Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyhoeddodd Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fod Caroline Phipps wedi cael ei hail-benodi'n Gadeirydd y Panel Cynghori ar Gamddefnyddio Sylweddau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae wedi cael ei hail-benodi'n Gadeirydd y Panel o 14 Awst 2018 hyd at 13 Awst 2019. 

Cylch gwaith y Panel yw rhoi cyngor ar fesurau i atal neu leihau camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys y niwed i iechyd a'r niwed cymdeithasol sy'n gysylltiedig â hynny, yn ogystal ag adolygu'r gwaith o weithredu Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Vaughan Gething:

“Rwy'n hynod falch bod Caroline Phipps wedi cytuno i barhau â'i rôl fel Cadeirydd y Panel Cynghori ar Gamddefnyddio Sylweddau. Bydd ei phrofiad, ei gwybodaeth, a'i harbenigedd yn ein helpu i gyflawni ein hymrwymiad i fynd i'r afael â'r niwed sy'n cael ei achosi gan gamddefnyddio sylweddau yng Nghymru.”

Caroline Phipps yw Prif Weithredwr Barod, a bu’n cyflawni'r rôl hon ers 2007. Cyn hynny, bu’n gweithio mewn nifer o swyddi ledled y sector, gan gynnwys secondiad i Dîm Gweithredu ar Gamddefnyddio Sylweddau Merthyr Tudful.