Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r amcangyfrifon canol blwyddyn yn cyfeirio i’r boblogaeth ar 30 Mehefin o’r flwyddyn a gyfeiriwyd ati ac fe’u cyhoeddir yn flynyddol.

Seiliwyd y pennawd hwn ar amcangyfrifon poblogaeth canol 2022 ar gyfer Cymru a Lloegr a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).

Pwyntiau allweddol

  • Ar 30 Mehefin 2022 amcangyfrifwyd yr oedd tua 3,132,000 o bobl yn byw yng Nghymru, cynnydd o 0.8% ers canol 2021 (tua 26,000 yn fwy o bobl).
  • Mae'r cynnydd yn y boblogaeth rhwng canol 2021 a chanol 2022 wedi'i yrru’n bennaf gan gynnydd mewn mudo rhyngwladol net.
  • Yn y flwyddyn hyd at ganol 2022, amcangyfrifir bod mudo rhyngwladol net i Gymru tua 21,900 o gymharu â thua 5,400 yn y flwyddyn hyd at ganol 2021.
  • Yn y flwyddyn hyd at ganol 2022, roedd mwy o farwolaethau na genedigaethau yng Nghymru o hyd.
  • Bu tua 35,700 o farwolaethau yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at ganol 2022, ychydig yn llai nag yn y flwyddyn hyd at ganol 2021. Roedd tua 29,100 o enedigaethau yn y flwyddyn hyd at ganol 2022, a oedd yn gynnydd o 1,100 o gymharu â’r flwyddyn hyd at ganol 2021.

Poblogaeth yn ôl oedran

  • Amcangyfrifir bod pobl 65 oed neu hŷn yn cyfrif am ychydig dros un ymhob pump (21.5%, neu 674,000 o bobl) o boblogaeth Cymru yng nghanol 2022.
  • Roedd 60.9% o'r boblogaeth yn 16 i 64 oed yng nghanol 2022 (tua 1,909,000 o bobl).
  • Plant a phobl ifanc 0 i 15 oed oedd yn cyfrif am y 17.5% arall o'r boblogaeth oedd yn weddill yng nghanol 2022 (549,000 o blant a phobl ifanc).

Poblogaeth yn ôl ardal

  • Amcangyfrifir bod y boblogaeth wedi tyfu ym mhob un ond un o’r awdurdodau lleol yng Nghymru rhwng canol 2021 a chanol 2022, gyda'r cynnydd mwyaf yng Nghaerdydd (cynnydd o 3.4%), Abertawe (cynnydd o 1.4%) a Cheredigion (cynnydd o 1.3%).
  • Conwy ydy'r unig awdurdod lleol yr amcangyfrifir bod ei boblogaeth wedi gostwng rhwng canol 2021 a chanol 2022 (gostyngiad o 0.4%).

Sylwch fod dulliau ar gyfer mesur mudo rhyngwladol yn cael eu datblygu ac mae'r SYG wedi diweddaru amcangyfrifon a gyhoeddwyd yn flaenorol o fudo rhyngwladol ar gyfer y flwyddyn yn dod i ben mis Mehefin 2022. Hefyd, roedd gan y data a ddefnyddiwyd i gynhyrchu amcangyfrifon mudo mewnol ar gyfer 2022 faterion ansawdd nad ydynt wedi'u datrys yn llawn. Os caiff y rhain eu datrys yn llawnach, caiff amcangyfrifon o newid yn y boblogaeth leol eu hadolygu. Ceir rhagor o wybodaeth yn natganiad yr SYG: Ymchwil mudo rhyngwladol, diweddariad cynnydd: Tachwedd 2023.

Mae’r SYG hefyd wedi cyhoeddi amcangyfrifon canol blwyddyn wedi’u hail-seilio ar gyfer y cyfnod 2012 i 2021 i fod yn gyson â data Cyfrifiad 2021.

Mae'r SYG yn bwriadu rhyddhau set lawn o amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer y Deyrnas Unedig ar gyfer canol 2022 ym mis Chwefror 2024. Mae hyn yn cynnwys amcangyfrifon ar gyfer Gogledd Iwerddon a gynhyrchwyd gan Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon (NISRA) ac amcangyfrifon ar gyfer yr Alban a gynhyrchwyd gan Gofnodion Cenedlaethol yr Alban (NRS).

Nodyn

Fel y cytunwyd gyda’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, bydd yr ystadegau hyn yn cael eu diweddaru am 12.30yh ar y diwrnod y bydd yr SYG yn eu cyhoeddi. Bydd tablau StatsCymru yn dilyn maes o law.

Adroddiadau

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Dan Boon

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.