Neidio i'r prif gynnwy

1. Cyflwyniad a nod yr astudiaeth

Gall y rhai y rhoddir statws ffoadur iddynt weithio yn y Deyrnas Unedig (DU) ac mae llawer am weithio, ond mae'r cyfraddau cyflogaeth ar gyfer ffoaduriaid ymhell y tu ôl i'r bobl hynny a anwyd yn y DU (LlC, 2020a, Kone et al., 2019). Mae'r ymchwil hon yn ceisio deall bylchau sgiliau a'r cyfleoedd yn y farchnad lafur leol/ranbarthol, i gynyddu'r rhagolygon cyflogaeth ar gyfer ffoaduriaid ym mhedair prif ardal wasgaru Cymru (Caerdydd, Casnewydd, Abertawe a Wrecsam). Y bwriad yw datblygu adroddiad ymarferol sy'n nodi gweithgareddau dichonadwy y gellid eu darparu o fewn y prosiect AilGychwyn: Integreiddio Ffoaduriaid a mathau eraill o gymorth sgiliau, cyflogadwyedd a menter.

2. Ymagwedd a dulliau

Roedd hon yn astudiaeth dulliau cymysg, gan ddefnyddio data a gasglwyd drwy:

  • adolygiadau cwmpasu o ymchwil ddiweddar i boblogaethau ffoaduriaid yn y DU, ymchwil i arfer gorau wrth ddatblygu rhagolygon cyflogaeth ffoaduriaid, dadansoddi tueddiadau a rhagolygon y farchnad lafur
  • cyfweliadau lled-strwythuredig, gyda sampl bwriadus o 32 o randdeiliaid yn cynrychioli prosiect AilGychwyn, gwasanaethau cymorth cyflogaeth, cyflogwyr yn y sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, cyrff cyflogwyr ac undebau llafur, a'r sector gwirfoddol

Cafodd data a gasglwyd o'r ffynonellau hyn eu triongli a chyflwynwyd y canfyddiadau a oedd yn dod i'r amlwg i'w trafod a'u dilysu gan randdeiliaid, mewn dau weithdy ar-lein. 

3. Cyfleoedd yn y farchnad lafur yng Nghaerdydd, Casnewydd, Abertawe a Wrecsam

Mae llawer o ffoaduriaid am barhau i weithio yn y sector neu'r proffesiwn yr oeddent ynddo cyn ffoi rhag erledigaeth. Fodd bynnag, o ystyried rhwystrau i gyflogaeth, fel sgiliau Saesneg gwan ac arferion cyflogwyr sy'n gallu gwahaniaethu yn erbyn ffoaduriaid, mae'n aml yn anodd iawn, ac weithiau'n amhosibl, i ffoaduriaid barhau i weithio yn yr un sector, ar yr un lefel, yng Nghymru. Felly, mae eu parodrwydd i ystyried dewisiadau eraill, fel arfer swyddi lefel mynediad, lle mae rhwystrau i fynediad yn is ac a'r galw gan gyflogwyr yn uchel, yn gallu penderfynu a ydynt yn dechrau gweithio ai peidio (LlC, 2020a). Mae hyn yn golygu bod angen i ddadansoddiad o fylchau sgiliau a chyfleoedd yn y farchnad lafur gael ffocws deuol, ar fynediad i swyddi lefel mynediad yn y tymor byr, a nodi cyfleoedd dilyniant i'r ffoaduriaid hynny sy'n awyddus, ac yn gallu, gwneud cynnydd, i'w helpu i wireddu eu dyheadau cyflogaeth dros y tymor hwy.  

Canolbwyntiodd y dadansoddiad o gyfleoedd cyflogaeth ar dri chategori eang o swyddi, mewn sectorau lle rhagwelir y bydd galw mawr gan gyflogwyr:

  •  swyddi 'lefel mynediad', lle mae rhwystrau i fynediad, fel disgwyliadau o ran sgiliau iaith a chymwysterau, yn isel ond lle mae'r cyfleoedd cyflog, amodau a dilyniant yn aml yn wael hefyd (sy'n golygu y gall ffoaduriaid gael eu dal a chael trafferth gwneud cynnydd)
  • swyddi 'lefel ganol' sy'n cynnig cyfleoedd dilyniant, lle mae'r rhwystrau i fynediad, fel disgwyliadau o ran sgiliau iaith a chymwysterau, yn gymedrol ond lle mae'r cyfleoedd cyflog, amodau a dilyniant yn uwch hefyd
  • swyddi 'lefel uwch' sy'n cynnig cyfleoedd dilyniant, lle mae'r rhwystrau i fynediad, fel disgwyliadau o ran sgiliau iaith a chymwysterau, yn uchel ond lle mae'r cyfleoedd cyflog, amodau a dilyniant yn uchel hefyd

Nododd yr ymchwil ansoddol ar gyfer yr astudiaeth hon fod swyddi lefel mynediad allweddol yn cynnwys manwerthu, lletygarwch, bwyd a diod, glanhau, adeiladu, diogelwch, gweithgynhyrchu, warws a gyrru / danfon. Byddai'r rhan fwyaf o'r swyddi hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ffoaduriaid feddu ar sgiliau Saesneg o amgylch Lefel Mynediad 2[1] ac, fel y dywedodd un cyflogwr, y 'dull a'r agwedd' gywir. Mae rhai sectorau, fel adeiladu, diogelwch a gyrru hefyd yn ei gwneud yn ofynnol cael tystysgrifau neu drwyddedau i ymarfer, hyd yn oed ar lefel mynediad.

Nododd yr ymchwil ansoddol ar gyfer yr astudiaeth hon hefyd, heblaw am iechyd a gofal cymdeithasol a rolau adeiladu a gweithgynhyrchu medrus, ei bod yn fwy anodd nodi cyfleoedd lefel ganol lle mae'r rhwystrau i gyflogaeth yn gymedrol, a'r galw gan gyflogwyr yn uchel. Byddai'r rhan fwyaf o'r swyddi hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ffoaduriaid feddu ar gymwysterau Lefel 2 neu 3 Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCChC) ac wedi pasio Prawf Sgiliau Hanfodol Cymru (WEST). Mae'r ystod gyfyngedig o gyfleoedd lefel ganol yn adlewyrchu 'cafnu' o ran marchnad lafur y DU (gyda chynnydd mewn swyddi lefel uwch ac, i raddau llai, swyddi lefel mynediad, ond gostyngiad mewn swyddi lefel ganol) (Luchinskaya a Green, 2016).

Mae'r twf cyflogaeth cryfaf wedi'i ragweld ar gyfer swyddi ar Lefel 4 ac uwch, a cheir cyfleoedd dilyniant lefel uwch mewn, er enghraifft, sectorau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM), lle rhagwelir y bydd y galw yn uchel, fel y sectorau gwyddorau bywyd (gan gynnwys cynhyrchion fferyllol), lled-ddargludydd a thechnoleg ariannol (technoleg gwasanaethau ariannol) yn ne-ddwyrain Cymru yn arbennig (LlC, 2020b, 2020c, 2020d). Fodd bynnag, mae gan y sectorau hyn rwystrau uwch hefyd i fynediad, gan gynnwys y galw am gymwysterau lefel uwch (e.e. prentisiaeth uwch (Lefel 4 neu 5), prentisiaeth gradd (Lefel 6 neu 7), Anrhydedd (Lefel 6) neu radd Meistr (Lefel 7), rhuglder mewn Saesneg a disgwyliadau uwch am sgiliau a gwybodaeth ddiwylliannol cyflogeion.

Mae'r ymchwil ansoddol ar gyfer yr astudiaeth hon a'r llenyddiaeth yn yr adolygiad cwmpasu (e.e. LlC, 2020a) yn nodi bod hunangyflogaeth, gan gynnwys mentrau masnachol a chymdeithasol, yn opsiwn i rai ffoaduriaid, yn enwedig i'r rhai sydd â phrofiad o redeg eu busnesau eu hunain. Gall dewis hunangyflogaeth leihau rhai rhwystrau i gyflogaeth, gan nad oes angen sgiliau iaith mor gryf efallai, ond mae hefyd yn creu rhwystrau newydd, fel mynediad at gyllid, a gall ffoaduriaid gael eu dal mewn gwaith ymylol yn economaidd (gweler e.e. Kone et al., 2019).

Mae cryn ansicrwydd am gyfleoedd cyflogaeth (a hunangyflogaeth) yn y dyfodol. Mae COVID-19 a gofynion i gadw pellter cymdeithasol wedi cael effaith sylweddol ar nifer o sectorau lefel mynediad fel manwerthu, lletygarwch, bwyd a diod ac adeiladu, a gall yr effeithiau ar sectorau fel lletygarwch barhau hyd yn oed wrth i'r cyfyngiadau symud gael eu llacio. Fodd bynnag, mae sectorau fel danfon a gyrru wedi cael hwb gan y cyfyngiadau hyn (Dias et al., 2020). Bydd effaith ymadael â'r Undeb Ewropeaidd (UE) yn dibynnu ar y trefniadau ymadael a negodir gyda'r UE. Mae ymchwil gan Lywodraeth Cymru wedi datgan y gallai Brexit “caled” fel y'i gelwir ar ddiwedd y cyfnod pontio, os nad oes cytundeb masnach wedi'i gytuno erbyn 31 Rhagfyr 2020, daro sectorau allforio, fel diwydiannau modurol ac awyrofod (ac felly cyfyngu ar rai cyfleoedd lefel uwch), yr effeithiwyd yn andwyol arnynt eisoes gan COVID-19 (LlC, 2019c). Os, fel y rhagwelir, y bydd diweithdra yn cynyddu a'r galw am lafur yn wan (o ystyried effaith economaidd COVID-19 ac mewn sefyllfaoedd Brexit “caled”), mae'n debygol o fod yn fwy anodd cynnwys cyflogwyr wrth recriwtio'r rhai, fel ffoaduriaid, yr ystyrir eu bod yn fwy o risg ac o bosibl yn fwy costus i'w recriwtio a'u cyflogi na grwpiau eraill.  I'r gwrthwyneb, gall cyfyngiadau ar fudwyr economaidd Ewropeaidd (o ganlyniad i'r DU yn ymadael â'r UE) leihau'r cyflenwad llafur, ac felly'r gystadleuaeth, yn enwedig ar gyfer swyddi lefel mynediad (Walsh a McNeil, 2020).

[1] Yn anaml iawn y soniwyd am sgiliau Cymraeg gwan neu gyfyngedig fel rhwystr i gyflogaeth. Mae hyn yn debygol o adlewyrchu'r ffocws ar y pedair ardal wasgaru, Caerdydd, Casnewydd, Abertawe a Wrecsam, lle mae'r Gymraeg yn cael ei siarad yn llai eang na rhyw ran arall o Gymru. Mewn gwrthgyferbyniad â hynny, canfu'r Astudiaeth Cymorth Cyflogaeth a Sgiliau i Ffoaduriaid (LlC, 2020a), a oedd yn cwmpasu Cymru gyfan, ragor o dystiolaeth, er yn gyfyngedig o hyd, o'r angen am sgiliau iaith Gymraeg er mwyn cael gafael ar waith a gwneud cynnydd ynddo, yn enwedig yng ngogledd Cymru.

4. Cynyddu'r cyfleoedd cyflogaeth i ffoaduriaid

Mae'r ymchwil a adolygwyd ar gyfer yr astudiaeth hon yn glir bod angen i gamau gweithredu i gynyddu cyfleoedd cyflogaeth i ffoaduriaid ganolbwyntio ar gyflogwyr a gwasanaethau cymorth i ffoaduriaid. Mae hefyd yn nodi y dylai camau gweithredu fod yn seiliedig ar bartneriaeth wirioneddol rhwng cyflogwyr a gwasanaethau cymorth, i sicrhau bod gwasanaethau cymorth yn deall anghenion a disgwyliadau cyflogwyr yn llawn, a sicrhau eu bod yn effeithiol wrth hysbysu a chynghori cyflogwyr, sy'n aml heb brofiad ac arbenigedd o ran recriwtio a chyflogi ffoaduriaid (Gibb, 2018; Szkudlarek, 2019).

Mae'r ymchwil ansoddol ar gyfer yr astudiaeth hon (h.y. cyfweliadau â rhanddeiliaid) a'r llenyddiaeth a gynhwyswyd yn yr adolygiad cwmpasu (e.e. Gibb, 2018; Szkudlarek, 2019) hefyd yn nodi bod angen i gamau gweithredu i wella rhagolygon a phrofiadau cyflogaeth ffoaduriaid ganolbwyntio ar y canlynol:

  • paratoi ar gyfer cyflogaeth, o ystyried y rhwystrau i fynediad y mae ffoaduriaid yn eu hwynebu. Dylai cymorth cyn cyflogi i ffoaduriaid ganolbwyntio ar barodrwydd i weithio a pharu ffoaduriaid â chyfleoedd cyflogaeth, a hefyd gweithio gyda chyflogwyr i ddileu rhwystrau diangen sy'n gysylltiedig â recriwtio a dethol
  • cynnal cyflogaeth, o ystyried y risgiau y gallai diwylliant gweithle nad yw'n gynhwysol arwain at ffoaduriaid yn gadael eu cyflogaeth (oherwydd, er enghraifft, eu bod yn teimlo nad ydynt yn 'ffitio i mewn'). Gall cymorth ôl-gyflogaeth i ffoaduriaid a chyflogwyr helpu i gynnal cyflogaeth
  • cefnogi dilyniant mewn cyflogaeth, o ystyried y perygl y bydd ffoaduriaid yn mynd yn cael eu dal mewn swyddi lefel mynediad (sy'n cyfyngu ar eu bywydau a'u cyfraniad posibl i Gymru). Gellir helpu cyn drwy gynorthwyo dilyniant gyda chyflogwr presennol neu gyda chyflogwr newydd a/neu sector a hefyd drwy wella ansawdd gwaith, drwy gamau gweithredu cenedlaethol i hyrwyddo cyflogaeth deg a moesegol, ac i gynyddu cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithlu

Mae'r ymchwil ansoddol ar gyfer yr astudiaeth hon hefyd yn amlygu rhai heriau allweddol a chyfyngiadau strwythurol ar gamau gweithredu i gynyddu cyfleoedd cyflogaeth i ffoaduriaid, gan gynnwys:

  • math a maint y cyfleoedd cyflogaeth ym mhob ardal wasgaru a faint ohonynt sydd ar gael, a phryderon y gallai COVID-19 a/neu'r DU yn ymadael â'r UE leihau cyfleoedd i ffoaduriaid
  • yr angen am gamau gweithredu gan gyflogwyr (e.e. i newid arferion recriwtio a diwylliannau yn y gweithle), a'r heriau sy'n gynhenid wrth ymgysylltu â chyflogwyr
  • yr amser y gall ei gymryd (blynyddoedd yn aml) cyn bod ffoaduriaid yn 'barod am waith'

5. Casgliadau ac argymhellion

Cyfleoedd cyflogaeth i ffoaduriaid

Mae'r rhan fwyaf o ffoaduriaid yn wynebu rhwystrau sylweddol i ddod o hyd i waith, yn fwyaf nodedig sgiliau Saesneg annigonol, a hefyd cymhwysedd a dealltwriaeth ddiwylliannol gyfyngedig o weithleoedd yng Nghymru, a/neu danbrisio neu ddiffyg cydnabyddiaeth (gan gyflogwyr) o gymwysterau, sgiliau a/neu brofiad a gafwyd dramor (LlC, 2020a). Felly, gall cyflogwyr eu gweld fel grŵp a allai beri risg, ac sydd o bosibl yn fwy costus, i'w recriwtio a'i reoli (Gibb, 2018; Szkudlarek, 2019). Felly, yn y tymor byr, er mwyn dod o hyd i waith rhaid i lawer o ffoaduriaid ganolbwyntio ar swyddi “lefel mynediad” sgiliau isel mewn meysydd fel warysau, lletygarwch a phrosesu bwyd, lle mae'r galw am lafur yn uchel a'r rhwystrau mynediad at gyflogaeth yn isel.

Dylai swyddi lefel mynediad, ynghyd ag addysg bellach (AB), gan gynnwys Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) a dysgu seiliedig ar waith, fod yn gam tuag at symud ymlaen i waith mwy medrus mewn sectorau fel iechyd a gofal cymdeithasol, lle mae'r galw am lafur yn fwy na'r cyflenwad. Fodd bynnag, ar hyn o bryd ymddengys fod gormod o ffoaduriaid yn cael eu dal mewn swyddi lefel mynediad, felly maent yn mynd yn swyddi lle na allant fynd dim pellach (Kone et al., 2019: LlC, 2020a). Felly, mae'r ymchwil ansoddol ar gyfer yr astudiaeth hon a'r llenyddiaeth a gynhwyswyd yn yr adolygiad cwmpasu (e.e. Gibb, 2018; Szkudlarek, 2019) yn nodi bod angen i ffocws ar anghenion cymorth cyn cyflogi gael ei ategu gan ffocws cryf ar gefnogi dilyniant mewn cyflogaeth. 

Arfer gorau wrth ddatblygu rhagolygon cyflogaeth ffoaduriaid

Mae'r ymchwil ansoddol ar gyfer yr astudiaeth hon a'r llenyddiaeth a gynhwyswyd yn yr adolygiad cwmpasu (e.e. Gibb, 2018; Szkudlarek 2019; Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid, 2019) yn nodi y dylai gwaith gyda ffoaduriaid ganolbwyntio ar baratoi cyn cyflogi, chwilio am swydd (gan gynnwys pryd y dylent ddechrau a sut y dylent chwilio am waith) a hefyd cynnal a chefnogi dilyniant i ffoaduriaid drwy gymorth ôl-gyflogaeth. Dylai hyn gan ei gyfateb gan waith gyda chyflogwyr i wella eu dealltwriaeth o'r materion y gallai ffoaduriaid eu hwynebu; i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth o ran recriwtio, cadw a dilyniant cyflogeion ac i wella ansawdd y gwaith.

Nid yw llawer o elfennau arfer effeithiol wrth gynorthwyo ffoaduriaid a chyflogwyr yn unigryw i waith gyda ffoaduriaid; maent yn ymddangos mewn ymyriadau i gynorthwyo grwpiau eraill sydd â rhwystrau cymhleth i gyflogaeth, gan gynnwys y rhai sy'n ddi-waith tymor-hir neu'n economaidd anweithgar; pobl o grwpiau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) a/neu bobl anabl (Luchinskaya a Green, 2016; Weekes-Bernard, 2017; Bayer et al., 2020).

Er bod elfennau arfer effeithiol yn cael eu deall yn gymharol dda, mae'r ymchwil ansoddol ar gyfer yr astudiaeth hon yn nodi y gall eu gweithredu fod yn heriol. Mae maint cymharol fach poblogaethau ffoaduriaid yn golygu bod gwasanaethau prif ffrwd a chyflogwyr yn aml yn ei chael yn anodd datblygu'r profiad a'r arbenigedd sydd eu hangen i gefnogi ffoaduriaid yn effeithiol a hefyd yn lleihau cymhellion i gyflogwyr dargedu'r grŵp hwn. Mae maint bach poblogaethau ffoaduriaid yn golygu bod angen am wasanaethau cymorth arbenigol fel AilGychwyn i gynorthwyo ffoaduriaid ac, i'r gwrthwyneb, angen i brif ffrydio ymgysylltiad cyflogwyr i'r gwaith ehangach sy'n canolbwyntio ar hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yng ngweithlu Cymru a chynyddu ansawdd cyfleoedd cyflogaeth yng Nghymru.

Er bod achos dros wasanaethau arbenigol, nid oes gan AilGychwyn y capasiti i gynorthwyo'r holl ffoaduriaid hynny y gall fod angen cymorth arnynt i ddod o hyd i gyflogaeth a sicrhau dilyniant yn y gyflogaeth honno neu gael budd ohoni.  At hynny, nid oes gan AilGychwyn yr arbenigedd a'r adnoddau mewn meysydd fel hunangyflogaeth neu ofal plant y gall darpariaeth brif ffrwd, fel Busnes Cymru a Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE), ei chynnig. Felly mae'n bwysig y gall ffoaduriaid gael mynediad at y gwasanaethau hyn lle y bo'n briodol. Er bod gan rai cynghorwyr o fewn Busnes Cymru brofiad o weithio gyda ffoaduriaid, mae'r ymchwil ansoddol ar gyfer yr astudiaeth hon a'r Astudiaeth Cymorth Cyflogaeth a Sgiliau i Ffoaduriaid (LlC, 2020a) yn awgrymu bod llai o brofiad ac arbenigedd mewn darpariaeth cymorth cyflogaeth genedlaethol neu ranbarthol arall, fel Cymunedau am Waith. Er bod gan AilGychwyn a sefydliadau'r sector gwirfoddol yr arbenigedd sydd ei angen i helpu i adeiladu capasiti o fewn gwasanaethau prif ffrwd, nid oes ganddynt adnoddau i wneud hyn yn ogystal â chynorthwyo ffoaduriaid yn uniongyrchol. 

Mae'r ymchwil ansoddol ar gyfer yr astudiaeth hon hefyd yn nodi nad oes 'bwled arian' ac, fel mae tabl 1.1. yn dangos, mae angen gweithredu cydgysylltiedig ar draws amrywiaeth o wasanaethau a phartneriaid. Mae hyn yn codi cwestiynau ynghylch sut y dylid arwain a chydlynu camau gweithredu yn y sector hwn yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Mae hefyd yn tynnu sylw at sut y gall yr amser a gymerir i ffoaduriaid fod yn 'barod am waith' ar gyfer cyfleoedd lefel mynediad neu ddilyniant ofyn am amynedd a dyfalbarhad mawr ar ran ffoaduriaid, ac mae angen ymrwymiad hirdymor gan wasanaethau cymorth fel AilGychwyn.

Tabl 1.1. Crynodeb o'r argymhellion allweddol

Ymgysylltu â ffoaduriaid a'u cynorthwyo: paratoi ar gyfer cyflogaeth

Cyfrifoldeb

1. Gweithio allgymorth gweithredol; er enghraifft, gydag arweinwyr ffydd a chymunedol, grwpiau a rhwydweithiau sy'n gyfarwydd ag estyn allan at grwpiau o ffoaduriaid a allai fel arall fod wedi'u tangynrychioli, gan gynnwys y rhai sy'n 'sownd' mewn gwaith 'gwael'.

2. Asesiadau sy'n canolbwyntio ar waith a chynllunio gweithredu i benderfynu pa sgiliau sydd eu hangen ar ffoaduriaid i wireddu eu dyheadau cyflogaeth tymor byr ac er mwyn sicrhau bod eu nodau a'u dyheadau tymor byr yn cyd-fynd â chyfleoedd cyflogaeth realistig.

3. Mynediad at leoliadau gwaith neu, lle nad yw hyn yn bosibl, gwirfoddoli sy'n galluogi ffoaduriaid i gaffael cymhwysedd a chyfalaf diwylliannol y gweithle sy'n ofynnol ac sydd hefyd yn darparu profiad gwaith yn y DU.

4. Mynediad at hyfforddiant sy'n uniongyrchol berthnasol i anghenion cyflogwyr yn y farchnad lafur leol (e.e. hylendid bwyd i'r rhai sy'n awyddus i weithio ym maes gweithgynhyrchu bwyd).

5. Mynediad at wasanaethau fel y Ganolfan Gwybodaeth Cydnabyddiaeth Genedlaethol (NARIC) sy'n gallu cynorthwyo'r gwaith o gydnabod cymwysterau tramor (drwy, er enghraifft, y prosiect AilGychwyn).

6. Cymorth ymarferol i wella'r broses o chwilio am swyddi a cheisiadau a, lle y bo'n bosibl, paru ffoaduriaid â chyfleoedd cyflogaeth addas.

AilGychwyn a hefyd y Ganolfan Byd Gwaith (JCP) a rhaglenni cymorth cyflogaeth cenedlaethol a rhanbarthol fel Cymru'n Gweithio, Cymunedau am Waith, Journey2Work, Opus a Gweithffyrdd.

7. Adolygu pa mor effeithiol mae'r camau gweithredu a'r arfer da a nodwyd yn y polisi presennol ESOL yng Nghymru (LlC, 2018d) mewn perthynas â mynediad at ddarpariaeth ESOL ffurfiol (gan gynnwys ESOL+ ac ESOL at ddibenion penodol, fel pasio'r prawf gyrru), a chymorth i gael gafael ar gyfleoedd eraill i ddatblygu sgiliau iaith mewn lleoliadau anffurfiol a chymdeithasol, fel Cyfeillion a Chymdogion (FAN) sy'n cynnal grwpiau i ddatblygu Saesneg sgwrsio), wedi'u gweithredu.

Tîm Cynllunio a Pholisi Ôl-16 Llywodraeth Cymru (sy'n cyllido ESOL); Partneriaeth Ymfudo Strategol Cymru (WSMP), AilGychwyn a REACH+ a darparwyr ESOL (e.e. colegau addysg bellach, Addysg Oedolion Cymru a'r sector gwirfoddol), a chyflogwyr. 

Cynnal cyflogaeth a chefnogi dilyniant

Cyfrifoldeb

8. Cadw mewn cysylltiad â ffoaduriaid a chyflogwyr i roi cymorth ôl-gyflogaeth (gan gynnwys cyngor a chymorth i gynorthwyo ffoaduriaid i integreiddio i ddiwylliannau yn y gweithle).

9. Cynorthwyo dilyniant mewn gwaith (e.e. mynediad at wybodaeth, cyngor ac arweiniad am gyfleoedd gwaith a dilyniant a llwybrau sy'n gysylltiedig ag addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith (fel prentisiaethau) ac addysg uwch, a mynediad at gymorth a hyfforddiant i adeiladu 'hyblygrwydd gyrfa'.

AilGychwyn, Gyrfa Cymru, Undebau Llafur (gan gynnwys e.e. Cronfa Ddysgu'r Undebau);  a chymorth cyflogadwyedd a sgiliau Llywodraeth Cymru, fel y Rhaglen Sgiliau Hyblyg; y prosiect Swyddi Gwell, Dyfodol Gwell (yn Abertawe); darparwyr addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith. 

10. Defnyddio gwybodaeth am y farchnad lafur (fel yr hyn a amlinellir yn yr adroddiad hwn) er mwyn nodi cyfleoedd cyflogaeth lefel mynediad a dilyniant a sectorau/cyflogwyr i ganolbwyntio gweithgarwch ymgysylltu arnynt yn sail i wybodaeth, cyngor ac arweiniad a sicrhau bod dyheadau ffoaduriaid yn cyd-fynd yn dda â chyfleoedd cyflogaeth.

11. Gweithio gyda chyflogwyr i wella eu dealltwriaeth o amgylchiadau ffoaduriaid a'r heriau y gallant eu hwynebu.

12. Gweithio gyda chyflogwyr i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn prosesau recriwtio a dethol y gweithlu, cadw a dilyniant (gan gynnwys cymorth cyn ac ar ôl cyflogaeth).

13. Gwella ansawdd gwaith drwy, er enghraifft, gamau gweithredu cenedlaethol i hyrwyddo cyflogaeth deg a moesegol.

Swyddogion ymgysylltu â chyflogwyr rhanbarthol AilGychwyn; Swyddogion/timau ymgysylltu â chyflogaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau ac awdurdodau lleol; a thîm cydraddoldeb Llywodraeth Cymru, gan gysylltu, er enghraifft, â'r Comisiwn Gwaith Teg, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru a'r sector gwirfoddol (e.e. Bawso, Chwarae Teg a Tai Pawb) a Chynghorau Gwirfoddol Sirol, Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a Bargeinion Dinesig.

14. Archwilio'r posibilrwydd ar gyfer mentrau newydd, fel: ESOL drwy arian cyfatebol neu a ddarperir gan gyflogwyr a grantiau datblygu cyflogaeth ffoaduriaid; datblygu'r hyn sy'n cyfateb i Grŵp Meddygon Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid Cymru (WARD) ar gyfer grwpiau eraill o weithwyr proffesiynol; a/neu ddatblygu mentrau i gefnogi AilGychwyn a sefydliadau'r sector gwirfoddol i rannu a meithrin hyder ac arbenigedd mewn gwasanaethau cymorth cyflogaeth prif ffrwd, wrth gynorthwyo ffoaduriaid a gweithio gyda nhw.

Timau Cydraddoldeb, Cynllunio Ôl-16 a Pholisi a Sgiliau a Chyflogadwyedd Llywodraeth Cymru a'r sector gwirfoddol (e.e. Alltudion ar Waith (DPIA), y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST), Cyngor Ffoaduriaid Cymru a Dinas Noddfa).

15. Cynllunio cenedlaethol a rhanbarthol a chydlynu camau gweithredu i wella cyfleoedd cyflogaeth a dilyniant ffoaduriaid.

Tîm Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru, Partneriaeth Ymfudo Strategol Cymru (WSMP), AilGychwyn a'r sector gwirfoddol (e.e. Cyngor Ffoaduriaid Cymru, Alltudion ar Waith, Dinas Noddfa).

6. Manylion cyswllt

Adroddiad Ymchwil Llawn: Holtom, D; Bowen, R; Pells, H; Lloyd-Jones, S; 2020. AilGychwyn: Integreiddio Ffoaduriaid, Cyfleoedd Ymgysylltu â Chyflogwyr. Caerdydd: Llywodraeth Cymru, rhif adroddiad GSR 75/2020.

Safbwyntiau’r ymchwilwyr sydd yn yr adroddiad hwn ac nid o reidrwydd rhai Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag:

Dr Steven Macey
Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: ymchwilcyfiawndercymdeithasol@llyw.cymru

Image
GSR logo

ISBN digidol 978-1-80082-559-8