Trosolwg o Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.
Cynnwys
Overview
Mae Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 (y Ddeddf) yn darparu fframwaith statudol newydd ar gyfer Rheoli Tir yn Gynaliadwy (RhTG) yng Nghymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu’r amcanion RhTG fel y prif fframwaith ar gyfer polisi amaethyddol, drwy osod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i arfer swyddogaethau penodol yn y ffordd y maent yn ystyried sy’n cyfrannu at orau at gyflawni’r amcanion hynny. Mae’r Ddeddf hefyd:
- yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru ddarparu cymorth ar gyfer amaethyddiaeth, ac mewn cysylltiad ag amaethyddiaeth;
- yn caniatáu i denantiaid amaethyddol gael mynediad at weithdrefnau cymrodeddu, mewn amgylchiadau penodol;
- yn newid y ffordd y mae trwyddedau cwympo coed yn gweithio;
- yn gwahardd y defnydd o faglau a thrapiau glud.
Lluniodd y Senedd Grynodeb o’r Bil, sy’n darparu trosolwg defnyddiol pellach o’r Ddeddf:
Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf hefyd yn darparu sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:
Darllenwch y Ddeddf yn llawn:
Dod i rym
Mae adran 56(1), (2) a (3) o’r Ddeddf yn darparu bod gwahanol adrannau o’r Ddeddf yn dod i rym ar ddyddiau penodol. Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf hon i rym pan fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud un neu ragor o orchmynion, yn unol ag adran 56(4):
Mae’r gorchmynion canlynol wedi eu gwneud:
Gorchymyn Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 (Cychwyn Rhif 2) 2024 ar legislation.gov.uk
Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Cyflwynwyd y Bil gan Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, ar 26 Medi 2022 a chafodd ei basio gan Senedd Cymru ar 27 Mehefin 2023.
Mwy o wybodaeth am Ddeddf 2026 a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd ar senedd.cymru.
Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fersiwn derfynol):
Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 17 Awst 2023.
