Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi cyhoeddi amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol yn seiliedig ar 2024 ar gyfer y DU  gyfan. Mae'r bwletin hwn yn cyfeirio'n benodol at yr amcanestyniadau ar gyfer Cymru. 

Mae amcanestyniadau poblogaeth yn destun ansicrwydd ac yn seiliedig ar ragdybiaethau am dueddiadau yn y dyfodol o ran ffrwythlondeb, marwolaethau, a mudo. Nid rhagolygon yw amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol, ac nid ydynt yn ceisio rhagweld newidiadau tymor byr posibl mewn mudo rhyngwladol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ym mhennawd yr SYG, 'Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol: yn seiliedig ar 2024' a'r canllaw ansawdd a dulliau (SYG).

Mae amcanestyniadau ar gael ar gyfer y cyfnod 25 mlynedd, o ganol 2024 i ganol 2049. Fodd bynnag, mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar 10 mlynedd gyntaf cyfnod yr amcanestyniad, gan fod amcanestyniadau yn tueddu i fynd yn fwyfwy ansicr yn y tymor hirach oherwydd bod llawer yn gallu newid yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer dadansoddiadau manwl mewn perthynas ag oedran a rhyw.

Mae’r holl amcanestyniadau yn cyfeirio at y boblogaeth ar 30 Mehefin yn y flwyddyn gyfeirio.

Prif bwyntiau

  • Amcanestynnir y bydd poblogaeth Cymru yn cynyddu 1.0% i 3.22 miliwn erbyn canol 2034. O'i gymharu â hyn, 3.7% oedd yr amcanestyniad ar gyfer twf yn y boblogaeth dros y degawd blaenorol hyd at ganol 2024.
  • Mae'r twf a amcanestynnir yn y boblogaeth rhwng canol 2024 a chanol 2034 yn cael ei yrru gan fudo trawsffiniol a rhyngwladol, gyda chyfanswm mudo amcanestynedig net o 143,600 rhwng canol 2024 a chanol 2034. Amcanestynnir y bydd mwy o farwolaethau na genedigaethau dros yr un cyfnod yn dal i fod, neu 'newid naturiol negyddol'.
  • Amcanestynnir y bydd nifer y bobl yng Nghymru sy'n 65 oed neu'n hŷn yn cynyddu 18.3% i 819,600 rhwng canol 2024 a chanol 2034, ac y bydd yn cyrraedd dros filiwn erbyn canol 2072.
  • Amcanestynnir y bydd poblogaeth Cymru yn cyrraedd brig erbyn canol 2035, ac amcanestynnir y bydd lleihad yn y boblogaeth o ganol 2036.
  • Fodd bynnag, erbyn canol 2049, amcanestynnir y bydd y boblogaeth yn dal i fod 0.3% yn uwch nag yng nghanol 2024, sef oddeutu 3.20 miliwn.

Ffigur 1: poblogaeth amcangyfrifedig a amcanestynedig, o ganol 2014 i ganol 2049 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 1: siart llinell sy'n dangos yr amcanestynnir y bydd poblogaeth Cymru wedi cynyddu rhwng canol 2014 a chanol 2024, ac yr amcanestynnir y bydd yn parhau i gynyddu tan ganol 2035 cyn dechrau lleihau.

Ffynhonnell: Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol, SYG; Amcangyfrifon poblogaeth, SYG

Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol yn seiliedig ar 2024 yn ôl oedran, rhyw, a blwyddyn ar StatsCymru

[Nodyn 1] Nid yw’r echelin-y ar y siart hon yn dechrau ar sero.

Amcanestyniadau poblogaeth yn ôl oedran

Ffigur 2: poblogaeth yn ôl grŵp oedran bras, o ganol 2014 i ganol 2034

Image

Disgrifiad o ffigur 2: siart ardal wedi'i bentyrru sy'n dangos bod y ganran 65 oed neu'n hŷn wedi bod yn cynyddu ers canol 2014, ac yr amcanestynnir y bydd yn parhau i gynyddu rhwng canol 2024 a chanol 2034. Mae'r ganran rhwng 0 a 15 oed wedi bod yn gostwng yn raddol, ac amcanestynnir y bydd hynny'n parhau. Amcanestynnir y bydd y ganran rhwng 16 a 64 oed yn gostwng ychydig dros yr un cyfnod.

Ffynhonnell: Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol, SYG; Amcangyfrifon poblogaeth, SYG

Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol yn seiliedig ar 2024 yn ôl oedran, rhyw, a blwyddyn, ar StatsCymru

[Nodyn 1] Cymerir data yn y siart rhwng canol 2014 a chanol 2024 o'r amcangyfrifon poblogaeth ganol blwyddyn. Cymerir data ar ôl canol 2024 o'r amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol.

Amcanestynnir y bydd pobl 65 oed neu'n hŷn yn cyfrif am chwarter (25.5%, neu 819,600 o bobl) o gyfanswm poblogaeth Cymru erbyn canol 2034, o gymharu â 21.7% yng nghanol 2024. 

Amcanestynnir y bydd nifer y bobl sy’n 75 oed neu’n hŷn yn cynyddu 18.3% yn ystod yr un cyfnod, o oddeutu 340,000 o bobl yng nghanol 2024 i oddeutu 402,200 o bobl erbyn canol 2034 (12.5% o’r boblogaeth).

Erbyn canol 2034, amcanestynnir y bydd 60.4% o'r boblogaeth rhwng 16 a 64 oed (oddeutu 1,943,200 o bobl). Mae hynny'n ostyngiad 0.2% ers canol 2024.

Amcanestynnir y bydd nifer y plant a phobl ifanc rhwng 0 a 15 oed yn gostwng 16.7% rhwng canol 2024 a chanol 2034. Amcanestynnir y bydd plant a phobl ifanc rhwng 0 a 15 oed yn 14.1% o'r boblogaeth (oddeutu 455,200 o bobl) erbyn canol 2034, o gymharu â 17.1% ganol 2024.

Cymharu â gwledydd eraill y DU

Mae'r cynnydd yn y boblogaeth a amcanestynnir ar gyfer Cymru (1.0%) rhwng canol 2024 a chanol 2034 yn is nag ar gyfer Lloegr, lle mae amcanestyniad o 2.9% - y cynnydd mwyaf o holl wledydd y DU. Fodd bynnag, mae'r cynnydd yn y boblogaeth a amcanestynnir ar gyfer Cymru rhwng canol 2024 a chanol 2034 yn uwch na'r cynnydd a amcanestynnir ar gyfer Gogledd Iwerddon (0.6%) a'r Alban (0.3%).

Mae hyn yn parhau i fod yn wir wrth edrych ar ganol 2049. Erbyn hynny amcanestynnir y bydd poblogaeth Cymru wedi cynyddu 0.3% ers canol 2024, o gymharu â chynnydd o 5.5% yn Lloegr, gostyngiad o 1.0% yng Ngogledd Iwerddon, a gostyngiad o 1.3% yn yr Alban. Amcanestynnir y bydd poblogaeth yr Alban yn dechrau lleihau yng nghanol 2034, ac amcanestynnir y bydd poblogaeth Gogledd Iwerddon yn dechrau lleihau yng nghanol 2032. 

Y cynnydd a amcanestynnir yn nifer y bobl 65 oed neu'n hŷn yng Nghymru (18.3%) rhwng canol 2024 a chanol 2034 yw'r cynnydd isaf o holl wledydd y DU. Mae hynny’n rhannol oherwydd y ffaith bod gan Gymru y ganran uchaf o bobl 65 oed neu'n hŷn o holl wledydd y DU ar hyn o bryd. Yn ystod yr un cyfnod, amcanestynnir y bydd nifer y bobl 65 oed neu'n hŷn yn cynyddu 21.2% yn Lloegr, 20.6% yn yr Alban, a 25.4% yng Ngogledd Iwerddon. Erbyn canol 2034, amcanestynnir y bydd nifer y bobl 65 oed neu'n hŷn yn 25.5% o gyfanswm poblogaeth Cymru. Mae hynny o'i gymharu â 24.7% yn yr Alban, 22.6% yng Ngogledd Iwerddon, ac 22.1% yn Lloegr.

Fel canran o boblogaeth y DU, amcanestynnir y bydd Cymru oddeutu 4.5% o boblogaeth y DU erbyn canol 2034, ychydig yn is na 4.6% yng nghanol 2024. Erbyn canol 2049, amcanestynnir y bydd hyn yn gostwng ychydig, sef i 4.4%. Amcanestynnir y bydd Lloegr oddeutu 84.9% o boblogaeth y DU yng nghanol 2034, i fyny o 84.6% yng nghanol 2024. Amcanestynnir y bydd yr Alban oddeutu 7.8% o boblogaeth y DU yng nghanol 2032, i lawr o 8.0% yng nghanol 2024. Amcanestynnir y bydd Gogledd Iwerddon oddeutu 2.7% o boblogaeth y DU yng nghanol 2034, ychydig bach i lawr o 2.8% yng nghanol 2024.

Ffigur 3: amcanestyniadau newid poblogaeth yn ôl gwlad y DU, o ganol 2024 i ganol 2034

Image

Disgrifiad o ffigur 3: map sy'n dangos yr amcanestynnir y bydd twf yn y boblogaeth yng Nghymru yn is nag yn Lloegr ond yn uwch nag yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn y cyfnod o ganol 2024 i ganol 2034.

Ffynhonnell: Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol, SYG

Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol yn seiliedig ar 2024 yn ôl oedran, rhyw, a blwyddyn, ar StatsCymru

Cydrannau newid poblogaeth

Y cydrannau newid poblogaeth yw'r ffactorau sy'n cyfrannu at newidiadau yn y boblogaeth. Maent yn cynnwys genedigaethau a marwolaethau, y cyfeirir atynt yn gyffredinol fel newid naturiol, a mudo net. Mae mudo'n cael ei rannu'n fudo trawsffiniol, sef symudiadau rhwng gwledydd yn y DU, a mudo rhyngwladol, sef symudiadau rhwng Cymru a gwledydd eraill y tu allan i'r DU.

Ffigur 4: genedigaethau a marwolaethau amcangyfrifedig ac amcanestynedig, o ganol 2014 i ganol 2034 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 4: siart llinell sy'n dangos bod nifer y marwolaethau wedi bod yn uwch na nifer y genedigaethau ers canol 2017. Ar ôl amcanestyniad y byddai gostyngiad yn nifer y marwolaethau yng nghanol 2025, amcanestynnir y bydd nifer y marwolaethau yn cynyddu ac yn parhau i fod yn uwch na nifer y genedigaethau yng Nghymru. Mae nifer y genedigaethau wedi bod yn gostwng ers canol 2012, ac amcanestynnir y bydd yn parhau i ostwng i oddeutu 24,900 o enedigaethau erbyn canol 2034.

Ffynhonnell: Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol, SYG; Amcangyfrifon poblogaeth, SYG

[Nodyn 1] Nid yw’r echelin-y ar y siart hon yn dechrau ar sero.

Amcanestynnir y bydd mwy o farwolaethau nag o enedigaethau yng Nghymru yn dal i fod. Amcanestynnir y bydd nifer y marwolaethau yn cynyddu 8.2%, o oddeutu 35,600 yn y flwyddyn a ddaeth i ben ganol 2024 i oddeutu 38,500 yn y flwyddyn a ddaw i ben ganol 2034. Mae hyn yn adlewyrchu'r duedd bod poblogaeth gynyddol hŷn yng Nghymru. Yn y cyfamser, yn ystod yr un cyfnod, amcanestynnir y bydd nifer y genedigaethau yn gostwng 9.2%, o oddeutu 27,500 yn y flwyddyn a ddaeth i ben ganol 2024 i oddeutu 24,900 yn y flwyddyn a ddaw i ben ganol 2034.

Ffigur 5: amcangyfrifon ac amcanestyniadau mudo net trawsffiniol a rhyngwladol, o ganol 2014 i ganol 2034 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 5: siart llinell sy'n dangos amcanestyniad bod mudo rhyngwladol net wedi cynyddu'n sylweddol rhwng canol 2021 a chanol 2023. Yn y cyfnod o ganol 2024 i ganol 2026, amcanestynnir y bydd mudo rhyngwladol net yng Nghymru yn gostwng i oddeutu 5,500, gan ostwng yn is na'r mudo net trawsffiniol a amcanestynnir.

Ffynhonnell: Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol, SYG; Amcangyfrifon poblogaeth, SYG

[Nodyn 1] Nid yw’r echelin-y ar y siart hon yn dechrau ar sero.

Rhwng y flwyddyn a ddaeth i ben ganol 2024 ac a ddaw  ben ganol 2034, amcanestynnir y bydd mudo rhyngwladol net i Gymru yn dychwelyd i lefelau tebyg i'r cyfnod rhwng canol 2011 a chanol 2021, pan oedd mudo rhyngwladol net blynyddol ar gyfartaledd oddeutu 5,200.

Amcanestynnir y bydd mudo trawsffiniol net i Gymru o wledydd eraill y DU yn cynyddu o oddeutu 4,800 yn y flwyddyn a ddaeth i ben ganol 2024 i oddeutu 8,700 yn y flwyddyn a ddaw i ben ganol 2034. Roedd mudo mewnol trawsffiniol blynyddol o ganol 2014 i ganol 2024 oddeutu 8,600 ar gyfartaledd.

Cymharu ag amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol blaenorol

Ffigur 6: poblogaeth amcangyfrifedig ac ancanestynedig, o ganol 2014 i ganol 2049 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 6: siart llinell sy'n dangos bod amcanestyniadau poblogaeth Cymru yn seiliedig ar 2024 yn dangos cynnydd bach hyd at ganol 2035, cyn bod gostyngiad yn y boblogaeth hyd at ddiwedd y cyfnod. Mae pob fersiwn flaenorol o amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol yn y siart hon yn amcanestyniadau o gynnydd yn y boblogaeth yn ystod yr un cyfnod.

Ffynhonnell: Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol, SYG; Amcangyfrifon poblogaeth, SYG

Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol yn seiliedig ar 2024 yn ôl oedran, rhyw, a blwyddyn, ar StatsCymru

[Nodyn 1] Nid yw’r echelin-y ar y siart hon yn dechrau ar sero.

Gellir dod o hyd i amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol blaenorol ar wefan SYG.

Mae'r siart uchod yn dangos y gwahaniaethau rhwng amcanestyniadau blaenorol. Mae'r prif amcanestyniad poblogaeth yn seiliedig ar 2024 ar gyfer Cymru yn is nag unrhyw un o'r prif amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol blaenorol ar gyfer Cymru. Dyma'r unig set o amcanestyniadau i ddangos lleihad yn y boblogaeth yn ystod y cyfnod.

Mae'r duedd amcanestyniadau yn wahanol i'r hyn a welwyd yn yr amcanestyniadau yn seiliedig ar 2022. Mae hyn oherwydd lefelau tybiedig is o fudo a ffrwythlondeb yn y dyfodol. Ar ben hynny, dros ran gynnar cyfnod yr amcanestyniadau, rhagwelir y bydd y carfanau geni cymharol fawr ar ôl yr ail ryfel byd yn cyrraedd oedrannau hŷn, gan arwain at gynnydd yn nifer y marwolaethau tan ganol 2058.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol yn seiliedig ar 2024 ar gyfer y DU

Mae SYG wedi cyhoeddi set lawn o amcanestyniadau ar gyfer y DU. Mae hyn yn cynnwys prif amcanestyniadau ac amcanestyniadau amrywiadol ar gyfer y DU, Prydain Fawr, Cymru, Lloegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon.

Amcanestyniadau amrywiadol ar gyfer Cymru

Yn ogystal â'r prif amcanestyniadau a ddadansoddir uchod, mae set lawn o amcanestyniadau amrywiadol hefyd wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer Cymru (SYG). Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o amcanestyniadau sy'n cynnwys gwahaniaethau o ran mudo, ffrwythlondeb, disgwyliad oes, a strwythur oedran.

Statws ystadegau swyddogol

Dylai’r holl ystadegau swyddogol adlewyrchu safonau'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau y DU).  

Ystadegau swyddogol achrededig yw'r rhain, a gyhoeddir gan SYG. Cawsant eu hadolygu'n annibynnol gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ym mis Ebrill 2019. Maent yn cydymffurfio â safonau'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau o ran dibynadwyedd, ansawdd, a gwerth. 

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir ar gyfer achredu. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i fodloni'r safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ar unwaith. Gellir canslo achrediad neu ei atal dros dro ar unrhyw adeg os na chaiff y safonau uchaf eu cynnal, a'i adfer pan gaiff safonau eu hadfer.

Caiff ystadegau swyddogol achrededig eu galw'n Ystadegau Gwladol yn Neddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007.

Datganiad o gydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Rheoleiddir ein hymarfer ystadegol gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau. Mae'r swyddfa hon yn gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd, a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, a dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gydymffurfio â nhw.

Mae ein holl ystadegau yn cael eu cynhyrchu a’u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau ar gyfer sicrhau dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae’r rhain wedi’u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.

Mae’r ystadegau swyddogol achrededig (y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau) hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir mewn perthynas â dibynadwyedd, ansawdd, a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol. 

I gael gwybodaeth am sut y mae'r ystadegau swyddogol achrededig hyn, a gyhoeddir gan SYG, yn dangos y safonau a ddisgwylir mewn perthynas â dibynadwyedd, ansawdd, a gwerth cyhoeddus, gweler canllaw ansawdd a dulliau y SYG ar amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol.

Ansawdd

Mae Llywodraeth Cymru yn rhan o'r Pwyllgor Amcanestyniadau Poblogaeth Cenedlaethol (NPP), sy'n goruchwylio'r broses amcanestyniadau poblogaeth. Mae'r pwyllgor hwn yn cynnwys cynrychiolwyr o'r SYG a'r gweinyddiaethau datganoledig, ac mae'n atebol i'r Ystadegydd Cenedlaethol a'r Cofrestrydd Cyffredinol.

Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn sicrhau ansawdd yr amcanestyniadau ochr yn ochr ag aelodau eraill o'r Pwyllgor NPP. Mae hyn yn cynnwys sicrwydd o'r rhagdybiaethau, y data a'r dulliau a ddefnyddir wrth gynhyrchu'r amcanestyniadau. Mae rhagor o wybodaeth am sicrhau ansawdd ar gael yng nghanllaw ansawdd a dulliau’r ONS.

Mae croeso ichi gysylltu â ni’n uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau am sut yr  ydym yn bodloni’r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau drwy e-bostio regulation@statistics.gov.uk neu drwy fynd i’w gwefan.

Manylion cyswllt

Ystadegau Poblogaeth a Mudo
E-bost: ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SB 14/2026

Image