Feirws heintus iawn sy'n effeithio ar foch yw Clwy Affricanaidd y Moch (ASF). Mae'n effeithio ar foch domestig, moch fferal a baedd gwyllt. Mae'n glefyd hysbysadwy.
Ni chofnodwyd achos o ASF ym Mhrydain Fawr erioed.
Nid yw ASF yn drosglwyddadwy i bobl ac nid yw'n berygl i iechyd pobl ond gall effeithio'n ddinistriol ar boblogaethau moch a'r economi ffermio. Mae'r clefyd yn fygythiad difrifol i ddiwydiant moch y DU.
Mae arwyddion clinigol ASF bron yn union yr un fath â chlwy clasurol y moch (CSF). Dim ond trwy brawf diagnostig y gellir gwahaniaethu'r ddau glefyd. Fodd bynnag, mae'r ddau yn glefydau hysbysadwy a rhaid rhoi gwybod amdanynt.
Y sefyllfa ddiweddaraf
Mae firws ASF wedi'i nodi mewn rhannau o Ewrop, Asia ac Affrica. Mewn ardaloedd yr effeithir arnynt mae'r clefyd wedi'i gadarnhau mewn baedd gwyllt, yn ogystal ag ar ffermydd, tyddynnod ac mewn moch anwes.
Mae'r asesiad risg diweddaraf ar gyfer ASF mewn baedd gwyllt a moch domestig yn Ewrop i'w weld ar dudalen Clwy Affricanaidd y moch mewn moch a baedd gwyllt yn Ewrop (ar gov.uk).
Amheuon a chadarnhad
Mae ASF yn glefyd anifeiliaid hysbysadwy. Os ydych chi'n meddwl y gall ASF fod ar eich anifeiliaid, cysylltwch a'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar 0300 303 8268 ar unwaith.
Bydd milfeddygon yr Asiantaeth yn archwilio'r achosion hyn.
Os bydd y clefyd yn cael ei gadarnhau, bydd yr achosion yn cael eu rheoli yn unol â Chynllun Wrth Gefn Llywodraeth Cymru ar gyfer Clefydau Hysbysadwy Egsotig Anifeiliaid a'r Strategaeth Rheoli ar gyfer Clwy Affricanaidd a Chlasurol y Moch ar gyfer Prydain Fawr (ar gov.uk).
Arwyddion clinigol
Gall ASF ymddangos ar ffurf acíwt, cronig ac ysgafn. Gall y ffurf acíwt achosi clefyd difrifol ac yn gyffredinol mae'n angheuol.
Mae arwyddion clinigol ASF bron yr un fath â chlwy clasurol y moch (CSF) a dim ond trwy brofion diagnostig labordy y gellir eu gwahaniaethu'n ddibynadwy.
Y prif arwyddion clinigol yw:
- twymyn
- iselder
- methu codi
- colli archwaeth
- dim egni
- marwolaeth sydyn gydag ond ambell arwydd ymlaen llaw
Mae'r arwyddion eraill yn cynnwys:
- croen coch neu dywyll, yn enwedig ar y clustiau a'r trwyn
- gollyngiadau o'r llygaid a'r trwyn
- anadlu llafurus a pheswch
- cyfogi
- dolur rhydd
- perchyll yn cael eu herthylu a'u geni cyn pryd, a thoreidiau gwan
- gwendid
- cerdded ansefydlog
Mae Defra wedi cyhoeddi lluniau o arwyddion clinigol ASF (ar flickr.com).
Trosglwyddo
Mae ASF yn heintus iawn a gellir ei ledaenu i foch iach drwy:
- gysylltiad â moch heintiedig, eu tail a'u hylifau
- moch sy'n bwyta cig heintus neu gynhyrchion cig
- cysylltiad ag unrhyw beth sydd wedi'i halogi â'r feirws gan gynnwys pobl, eu dillad, cerbydau ac offer arall
Gall ASF a CSF oroesi mewn cig a chynhyrchion cig, gan gynnwys cynhyrchion wedi'u rhewi a'u halltu, am fisoedd neu flynyddoedd.
Dylai ffermwyr moch gofio ei bod yn anghyfreithlon bwydo moch ag unrhyw fath o wastraff cegin yn y DU. Yng Nghymru, mae'r gyfraith yn cael ei gorfodi o dan Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Cymru) 2014 (ar legislation.gov.uk).
Atal a rheoli
Dylech roi mesurau bioddiogelwch llym ar waith i atal y feirws rhag lledaenu. Mae hynny'n cynnwys:
- gwisgo dillad ac esgidiau amddiffynnol, a darparu'r rhain i unrhyw ymwelwyr fferm neu weithwyr
- darparu deunyddiau glanhau a diheintio ar gyfer pob ymwelydd fferm neu weithiwr
- glanhau a diheintio cerbydau ac offer
- gwaredu gweddillion neu wastraff bwyd mewn biniau diogel na all moch neu fywyd gwyllt gael mynediad iddynt
- sicrhau bod da byw yn dod o ffynonellau cyfrifol
- parhau i fod yn wyliadwrus o arwyddion o glefydau
- rhoi mesurau bioddiogelwch llym ar waith
Deddfwriaeth
Mae'r ddeddfwriaeth sy'n ymdrin ASF yng Nghymru ar wefan legislation.gov.uk yn cynnwys:
- Rheoliadau Clefydau Pysgod 2014 (ar legislation.gov.uk)
- Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2011 (ar legislation.gov.uk)
- Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003 (ar legislation.gov.uk)
- Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Cymru) 2010 (ar legislation.gov.uk)
- Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Cymru) 2014 (ar legislation.gov.uk)
- Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Rheoli Clefydau) (Cymru) 2008 (ar legislation.gov.uk)
