Neidio i'r prif gynnwy

Ailgylchu yn y Gweithle, mae'n bryd i ni sortio hyn.

Mae ailgylchu yn y gweithle yn newid

Mae'n gyfraith i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus i sortio eu gwastraff er mwyn ei ailgylchu.

Mae'n berthnasol i'r holl gasglwyr a phroseswyr gwastraff a deunydd ailgylchu sy'n rheoli gwastraff gweithleoedd sy'n debyg i wastraff cartrefi.

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru y gyfraith hon i wella ansawdd y ffordd rydym yn casglu a gwahanu gwastraff a chynyddu'r gwaith hwn.

Pa wastraff sydd angen ei wahanu

Mae angen gwahanu'r deunyddiau canlynol i'w casglu ar wahân:

  • Bwyd
  • Papur a cherdyn
  • Gwydr
  • Metelau, plastig a chartonau
  • Tecstilau sydd heb eu gwerthu
  • Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach sydd heb eu gwerthu (sWEEE)

Mae hefyd gwaharddiad ar:

  • Anfon unrhyw wastraff bwyd (o ba faint bynnag) i garthffosydd
  • Gwastraff a gesglir ar wahân sy'n mynd i beiriannau llosgi a safleoedd tirlenwi
  • Pob gwastraff pren sy'n mynd i safleoedd tirlenwi

I bwy mae'r gyfraith yn berthnasol

Mae angen i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus wahanu eu gwastraff.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Safleoedd amaethyddol
  • Lletygarwch a thwristiaeth - bwytai, bariau, tafarndai, gwasanaethau gwely a brecwast, gwestai, gwersylloedd a pharciau carafanau, llety gwyliau, a safleoedd trwyddedig
  • Meysydd sioe
  • Gorsafoedd gwasanaeth a gorsafoedd petrol
  • Lleoliadau adloniant a chwaraeon gan gynnwys canolfannau hamdden
  • Trafnidiaeth - gorsafoedd bysiau, gorsafoedd rheilffordd, porthladdoedd, meysydd awyr a hofrenfeydd
  • Cartrefi gofal a nyrsio
  • Fferyllfeydd, meddygfeydd, deintyddfeydd, a lleoliadau gofal sylfaenol eraill
  • Safleoedd adeiladu
  • Ffatrïoedd a warysau
  • Garejis ceir
  • Addysg - prifysgolion, colegau ac ysgolion
  • Canolfannau garddio
  • Adeiladau treftadaeth
  • Llyfrgelloedd ac amgueddfeydd
  • Swyddfeydd a gweithdai
  • Mannau addoli
  • Carchardai
  • Marchnadoedd a gwyliau yn yr awyr agored
  • Manwerthu

Ysbytai GIG ac ysbytai preifat yw'r unig weithleoedd fydd yn cydymffurfio o fis Ebrill 2026 ymlaen.

Mae'r Cod Ymarfer yn rhoi gwybodaeth fanylach i chi am y gyfraith ailgylchu newydd yn y gweithle a sut y dylid cydymffurfio. Mae'n bwysig eich bod yn darllen hyn ochr yn ochr â'r canllawiau.

Mae gan wefan Busnes Ailgylchu WRAP ganllawiau ac adnoddau cyfathrebu y gellir eu lawrlwytho am ddim ar gyfer eich gweithle.

Canllawiau ar gyfer gweithleoedd
Canllawiau ar gyfer gweithleoedd
Sut y gall gweithleoedd baratoi ar gyfer y newidiadau.
Canllawiau i gasglwyr gwastraff
Canllawiau i gasglwyr gwastraff
Sut y gall casglwyr gwastraff baratoi ar gyfer y newidiadau.

Pam mae'r gyfraith wedi newid 

Rydym am wella ansawdd y gwaith ailgylchu a chynyddu faint sy’n cael ei ailgylchu o weithleoedd. Mae hwn yn gam pwysig arall tuag at fod yn ddiwastraff, lleihau ein hallyriadau carbon a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Rydym am barhau i ddefnyddio deunyddiau cyhyd ag y bo modd. Gyda chostau deunyddiau yn codi, bydd parhau i ddefnyddio deunyddiau o ansawdd uchel yn helpu ein heconomi ac yn cefnogi ein cadwyni cyflenwi. Er enghraifft, drwy osgoi treth tirlenwi a chreu cyfleoedd gwaith.

Ni yw'r gorau eisoes yn y DU ar gyfer ailgylchu domestig a'r trydydd gorau yn y byd.

Mae'r rheoliadau yn cefnogi'r camau gweithredu o strategaeth economi gylchol Llywodraeth Cymru Mwy nag ailgylchu.