Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad hwn yn adeiladu ar ganfyddiadau 2018, 2019, 2020 a 2021 ar agweddau tuag at gosbi plant yn gorfforol, a Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020.

Prif ganfyddiadau

Agweddau tuag at smacio

  • Ym mhob cam roedd mwy o ymatebwyr yn anghytuno â'r datganiad 'ei bod hi weithiau’n angenrheidiol smacio plentyn' nag a oedd yn cytuno, gydag ymatebwyr hŷn (55+ oed) yn fwy tebygol o gytuno â’r datganiad na grwpiau oedran eraill.
  • Ym mis Mawrth 2022, roedd 62% yn anghytuno a 23% yn cytuno â'r datganiad ‘ei bod hi weithiau’n angenrheidiol smacio plentyn’. Mae'r gwahaniaeth rhwng y cyfrannau sy'n anghytuno ac yn cytuno wedi ehangu o gymharu ag arolwg 2021 (53% yn anghytuno, 30% yn cytuno).
  • Roedd 27% o ddynion yn cytuno â’r datganiad ‘ei bod hi weithiau’n angenrheidiol smacio plentyn’ o gymharu ag 19% o fenywod. Roedd y ddau ryw yn llai tebygol o gytuno â'r datganiad nag yn 2021 (36% o ddynion a 25% o fenywod).

Gwybodaeth am y ddeddfwriaeth bresennol

  • Roedd 84% o'r bobl a holwyd ym mis Mawrth 2022 yn credu nad oedd y gyfraith yn caniatáu i rieni smacio eu plant, 6 pwynt canran yn fwy nag yn 2021. Roedd 10% yn credu bod y gyfraith yn caniatáu i rieni smacio (6 pwynt canran yn llai nag yn 2020) a dywedodd y 6% arall eu bod yn ansicr (union yr un fath ag yn 2021).

Ymwybyddiaeth o’r newidiadau mewn deddfwriaeth

  • Roedd lefelau ymwybyddiaeth 'ddigymell' o'r newid mewn deddfwriaeth ym mis Mawrth 2022 (66%) wedi cynyddu ers 2021 (40%).
  • Adroddwyd lefelau uwch o ymwybyddiaeth 'ddigymell' ym mhob grŵp oedran ac ym mhob grŵp gradd gymdeithasol ym mis Mawrth 2022 o gymharu â 2021.
  • O gael eu harwain, roedd 78% o ymatebwyr yn gwybod rhywbeth am y newid, 16% yn fwy nag yn 2021.
  • Newyddion / rhaglenni teledu oedd y ffynhonnell wybodaeth fwyaf cyffredin ar gyfer y newid.

Barn am y newidiadau mewn deddfwriaeth

  • Roedd 59% o'r ymatebwyr o blaid y newid, i fyny o 48% yn 2021, y lefel uchaf o gefnogaeth ar draws y pum cam. Roedd 20% o'r ymatebwyr yn erbyn y newid, i lawr fymryn o 24% yn 2021 a'r lefel isaf o wrthwynebiad ar draws y pum cam. Roedd llai o’r ymatebwyr ym mis Mawrth 2022 o'r farn bod angen rhagor o wybodaeth arnynt neu eu bod heb benderfynu (20% o gymharu â 28% yn 2021).
  • Roedd pobl 16-34 oed a 35-54 oed yn fwy tebygol o fod o blaid y newid (71% a 62% yn y drefn honno) na'r rhai 55+ oed. Mae hyn yn debyg i 2018, 2019, 2020 a 2021. Fodd bynnag, arolwg mis Mawrth 2022 yw'r arolwg cyntaf yn y gyfres lle'r oedd y rhai 55+ oed yn fwy tebygol o gefnogi'r newid (46%) na'i wrthwynebu (29%).
  • Roedd menywod yn fwy tebygol o fod o blaid y newid na dynion (65% o gymharu â 52% yn y drefn honno) ac yn llai tebygol o fod yn erbyn y newid (14% o gymharu â 27% yn y drefn honno).
  • Pan ofynnwyd pam yr oedd ymatebwyr o blaid y newid, yr ymateb mwyaf cyffredin oedd ‘[nad oeddent yn] cytuno â smacio na chosbi plant yn gorfforol' (54% o'r rhai a oedd o blaid y newid).

Adroddiadau

Agweddau cyhoeddus at gosbi plant yn gorfforol: cam 5 Mawrth 2022 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Agweddau cyhoeddus at gosbi plant yn gorfforol: Mawrth 2022 , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 87 KB

XLSX
87 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Benjamin Lewis

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.