Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AC, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 28 Mehefin, gyda Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig,  bûm yn cynrychioli Llywodraeth Cymru yn ail Uwchgynhadledd ar ddeg ar hugain y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, a gynhaliwyd ym Manceinion gan Lywodraeth y DU. Cafodd yr Uwchgynhadledd ei chadeirio gan y Gwir Anrhydeddus David Lidington AS, y Gweinidog dros Swyddfa’r Cabinet a Changhellor Dugiaeth Caerhirfryn. Roedd Gweinidogion arweiniol o Aelod-weinyddiaethau eraill y Cyngor yn bresennol yn yr Uwchgynhadledd. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • An Taoiseach, Leo Varadkar TD, o Lywodraeth Iwerddon;
  • Prif Weinidog Llywodraeth yr Alban, y Gwir Anrhydeddus Nicola Sturgeon ASA;
  • Prif Weinidog Llywodraeth Jersey, y Seneddwr John Le Fondré;
  • Prif Weinidog Llywodraeth Guernsey, y Dirprwy Gavin St Pier; a
  • Phrif Weinidog Llywodraeth Ynys Manaw, yr Anrhydeddus Howard Quayle MHK.

Mae Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn gyfle pwysig i’r Aelod-weinyddiaethau gydweithio a rhannu arferion da o ran y materion cyffredin yr ydym yn eu hwynebu. Roedd yr Uwchgynhadledd hon yn gyfle i'r Aelod-weinyddiaethau ystyried ymhellach yr effeithiau arnynt a ddaw yn sgil ymadawiad y DU â'r UE, a’u hymdrechion i sicrhau bod eu hymrwymiadau ynni, a'u hymrwymiadau i weithio tuag at ddim allyriadau, yn cael eu cyflawni.

Dechreuodd yr Uwchgynhadledd gyda chyfarfod o’r Gweinidogion sy’n ymwneud â ffrwd gwaith ynni'r Cyngor, a thrafodaeth ar y papur ‘Making the Transition to a Smarter Energy System’:

https://www.britishirishcouncil.org/sites/default/files/communiqu%C3%A9s/Making%20the%20Transition%20to%20a%20Smarter%20Energy%20System.pdf

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig oedd yn cynrychioli Cymru yn y cyfarfod hwnnw.

Yn ystod y drafodaeth ar ynni a ddilynodd yn y Cyfarfod Llawn, dywedais ein bod yn cydnabod difrifoldeb sylweddol yr heriau yr oedd Cymru yn eu hwynebu o ran mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd, gan amlinellu'r ystod o gamau yr ydym yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r hyn sy'n etifeddiaeth o'r gorffennol; yn ogystal â'r camau newydd yr ydym yn eu cymryd i wella'r dyfodol. Amlinellais ba mor bwysig yw hi fod Gweinyddiaethau'r Cyngor yn ymgysylltu â'i gilydd mewn modd ystyrlon, gan rannu gwybodaeth ac arferion da, er mwyn cyflawni ein targedau uchelgeisiol ar gyfer allyriadau isel a datgarboneiddio. Hefyd, mae'n bwysig bod Gweinyddiaethau'r Cyngor yn parhau i ddatblygu partneriaethau, fel yr ydym wedi ei wneud gydag Iwerddon a'r Alban. Bûm hefyd yn pwysleisio'r angen i chwilio am gyfleoedd newydd. Mae gennym ddiddordeb penodol mewn defnyddio ynni'r môr, ac rydym yn rhannu'r diddordeb hwn ag awdurdodaethau eraill, oherwydd ei bod yn bosibl rhagweld llanw a thrai'r môr, ac yn achos Cymru, pellter ei lanw a thrai, a sut y bydd yn amrywio. Eglurais sut y byddai'r technolegau arbrofol y mae Cymru yn ymchwilio iddynt yn gallu datrys problemau sy'n gysylltiedig ag ynni'r môr, gan ddarparu dewisiadau i'r DU a fyddai'n arwain y byd o ran defnyddio'r amgylchedd naturiol i gynhyrchu ynni.

Mae'r Cyngor yn dathlu ei ben-blwydd yn ugain oed eleni, a chytunodd yr Uwchgynhadledd fod y Cyngor yn parhau â rôl bwysig i'w chwarae yng nghyd-destun Cytundeb Dydd Gwener y Groglith a'r angen i feithrin cysylltiadau cadarn rhwng gwledydd y DU, Iwerddon, a'r tiriogaethau sy’n ddibynnol ar y Goron. Roedd yn chwith gan bob awdurdodaeth nad oedd Gweinidogion Gweithredol Gogledd Iwerddon yn bresennol ar gyfer y garreg filltir hon, ond codwyd gobeithion yr Uwchgynhadledd bod y trafodaethau rhwng y pleidiau'n parhau yng Ngogledd Iwerddon yn sgil y datganiad ar y cyd a wnaed gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Iwerddon ym mis Mehefin, gyda'r nod o adfer llywodraeth ddatganoledig sy'n rhannu pŵer.   

Effaith ymadawiad y DU â'r UE oedd flaenaf yn y trafodaethau ar y datblygiadau gwleidyddol diweddaraf. Mynegais fy marn unwaith yn rhagor y byddai ymadael â'r UE heb gytundeb yn gatastroffig, ac y byddai economi Cymru yn enwedig yn debygol o ddioddef canlyniadau difrifol. Dywedais unwaith yn rhagor hefyd fod yn rhaid i'r penderfyniad fynd yn ôl at bobl y DU, a bod angen cael eu barn drwy ail refferendwm, os nad oedd Senedd San Steffan yn gallu symud yn ei blaen i ddatrys y sefyllfa. Roeddwn yn croesawu'r drefn reolaidd a chadarn yr oedd y Cyngor wedi ei rhoi ar gysylltiadau a fu'n rhai mwy anffurfiol yn y gorffennol. Roeddwn yn gweld bod y DU ei hun bellach yn wynebu'r un heriau yn fewnol o ganlyniad i Brexit, ag yr oedd awdurdodaethau'r Cyngor wedi bod yn eu hwynebu yn y gorffennol. Roedd y DU wedi dibynnu ar yr UE, ond ni fyddai'r trefniadau sefydliadol presennol yn gallu ymdopi â phwysau’r galwadau arnynt yn y byd a fydd yn bodoli wedi Brexit. Pwysleisiais bwysigrwydd dysgu gwersi o sut mae'r Cyngor yn cael ei drefnu, gan mai'r trefniadau hynny yw'r deunydd amrwd y mae angen ei ddefnyddio i sicrhau y bydd y DU yn gallu gweithredu'n llwyddiannus.

Cyhoeddwyd prif bwyntiau trafod yr ail Uwchgynhadledd ar ddeg ar hugain mewn hysbysiad ar y cyd:

https://www.britishirishcouncil.org/sites/default/files/communiqu%C3%A9s/Thirty%20Second%20Summit%20-%20UK%20-%2028%2006%2019.pdf