Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

Mae clinig arbenigol i fenywod sy’n darparu cefnogaeth wedi’i deilwra ar gyfer y menopos a perimenopos yn agor yng Nghaerdydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yr hwb iechyd menywod yw’r cyntaf o’i fath yn y Brifddinas ac mae wedi’i deilwra ar gyfer menywod rhwng 40 a 65 oed.

Yr wythnos hon, cafodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy, y cyfle i ymweld â Hwb Menopos Dwyrain Caerdydd i glywed rhagor am y gwasanaeth newydd fydd yn darparu cyngor, triniaeth a chymorth cymunedol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn mewn un lle.

Mae’n rhan o rwydwaith o hybiau iechyd menywod ar draws y wlad sydd wedi agor yn ystod y cyfnod cyntaf o roi Cynllun Iechyd Menywod ar waith.

Gall menywod sydd wedi’u cofrestru ag un o bractisau Clwstwr Meddygon Teulu Dwyrain Caerdydd gael ymgyngoriadau estynedig 20 munud o hyd, naill ai wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu ar-lein, a hynny gyda meddygon teulu sydd â phrofiad mewn gofal menopos, ynghyd â chymorth iechyd ehangach gan nyrsys practis gan gynnwys gwiriadau pwysedd gwaed, cyngor ar ffordd o fyw a chanllawiau ar therapi adfer hormonau (HRT).

Bydd Caffi Menopos, sydd ar agor i fenywod o unrhyw oed, hefyd yn darparu gofod cymunedol croesawgar ar gyfer rhannu profiadau a gofyn cwestiynau.

Dywedodd Sarah Murphy:

Roedd yn wych cael ymweld â hwb Maelfa a gweld drosof fy hun sut y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn dod â gofal tosturiol o ansawdd uchel yn nes at y cartref i fenywod yn Nwyrain Caerdydd.

Bydd hybiau iechyd menywod yn ei gwneud hi’n haws i fenywod yng Nghymru gael gofal pan fydd ei angen arnyn nhw.

Wrth i’r hybiau braenaru gael eu lansio, byddwn yn gwrando ar adborth gan fenywod ac yn addasu i wneud yn siŵr ein bod yn adeiladu gwasanaeth iechyd sy’n diwallu anghenion menywod a merched, nawr ac ar gyfer cenedlaethau i ddod.

Ychwanegodd Claire Beynon, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro:

Mae gormod o fenywod yn teimlo nad ydyn nhw’n cael cymorth neu’n teimlo nad oes neb yn gwrando arnyn nhw pan fyddan nhw’n ceisio cael help ar gyfer symptomau menopos. Mae Hwb Menopos Dwyrain Caerdydd yn gam cadarnhaol iawn i ddod â gofal tosturiol o ansawdd uchel yn nes at y cartref, gan gynnig apwyntiadau hirach ac arbenigedd sy’n canolbwyntio ar anghenion iechyd menywod.

Drwy gyfuno gofal clinigol â chymorth cymunedol, mae’r gwasanaeth hwn yn helpu menywod i deimlo fel bod ganddyn nhw’r wybodaeth sydd ei angen arnyn nhw, yn hyderus a’u bod yn gallu rheoli eu hiechyd. Mae hefyd yn adlewyrchu ein hymrwymiad ehangach i leihau anghydraddoldebau iechyd.

Erbyn mis Mawrth, bydd hwb iechyd menywod ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru. Yn ystod y flwyddyn ariannol hon, mae pob bwrdd iechyd wedi cael cyllid ychwanegol gwerth £300,000 i gefnogi’r gwaith o ddatblygu’r hybiau.

Mae’r hybiau yn rhan o’r Cynllun Iechyd Menywod, sy’n cynnwys dros 60 o gamau gweithredu i gau’r bwlch iechyd rhwng y rhywiau ac sy’n seiliedig ar adborth gan oddeutu 4,000 o fenywod ledled Cymru.