml yn cael sylwadau digroeso am eu golwg neu sut maent yn edrych.

Mae’r adroddiad yn nodi bod aflonyddu rhywiol yn cael ei gyflawni’n fwyaf cyffredin gan grwpiau lle mae diwylliant siofinaidd wedi ffurfio, gan amlaf mewn meysydd galwedigaethol neu gwricwlaidd, timau chwaraeon a grwpiau cymdeithasol sydd wedi’u dominyddu gan wrywod. Mae’r achosion mwyaf difrifol yn digwydd mewn lleoliadau cymdeithasol y tu allan i’r coleg lle mae yfed a chamddefnyddio sylweddau yn digwydd.

At ei gilydd, mae staff mewn llawer o golegau wedi sylwi bod ymddygiad dysgwyr yn gyffredinol waeth ers y pandemig COVID-19, gan iddynt golli allan ar ddatblygiad cymdeithasol yn ystod y cyfnod clo a’r cyfnod o gadw pellter cymdeithasol. Ers COVID-19, mae nifer gynyddol o ddysgwyr wedi cael anawsterau iechyd meddwl gan arwain at achosion ychwanegol o aflonyddu rhywiol, nad oeddent wedi’u cydnabod gynt, yn cael eu datgelu.

Yn gyffredinol, nid oes gan arweinwyr colegau ddarlun clir o raddau aflonyddu rhywiol ymhlith dysgwyr. Maent yn cael trafferth cael amcan cywir o faint y broblem oherwydd y cyfraddau isel o achosion y rhoddir gwybod amdanynt a’r diffyg eglurder ymhlith aelodau staff, a dysgwyr yn benodol, ynghylch diffiniad aflonyddu rhywiol. Mae llawer o ddysgwyr yn dueddol o beidio â rhoi gwybod am achosion o aflonyddu rhywiol am resymau amrywiol. Mae’r rhain yn cynnwys teimlo bod y mathau hyn o ymddygiad wedi’u normaleiddio, ofn teimlo embaras, diffyg hyder y byddai’r achosion yn cael eu cymryd o ddifrif neu boeni am y posibilrwydd o gael eu hynysu oddi wrth eu grwpiau ffrindiau presennol.

Yn gyffredinol, nid yw colegau yn darparu digon o gyfleoedd dysgu proffesiynol ar gydberthnasoedd iach, aflonyddu rhywiol a chasineb at fenywod.

Argymhellion

Argymhellion 1 i 5

Dylai colegau addysg bellach:

Argymhelliad 1

Sicrhau bod pob dysgwr yn elwa ar gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu a thrafodaethau yn ymwneud â ffurfio a chynnal perthnasoedd iach.

Argymhelliad 2

Datblygu strategaethau i atal a mynd i’r afael ag agweddau a diwylliannau misogynistaidd sy’n datblygu ymhlith grwpiau o ddysgwyr.

Argymhelliad 3

Sicrhau bod yr holl aelodau staff perthnasol yn ymgymryd â dysgu proffesiynol sy’n eu galluogi i nodi ac ymateb yn hyderus i aflonyddu rhywiol, yn ogystal â helpu dysgwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth o berthnasoedd iach.

Argymhelliad 4

Sicrhau bod pob dysgwr yn teimlo’n ddiogel ac yn gyfforddus ym mhob ardal o adeiladau, tir, mannau rhithiol a thrafnidiaeth y coleg.

Argymhelliad 5

Cofnodi, categoreiddio a dadansoddi achosion o aflonyddu, ymosodiadau a cham-drin rhywiol mewn ffordd gyson sy’n galluogi arweinwyr i nodi tueddiadau a chymryd camau priodol i ymateb iddynt.

Ymateb i argymhellion 1 i 5

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi argymhellion 1 i 5 ar gyfer colegau fel y nodir yn adroddiad adolygiad thematig Estyn.

Ar hyn o bryd mae Coleg Caerdydd a'r Fro, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, yn arwain ar brosiect cydweithredol a fydd yn galluogi pob coleg yng Nghymru i edrych yn llawn ar faterion aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion, darparu hyfforddiant, gwerthuso effaith yr hyfforddiant hwnnw, adolygu canllawiau a datblygu dulliau priodol i ddysgwyr adrodd am gam-drin ac aflonyddu rhywiol.

Bydd argymhellion Estyn yn helpu i lunio'r prosiect cydweithredol dros y ddwy flynedd nesaf. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r arweinwyr prosiect i sicrhau bod yr argymhellion yn cael sylw, nodi bylchau yn y ddarpariaeth a darparu cymorth wrth ddatblygu canllawiau, adnoddau a mentrau hyfforddi newydd i helpu i’w rhoi ar waith.

Argymhelliad 6

Dylai Llywodraeth Cymru:

Ei gwneud yn glir pa agweddau ar arweiniad addysg Llywodraeth Cymru yn ymwneud ag aflonyddu rhywiol sy’n berthnasol i golegau addysg bellach a chadarnhau unrhyw wahaniaethau rhwng y gofynion mewn ysgolion a cholegau addysg bellach.

Ymateb i argymhelliad 6

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhelliad hwn fel y nodir ar adroddiad adolygiad thematig Estyn.

Mae Llywodraeth Cymru, gyda rhanddeiliaid, yn datblygu cynllun gweithredu sy'n amlinellu'r camau y bydd Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r mater o aflonyddu rhywiol cyfoedion mewn lleoliadau addysg. Bydd yr argymhellion sy'n codi o'r adolygiad hwn yn llywio'r cynllun. Bydd hyn yn cynnwys cefnogi'r gwaith cydweithredol gan y sector addysg bellach i ddatblygu adnoddau, dysgu proffesiynol ac ymchwil i sicrhau dull cyson o fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol mewn colegau. Disgwylir i'r cynllun gweithredu gael ei gyhoeddi yn hydref 2023.

Bydd yr adolygiad o ganllawiau Cadw Dysgwyr yn Ddiogel yn nodi lle mae angen arweiniad mwy penodol ar gyfer addysg bellach.

Mae gwaith eisoes yn cael ei wneud i fynd i'r afael â'r gwahaniaethau yn y ddarpariaeth o hyfforddiant sy'n ofynnol ar gyfer addysg bellach, ac yn ddiweddar mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu gwaith dan arweiniad y sector i greu modiwlau hyfforddiant diogelu yn benodol ar gyfer staff Addysg Bellach. Bydd y modiwlau sy’n cael eu creu yn cyd-fynd â'r canllawiau Cadw Dysgwyr yn Ddiogel 283/2022, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru, canllawiau Gweithdrefnau Diogelu Cymru a Chanllaw Ymarfer Cymru Gyfan.

Bydd modiwlau ar gael i'w defnyddio yn y sector Addysg Bellach o fis Medi 2023 ymlaen.

Argymhelliad 7

Darparu arweiniad priodol i golegau i’w helpu i fabwysiadu ymagwedd gydlynus a chyson tuag at gofnodi a chategoreiddio achosion o aflonyddu rhywiol.

Ymateb i argymhelliad 7

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r argymhellion hyn ar gyfer colegau fel y nodir yn adroddiad adolygiad thematig Estyn.

Mae trafodaethau parhaus yn cael eu cynnal gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid y sector i nodi a datblygu prosesau cofnodi a monitro pellach sy'n gysylltiedig ag argymhelliad 5. Bydd swyddogion yn gweithio gyda'r colegau partner sy'n ymwneud â'r prosiect cydweithredol a amlinellir uchod, i nodi'r lefel a'r math o ganllawiau a fyddai'n fwyaf defnyddiol i helpu i sefydlu dull gweithredu mwy cyson.

Manylion cyhoeddi

Cyhoeddir yr adroddiad yma ar wefan Estyn ar 07 Mehefin 2023.