Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi cyhoeddi amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol sy'n seiliedig ar 2022 ar gyfer y DU gyfan. Mae'r bwletin hwn yn cyfeirio'n benodol at yr amcanestyniadau ar gyfer Cymru. 

Mae amcanestyniadau poblogaeth yn destun ansicrwydd ac yn seiliedig ar ragdybiaethau am dueddiadau yn y dyfodol o ran ffrwythlondeb, marwolaethau a mudo. Nid rhagolygon yw amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol, ac nid ydynt yn ceisio rhag-weld newidiadau tymor byr posibl mewn mudo rhyngwladol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ym mhennawd y SYG ar 'Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol: yn seiliedig ar 2022'dogfennau methodoleg (SYG).

Mae'r holl amcanestyniadau yn cyfeirio at y boblogaeth ar 30 Mehefin yn y flwyddyn gyfeirio.

Prif bwyntiau

Amcanestynnir y bydd poblogaeth Cymru yn cynyddu 5.9% i 3.32 miliwn erbyn canol 2032, ac yn cynyddu 10.3% i 3.46 miliwn erbyn canol 2047. O'i gymharu â hyn, twf poblogaeth Cymru dros y degawd blaenorol hyd at ganol 2022 oedd 2.0%.

Mae'r twf a amcanestynnir yn y boblogaeth rhwng canol 2022 a chanol 2032 yn cael ei yrru gan fudo, gyda chyfanswm mudo net a amcanestynnir o 271,600 rhwng canol 2022 a chanol 2032. Amcanestynnir y bydd newid naturiol (y gwahaniaeth yn nifer y genedigaethau a nifer y marwolaethau) yn parhau i fod yn negyddol dros yr un cyfnod.

Mae'r cynnydd yn yr amcanestyniadau poblogaeth ar gyfer Cymru rhwng canol 2022 a chanol 2032 yn is nag ar gyfer Lloegr. Y cynnydd yn amcanestyniadau Lloegr yw 7.8%, sef y cynnydd mwyaf o holl wledydd y DU. Fodd bynnag, mae'r cynnydd yn yr amcanestyniadau poblogaeth ar gyfer Cymru rhwng canol 2022 a chanol 2032 yn uwch nag ar gyfer Gogledd Iwerddon a'r Alban, sef cynnydd o 2.1% a 4.4% yn y drefn honno.

Mae disgwyl i nifer y bobl 65 oed neu hŷn yng Nghymru gynyddu 19.6% i 806,000 rhwng canol 2022 a chanol 2032, ac i gyrraedd dros filiwn erbyn 2060.

Ffigur 1: Amcangyfrif ac amcanestyniadau poblogaeth, 2012 i 2047 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart llinell sy’n dangos bod amcangyfrif poblogaeth Cymru wedi cynyddu’n araf rhwng canol 2012 a chanol 2022, ac amcanestynnir y bydd yn parhau i godi ond yn gyflymach erbyn canol 2047, pan amcanestynnir mai 3.46 miliwn fydd poblogaeth Cymru.

Ffynhonnell: Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol, SYG; Amcangyfrifon poblogaeth, SYG

Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol ar gyfer Cymru yn ôl oedran a rhyw, StatsCymru

[Nodyn 1] Nid yw'r echelin Y ar y siart hon yn dechrau ar sero.

Amcanestyniadau poblogaeth yn ôl oedran

Ffigur 2: Poblogaeth yn ôl grŵp oedran bras, 2012 i 2032

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart arwynebedd wedi’i bentyrru yn dangos bod y ganran 65 oed neu hŷn wedi bod yn cynyddu ers 2012, ac amcanestynnir y bydd yn parhau i gynyddu rhwng canol 2022 a chanol 2032. Mae’r ganran rhwng 0 a 15 oed wedi bod yn gostwng yn raddol ac amcanestynnir y bydd hynny’n parhau. Amcanestynnir y bydd y ganran rhwng 16 a 64 oed yn cynyddu ychydig dros yr un cyfnod.

Ffynhonnell: Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol, SYG; Amcangyfrifon poblogaeth, SYG

Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol ar gyfer Cymru yn ôl oedran a rhyw, StatsCymru

Amcanestynnir y bydd pobl 65 oed neu hŷn yn cyfrif am bron i chwarter (24.3%, neu 806,000 o bobl) o gyfanswm poblogaeth Cymru yng nghanol 2032, o'i gymharu â 21.5% yng nghanol 2022. Erbyn 2060, amcanestynnir y bydd y boblogaeth 65 oed neu hŷn yng Nghymru yn cyrraedd dros filiwn o bobl.

Amcanestynnir y bydd nifer y bobl 75 oed neu hŷn yn cynyddu 22.1% yn ystod yr un cyfnod, o ryw 320,400 o bobl yng nghanol 2022 i ryw 391,300 o bobl yng nghanol 2032.

Erbyn canol 2032, amcanestynnir y bydd 60.8% o'r boblogaeth rhwng 16 a 64 oed (tua 2,017,400 o bobl). Mae hyn yn gynnydd o 5.6% ers canol 2022.

I'r gwrthwyneb, amcanestynnir y bydd nifer y plant a phobl ifanc rhwng 0 a 15 oed yn gostwng 10.2% rhwng canol 2022 a chanol 2032. Yng nghanol 2032, amcanestynnir y bydd plant a phobl ifanc rhwng 0 a 15 oed yn cyfrif am 14.9% o'r boblogaeth (tua 492,600 o bobl), o'i gymharu â 17.5% yng nghanol 2022.

Cymharu â gwledydd eraill yn y DU

Mae'r cynnydd yn yr amcanestyniadau poblogaeth ar gyfer Cymru (5.9%) rhwng canol 2022 a chanol 2032 yn is nag ar gyfer Lloegr. Y cynnydd yn amcanestyniadau Lloegr yw 7.8%, sef y cynnydd mwyaf o holl wledydd y DU. Fodd bynnag, mae'r cynnydd yn yr amcanestyniadau poblogaeth ar gyfer Cymru rhwng canol 2022 a chanol 2032 yn uwch nag ar gyfer Gogledd Iwerddon a'r Alban, sef cynnydd o 2.1% a 4.4% yn y drefn honno.

Mae hyn yn parhau i fod yn wir wrth edrych ar ganol 2047, ac erbyn hynny amcanestynnir y bydd poblogaeth Cymru wedi cynyddu 10.3% ers canol 2022, o'i gymharu â chynnydd o 14.5% yn Lloegr, cynnydd o 6.2% yn yr Alban a chynnydd o 1.1% yng Ngogledd Iwerddon.

Y cynnydd a amcanestynnir yn nifer y bobl 65 oed neu hŷn yng Nghymru (19.6%) rhwng canol 2022 a chanol 2032 yw'r cynnydd lleiaf o holl wledydd y DU. Mae hyn yn rhannol, o leiaf, oherwydd bod gan Gymru eisoes y ganran uchaf o bobl 65 oed neu hŷn o holl wledydd y DU. Yn ystod yr un cyfnod, amcanestynnir y bydd nifer y bobl 65 oed neu hŷn yn cynyddu 20.9% yn Lloegr, 22.2% yn yr Alban, a 26.6% yng Ngogledd Iwerddon. Erbyn canol 2032, amcanestynnir y bydd nifer y bobl 65 oed neu hŷn yn cyfrif am 24.3% o gyfanswm poblogaeth Cymru. Mae hyn yn o'i gymharu â 23.6% yn yr Alban, 21.8% yng Ngogledd Iwerddon, ac 20.9% yn Lloegr.

Fel canran o boblogaeth y DU, amcanestynnir y bydd Cymru yn cyfrif am oddeutu 4.6% o boblogaeth y DU rhwng canol 2022 a chanol 2032. Erbyn canol 2047, amcanestynnir y bydd hyn yn gostwng ychydig, i 4.5%. Amcanestynnir y bydd Lloegr yn cyfrif am tua 84.9% o boblogaeth y DU yng nghanol 2032, i fyny o 84.5% yng nghanol 2022. Amcanestynnir y bydd yr Alban yn cyfrif am tua 7.8% o boblogaeth y DU yng nghanol 2032, i lawr o 8.1% yng nghanol 2022. Amcanestynnir Gogledd Iwerddon i gyfrif am tua 2.7% o boblogaeth y DU yng nghanol 2032, ychydig i lawr o 2.8% yng nghanol 2022.

Ffigur 3: Amcanestyniad newid yn y boblogaeth yn ôl gwlad y DU, canol 2022 i ganol 2032

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Map yn dangos, yn y cyfnod rhwng canol 2022 a chanol 2032, amcanestynnir y bydd twf poblogaeth Cymru yn is nag yn Lloegr, ond yn uwch nag yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Ffynhonnell: Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol, SYG

Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol ar gyfer Cymru yn ôl oedran a rhyw, StatsCymru

Cydrannau newid poblogaeth

Cydrannau newid poblogaeth yw'r ffactorau sy'n cyfrannu at newid yn y boblogaeth. Mae hyn yn cynnwys genedigaethau a marwolaethau (y cyfeirir atynt yn gyffredinol fel newid naturiol) a mudo net. Mae mudo wedi'i wahanu'n ddwy ran sef mudo mewnol (symudiadau rhwng gwledydd yn y DU) a mudo rhyngwladol (symudiadau rhwng Cymru a gwledydd eraill tu allan i'r DU).

Ffigur 4: Amcangyfrif ac amcanestyniadau genedigaethau a marwolaethau, canol 2012 i ganol 2032 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart llinell yn dangos bod nifer y marwolaethau wedi bod yn uwch na nifer y genedigaethau ers canol 2017. Ar ôl gostyngiad yn amcanestyniadau nifer y marwolaethau yng nghanol 2023, amcanestynnir y bydd nifer y marwolaethau yn cynyddu ac yn parhau i fod yn uwch na nifer y genedigaethau yng Nghymru. Mae nifer y genedigaethau wedi bod yn gostwng ers canol 2012 ac amcanestynnir y bydd yn gostwng eto yng nghanol 2023 cyn aros ar lefel debyg dros y degawd.

Ffynhonnell: Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol, SYG; Amcangyfrifon poblogaeth, SYG

[Nodyn 1] Nid yw'r echelin Y ar y siart hon yn dechrau ar sero.

Amcanestynnir y bydd mwy o farwolaethau nag o enedigaethau yng Nghymru o hyd. Amcanestynnir y bydd nifer y marwolaethau yn cynyddu 6.8%, o 35,700 yn flwyddyn yn dod i ben canol 2022 i 38,100 yn y flwyddyn yn dod i ben canol 2032. Mae hyn yn adlewyrchu'r duedd o boblogaeth gynyddol hŷn yng Nghymru. Yn y cyfamser, dros yr un cyfnod, amcanestynnir y bydd nifer y genedigaethau yn gostwng 4.2%, o 29,100 yn flwyddyn yn dod i ben canol 2022 i 27,900 yn flwyddyn yn dod i ben canol 2032.

Ffigur 5: Amcangyfrif ac amcanestyniadau mudo mewnol a rhyngwladol net, canol 2012 i ganol 2032 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart llinell yn dangos bod mudo rhyngwladol net wedi cynyddu'n sylweddol yng nghanol 2021 a chanol 2022. Yn y cyfnod rhwng canol 2022 a chanol 2028, amcanestynnir y bydd mudo rhyngwladol yng Nghymru yn gostwng i lefel is na lefelau mudo mewnol. Rhwng canol 2023 a chanol 2024, amcanestynnir y bydd mudo mewnol yn lleihau.

Ffynhonnell: Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol, SYG; Amcangyfrifon poblogaeth, SYG

[Nodyn 1] Nid yw'r echelin Y ar y siart hon yn dechrau ar sero.

Rhwng y flwyddyn yn dod i ben canol 2022 a chanol 2032, amcanestynnir y bydd mudo rhyngwladol net i Gymru yn gostwng oddeutu 58.5% (13,400), o 22,900 yn flwyddyn yn dod i ben canol 2022 i 9,500 yn flwyddyn yn dod i ben canol 2032. Mae hyn yn nodi dychwelyd at lefelau tebyg i'r cyfnod rhwng canol 2011 a chanol 2021, pan oedd mudo rhyngwladol net blynyddol yn rhyw 5,200 ar gyfartaledd.

Amcanestynnir y bydd mudo mewnol net i Gymru (o wledydd eraill yn y DU) yn parhau'n debyg i'r lefelau presennol ar gyfer y cyfnod hyd at ganol 2032. Yn flwyddyn yn dod i ben canol 2022, amcangyfrifir bod mudo mewnol yn rhyw 10,700, ac amcanestynnir y bydd hyn yn cynyddu ychydig i tua 12,600 yn flwyddyn yn dod i ben canol 2032.

Cymharu ag amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol blaenorol

Ffigur 6: Amcangyfrif ac amcanestyniadau poblogaeth, canol 2012 i ganol 2047 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart llinell yn dangos bod yr amcanestyniadau poblogaeth sy’n seiliedig ar 2022 ar gyfer Cymru yn uwch na’r amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol blaenorol o ganol 2026 ymlaen. Mae pob fersiwn o amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol yn dangos yr amcanestynnir y bydd poblogaeth Cymru yn cynyddu.

Ffynhonnell: Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol, SYG; Amcangyfrifon poblogaeth, SYG

Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol ar gyfer Cymru yn ôl oedran a rhyw, StatsCymru

[Nodyn 1] Nid yw'r echelin Y ar y siart hon yn dechrau ar sero.

Gellir dod o hyd i amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol blaenorol hefyd ar StatsCymru. Mae'r siart uchod yn dangos y gwahaniaethau rhwng amcanestyniadau blaenorol. O ganol 2026 ymlaen, mae'r prif amcanestyniad poblogaeth sy'n seiliedig ar 2022 ar gyfer Cymru yn uwch nag unrhyw un o'r prif amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol blaenorol ar gyfer Cymru.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol sy'n seiliedig ar 2022 ar gyfer y DU

Mae’r SYG wedi cyhoeddi set lawn o amcanestyniadau ar gyfer y DU. Mae hyn yn cynnwys prif amcanestyniadau ac amcanestyniadau amrywiol ar gyfer y DU, Prydain Fawr, Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. 

Amcanestyniadau amrywiol ar gyfer Cymru

Yn ogystal â'r prif amcanestyniadau a ddadansoddir uchod, mae set lawn o amcanestyniadau amrywiol hefyd wedi'u cyhoeddi ar gyfer Cymru (SYG). Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o amcanestyniadau sy'n cynnwys gwahaniaethau o ran mudo, ffrwythlondeb, disgwyliad oes a strwythur oedran.

Ffigurau poblogaeth canol 2023

Nid yw amcanestyniad poblogaeth Cymru ar gyfer canol 2023 yn yr amcanestyniadau hyn yn cyfateb i’r amcangyfrifon poblogaeth swyddogol ar gyfer canol 2023 (StatsCymru) a gyhoeddwyd yn 2024. Mae hyn oherwydd, yn yr amcanestyniadau hyn, mae ffigurau ar gyfer canol 2023 yn defnyddio’r ystadegau mudo mwyaf diweddar o’r datganiad ‘Long-term international migration, provisional: year ending June 2024’ (SYG) a data arall nad oeddent yn rhan o'r amcangyfrifon poblogaeth pan gawsant eu cyhoeddi ddiwethaf ar gyfer canol 2023.

Rydym yn argymell parhau i ddefnyddio amcangyfrifon poblogaeth (StatsCymru) ar gyfer y blynyddoedd hyd at a chan gynnwys canol 2023, ar gyfer Cymru a’r DU, hyd nes y caiff yr amcangyfrifon eu hadolygu fel rhan o gyhoeddiad amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn ar gyfer canol 2024, a ddisgwylir yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Statws ystadegau swyddogol

Dylai'r holl ystadegau swyddogol ddangos safonau'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau'r DU).

Ystadegau swyddogol achrededig yw'r rhain, a gyhoeddir gan y SYG. Cawsant eu hadolygu'n annibynnol gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ym mis Ebrill 2019. Maent yn cydymffurfio â'r safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir ar gyfer achredu. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i fodloni'r safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ar unwaith. Gellir canslo neu atal achrediad unrhyw bryd os na chaiff y safonau uchaf eu cynnal, a'i adfer pan gaiff safonau eu hadfer.

Caiff ystadegau swyddogol achrededig eu galw'n Ystadegau Gwladol yn Neddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007.

Datganiad cydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Mae ein hymarfer ystadegol yn cael ei reoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau. Y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau sy'n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gydymffurfio â nhw.

Caiff ein holl ystadegau eu cynhyrchu a'u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau er mwyn gwella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.

Mae'r ystadegau swyddogol achrededig (Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau) yn dangos y safonau a ddisgwylir mewn perthynas â dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.

I gael gwybodaeth am sut y mae'r ystadegau swyddogol achrededig hyn, a gyhoeddir gan y SYG, yn dangos y safonau a ddisgwylir mewn perthynas â dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus, gweler adroddiad ansawdd a methodoleg y SYG ar amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol.

Mae croeso ichi gysylltu â ni yn uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau ynghylch sut rydym yn bodloni'r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â'r Swyddfa drwy e-bostio regulation@statistics.gov.uk neu drwy fynd i'w gwefan.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Dan Boon
E-bost: ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SB 5/2025

Image