Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyhoeddodd Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, pum ailbenodiad i Gomisiwn Dylunio Cymru. Bydd y penodiadau hyn yn cychwyn ar 1 Ebrill 2019.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Corff cenedlaethol a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2002 yw Comisiwn Dylunio Cymru. Mae’n hyrwyddo gwell llefydd a gwell adeiladau – nawr, ac at y dyfodol. Mae’n manteisio ar sgiliau cynllunwyr proffesiynol, dylunwyr trefol, penseiri, cynllunwyr trafnidiaeth, arbenigwyr cynaliadwyedd a pheirianwyr (yn wirfoddol) i gyflawni Gwasanaeth Adolygu Dyluniadau ac i ddarparu hyfforddiant i awdurdodau cynllunio a phobl broffesiynol ym maes yr amgylchedd adeiledig.

Dyma’r aelodau a ailbenodir:

  • Gayna Jones, a ailbenodir yn Gadeirydd am bedair blynedd arall
  • Elinor Gray-Williams, a ailbenodir yn Aelod Bwrdd am bedair blynedd arall
  • Fiona Nixon, a ailbenodir yn Aelod Bwrdd am bedair blynedd arall
  • Ian Carter, a ailbenodir yn Aelod Bwrdd am bedair blynedd arall
  • Trevor Skempton, a ailbenodir yn Aelod Bwrdd am flwyddyn arall

Ni chaiff aelodau’r Comisiwn Dylunio eu talu, ond ad-delir costau teithio a chynhaliaeth rhesymol iddynt. Pedwar diwrnod y flwyddyn yw’r ymrwymiad amser.

Dywedodd Julie James:

Dw i’n falch iawn fod Gayna wedi cytuno i barhau â’i gwaith fel Cadeirydd Comisiwn Dylunio Cymru, gyda chymorth Elinor, Fiona, Ian, Trevor a gweddill y bwrdd. Mae gan y Comisiwn Dylunio rôl bwysig yn y gwaith o helpu i roi ein polisïau cynllunio cenedlaethol ar waith, ac mae Bwrdd sydd â’r crebwyll a’r sgiliau sydd eu hangen yn hanfodol i helpu’r sefydliad i wireddu ei botensial.

Mae’r Cod Llywodraethu Cyhoeddiadau Cyhoeddus yn berthnasol i’r penodiadau hyn.

Gwneir pob penodiad ar sail teilyngdod ac nid oes gan weithgarwch gwleidyddol ddim i’w wneud â’r broses ddethol. Fodd bynnag, yn unol ag argymhellion gwreiddiol Nolan, mae’n ofynnol i weithgarwch gwleidyddol y sawl a benodir (os datgenir gweithgarwch) gael ei gyhoeddi.

Nid yw’r bobl hyn wedi ymgymryd ag unrhyw weithgareddau gwleidyddol yn bum mlynedd ddiwethaf ac nid ydynt yn ddeiliaid unrhyw benodiad Gweinidogol arall ychwaith.