Neidio i'r prif gynnwy

Bydd dau gynllun newydd i helpu rhagor o bobl yng Nghymru i brynu eu cartref eu hunain yn cael eu lansio gan Rebecca Evans AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio, y bore 'ma.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd gwybodaeth ar gael ar ein gwefan newydd, Eich Cartref yng Nghymru, ynghylch y ddau gynllun sef Rhentu i Berchnogi – Cymru a Rhanberchnogaeth – Cymru i helpu pobl i benderfynu pa un o'r ddau gynllun all eu helpu i fynd ar yr ysgol i brynu cartref. 

Bydd Rhentu i Berchnogi – Cymru yn helpu pobl sy'n gallu fforddio taliadau misol ond sydd heb gynilo digon i dalu blaendal morgais. Bydd Rhanberchnogaeth – Cymru yn helpu pobl sydd â blaendal bychan ac sy'n gallu cael morgais ar gyfran o werth yr eiddo. 

Nid ar gyfer pobl sy'n prynu am y tro cyntaf yn unig y mae'r cynlluniau, fodd bynnag. Mae meini prawf wedi'u pennu ar gyfer pobl sydd am wneud cais am y cynlluniau sy'n cynnwys gofyniad bod incwm blynyddol y teulu yn £60,00 neu lai. 

Bydd Rebecca Evans, y Gweinidog Tai ac Adfywio, yn ymweld â chartref newydd yn Kennard Point, Crymlin, datblygiad gan y Grŵp Pobl, lle bydd cartrefi ar gael o dan y ddau gynllun. 

Dywedodd Rebecca Evans: 

"Mae Cymorth i Brynu Cymru wedi bod yn gynllun llwyddiannus ac wedi helpu llawer o bobl yng Nghymru sydd â 5% o flaendal i brynu eu cartref. Er hynny, mae yna lawer o bobl sy'n gweithio'n galed ac sy'n ei chael hi'n anodd cynilo ar gyfer blaendal. Rydyn ni'n gwbl ymrwymedig i gefnogi pobl i gymryd y cam cyntaf anodd hwnnw tuag at brynu eu cartref yng Nghymru.

“Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £70 miliwn yn y cynlluniau Rhentu i Berchnogi a Rhanberchnogaeth yn rhan o'n hymrwymiad i adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy erbyn 2021. 

"Ar hyn o bryd, dim ond ychydig o eiddo sydd ar gael i'w prynu drwy'r cynlluniau Rhentu i Berchnogi – Cymru a Rhanberchnogaeth – Cymru, ac rydyn ni'n gweithio gyda chymdeithasau tai ledled Cymru i sicrhau y bydd rhagor ar gael cyn hir. 

“Os oes gennych ddiddordeb mewn prynu eiddo o dan y naill gynllun neu'r llall yna ewch i wefan Eich Cartref yng Nghymru i weld ble mae cartrefi ar gael neu fe allwch gofrestru i dderbyn e-byst pan ddaw eiddo ar gael yn eich ardal chi.

"Bydd y cynlluniau hyn yn helpu pobl heddiw i fynd ar yr ysgol i brynu cartref; yn hytrach na threulio blynyddoedd yn cynilo am flaendal felly fe allant dreulio'r blynyddoedd hynny yn byw yn eu cartref." 

Dywedodd Hayley Macnamara, Rheolwr Polisi a Rhaglenni Tai Cymunedol Cymru:

“Rydyn ni’n croesawu’r buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru ar ffurf grant i helpu cymdeithasau tai i ddatblygu eiddo o dan y cynlluniau Rhentu i Berchnogi a Rhanberchnogaeth. Drwy helpu pobl sy’n ei chael hi’n anodd cynilo tuag at gael blaendal, mi fydd hyn yn help i’r bobl hynny ar gyllidebau isel i adael y farchnad rhentu preifat a phrynu eu cartref eu hunain. Yn bwysig iawn hefyd, bydd hefyd yn creu llif o incwm all gael ei ailfuddsoddi yn y sector tai cymdeithasol.

“Fel sector, rydyn ni wedi ymrwymo’n llwyr i gwrdd â’r targed o adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy erbyn 2011. Rydyn ni felly’n gweithio’n agos â Llywodraeth Cymru i ddatblygu modelau effeithiol megis Rhentu i Berchnogi a fydd yn ein helpu i wireddu’n gweledigaeth o sicrhau bod gan bawb yr hawl i gartref o safon.”

Dywedodd Kathryn Edwards, Rheolwr Gyfarwyddwr Grŵp Pobl ar gyfer Tai a Chymunedau:

“Rydyn ni wrth ein bodd bod Llywodraeth Cymru wedi dewis Kennard Point i gyhoeddi’r buddsoddiad grant sylweddol hwn.

"Mae rhanberchnogaeth yn ffordd boblogaidd a fforddiadwy o brynu eiddo am y tro cyntaf erbyn hyn. Ond, mae’r cyllid ychwanegol hwn o £70m, ynghyd â chyflwyno cynllun Rhentu i Berchnogi, yn golygu bod gan bobl yng Nghymru hyd yn oed fwy o ddewis o ran sut a phryd y maen nhw’n prynu cartref, a does dim angen iddyn nhw roi’r gorau ar eu dyhead o berchen ar gartref eu hunain.”