Neidio i'r prif gynnwy

Mae Lesley Griffiths, wedi cadarnhau y bydd cynllun gwerth £6 miliwn ar gyfer meithrin y genhedlaeth nesaf o ffermwyr yn dechrau derbyn ceisiadau o heddiw ymlaen

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cynllun Ymsefydlu mewn Amaeth i Bobl Ifanc yn rhoi cymorth ariannol i unigolion llwyddiannus sydd am sefydlu busnes neu ddatblygu busnes sydd eisoes yn bod.  Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus allu dangos  bod ganddynt y rhinweddau i arwain busnesau deinamig ac ysgogi newid yn y diwydiant ehangach.

Bydd y cynllun y cytunwyd arno fel rhan o gytundeb y gyllideb â Phlaid Cymru yn cefnogi 150 o ffermwyr ac yn datblygu eu sgiliau arweinyddiaeth.

Mae'n rhaid i'r ymgeiswyr cymwys fod o dan 40 oed ar 1 Ebrill 2018. Bydd gofyn cyflwyno datganiadau o ddiddordeb erbyn 12 Mehefin a dim ond un cyfnod ymgeisio fydd yn cael ei gynnal. 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:  

"Mae cefnogi'r genhedlaeth nesaf o ffermwyr yn flaenoriaeth allweddol i mi ac mae hyn bellach yn bwysicach nag erioed wrth i ni baratoi i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. 

"Bydd y cynllun hwn yn sicrhau bod pobl ifanc yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt ar gyfer ymuno â'r diwydiant a meithrin y sgiliau sydd eu hangen arnynt i sefydlu busnesau cydnerth a chynaliadwy. Hoffwn annog pobl ifanc i fanteisio ar y cyfle hwn a chyflwyno cais. 

"Rwyf hefyd wedi sefydlu Fforwm Pobl Ifanc mewn Amaeth i ategu'r cynllun pwysig hwn. Gwnes gyfarfod ag aelodau'r Fforwm hwn yr wythnos ddiwethaf er mwyn holi eu barn a thrafod y cyfleoedd datblygu y byddai'r Fforwm yn eu cynnig iddynt. Bydd y Fforwm yn ein helpu i ddatblygu ymhellach berthynas hirdymor gyda phobl ifanc sy'n anelu at fod yn uwch arweinwyr y dyfodol ym maes amaeth yng Nghymru. 

"Dyma'r amser i baratoi ar gyfer yr heriau a fydd ynghlwm wrth Brexit. Rydym ni, fel Llywodraeth, yn gweithio'n galed i gefnogi'r diwydiant fel y gall baratoi ac ymgryfhau. Bydd y cynllun hwn ynghyd â'r Fforwm Pobl Ifanc yn helpu'r genhedlaeth nesaf o ffermwyr i sicrhau bod eu busnesau a hefyd y diwydiant ehangach yn y sefyllfa orau bosibl i ffynnu ar ôl Brexit."