Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad hwn yn adeiladu ar ganfyddiadau o arolygon blaenorol ar agweddau tuag at gosbi plant yn gorfforol, a Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020.

Prif ganfyddiadau

Agweddau tuag at smacio

  • Yn nhon ddiweddaraf yr arolwg, roedd 27% yn cytuno a 58% yn anghytuno â’r datganiad ei bod hi weithiau’n angenrheidiol smacio plentyn. Mae’r gwahaniaeth yn llai na’r gwahaniaeth a oedd yn bodoli yn arolwg mis Mawrth 2022 (23% yn cytuno, 62% yn anghytuno).
  • Mae oedran pobl yn dal i fod yn ffactor wrth edrych ar safbwyntiau. Mae’r rhai sydd dros 55 oed yn llawer mwy tebygol o gytuno ei bod hi weithiau’n angenrheidiol smacio plentyn*.
  • Roedd 25% o’r rhai sydd yng ngraddau cymdeithasol ABC1 (galwedigaethau rheoli a phroffesiynol yn bennaf) a 27% o’r rhai sydd yng ngraddau cymdeithasol C2DE (galwedigaethau corfforol) yn cytuno â’r datganiad ei bod hi weithiau’n angenrheidiol smacio plentyn. Mae hyn yn debyg i ganfyddiadau arolygon blaenorol.
  • Roedd mwy o ddynion yn cytuno â’r datganiad ei bod hi weithiau’n angenrheidiol smacio plentyn ar 31%, o gymharu â 23% o fenywod yn yr arolwg diweddaraf. Roedd y ddau ryw yn fwy tebygol o gytuno â’r datganiad o gymharu â chanlyniadau Mawrth 2022 (27% o ddynion ac 19% o fenywod)*.

Gwybodaeth am y ddeddfwriaeth bresennol

  • Roedd 90% o’r rhai a ymatebodd i’r arolwg ym mis Tachwedd 2022 yn meddwl yn gywir nad oedd y gyfraith yn caniatáu i rieni smacio’u plant. Dim ond 6% oedd yn meddwl bod y gyfraith yn caniatáu i rieni smacio a dywedodd y 4% sy’n weddill nad oeddent yn siŵr.

Ymwybyddiaeth o newidiadau i’r ddeddfwriaeth

  • Yn nhon ddiweddaraf yr arolwg, dywedodd bron i dri chwarter (73%) y bobl a arolygwyd eu bod yn ymwybodol o newidiadau i’r gyfraith yn y flwyddyn ddiwethaf ar lefel ddigymell*. Mae hyn yn cymharu ag oddeutu dwy ran o dair (66%) a oedd yn ymwybodol ym mis Mawrth 2022. Mae hyn yn parhau â thuedd o ymwybyddiaeth gynyddol o newid yn y ddeddfwriaeth ers mis Tachwedd 2020 pan oedd ychydig dros chwarter yn ymwybodol (27%)*.
  • Ar lefel ddigymell, roedd y rhai oedd yn gofalu am blant o dan saith oed yn fwy tebygol (76%) o fod yn ymwybodol o’r newid na’r rhai oedd heb y cyfrifoldebau hyn (72%).
  • Ar lefel ddigymell, roedd y rhai oedd rhwng 16 a 34 oed yn llai tebygol (52%) o fod yn ymwybodol o’r newid yn y ddeddfwriaeth na’r rhai oedd rhwng 35 a 54 oed (81%) a’r rhai oedd yn 55+ oed (82%).
  • O’u cymell â disgrifiad o’r newid deddfwriaethol, dywedodd mwy o ymatebwyr eu bod yn ymwybodol o’r ddeddfwriaeth nag a wnaeth ar lefel ddigymell. Roedd cyfanswm o 85% yn gwybod rhywbeth am y newid, sy’n gynnydd yn yr ymwybyddiaeth ar ôl eu cymell, o gymharu ag arolwg Mawrth 2022, pan oedd 78% yn gwybod rhywbeth am y newid*.
  • O’u cymell, roedd y rhai oedd yn gofalu am blant o dan saith oed yn fwy tebygol (91%) o fod yn ymwybodol o’r newid na’r rhai oedd heb y cyfrifoldebau hyn (84%). Mae hyn yn gynnydd o 6% yn ymwybyddiaeth gofalwyr ac o 9% yn ymwybyddiaeth y rhai nad oeddent yn ofalwyr ers Mawrth 2022.
  • O’u cymell â disgrifiad o’r newid deddfwriaethol, roedd y rhai a oedd rhwng 16 a 34 oed yn fwy ymwybodol (74%) na’r rhai na chawsant eu cymell, ond roeddent yn dal i fod yn llai tebygol o fod yn ymwybodol o gymharu â’r rhai oedd rhwng 35 a 54 oed (92%) a’r rhai oedd yn 55+ oed (88%).
  • Ym mhob arolwg, y newyddion/rhaglen deledu a nodwyd amlaf fel ffynhonnell y wybodaeth am y newid yn y gyfraith.

Barn am y newidiadau i’r ddeddfwriaeth

  • Yn yr arolwg diweddaraf roedd bron i 56% o blaid ddiddymu amddiffyniad cosb resymol. Mae hyn ychydig yn is nag ym mis Mawrth 2022 (59%).
  • Er bod y farn wedi aros yn gymharol ddigyfnewid ers mis Mawrth 2022, yn y cyfnod cyn hyn gwelwyd cynnydd mewn cefnogaeth i’r newid o 38% yn 2020 i 58% ym mis Mawrth 2022.
  • Mae’r newid yn y gefnogaeth i’r ddeddfwriaeth dros amser i’w briodoli’n bennaf i leihad yn y cyfrannau a ddywedodd fod ‘angen rhagor o wybodaeth’ arnynt neu eu bod ‘ddim yn siŵr’ o’u barn, yn hytrach na gostyngiad yn y gwrthwynebiad i’r newid.
  • Roedd menywod yn llawer mwy tebygol o fod o blaid y newid (66%) nag yn ei erbyn (14%). Er bod mwy o ddynion o blaid y newid nag oedd yn ei erbyn, roedd y bwlch rhwng y ddwy gyfran yn gulach (45% o blaid, 31% yn erbyn). Mae hyn yn ostyngiad ers Mawrth 2022 yng nghyfran y dynion a oedd o blaid newid (52%), ac yn gynnydd yn y gyfran a oedd yn erbyn newid (27%).
  • Pan ofynnwyd i’r ymatebwyr pam eu bod o blaid y newid, yr ymateb mwyaf cyffredin oedd eu bod ‘ddim yn cytuno â smacio neu gosbi plant yn gorfforol’ (54% o’r rhai a oedd o blaid y newid). Hwn oedd yr ymateb mwyaf mynych yn arolygon 2018, 2019, 2020, 2021 a Mawrth 2022 hefyd (40%, 38%, 38%, 42% a 54%).

Adroddiadau

Agweddau cyhoeddus at gosbi plant yn gorfforol: arolwg cam 6, Tachwedd 2022 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Agweddau cyhoeddus at gosbi plant yn gorfforol: arolwg cam 6, Tachwedd 2022 , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 87 KB

XLSX
87 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Rhys Fletcher

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.