Neidio i'r prif gynnwy

Cytunodd Gweinidog yr Economi i ailbenodi 2 Aelod i Fwrdd (CCDG) (Gyrfa Cymru).

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Enw’r ymgeiswyr llwyddiannus a’u sefydliad 

  • Richard Thomas
  • David Hagendyk, Prif Weithredwr, ColegauCymru

Disgrifiad o’r rôl a’r sefydliad

Mae Career Choices Dewis Gyrfa (CCDG), sy’n gweithredu o dan enw Gyrfa Cymru, yn is-gorff ym mherchnogaeth llwyr Llywodraeth Cymru sy’n darparu gwybodaeth, cyngor a chanllawiau ar yrfaoedd yng Nghymru sy’n ddiduedd, yn ddwyieithog ac ar gyfer pob oedran.

Mae Gyrfa Cymru'n cefnogi cwsmeriaid i fod yn fwy effeithiol wrth gynllunio a rheoli eu gyrfaoedd, gan gydnabod nad yw rheoli gyrfa bellach yn golygu dewis un yrfa yn unig, ond yn hytrach ddilyn llwybr gyrfa o wahanol swyddi ar hyd eich oes. Drwy wella sgiliau a chymwyseddau rheoli gyrfa, gall cwsmeriaid drosglwyddo o un swydd i un arall yn rhwyddach, mwynhau lefel uwch o foddhad o ran gyrfa, a chwarae rhan fwy gweithgar yn yr economi.

Ym mis Ebrill 2021, lansiodd Gyrfa Cymru eu gweledigaeth bum mlynedd, ‘Dyfodol Disglair’. Mae gan ‘Dyfodol Disglair’ yr uchelgais o greu dyfodol gwell i’r holl bobl ifanc ac oedolion yng Nghymru.

Dyma rôl y bwrdd:

  • darparu arweinyddiaeth effeithiol; datblygu cyfeiriad strategol a gosod nodau heriol
  • hyrwyddo safonau uchel o gyllid cyhoeddus a chynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian
  • sicrhau bod gweithgareddau CCDG yn cael eu gweithredu’n effeithiol ac yn effeithlon, a
  • monitro perfformiad i sicrhau bod CCDG yn ysgwyddo'i ddyletswyddau, amcanion, nodau a thargedau perfformiad statudol yn llawn.

Math o benodiad neu estyniad i benodiad

Cytunodd Gweinidog yr Economi i ailbenodi 2 Aelod i Fwrdd (CCDG) (Gyrfa Cymru).

3 blynedd yw hyd y swydd.

Nid yw Aelodau Bwrdd CCDG yn gyflogai i’r cwmni na Llywodraeth Cymru ac maent yn gwasanaethu yn ddi-dal ac yn wirfoddol.

Gwneir y penodiad hwn yn unol â’r Cod Llywodraethu ar Benodiadau Cyhoeddus.

Gweithgareddau gwleidyddol

Cyn hyn, roedd David Hagendyk yn gweithredu fel asiant gwleidyddol i Hefin David AS.

Gwneir pob penodiad ar sail teilyngdod ac nid oes gan weithgareddau gwleidyddol ddim i’w wneud â’r broses ddethol.