Neidio i'r prif gynnwy

Ar ôl i Lesley Griffiths, Gweinidog Gogledd Cymru, ymweld ag Amgueddfa Llandudno sydd newydd ailagor dywedodd y bydd yn hwb pellach i'r dref.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ailagorodd yr Amgueddfa yn gynharach y mis hwn yn dilyn prosiect ailddatblygu mawr.  Mae'r ailddatblygiad wedi cynnwys ehangu i adeilad cyfagos, oriel arddangos dros dro a gwell mynediad yn sgil gosod lifft a drysau ehangach.

Mae mwy o gasgliad yr Amgueddfa, sy'n dogfennu hanes y dref, hefyd yn cael ei arddangos, ac mae technoleg fwy rhyngweithiol ar gael.
 Ariannwyd yr ailddatblygiad gan Gronfa Goffa Treftadaeth Genedlaethol gydag arian cyfatebol gan nifer o sefydliadau.  Darparodd Llywodraeth Cymru dros £350,000 o gyllid grant tuag at y datblygiad.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog Gogledd Cymru:

Mae wedi bod yn wych gweld y trawsnewidiad yn Amgueddfa Llandudno yn dilyn gwaith ailddatblygu helaeth.  Mae’r amgueddfa hon wedi bod yn safle pwysig yn nhref Llandudno ers blynyddoedd gan ei fod yn dogfennu hanes yr ardal. 

Bydd y cyfleuster gwell yn hwb i'r gymuned leol ac i ymwelwyr fel ei gilydd. Er bod y pandemig yn golygu na allai'r amgueddfa agor yn unol â’r bwriad gwreiddiol, mae'n newyddion da ei bod bellach ar agor ac yn siŵr o barhau i fod yn atyniad poblogaidd.

Mae llawer o ddatblygiadau cyffrous yn digwydd y dref ar hyn o bryd gan gynnwys Distyllfa Penderyn yr ymwelais â hi ym mis Mai.  Mae’r Ddistyllfa hon hefyd wedi cael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ac yn yr un modd â’r Amgueddfa mae'n atyniad y gellir ei fwynhau drwy gydol y flwyddyn.