Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r amcangyfrifon canol blwyddyn yn cyfeirio i’r boblogaeth ar 30 Mehefin o’r flwyddyn a gyfeiriwyd ati ac fe’u cyhoeddir yn flynyddol.

Rhain yw’r set swyddogol o amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer y Deyrnas Unedig (DU) a’i gwledydd cyfansoddol, gan gynnwys awdurdodau lleol yng Nghymru a’u ardaloedd cyfwerth yn y gwledydd eraill.

Seiliwyd y pennawd hwn ar amcangyfrifon poblogaeth canol 2021 ar gyfer y DU, Cymru, Lloegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) .

Ar gyfer Cymru, Lloegr, a Gogledd Iwerddon, dyma’r amcangyfrifon poblogaeth cyntaf i gael eu seilio ar gyfrifiadau 2021 ar gyfer y gwledydd hyn. Ar gyfer yr Alban, symudwyd y cyfrifiad i 2022 (oherwydd effaith pandemig COVID-19) gydag amcangyfrifon poblogaeth canol 2021 yn cael eu treiglo ymlaen o ganol 2020 gan ddefnyddio’r dull safonol.

Pwyntiau allweddol

  • Ar 30 Mehefin 2021 amcangyfrifwyd yr oedd tua 3,105,000 o bobl yn byw yng Nghymru, cynnydd o 1.4% ers canol 2011 (tua 42,000 yn fwy o bobl).
  • Amcangyfrifir bod pobl 65 oed neu hŷn yn cyfrif am ychydig dros un ymhob pump o boblogaeth Cymru yng nghanol 2021, y gyfran uchaf o holl wledydd y DU (21.4% yng Nghymru, neu 666,000 o bobl). Mae hyn yn uwch nag yng nghanol 2011, pan oedd 18.5% o’r boblogaeth yn 65 oed neu hŷn (566,000 o bobl).
  • Roedd 60.9% o'r boblogaeth yn 16 i 64 oed yng nghanol 2021 (tua 1,893,000 o bobl). Mae hyn yn is nag yng nghanol 2011, pan oedd 63.4% o'r boblogaeth yn 16 i 64 oed (tua 1,942,000 o bobl).
  • Plant a phobl ifanc 0 i 15 oed oedd yn cyfrif am y 17.6% arall o'r boblogaeth oedd yn weddill yng nghanol 2021 (547,000 o blant a phobl ifanc). Mae hyn hefyd yn is nag yng nghanol 2011, pan oedd 18.1% o'r boblogaeth yn 0 i 15 oed (tua 556,000 o blant a phobl ifanc).
  • Amcangyfrifir bod y boblogaeth wedi cynyddu yn y mwyafrif o awdurdodau lleol rhwng canol 2011 a chanol 2021, gyda'r cynnydd mwyaf yng Nghasnewydd (cynnydd o 9.5%), Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr (cynnydd o 4.6% yn y ddau le).
  • Amcangyfrifir bod y boblogaeth wedi gostwng mewn saith o’r 22 awdurdod lleol rhwng canol 2011 a chanol 2021, gyda’r gostyngiadau mwyaf yng Ngheredigion (gostyngiad o 6.2%), Blaenau Gwent (gostyngiad o 4.0%) a Gwynedd (i lawr 3.7%) .

Cyfrifiad 2021

Mae amcangyfrifon poblogaeth canol 2021 yn seiliedig yn bennaf ar gyfrifiadau 2021 (ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon). Mae’r boblogaeth breswyl arferol ar Ddiwrnod y Cyfrifiad (21 Mawrth 2021), yn ôl blwydd oed, yn cael ei heneiddio hyd at 30 Mehefin ac yna caiff ei addasu ar gyfer genedigaethau, marwolaethau a mudo net.

Amcangyfrifodd Cyfrifiad 2021 fod poblogaeth Cymru tua 3,107,500 ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021. Amcangyfrifir bod poblogaeth Cymru wedi gostwng ychydig yn y cyfnod rhwng 21 Mawrth a 30 Mehefin, tua 2,000 o bobl yn llai. Mae hyn oherwydd newid naturiol negyddol (llai o enedigaethau na marwolaethau), a mudo net negyddol (mwy o bobl yn symud allan o Gymru na phobl yn symud mewn i Gymru). Mae mudo mewnol net negyddol (mwy o bobl yn symud allan o Gymru i rannau eraill o’r DU na phobl yn symud mewn i Gymru) rhwng Diwrnod y Cyfrifiad a 31 Mehefin yn rhannol oherwydd bod myfyrwyr a graddedigion wedi symud o gyfeiriadau yn ystod y tymor i gyfeiriadau nad ydynt yn gyfeiriadau yn ystod y tymor yn ystod y cyfnod hwn. Fodd bynnag, gall y newid yn y boblogaeth yn ystod y cyfnod hwn hefyd adlewyrchu rhai effeithiau sy’n gysylltiedig â’r pandemig, gan fod llawer o’r cyfyngiadau a oedd mewn grym ar Ddiwrnod y Cyfrifiad wedi’u codi erbyn 30 Mehefin 2021.

Mae’r SYG wedi datgan y bydd yr amcangyfrifon canol blwyddyn ar gyfer y DU yn cael eu hadolygu yn y ddwy flynedd nesaf i gynnwys amcangyfrifon poblogaeth wedi’u diweddaru ar gyfer yr Alban, gan ymgorffori cyfrifiad 2022 ar gyfer yr Alban, yn ogystal â diwygiadau i ddata mudo rhyngwladol fel rhan o’u trawsnewidiad o ystadegau poblogaeth a mudo.

Nodyn

Fel y cytunwyd gyda’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, bydd yr ystadegau hyn yn cael eu diweddaru am 12.30yh ar y diwrnod y bydd yr SYG yn eu cyhoeddi. Bydd tablau StatsCymru yn dilyn maes o law.

Cyswllt

Stephanie Harries

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.