Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r amcanestyniadau sy'n seiliedig ar 2022 yn rhoi amcangyfrifon o faint poblogaeth yn y dyfodol ac yn seiliedig ar ragdybiaethau am enedigaethau, marwolaethau a mudo.

Mae'r datganiad yn darparu ystadegau ar faint a strwythur oedran posibl poblogaeth awdurdodau lleol yng Nghymru yn y dyfodol. Mae'r amcanestyniadau hyn yn disodli'r amcanestyniadau blaenorol a oedd yn seiliedig ar 2018.

Mae'r amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol hyn yn seiliedig ar amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) yn ogystal ag amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol (y SYG).

Mae’r amcanestyniadau ar gael ar StatsCymru ar gyfer cyfnod o 25 mlynedd, o ganol 2022 i ganol 2047. Fodd bynnag, mae'r datganiad hwn yn canolbwyntio ar y 10 mlynedd cyntaf o gyfnod yr amcanestyniadau gan fod amcanestyniadau yn tueddu i ddod yn fwyfwy ansicr yn y tymor hwy, gan y gall llawer newid dros y cyfnod hwnnw. Mae hyn yn wir yn arbennig ar gyfer dadansoddiadau manwl yn ôl oedran a rhyw.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Ystadegau Poblogaeth a Mudo

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn:

0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.