Neidio i'r prif gynnwy

Y nod yw rhoi enghreifftiau o'r amrywiaeth o ffyrdd o fynd i'r afael â phroblemau cyffredin er mwyn cyfrannu at y drafodaeth yng Nghymru.

Nodau

  • Nodi agweddau ar arferion gorau o bedwar ban byd ac annog cydraddoldeb parch rhwng llwybrau academaidd a galwedigaethol dysgu ôl-16.
  • Nodi sut i drosglwyddo arferion gorau.

Ni all adroddiad fel hyn roi dadansoddiad cyflawn ond mae'n canolbwyntio mwy ar yr agweddau hynny ar systemau addysg a hyfforddiant eraill a all fod yn ddiddorol eu harchwilio ymhellach.

Roedd cyfnod cyntaf y prosiect hwn yn cynnwys rhag-werthusiad o sefyllfa cydraddoldeb parch yng Nghymru. Yn dilyn dadansoddiad o ddata ystadegol i fapio cyfranogiad a chyrhaeddiad pobl ifanc yng Nghymru, cyfwelwyd rhanddeiliaid sefydliadol allweddol a chynhaliwyd arolwg enghreifftiol o wasanaethau derbyn addysg uwch a chyflogwyr. Nod y cyfnod hwn oedd gweld beth mae "cydraddoldeb parch" yn ei olygu i wahanol etholaethau a rhanddeiliaid ac i ba raddau y cyflawnwyd hyn yng Nghymru.

Cododd yr arolwg nifer o gwestiynau a materion a ddefnyddiwyd fel sail i gymharu polisïau ac arferion mewn gwledydd Ewropeaidd eraill ac yn Awstralia.

Adroddiadau

Agweddau ar arferion gorau at gyflawni cydraddoldeb parch mewn addysg a hyfforddiant , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 428 KB

PDF
Saesneg yn unig
428 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.