Neidio i'r prif gynnwy

Data ar nwyddau a allforiwyd i gyrchfannau y tu allan i'r DU ar gyfer Gorffennaf 2018 i Mehefin 2019.

Prif bwyntiau

  • Gwerth allforion Cymreig ar gyfer y flwyddyn hyd at a chan gynnwys Mehefin 2019 oedd £17.7 biliwn, i fyny £1.1 biliwn (6.8%) o'i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
  • O edrych ar wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr, gwelwyd cynnydd yn 9 o’r 12 a bu’r cynnydd canrannol mwyaf yn yr Alban (i fyny 14.5%), o'i gymharu â’r flwyddyn hyd at a chan gynnwys Mehefin 2018. Gwelwyd y gostyngiad mwyaf yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr (i lawr 4.8%). Gwelodd Cymru y pumed cynnydd mwyaf.
  • Gwelwyd cynnydd o £577 miliwn (5.7%) yn yr allforion i wledydd yr Undeb Ewropeaidd (UE) a chynnydd o £549 miliwn (8.6%) i wledydd y tu allan i’r UE, o'i gymharu â’r flwyddyn hyd at a chan gynnwys Mehefin 2018. Roedd allforion i wledydd yr UE yn cynrychioli 60.7% o allforion Cymreig o’i gymharu â 49.5% ar gyfer y DU.
  • Parhaodd yr Almaen i fod y gyrchfan allforio uchaf, yn cyfrif am 17.0% o allforion, i lawr o 19.9% o’i gymharu â’r flwyddyn hyd at a chan gynnwys Mehefin 2018.
  • Parhaodd allforion Cymreig i gael eu dominyddu gan ‘Beiriannau a Chyfarpar Trafnidiaeth’ sy’n cyfrif am 49.3% o allforion.

Gwybodaeth bellach

Mae'r data uchod yn ymwneud ag allforion nwyddau. Mae’r ystadegau arbrofol a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod allforion gwasanaethau yn cynrychioli tua 30% o'r cyfanswm allforion yng Nghymru.

Cywiriadau afreolaidd

Yn dilyn gweithrediad dulliau gwirio a sicrhau ansawdd, adolygwyd ffigyrau’r Fasnach dramor mewn nwyddau gan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) yn Awst 2019. Mae’r cywiriadau yma bellach wedi cael eu gweithredu ar Ystadegau Rhanbarthol Masnach Nwyddau ar gyfer y cyfnodau 2013 i 2017, gyda man newidiadau i ffigyrau Cymru o ganlyniad. Ceir gwybodaeth bellach ar y gwefan UK Trade Info.

Adroddiadau

Allforion Cymreig, Gorffennaf 2018 i Mehefin 2019 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 822 KB

PDF
822 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.