Neidio i'r prif gynnwy

Mae ysgol Anghenion Addysgol Ychwanegol newydd, sydd werth £13m ac sydd â lle ar gyfer 100 o ddisgyblion, wedi’i hagor yn swyddogol gan Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Ysgol Hafod Lon, ym Mhenrhyndeudraeth, yn amgylchedd dysgu modern ar gyfer disgyblion yn Nwyfor Meirionydd sydd ag amrywiaeth o anghenion ychwanegol.

Mae gan yr ysgol newydd gyfleusterau modern iawn:

  • pwll hydrotherapi
  • ystafelloedd synhwyro
  • ystafell therapi adlam
  • amgylchedd synhwyro allanol
  • lle i chwarae ym mhob tywydd
Mae gan yr ysgol hefyd uned breswyl â 6 gwely – a fydd yn ffordd wych o roi seibiant achlysurol i ddisgyblion a rhieni.

Dyrannwyd y cyllid fel rhan o’r Rhaglen Gyfalaf i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif - rhaglen ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac awdurdodau lleol sydd â’r nod o greu ysgolion sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

Dyfarnwyd £6.5 miliwn i Gyngor Sir Gwynedd tuag at gyfanswm cost y prosiect, sef £13m miliwn.

Gan siarad yn ystod ymweliad â’r ysgol, dywedodd Alun Davies:

“Mae’n anrhydedd cael gweld a’m llygaid fy hun pa mor wych yw’r amgylchedd dysgu sydd wedi’i greu yma, a’r gwahaniaeth y mae’n ei wneud i ddisgyblion a staff.  Dw i’n siŵr y bydd yr amgylchedd hwn, ynghyd ag ymrwymiad y staff, yn  rhoi’r cyfle i’r disgyblion gyflawni eu potensial.

“Dw i’n falch iawn fod ein Rhaglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif  wedi helpu i greu’r ysgol hon - y rhaglen hon yw’r buddsoddiad mwyaf yn ein hysgolion a’n colegau ers y 60au. Caiff £1.4 biliwn ei fuddsoddi dros y bum mlynedd gyntaf.

“Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch pawb sydd wedi bod yn rhan o greu’r ysgol wych hon, a diolch iddynt. Mae hynny’n cynnwys rheolwyr y prosiect, y tîm dylunio a’r tîm adeiladu, Cyngor Sir Gwynedd, cwmni Wynne Construction, a phawb yn yr ysgol ei hun.”