Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad hwn yn adeiladu ar ganfyddiadau o arolygon blaenorol ar agweddau tuag at gosbi plant yn gorfforol, a Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020.

Prif ganfyddiadau

Agweddau tuag at smacio

Yn yr arolwg diweddaraf roedd 29% yn cytuno a 54% yn anghytuno bod angen smacio plentyn weithiau, 

yr un fath a arolwg Tachwedd 2023.

Roedd y rhai â chyfrifoldebau gofalu am blant saith oed neu iau yn fwy tebygol o anghytuno bod angen smacio plentyn weithiau (63%), o'i gymharu â'r rhai nad oes ganddynt gyfrifoldebau gofal dros blant saith oed neu iau (52%)*. Mae hyn yn debyg i'r canlyniadau a gafwyd ar achlysuron blaenorol pan gynhaliwyd yr arolwg.

 Mae'r farn yn parhau i fod yn gysylltiedig ag oedran gyda'r rhai dros 55 oed yn llawer mwy tebygol o gytuno 'ei bod hi weithiau’n angenrheidiol smacio plentyn'*.

 Roedd mwy o ddynion yn cytuno â'r datganiad 'ei bod hi weithiau’n angenrheidiol smacio plentyn', sef 33%, o'i gymharu â 26% o fenywod yn yr arolwg diweddaraf*. Mae hyn yn debyg i ganfyddiadau arolygon blaenorol.

Cytunodd 30% o'r rhai yng ngraddau cymdeithasol ABC1 (galwedigaethau rheolaethol a phroffesiynol i raddau helaeth) a 29% o'r rhai yng ngraddau cymdeithasol C2DE (galwedigaethau llaw yn bennaf), gyda'r datganiad 'ei bod hi weithiau’n angenrheidiol smacio plentyn'. Mae hyn yn debyg i ganfyddiadau arolygon blaenorol.

Gwybodaeth am y ddeddfwriaeth bresennol

Roedd 87% o'r ymatebwyr a holwyd ym mis Tachwedd 2023 yn credu'n gywir nad oedd y gyfraith yn caniatáu i rieni smacio eu plant. Dim ond 9% oedd yn credu bod y gyfraith yn caniatáu i rieni smacio ac roedd y 4% oedd yn weddill yn dweud eu bod yn ansicr. Mae'r canfyddiadau hyn yr un fath ag yr adroddwyd ym mis Tachwedd 2023.

Ymwybyddiaeth o newidiadau i ddeddfwriaeth

Mae lefelau ymwybyddiaeth 'ddigymell' o'r newid mewn deddfwriaeth wedi gostwng ychydig. Yn ystod ton ddiweddaraf yr arolwg, 70% o'r bobl a holwyd eu bod yn ymwybodol o newidiadau i'r gyfraith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn ddigymell. Mae hyn yn uwch na’r hyn a adroddwyd ym mis Tachwedd 2023 a 66%*. 

 Ar lefel 'ddigymell', roedd gofalwyr plant saith oed neu iau yn fwy tebygol (75%) o fod yn ymwybodol o'r newid na'r rhai heb y cyfrifoldebau hyn (69%).

 Ar lefel 'ddigymell', roedd y rhai rhwng 16 a 34 oed yn llai tebygol (57%) o fod yn ymwybodol o'r newid mewn deddfwriaeth na'r rhai 35 a 54 oed (70%) a'r rhai 55+ oed (78%)*.

 Pan ofynnwyd iddynt, roedd gofalwyr plant saith oed neu iau yn fwy tebygol (87%) o fod yn ymwybodol o'r newid na'r rhai heb y cyfrifoldebau hyn (82%)*.

Ym mhob arolwg, y ffynhonnell ymwybyddiaeth fwyaf cyffredin o'r newid yn y gyfraith oedd newyddion neu raglen ar y teledu.

Barn ar newidiadau i'r ddeddfwriaeth

Yn yr arolwg diweddaraf roedd bron i 55% o blaid dileu'r amddiffyniad o gosb resymol. Mae hyn ychydig yn uwch ym mis Tachwedd 2023 (53%).

 Mae'r newid yn y gefnogaeth i'r ddeddfwriaeth dros amser yn bennaf oherwydd gostyngiad yn y gyfran sydd 'eisiau mwy o wybodaeth / yn ansicr o'u barn' yn hytrach nac o ganlyniad i leihad yn y gwrthwynebiad i'r newid, sydd wedi parhau'n weddol gyson.

 Roedd y rhai â chyfrifoldebau gofalu am blant saith oed ac iau yn fwy tebygol o fod o blaid y newid arfaethedig (67% o blaid, 21% yn erbyn) o gymharu â'r rhai nad oedd ganddynt y cyfrifoldebau hyn (50% o blaid, 27% yn erbyn)*.

 Yn debyg i donnau blaenorol o'r arolwg, roedd y rhai rhwng 16 a 54 oed yn llawer mwy tebygol o fod o blaid y newid mewn deddfwriaeth yn hytrach nag yn ei erbyn. Ymhlith y rhai 55+ oed roedd barn yn fwy cymysg gyda dwy ran o bump (45%) yn cefnogi'r newid a thua traean (34%) yn ei wrthwynebu*.

 Fel yn nhonnau blaenorol yr arolwg, roedd menywod yn llawer mwy tebygol o fod o blaid y newid (56%) nag yn ei erbyn (22%). Er bod mwy o ddynion o blaid y newid nag yn ei erbyn, roedd y bwlch rhwng y ddwy gyfran yn culach (54% o blaid, 30% yn erbyn)*.

 Pan ofynnwyd pam fod ymatebwyr o blaid y newid, yr ymateb mwyaf cyffredin oedd 'nad oeddent yn cytuno â smacio na chosbi plant yn gorfforol' (41% o'r rhai a oedd o blaid y newid). Dyma hefyd yr ymateb a welwyd amlaf yn y tonnau blaenorol.

 Er bod y gyfran o blaid y newid wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r gyfran sy'n parhau i fod yn erbyn y newid wedi bod yn sefydlog sy'n awgrymu bod grŵp a fydd yn ei chael hi'n anodd i gael eu hargyhoeddi ynghylch y newid.

Roedd tua thraean (33%) o'r rhai yn erbyn y newid o'r farn bod 'angen y sefyllfa bresennol i reoli ymddygiad / disgyblu plentyn / addysgu parch / dangos ffiniau'.

Adroddiadau

Agweddau’r cyhoedd tuag at gosbi plant yn gorfforol: arolwg cam 8, Tachwedd 2024 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Agweddau’r cyhoedd tuag at gosbi plant yn gorfforol: arolwg cam 8, Tachwedd 2024 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 34 KB

ODS
34 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Hannah Davies

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.