Neidio i'r prif gynnwy

Mae cyfleusterau newydd mewn meithrinfa yn Ysgol Gynradd Mount Pleasant a gafodd eu hariannu gan Lywodraeth Cymru wedi’u hagor yn swyddogol gan yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Estynnwyd y cyfleusterau yn ysgol Rogerstone ar ôl i Weinidogion neilltuo £500,000 tuag at gynllun gwerth £1 filiwn i ddarparu cyfleusterau meithrin yng Nghasnewydd.

Mae’r symudiad yn rhan o gyfraniad Llywodraeth Cymru o £14 miliwn i Gasnewydd a buddsoddiad o £28 miliwn i ysgolion y ddinas drwy Raglen Addysg ac Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Dywedodd Kirsty Williams:

“Pleser yw cael agor y cyfleusterau newydd hyn yn swyddogol. Bydd y cyfleusterau yn caniatáu i blant o dan oed ysgol symud yn eu blaen o’r dosbarth meithrin i ddechrau ar eu haddysg gynradd ar yr un safle.

“Mae’r feithrinfa newydd ac estynedig yn rhan o’n buddsoddiad o £1.4 biliwn ar draws Cymru. Dyma arian y bydd dros 150 o ysgolion yn elwa arno a chaiff yr arian ei ddefnyddio i greu’r math cywir o amgylchedd i’n disgyblion a fydd yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.”

Mae chwe chynllun yn rhan o becyn gwerth £28 miliwn Rhaglen Addysg ac Ysgolion yr 21ain Ganrif yng Nghasnewydd. Mae’r cynlluniau’n cynnwys darpariaeth feithrin ychwanegol, darpariaeth cyfrwng Cymraeg ac adeiladau newydd yn lle adeiladau dros dro mewn chwe ysgol.