Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Mae nifer yr achosion newydd o TB wedi aros yn isel iawn yn gyson yn yr Ardal TB Isel dros y blynyddoedd. Ond mae tystiolaeth yn dechrau dangos bod nifer yr achosion newydd ar gynnydd mewn rhai ardaloedd yn yr Ardal TB Isel. Yr enw ar yr ardaloedd hyn yw'r 'ardaloedd â phroblem TB'. O'r hyn a welwn, cysylltiadau lleol sydd wrth wraidd yr achosion newydd hyn. Mae angen mesurau nawr i fynd i'r afael â'r broblem hon.

Rydym wedi cyflwyno mesurau newydd fesul cam rhwng 1 Mehefin a Thachwedd 2021. Er mwyn:

  • ymateb i'r sefyllfa hon o glefydau sy'n datblygu, a
  • diogelu statws iechyd hirdymor yr Ardal TB Isel

Rydym wedi cyhoeddi manylion y mesurau hyn ar Ardal TB Isel: cwestiynau cyffredin.

Ar 1 Tachwedd 2021, ailddosbarthwyd tair uned ofodol Sir Ddinbych/Dyffryn Conwy CL1, CL2 a GW1 dros dro. Mae hyn fel rhan o'r ardal TB Canolradd y Gogledd (ITBAN) o'r Ardal TB Isel.

Mae'r newid hwn bellach wedi'i adlewyrchu yn:

  • Ystadegau Gwladol Defra
  • Ein Dangosfwrdd Epidemiolegol TB Mewn Gwartheg

Mae'r newid hwn wedi effeithio ar y data hanesyddol yn yr allbynnau hyn i ddarparu tueddiadau dros amser yr Ardaloedd TB newydd hyn. Mae hyn yn golygu bod:

  • cynnydd mewn nifer o fesurau yn Ardal TB Canolradd y Gogledd a
  • gostyngiad mewn nifer o fetrigau yn yr Ardal TB Isel

yn dilyn yr ailddosbarthu dros dro hwn. Nid effeithir ar yr Ardaloedd TB sy'n weddill.

Mae'r tablau isod yn enghraifft o sut y byddai rhai mesurau C3 2021 wedi edrych o dan ffiniau'r Hen Ardaloedd TB o'i gymharu â ffiniau newydd yr Ardal TB ar gyfer Ardal TB Canolradd y Gogledd a’r Ardal TB Isel sydd wedi'u cyhoeddi yn y dangosfwrdd diweddaraf.

Tabl 1

Enghraifft o wahaniaeth y metrigau TB C3 2021 rhwng ffiniau Ardaloedd TB cyn ailddosbarthu unedau gofodol CL1, CL2 a GW1 dros dro ac ar ôl hynny ar gyfer Ardal TB Canolradd y Gogledd

TB Metrig

Ffiniau ardaloedd TB Metrig cyn 1 Tachwedd 2021 (dangosfwrdd blaenorol)

Ffiniau ardaloedd TB ar ôl 1 Tachwedd 2021 (dangosfwrdd cyfredol)

Achsoion newydd 18 35
Achosion agored 78 107
Adweithyddion a ddatgelwyd 258 332
Buchesi byw 903 1,577

 

Tabl 2

Enghraifft o wahaniaeth ym metrigau TB C3 2021 rhwng ffiniau Ardaloedd TB cyn ailddosbarthu unedau gofodol CL1, CL2 a GW1 dros dro ac ar ôl hynny ar gyfer yr Ardal TB Isel

Metrig Ffiniau ardaloedd TB Metrig cyn 1 Tachwedd 2021 (dangosfwrdd blaenorol)

Ffiniau ardaloedd TB ar ôl 1 Tachwedd 2021 (dangosfwrdd cyfredol)

 

Achosion newydd 21 4
Achosion agored 44 15
Adweithyddion a ddatgelwyd 94 20
Buchesi byw 2,792 2,118