Neidio i'r prif gynnwy

Yn dilyn blwyddyn o ddathlu arfordir gwych Cymru yn ystod Blwyddyn y Môr, mae'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru bellach yn paratoi ar gyfer Blwyddyn Darganfod 2019.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ystod 2018 roeddem yn dathlu arfordir Cymru a'r môr, ac yn ystod Blwyddyn y Môr cynhaliwyd Ras Cefnfor Volvo; daethom yn genedl ail-lenwi gyntaf y byd; a chynhaliwyd dathliad o'r iaith Gymraeg a Diwylliant gyda’r  Eisteddfod ym Mae Caerdydd. Cynhaliwyd amrywiol ddigwyddiadau hefyd ledled Cymru, o Ŵyl Gerflunio ar draeth y Gŵyr i greu anghenfil môr enfawr 20 metr o Aberteifi ac ymgyrch Glanhau Traethau Cymru Gyfan Cadwch Gymru'n Daclus. Roedd 2018 hefyd yn flwyddyn ar gyfer cynyrchiadau theatrig arfordirol gyda The Tide Whisperer gan National Theatre Wales a Nawr yr Arwr/ Now the Hero gan Marc Rees. 

Meddai yr Arglwydd Elis-Thomas: 

"Hoffwn ddiolch i'r diwydiant am y gefnogaeth yn ystod Blwyddyn y Môr yn ogystal ag yn ystod y blynyddoedd thematig blaenorol.  Drwy ddod ynghyd a gweithio mewn partneriaeth, mae gan Gymru lais cryf mewn marchnad gystadleuol tu hwnt. Rydym yn gwybod bod ein hymgyrchoedd blynyddoedd themâu yn cynhyrchu dros £350 miliwn y flwyddyn i'r economi a bod yr hysbyseb ar y teledu yn 2018, yn cynnwys Luke Evans, wedi ei fwynahu gan ein cynulleidfaoedd targed. 

“A nawr byddwn yn dechrau ar ein Blwyddyn Darganfod. Yn 2019 rydym am annog ein hymwelwyr i ddarganfod Cymru o'r newydd, canfod rhannau newydd o Gymru a rhoi cynnig ar brofiadau awyr agored, antur a diwylliannol ledled y wlad. 

"Mae Cymru yn llawn cuddfannau; yn ogystal ag atyniadau byd-enwog. Ac felly yr her yw ymweld â lleoedd nad ydych wedi bod ynddynt o'r blaen; neu geisio rhywbeth am y tro cyntaf un. Ewch i gael blas ar arforgampau; ewch i weld mwy o'r 600 o gestyll sydd yng Nghymru; neu ewch i ymweld ag un o'n horielau neu ein hamgueddfeydd i ddysgu rhywbeth newydd am ein gorffennol. Mae arddangosfa newydd Sain Ffagan, ble y gwariwyd £30 miliwn, yn lle gwych i ddechrau."

Ac yn ogystal ag annog pobl Cymru i ddarganfod corneli newydd o'n gwlad, rydym hefyd yn annog ymwelwyr tramor i weld mwy o'n gwlad. Cafodd Ffordd Cymru (dolen allanol) - tri llwybr ledled y wlad sy'n eich arwain at bethau newydd www.fforddcymru.com - ei lansio y flwyddyn ddiwethaf i'w helpu ar eu taith.

Bydd ymgyrch ryngwladol aml-gyfrwng ar y thema darganfod yn rhedeg drwy gydol 2019, gyda gweithgareddau wedi'u cynllunio yng Nghymru, ar draws gweddill y DU, Iwerddon a marchnadoedd rhyngwladol. Bydd yr ymgyrch ar blatfformau digidol, ar deledu, ac ar blatfformau ar alw, ac yn y prif ganolfannau teithio o'r 1 Ionawr yma yng Nghymru - gyda'r prif farchnata ar draws gweddill y DU yn digwydd ym mis Mawrth yn ystod y prif gyfnodau archebu gwyliau.

Bydd rhagor o ddigwyddiadau a gweithgareddau'n cael eu cynllunio gydol y flwyddyn - gyda mwy o fanylion i'w cyhoeddi ar ddechrau 2019. Bydd y Gweinidog yn dechrau Blwyddyn Darganfod 2019 gydag ymweliadau i orllewin Cymru.