Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r amcanestyniadau sy'n seiliedig ar 2021 yn darparu ystadegau am faint a strwythur oedran posibl poblogaeth y DU a'i gwledydd cyfansoddol yn y dyfodol.

Cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol interim seiliedig ar 2021 ar 30 Ionawr

Mae ansicrwydd ynghlwm ag amcanestyniadau poblogaeth, ac maent yn seiliedig ar ragdybiaethau ar dueddiadau’r dyfodol mewn ffrwythlondeb, marwolaeth a mudo. Nid rhagolygon yw amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol, ac nid ydynt yn ceisio rhagweld newidiadau tymor byr posibl mewn mudo rhyngwladol. Mae'r amcanestyniadau hyn yn defnyddio'r amcangyfrifon dros dro diweddaraf o fudo rhyngwladol a gaiff eu hadolygu wrth i ragor o ddata fod ar gael, a datblygwyd rhagdybiaethau yn dilyn y cyngor arbenigol diweddaraf. Mae mwy o wybodaeth ar gael ym mhennawd a dogfennau methodoleg y SYG.

Prif bwyntiau

  • Rhwng canol 2021 a chanol 2031, amcanestynnir y bydd poblogaeth Cymru yn cynyddu 5.8% o 3.11 miliwn i 3.29 miliwn. 
  • Mae'r cynnydd yn yr amcanestyniadau poblogaeth ar gyfer Cymru rhwng 2021 a 2031 yn is nag ar gyfer Lloegr, sef y cynnydd mwyaf yn yr amcanestyniadau o holl wledydd y DU, sef 7.9%.
  • Fodd bynnag, mae'r cynnydd yn yr amcanestyniadau poblogaeth ar gyfer Cymru rhwng 2021 a 2031 yn uwch nag ar gyfer Gogledd Iwerddon, sef cynnydd o 3.6%.
  • Nid yw amcanestyniadau ar gyfer yr Alban wedi'u cyhoeddi. Gweler yr adran ‘Nodiadau’ am ragor o wybodaeth.

Amcanestyniadau poblogaeth Cymru yn ôl oedran

  • Amcanestynnir y bydd nifer y plant o dan 16 oed yn gostwng 8.1% i 503,000 rhwng canol 2021 a chanol 2031.
  • Amcanestynnir y bydd nifer y bobl 16 i 64 oed yn cynyddu 5.6% i 1,998,000 rhwng canol 2021 a chanol 2031. 
  • Amcanestynnir y bydd nifer y bobl 65 oed neu hŷn yn cynyddu 17.8% i 784,000 rhwng canol 2021 a chanol 2031.
  • Amcanestynnir y bydd nifer y bobl 75 oed neu hŷn yn cynyddu 24.2% i 381,000 rhwng canol 2021 a chanol 2031.

Amcanestyniadau poblogaeth Cymru yn ôl cydrannau newid

  • Amcanestynnir y bydd dal mwy o farwolaethau na genedigaethau, gyda chyfanswm o bron i 71,000 yn fwy o farwolaethau na genedigaethau rhwng canol 2021 a chanol 2031.
  • Amcanestynnir mai mudo fydd yn gyfrifol am y cynnydd yn y boblogaeth Cymru, gyda chyfanswm mudo net o 250,000 rhwng canol 2021 a chanol 2031.

Mae’r siart isod yn dangos sut yr amcangyfrifir bod poblogaeth Cymru wedi newid ers 2011, a sut yr amcanestynnir y bydd yn newid hyd at 2031. Mae’r siart hefyd yn cymharu’r amcanestyniadau interim seiliedig ar 2021 ar gyfer Cymru â’r ddwy set flaenorol o amcanestyniadau, sef amcanestyniadau seiliedig ar 2018 ac amcanestyniadau interim seiliedig ar 2020.

Ffigur 1: Amcangyfrif ac amcanestyniadau poblogaeth Cymru, 2011 i 2031

Image

 

Disgrifiad o Ffigur 1: Mae’r siart llinell hon yn dangos, erbyn 2031, fod yr amcanestyniadau poblogaeth interim seiliedig ar 2021 ar gyfer Cymru yn uwch na’r amcanestyniadau poblogaeth interim blaenorol seiliedig ar 2020 a’r rhai seiliedig ar 2018.

Ffynhonnell: Amcangyfrifon poblogaeth ac amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol y SYG

Erbyn 2031, mae'r amcanestyniadau poblogaeth interim seiliedig ar 2021 ar gyfer Cymru yn uwch na'r amcanestyniadau poblogaeth interim blaenorol ar sail 2020.

Disgwylir i ddiweddariad llawn i amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol gael ei ryddhau ym mis Hydref/Tachwedd 2024. Bydd y rhain yn seiliedig ar 2022, gan gynnwys data o Gyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, a Chyfrifiad 2022 ar gyfer yr Alban.

Nodiadau

Defnyddir yr amcangyfrif poblogaeth canol blwyddyn ar gyfer canol 2021 fel man cychwyn yr amcanestyniad. Dyma sail y boblogaeth sy’n defnyddio data cyfrifiad ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac amcangyfrifon canol blwyddyn treigl ar gyfer yr Alban.

Nid oes unrhyw amcanestyniadau seiliedig ar 2021 wedi'u cyhoeddi ar gyfer yr Alban oherwydd nid yw'r broses o gysoni ac ail-seilio ystadegau poblogaeth, gan gynnwys ystadegau mudo rhyngwladol ar gyfer 2012 i 2022 sy'n cynnwys mewnwelediadau o Gyfrifiad yr Alban 2022, wedi'u cwblhau eto. Bydd y data hyn ar gael ac yn cael eu hymgorffori yn yr amcanestyniadau seiliedig ar 2022 y bwriedir eu cyhoeddi rhwng mis Hydref a mis Tachwedd 2024.

Dylai defnyddwyr sydd angen amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol ar gyfer yr Alban barhau i ddefnyddio’r amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol interim seiliedig ar 2020: amrywiolyn amcangyfrif mudo rhyngwladol (SYG).

Cyswllt

Martin Parry

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.