Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Pwrpas y canllawiau hyn yw rhoi cyngor i benaethiaid a darparwyr gofal plant a chwarae am y materion i'w hystyried wrth benderfynu a ddylai ysgol neu leoliad gau neu aros ar agor yn ystod tywydd eithafol o arw a pha weithdrefnau diogelwch ychwanegol y dylid eu rhoi ar waith yn ystod cyfnodau o dywydd eithafol o boeth.

Yn ystod tywydd eithafol o arw, fel llifogydd, stormydd ac eira, neu yn ystod tywydd eithafol o boeth, safbwynt cyffredinol Llywodraeth Cymru yw y dylid cadw ysgolion a lleoliadau gofal plant a chwarae ar agor i gynifer o blant, dysgwyr, neu fyfyrwyr â phosibl. Fodd bynnag, efallai y bydd angen cau dros dro oherwydd hygyrchedd neu risg o anaf.

Mae trosolwg o'r safbwyntiau cyfreithiol y dylid eu hystyried wrth wneud asesiadau deinamig a phenderfyniadau wedi'u cynnwys yn y canllawiau hyn. Mae esboniad o'r term 'deinamig' hefyd wedi'i gynnwys yn yr adran ar agor lleoliadau pan fo’r tywydd yn eithafol o arw.

Fodd bynnag, ni ddylid ystyried bod y canllawiau hyn yn disodli gofyn am gyngor cyfreithiol eich hun gan yr awdurdod lleol neu berson cymwys arall.

Rhennir y canllawiau yn adrannau i ymdrin â materion sy'n berthnasol i agor a chadw ysgolion a lleoliadau gofal plant a chwarae ar agor mewn tywydd eithafol o arw, yn ogystal ag ystyriaethau a mesurau lliniarol y mae eu hangen mewn ysgolion a lleoliadau yn ystod cyfnodau o dywydd eithafol o boeth.

Darperir canllawiau ac ystyriaethau ar gyfer tywydd eithafol o arw ac eithafol o boeth yn Atodiad A.

Mae Atodiad B ac Atodiad C yn darparu asesiadau risg cyffredinol y gall penaethiaid a darparwyr gofal plant a chwarae eu haddasu i weddu i amgylchiadau pob ysgol a lleoliad. Mae'r deunydd hwn yn rhoi ymwybyddiaeth fanwl o'r peryglon posibl i arweinwyr, yn ogystal â thempled asesu risg cyffredinol ar gyfer cofnodi'r manylion penodol a fydd wedi llywio penderfyniad i gau neu agor ysgol neu leoliad unigol. Dylai unrhyw un sy'n defnyddio'r rhain ymgynghori ag yswiriwr yr ysgol neu'r lleoliad i ganfod gofynion yr yswiriwr ynglŷn â dadansoddiad risg. Dylai cyrff llywodraethu a phwyllgorau gwirfoddol hefyd ystyried gofynion yswiriwr wrth osod polisi neu ganllawiau ar gyfer yr ysgol neu’r lleoliad.

Agor neu gau ysgol neu leoliad yn ystod tywydd eithafol o arw

Asesu'r risgiau

Mae'r penderfyniad i agor neu gau ysgol neu leoliad gofal plant neu chwarae yn ystod tywydd eithafol o arw yn ddibynnu ar y pennaeth neu ddarparwr gofal plant a chwarae yn cynnal asesiad risg deinamig.

Ystyr 'deinamig' yw y dylid diweddaru'r asesiad risg mor aml ag y mae’r amodau neu’r amgylchiadau yn newid o ran y tywydd. Ni fyddai'r asesiad hwn o reidrwydd yn cael ei ysgrifennu ond byddai'r pennaeth neu’r rheolwr yn meddwl amdano’n drylwyr gan ddefnyddio'r meini prawf yn Atodiad A.

Mae'r amser lle mae angen asesiad risg deinamig i benderfynu cau neu agor yn eithaf cyfyng, a dyma pam mae angen meddwl amdano yn hytrach na'i ysgrifennu. Fodd bynnag, byddai bod yn ymwybodol o'r asesiad risg cyffredinol a'i rannau cysylltiedig yn galluogi'r pennaeth neu'r darparwr gofal plant a chwarae i greu ei asesiad risg cyffredinol ei hun. Dylai'r ddau, neu'r olaf, fod yn help i wneud y penderfyniad cywir ar y dydd.

Cau ysgolion dros dro pan fo’r tywydd yn eithafol o arw

Pan fo ysgolion wedi cau dros dro yn ystod tywydd eithafol o arw, dylid ystyried darparu dysgu o bell tra bo’r ysgol ar gau, yn unol â chanllawiau parhad dysgu Llywodraeth Cymru.

Nid yw darparu addysg o bell yn newid yr angen i aros ar agor nac i ailagor cyn gynted ag y bo modd, ar yr amod ei bod yn ddiogel i wneud hynny.

Nid oes disgwyl i leoliadau gofal plant neu chwarae gynnig darpariaeth o bell.

Darperir dolenni gwe at ganllawiau pellach ar iechyd a diogelwch ac at wefannau defnyddiol yn y canllaw hwn.

Ailagor

Mae'n bwysig ailagor cyn gynted â phosibl, ar yr amod ei bod yn ddiogel i wneud hynny.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhoi cyngor pellach ar ddigwyddiadau tywydd eithafol.

Cael cefnogaeth ychwanegol

Os bydd tywydd eithafol o arw, er enghraifft llifogydd, wedi effeithio'n sylweddol ar ysgol neu leoliad gofal plant neu chwarae, a bod angen cymorth ychwanegol, bydd awdurdodau lleol yn gallu helpu i ailagor yr ysgol neu leoliad cyn gynted a mor ddiogel â phosibl.

Tywydd eithafol o boeth

Bydd gan ysgolion yn ogystal â lleoliadau gofal plant a chwarae gynlluniau ar waith i ddelio â thywydd eithafol gan gynnwys ymdrin â thywydd cynnes neu eithafol o boeth. Rydym yn gwybod bod gallu plant i ymdopi â thymheredd uchel yn amrywio. Ymhlith y grwpiau y gwyddom eu bod mewn mwy o berygl o ddioddef effeithiau andwyol oherwydd tywydd poeth iawn mae’r canlynol:

  • y rhai sy’n pwyso gormod
  • y rhai sy'n cymryd meddyginiaeth
  • rhai plant ag anableddau neu anghenion iechyd cymhleth
  • plant o dan 4 oed

Camau i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel

Dylai pob ysgol a lleoliad sicrhau eu bod yn cymryd y camau angenrheidiol i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel, dan do ac yn yr awyr agored.

Ar ddiwrnodau hynod o boeth byddem yn cynghori ysgolion a lleoliadau fel a ganlyn:

  • osgoi gweithgarwch corfforol egnïol
  • sicrhau po fwyaf o gysgod â phosibl, gan gyfyngu ar amser yn yr haul yn ystod gweithgareddau awyr agored
  • cynyddu faint mae’r plant yn ei yfed, gan sicrhau bod poteli dŵr yn cael eu hail-lenwi'n rheolaidd
  • cynyddu awyru i’r eithaf, gan agor ffenestri ac agoriadau eraill at awyr iach yng ngwres llai y bore cynnar a pheidio â'u cau ond eu cadw’n gil agored pan fydd gwres yr awyr agored yn mynd yn gynhesach na'r awyr dan do
  • defnyddio adlenni, gorchuddion haul, neu fleinds dan do lle maent ar gael
  • atal unrhyw wres ychwanegol rhag cael ei gynhyrchu drwy wneud y defnydd lleiaf posibl o oleuadau trydan ac unrhyw offer trydanol, gan gynnwys cyfrifiaduron, monitorau ac argraffwyr, a'u diffodd pan nad ydynt yn cael eu defnyddio yn hytrach na'u gadael ar y 'modd segur’

Dyma gamau lliniarol eraill y gellir eu cymryd:

  • gofyn i rieni neu ofalwyr sicrhau bod eu plant yn gwisgo dillad llac, lliw golau  os oes modd
  • sicrhau bod hetiau ac eli haul yn cael eu gwisgo yn yr awyr agored

Mae rhagor o gyngor ar dywydd eithafol o boeth ar gael gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer y cyhoedd a'r rhai sy'n gofalu am blant.

Gorludded gwres a thrawiad gwres

Dylai ysgolion yn ogystal â lleoliadau gofal plant a chwarae sicrhau eu bod yn gyfarwydd ag arwyddion gorludded gwres a thrawiad gwres, yn ogystal â'r camau i'w cymryd pe bai unrhyw un yn eu cymuned ddysgu, gan gynnwys y rhai sy'n gweithio o bell, yn dangos arwyddion o gorludded gwres neu drawiad gwres.

Mae canllawiau pellach ar hyn i'w gweld ar wefan y GIG (Saesneg yn unig).

Dylid trin trawiad gwres fel argyfwng bob amser.

Mesurau diogelwch ychwanegol

Mewn amgylchiadau eithafol, gall awdurdodau lleol benderfynu pa fesurau diogelwch ychwanegol y gellir eu gweithredu o fewn ysgolion ar sail eu hasesiad lleol eu hunain o'r risg.

Dylai cyfarwyddwyr addysg awdurdodau lleol fod yn ymwybodol o'r rhybuddion a'r cyngor sydd ar waith a dylent rannu'r wybodaeth hon gydag ysgolion.

Cyfreithiau a dyletswyddau perthnasol

Agor a chau ysgolion yn ystod tywydd eithafol o arw

Yn unol â Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000 mae'r pennaeth yn gyfrifol am drefniadaeth mewnol, rheolaeth a rheoli tir ac adeiladau'r ysgol.

Cyfrifoldeb y pennaeth yw penderfynu i agor neu gau ysgol neu leoliad yn ystod tywydd eithafol o arw, er y gall y pennaeth neu’r rheolwr ddewis ymgynghori â'r awdurdod lleol a chadeirydd y llywodraethwyr am gyngor o bosibl cyn gwneud penderfyniad.

Y rhesymeg tu ôl i’r polisi hwn yw mai'r pennaeth yw'r uwch reolwr yn y fan a'r lle ac felly hefyd y person mwyaf addas i wneud penderfyniad, gan ei fod mewn gwell sefyllfa na gwneuthurwr penderfyniadau o bell.

Mae gan awdurdodau lleol bwerau i gau ysgolion yn rhinwedd Rheoliadau Rheoli Mangreoedd Ysgol 2008 ac adran 29(5) o Ddeddf Addysg 2002. Caiff awdurdodau gyfarwyddo ysgolion (ac eithrio ysgolion sylfaen, ysgolion sylfaen arbennig ac ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir) i gau ar sail diogelwch. Mae'r cyfarwyddyd hwn yn drech na barn y pennaeth. Fodd bynnag, ni all awdurdodau lleol fynnu bod unrhyw ysgol yn aros yn agored nac yn agor.

Ni chaniateir i awdurdodau lleol gyfarwyddo ysgolion sylfaen, ysgolion sylfaen arbennig nac ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir i gau. Fodd bynnag, rhaid i bob ysgol gydymffurfio â pholisïau'r corff llywodraethu ar iechyd a diogelwch a'u gweithredu. Dyletswydd y corff llywodraethu yw cynnal asesiad risg a sefydlu trefniadau i reoli iechyd a diogelwch mewn ysgolion o'r fath. O ran yr ysgolion cymunedol ac ysgolion gwirfoddol a reolir yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am wneud hyn.

Bydd angen i leoliadau gofal plant wneud eu penderfyniadau eu hunain a ydynt am agor neu gau. Fodd bynnag, mae Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 yn ei gwneud yn glir bod rhaid i'r darparwr sicrhau bod risgiau diangen yn cael eu nodi a’u dileu, cyn belled ag y bo modd. Mae disgwyl i leoliadau gofal plant a chwarae wneud asesiadau risg i gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau. Dylai penderfyniadau sy'n cael eu gwneud o ganlyniad i'r asesiad risg gael eu cyfleu'n glir i staff a theuluoedd.

Tymheredd adeiladau

O ran tymheredd adeilad ysgol, yn unol â Rheoliadau Addysg (Mangreoedd Ysgol) 1999 (Cylchlythyr 15/99), rhaid cadw'r gwahanol rannau o'r adeilad i'r tymheredd canlynol lle mae'r tymheredd y tu allan yn -1°C:

  • mewn man lle mae lefel gweithgarwch corfforol is na’r arfer (e.e. ystafell cleifion) dylid cadw’r tymheredd yn 21°C
  • mewn ystafell ddosbarth lle mae lefel gweithgarwch corfforol arferol cysylltiedig ag addysgu, astudio preifat neu arholiadau dylid cadw’r tymheredd yn 18°C
  • mewn man lle mae lefel gweithgarwch corfforol uwch na’r arfer (e.e. campfa ysgol) dylid cadw’r tymheredd yn 15°C

O fewn lleoliadau gofal plant, mae Safon 22: Amgylchedd y 'Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant i blant hyd at 12 oed' yn nodi’r gofyniad:

...bod tymheredd ystafelloedd yn cael ei gynnal ar o leiaf 18 gradd canradd (65 gradd Fahrenheit).

Sesiynau a gollwyd

Dylid hefyd ystyried y Rheoliadau Addysg (Diwrnod Ysgol a Blwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003:

4. (3) Pan rwystrir ysgol ar unrhyw adeg rhag cyfarfod am un neu fwy o sesiynau y bwriadwyd iddi gyfarfod, ac nad yw'n rhesymol ymarferol gwneud trefniadau iddi gyfarfod ar adeg wahanol ar gyfer y sesiynau hynny, ymdrinnir â'r ysgol at ddibenion paragraff (2) fel pe bai wedi cyfarfod yn unol â'r bwriad.

Dyletswydd gofal

Mae athrawon a staff eraill mewn ysgolion yn gofalu am eu dysgwyr yn lle'r rhiant neu'r gofalwr (in loco parentis). Mae hyn yn golygu, tra fo’r dysgwyr o dan eu rheolaeth a'u gofal, mae athrawon a staff eraill o dan rwymedigaeth gyfreithiol i drin a chymryd yr un gofal ohonynt ag y byddai rhiant neu ofalwr gofalus.

Mae'r ddyletswydd hon yn amlwg yn berthnasol pan fo dysgwyr ar safle ysgol. Bydd y ddyletswydd yn berthnasol hefyd pan fo dysgwyr yn teithio i’r ysgol ac adref ar fws ysgol.

Pan fo plant a phobl ifanc yn teithio i’r ysgol neu leoliad ac adref ar drafnidiaeth gyhoeddus, nid oes rheswm amlwg pam y dylai'r ddyletswydd honno fod ar waith. Fodd bynnag, gall llawer ddibynnu ar yr amgylchiadau penodol. Er enghraifft, pe bai'r ysgol yn darparu 'hebryngwyr bysiau' ar wasanaeth bysiau cyffredin yna gall llys ystyried hynny yn arwydd fod yr awdurdod lleol a/neu'r ysgol wedi derbyn cyfrifoldeb dros ofalu am ddysgwyr ar y bws hwnnw. Bydd y ddyletswydd hefyd yn berthnasol pan fydd dysgwyr yn mynychu taith ysgol neu leoliad i ffwrdd o safle’r ysgol neu'r lleoliad.

Mae'n rhaid i ddarparwyr gofal plant a chwarae fodloni gofynion deddfwriaethol i sicrhau diogelwch a lles unrhyw blant sydd yn eu gofal. Mae hyn yn cynnwys nid yn unig yr amser pan fyddant ar safle’r lleoliad gofal plant ond hefyd pan fyddant ar unrhyw deithiau i ffwrdd o'r lleoliad, ac ar unrhyw gludiant sy'n cael ei ddarparu gan y lleoliad.

Dogfennau cysylltiedig

Mae rhagor o wybodaeth am faterion iechyd a diogelwch, gan gynnwys canllawiau ymweliadau addysgol, ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (rhai dogfennau yn unig yn Gymraeg).

Mae’r isod yn ddolenni gwe defnyddiol eraill: