Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn ailgylchu dwywaith gymaint o wastraff yng Nghymru ag yr oeddem ddegawd yn ôl, a mwy na’r targed statudol diweddaraf o 58%.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dyma’r ystadegau ailgylchu diweddaraf

Mae canlyniadau terfynol 2015/16 yn dangos bod y 22 awdurdod lleol yn ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio ar gyfartaledd 60% o’u gwastraff, cynnydd o 4 pwynt canrannol ar ffigurau terfynol y llynedd a 30 o bwyntiau canrannol yn fwy na naw mlynedd yn ôl.  Mae’r ffigur hefyd yn 2 bwynt canrannol yn uwch na’r Targed Ailgylchu Statudol diweddaraf o 58%.

Mae ffigurau eraill a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod awdurdodau lleol yn anfon 80% yn llai o wastraff bioddiraddadwy i’w gladdu na deng mlynedd yn ôl.  Yn 2015-16, anfonodd yr awdurdodau 170,567 o dunelli o wastraff bioddiraddadwy i domennydd tirlenwi, 58% yn llai na’r lwfans o 410,000 o dunelli. Llwyddodd pob un o’r 22 awdurdod lleol i gladdu llai na’i lwfans.  

Mae anfon llai o wastraff bioddiraddadwy i domennydd tirlenwi yn helpu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr gan leihau’r methan sy’n cael ei gynhyrchu a’i ryddhau gan domennydd tirlenwi.

Mae’r ffigurau diweddaraf hyn yn cadarnhau bod Cymru’n geffyl blaen yn y DU, gyda swm y gwastraff sy’n cael ei ailgylchu wedi cynyddu’n sylweddol bob blwyddyn ers 2006/07.

Wrth groesawu’r ystadegau, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: 

“Mae Cymru’n arweinydd ym myd ailgylchu’r DU.  Mae’r ffigurau diweddaraf hyn yn profi’n bod yn gwneud yn well na’r targed uchelgeisiol o 58%.  Mae hyn yn destun calondid gan ei fod yn dangos ein bod ar y trywydd i gyrraedd ein targed o 70% erbyn 2025.

“Rhaid diolch i ymrwymiad awdurdodau lleol a theuluoedd i ailgylchu am y llwyddiant hwn.  Gyda’n gilydd, gallwn barhau i wella.  Rwyf am i Gymru fod y wlad orau yn Ewrop am ailgylchu ac o weld pa mor bell rydym wedi dod ers 2006, rwy’n credu bod hynny’n nod y gallwn ac yn gwnawn ni ei wireddu.” 


Llwyddodd 19 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru i daro’r targed o 58%, neu ragori arno.  Gosodwyd y targed hwn yn y strategaeth Tuag at Ddyfodol Diwastraff.  Mae awdurdodau lleol sy’n ei chael hi’n anodd taro’r targed wedi cael arian ychwanegol fel rhan o Raglen Newid Gydweithredol Llywodraeth Cymru.  Bydd hyn yn eu helpu i wella’u gwasanaethau casglu a’r cyfleusterau yn eu depots ac i daro’u Targedau Ailgylchu Statudol yn y dyfodol.

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ysgrifennu at y tri awdurdod sydd wedi methu’r targed i ofyn iddyn nhw esbonio pam y bu iddyn nhw fethu ac i nodi unrhyw ffeithiau perthnasol y dylai Llywodraeth Cymru eu hystyried cyn gwneud penderfyniad.

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn penderfynu p’un ai i gosbi awdurdodau am fethu’u targed yn 2015-16 yn ôl rhinweddau pob achos ac ar ôl ystyried yn llawn amgylchiadau pob awdurdod.  Efallai y caiff awdurdodau lleol eu dirwyo yn y dyfodol os byddan nhw’n parhau i fethu targedau.