Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad sy'n cynnwys gwybodaeth yn ôl math o aelwyd, poblogaeth a maint cyfartalog ay gyfer canol-2017.

Aelwydydd amcangyfrifedig Cymru

  • Ers canol 1991, mae nifer yr aelwydydd wedi cynyddu 21% o 1.11 miliwn i 1.35 miliwn yng nghanol 2017.
  • Rhwng canol 2016 a chanol 2017, mae’r amcangyfrif o nifer yr aelwydydd yng Nghymru wedi cynyddu o 8,300 (0.6%) i 1.35 miliwn.
  • Roedd y cynnydd cyffredinol yn bennaf  o ganlyniad i aelwydydd 1 person a 2 berson, sy'n parhau i fod y math mwyaf cyffredin o aelwyd yng Nghymru, yn seiliedig ar yr amcangyfrifon hyn.

Aelwydydd amcangyfrifedig yn ôl awdurdod lleol

  • Cynyddwyd yr amcangyfrif o nifer yr aelwydydd mewn 21 o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru rhwng canol 2016 a chanol 2017. Gwelwyd y cynnydd mwyaf yng Nghaerdydd, Bro Morgannwg a Casnewydd.
  • Ceredigion oedd yr unig awdurdod lleol i weld  gostyngiad yn nifer yr aelwydydd rhwng canol 2016 a chanol 2017, i lawr 90 (0.3%).

Poblogaeth aelwydydd preifat

  • Ar lefel Cymru mae’r amcangyfrif o boblogaeth aelwydydd preifat wedi cynyddu  tua 11,800 rhwng canol 2016 a chanol 2017.
  • Gwelodd Cheredigion a Blaenau Gwent ostyngiad yn eu poblogaeth breifat.

Amcangyfrifon maint cyfartalog aelwyd

  • Mae amcangyfrifon o faint cyfartalog aelwydydd Cymru wedi bod yn gostwng yn gyson. Yng nghanol 2017 maint cyfartalog aelwyd yng Nghymru oedd 2.28 person o gymharu â 2.52 yng nghanol 1991.
  • Mae pob awdurdod lleol wedi gweld gostyngiad yn ei hamcangyfrif o faint cyfartalog aelwydydd ers 2011.

Adroddiadau

Amcangyfrifon aelwydydd, canol-2017 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 822 KB

PDF
Saesneg yn unig
822 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.