Neidio i'r prif gynnwy
Albert Heaney CBE

Albert Heaney CBE yw Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae ei gyfrifoldebau’n cynnwys:

  • bod yn llais cryf i bawb sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a darparu cyngor diduedd ar sail gwybodaeth i Weinidogion Cymru ar flaenoriaethau ar gyfer newid
  • darparu arweinyddiaeth genedlaethol a hyrwyddo parch i bawb mewn rolau gofal cymdeithasol
  • ysgogi integreiddio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol
  • galluogi pobl sy’n derbyn gofal cymdeithasol i gyflawni eu canlyniadau personol
  • lleihau nifer y plant sydd angen eu rhoi mewn gofal
  • cefnogi modelau darparu gwasanaeth arloesol â gwerth cymdeithasol
  • datblygu modelau cyllid gofal cymdeithasol newydd
  • hyrwyddo gwella a diwygio ym maes gofal cymdeithasol
  • cefnogi lles a datblygiad y gweithlu gofal cymdeithasol
  • cefnogi awdurdodau lleol a darparwyr a gwella ansawdd a chynaliadwyedd ym maes gofal cymdeithasol
  • cyflawni bwriadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016
  • cyd-gadeirio Bwrdd Partneriaeth y Gymraeg mewn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • ysgogi trefniadau a gweithdrefnau diogelu i sicrhau arferion o’r safon uchaf

Mae Albert wedi gweithio yn y Gwasanaethau Cyhoeddus ers yr 1980au. Mae ei rolau blaenorol wedi cynnwys:

  • Llywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSS Cymru)
  • Cyfarwyddwr Arweiniol ar gyfer Plant a Chyfarwyddwr Arweiniol ar gyfer Diogelu ac Atal, ADSS Cymru
  • Cadeirydd Bwrdd Diogelu Plant
  • Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol, yn arwain ar Wasanaethau Plant ac Oedolion

Mae’n aelod o’r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol ac yn Gadeirydd Rhwydwaith Cyfiawnder Teuluol Cymru.