Neidio i'r prif gynnwy

Aled Roberts i gael ei benodi’n Gomisiynydd y Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mr Roberts, a gaiff ei benodi am gyfnod o saith mlynedd, fydd yn cymryd lle Meri Huws pan ddaw ei chyfnod i ben ar 31 Mawrth 2019.

Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd y Prif Weinidog:

“Mae’n bleser cyhoeddi fy mhenderfyniad mai Aled Roberts gaiff ei benodi’n Gomisiynydd y Gymraeg. Mae ganddo brofiad o fod yn gyfreithiwr, yn arweinydd llywodraeth leol, yn llywodraethwr ysgol ac, wrth gwrs, yn Aelod Cynulliad. Mae ganddo, felly, ystod o sgiliau a fydd yn ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer swydd Comisiynydd y Gymraeg.

“Yn  ddiweddar, mae Aled wedi bod yn arwain ar y gwaith o adolygu’r system ar gyfer cynllunio addysg cyfrwng Cymraeg a bu’n gweithio’n agos ag awdurdodau lleol i wella’u Cynlluniau Strategol Cymraeg Mewn Addysg. Bydd yn rhoi’r gorau i’r rôl honno er mwyn cymryd swydd Comisiynydd y Gymraeg.

“Hoffwn ddiolch i Meri Huws am ei holl lwyddiannau yn ystod ei chyfnod fel Comisiynydd y Gymraeg. Mae Meri wedi cyflawni’r rôl ag argyhoeddiad a brwdfrydedd, ac mae wedi gweithio’n galed iawn i ymestyn hawliad siaradwyr Cymraeg. Mae hi wedi gosod sylfeini cadarn iawn y gall Aled adeiladu arnynt.”

Ychwanegodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan:

“Prif amcanion Comisiynydd y Gymraeg yw hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg a chynnal hawliau siaradwyr Cymraeg. Mae penodi Aled, felly, yn rhan bwysig iawn o wireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru  sydd wedi’i hamlinellu yn y strategaeth Cymraeg 2050. Mae’r strategaeth honno’n gosod y targed uchelgeisiol a  heriol o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a chynyddu cyfran y siaradwyr Cymraeg sy’n defnyddio’r iaith bob dydd o 10% i 20%. Bydd hyn yn gofyn am ymrwymiad llawn gan bawb, gan gynnwys Comisiynydd y Gymraeg.

“Dw i’n edrych ymlaen at weithio gydag Aled i gyflawni’r amcanion hyn ac adeiladu ar waith Meri dros y saith mlynedd ddiwethaf.”

Dywedodd Aled Roberts:

“Dw i wedi bod yn frwd dros yr iaith erioed. Roedd gweithio gyda’r awdurdodau lleol ar eu cynlluniau addysg cyfrwng Cymraeg yn ddiweddar a chynorthwyo Llywodraeth Cymru i wireddu ei hamcanion ar gyfer dyfodol y Gymraeg mewn addysg yn fraint ac yn brofiad gwych.

“Mae ymgymryd â’r rôl hon yn gyfle cyffrous. Dw i’n edrych ymlaen at adeiladu ar waith Meri Huws, a gweithio i wireddu’r targed a nodir yn Cymraeg 2050 a sicrhau y cynhelir hawliau siaradwyr Cymraeg. Mae’n her fawr ac rwy’n benderfynol o’i chyflawni – ac i wneud hynny, bydd angen imi gydweithio’n effeithiol a phartneriaid ledled Cymru a thu hwnt.”