Mae’r amcangyfrifon canol blwyddyn yn cyfeirio i’r boblogaeth ar 30 Mehefin o’r flwyddyn a gyfeiriwyd ati ac fe’u cyhoeddir yn flynyddol.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Amcangyfrifon canol blwyddyn o'r boblogaeth
Mae’r amcangyfrifon canol blwyddyn yn cyfeirio at y boblogaeth ar 30 Mehefin o’r flwyddyn a gyfeiriwyd ati ac fe’u cyhoeddir yn flynyddol.
Rhain yw’r set swyddogol o amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer y DU a’i gwledydd cyfansoddol, rhanbarthau a siroedd Lloegr, ac yr awdurdodau lleol yng Nghymru a’u ardaloedd cyfwerth yn y gwledydd eraill.
Seiliwyd y pennawd hwn ar amcangyfrifon poblogaeth canol-2020 ar gyfer Deyrnas Unedig, Cymru a Lloegr,yr Alban a Gogledd Iwerddon a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).
Prif bwyntiau
- Ar 30 Mehefin 2020 amcangyfrifwyd yr oedd 3,170,000 o bobl yn byw yng Nghymru, cynnydd o 0.5% (16,700) ers canol-2019.
- Amcangyfrifwyd bod mwy o bobl 65 oed neu drosodd yn byw yng Nghymru (669,000) na phlant 0 i 15 oed (563,000).
- Amcangyfrifir bod pobl 65 oed neu drosodd yn cyfrif am ychydig dros un ymhob pump (21%) o gyfanswm y boblogaeth yng Nghymru yng nghanol-2020, y gyfran uchaf o holl wledydd y Deyrnas Unedig.
- Amcangyfrifir bod y boblogaeth wedi tyfu yn 21 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru rhwng canol-2019 a chanol-2020.
- Amcangyfrifir bod y cynnydd canrannol mwyaf i’w weld ym Mro morgannwg, gyda chynnydd o 1.3% (1,700) ers canol-2019.
- Abertawe ydy’r un awdurdod lleol gyda gostyngiad (0.2%) yn eu amcangyfrifon poblogaeth rhwng canol-2019 a chanol-2020.
Dyma'r amcangyfrifon poblogaeth cyntaf i ddangos effeithiau o'r pandemig. Fodd bynnag, mae dyddiad cyfeirnod yr amcangyfrifon hyn, sef 30 Mehefin 2020, yn golygu mai dim ond am 3 mis cyntaf y pandemig y maent yn cyfrif. Bydd datganiadau amcangyfrifon y boblogaeth yn y dyfodol yn darparu gwybodaeth am yr effaith o ganol 2020 i ganol 2021.
Dylid nodi bod rhai newidiadau diffiniol (sy’n effeithio ar y cydrannau ymfudo yn enwedig) o gymharu â data'r llynedd a chynghorir bod defnyddwyr yn darllen yr adran Gwybodaeth Ansawdd a Methodoleg ar wefan ONS.
Nodyn
Fel y cytunwyd gyda’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, bydd yr ystadegau hyn yn cael eu diweddaru am 12.30yh ar y diwrnod y bydd yr ONS yn eu cyhoeddi. Bydd tablau StatsCymru yn dilyn maes o law.
Adroddiadau
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.