Amcangyfrifon canol blwyddyn o'r boblogaeth: 2024
Mae'r amcangyfrifon canol-blwyddyn yn cyfeirio at y boblogaeth ar 30 Mehefin yn y flwyddyn gyfeirio ac maent yn cael eu cyhoeddi'n flynyddol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) wedi cyhoeddi amcangyfrifon poblogaeth canol 2024 ar gyfer Cymru a Lloegr (y SYG) gyfan. Mae'r bwletin hwn yn cyfeirio'n benodol at amcangyfrifon ar gyfer Cymru.
Mae amcangyfrifon ar gyfer canol 2022 a chanol 2023 wedi cael eu diwygio gan y SYG i ymgorffori data mudo rhyngwladol a mewnol gwell. Ar gyfer mudo rhyngwladol, defnyddiwyd yr amcangyfrifon mudo rhyngwladol hirdymor diweddaraf (y SYG), a gyhoeddwyd ym mis Mai 2025. Ar gyfer mudo mewnol, defnyddiwyd data Gwasanaeth Demograffeg Personol y GIG ac Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch, nad oeddent ar gael o'r blaen. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am effaith y diwygiadau ym mwletin y SYG (y SYG).
Mae amcangyfrifon poblogaeth Cymru ar gyfer y cyfnod hwn wedi'u diwygio i fyny i:
- 3,134,000 yng nghanol 2022, cynnydd o 1,500 (0.05%) o'r amcangyfrif a gyhoeddwyd yn flaenorol.
- 3,167,000 yng nghanol 2023, cynnydd o 2,900 (0.09%) o'r amcangyfrif a gyhoeddwyd yn flaenorol.
Prif bwyntiau
- Ar 30 Mehefin 2024, amcangyfrifwyd bod tua 3,187,000 o bobl yn byw yng Nghymru, sef cynnydd o 0.6% ers canol 2023, neu tua 19,300 yn fwy o bobl.
- Mae'r cynnydd yn y boblogaeth yng Nghymru rhwng canol 2023 a chanol 2024 wedi cael ei sbarduno gan fudo rhyngwladol net positif.
- Amcangyfrifir bod pobl 65 oed neu hŷn yn cyfrif am ychydig yn fwy nag un rhan o bump o gyfanswm poblogaeth Cymru yng nghanol 2024 (21.7%, neu 693,000 o bobl).
- Yr awdurdod lleol yng Nghymru oedd â'r cynnydd canrannol mwyaf yn y boblogaeth rhwng canol 2023 a chanol 2024 oedd Casnewydd, sef cynnydd o 1.7%.
- Bu cynnydd o 1.2% ym mhoblogaeth Lloegr rhwng canol 2023 a chanol 2024, sy'n uwch na'r cynnydd a welwyd yng Nghymru yn ystod yr un cyfnod.
Ffigur 1: amcangyfrifon poblogaeth yng Nghymru, 1991 i 2024 [Nodyn 1] [Nodyn 2]
Disgrifiad o ffigur 1: mae'r siart linell hon yn dangos bod poblogaeth Cymru wedi cynyddu, ers y flwyddyn hyd at ganol 1991, o 2.87 miliwn i 3.19 miliwn erbyn canol 2024. Ers canol 2021, mae'r boblogaeth wedi codi'n fwy sydyn.
Ffynhonnell: Amcangyfrifon poblogaeth y SYG.
[Nodyn 1] Mae'r ffigurau ar gyfer canol 2022 a chanol 2023 wedi'u diwygio.
[Nodyn 2] Nid yw'r echelin y ar y siart hon yn dechrau ar sero.
Cydrannau newid poblogaeth
Cydrannau newid poblogaeth yw'r ffactorau sy'n cyfrannu at newid yn y boblogaeth. Mae hyn yn cynnwys genedigaethau a marwolaethau, y cyfeirir atynt yn gyffredinol fel newid naturiol, a mudo net. Mae mudo wedi'i wahanu'n ddwy ran sef mudo mewnol, sydd yn symudiadau rhwng awdurdodau lleol yn y Deyrnas Unedig (DU), a mudo rhyngwladol, sydd yn symudiadau rhwng Cymru a gwledydd eraill y byd y tu allan i'r DU.
Ffigur 2: mudo mewnol a rhyngwladol net yng Nghymru, canol 2002 i ganol 2024 [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 2: mae'r siart llinell hon yn dangos, yn y flwyddyn ddiweddaraf, fod mudo rhyngwladol net wedi gostwng bron i chwarter o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, mae'n parhau i fod yn uwch nag y bu dros y ddau ddegawd diwethaf. Mae mudo mewnol net wedi mwy na haneru yn ystod yr un cyfnod. Ers 2020 mae patrymau mudo wedi newid. Dangosodd mudo mewnol net uchafbwynt yn ystod cychwyn cyfnod pandemig COVID-19, tra bod mudo rhyngwladol net wedi bod yn fwy na mudo mewnol net yn y blynyddoedd ers 2021.
Ffynhonnell: Amcangyfrifon poblogaeth y SYG.
[Nodyn 1] Mae’r ffigurau ar gyfer canol 2022 a chanol 2023 wedi’u diwygio.
Yn y flwyddyn hyd at ganol 2024, amcangyfrifir bod mudo rhyngwladol net i Gymru tua 22,700, sy'n ostyngiad o bron i chwarter (i lawr 24.8%) o gymharu â’r flwyddyn hyd at ganol 2023. Fodd bynnag, mae'n parhau i fod yn uwch nag y bu dros y ddau ddegawd diwethaf. Yn y cyfnod rhwng canol 2011 a chanol 2021, roedd mudo rhyngwladol net blynyddol tua 5,200 ar gyfartaledd.
Mae bwletin ar fudo rhyngwladol hirdymor, dros dro: ar gyfer y flwyddyn yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2024 (y SYG) yn egluro sut, ar lefel y DU, mae mudo net wedi gostwng oherwydd bod llai o ddinasyddion nad ydynt yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd+ wedi cyrraedd ar fisâu sy'n gysylltiedig â gwaith ac astudio, a bod mwy o bobl wedi gadael a ddaeth yn wreiddiol ar fisâu sy'n gysylltiedig ag astudio.
Roedd mudo mewnol net i Gymru, o wledydd eraill y DU, tua 4,800 yn y flwyddyn hyd at ganol 2024, sydd wedi gostwng dros hanner (i lawr 61.1%) o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol (12,300 yn y flwyddyn hyd at ganol 2023).
Ffigur 3: genedigaethau a marwolaethau yng Nghymru, canol 2002 i ganol 2024 [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 3: Mae'r siart llinell hon yn dangos, yn y cyfnod 2005 i 2017, fod nifer y genedigaethau yn fwy na nifer y marwolaethau, ond ers y cyfnod hwnnw mae nifer y marwolaethau wedi bod yn fwy na nifer y genedigaethau. O'r flwyddyn hyd at ganol 2011, mae nifer y genedigaethau wedi gostwng yn raddol. Mae nifer y marwolaethau wedi bod yn cynyddu er bod nifer y marwolaethau yn y flwyddyn hyd at ganol 2024 wedi gostwng o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Ffynhonnell: Amcangyfrifon poblogaeth y SYG.
[Nodyn 1] Nid yw'r echelin y ar y siart hon yn dechrau ar sero.
Yn y flwyddyn hyd at ganol 2024, roedd mwy o farwolaethau nag o enedigaethau yng Nghymru o hyd, a gyfeirir ato’n aml yn newid naturiol negyddol. Roedd tua 35,600 o farwolaethau yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at ganol 2024, dros 1,500 yn llai o farwolaethau nag yn y flwyddyn hyd at ganol 2023.
Roedd nifer y genedigaethau yn y flwyddyn hyd at ganol 2024 tua 27,500, sef gostyngiad o 170 o'i gymharu â'r flwyddyn hyd at ganol 2023.
Poblogaeth yn ôl oedran
Ffigur 4: poblogaeth yng Nghymru yn ôl grŵp oedran bras, canol 1991 i ganol 2024 [Nodyn 1]
Disgrifiad o ffigur 4: mae'r siart bar bentwr hon yn dangos, ers y flwyddyn hyd at ganol 1991, fod canran y boblogaeth 65 oed neu hŷn wedi cynyddu, tra bo canran y bobl rhwng 0 a 15 oed wedi gostwng ychydig. Mae canran y bobl rhwng 16 a 64 oed wedi aros yn debyg dros yr un cyfnod.
Ffynhonnell: Amcangyfrifon poblogaeth y SYG.
[Nodyn 1] Mae’r ffigurau ar gyfer canol 2022 a chanol 2023 wedi’u diwygio.
Amcangyfrifir bod pobl 65 oed neu hŷn yn cyfrif am ychydig yn fwy nag un rhan o bump o gyfanswm poblogaeth Cymru yng nghanol 2024 (21.7%, neu 693,000 o bobl). Mae’r nifer wedi cynyddu 13.2% yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, ers canol 2014. Mae nifer y bobl 75 oed neu hŷn wedi cynyddu ychydig dan chwarter yn ystod yr un cyfnod (i fyny 23.7%), o tua 275,000 o bobl yng nghanol 2014 i tua 340,000 o bobl yng nghanol 2024.
Roedd 61.1% o'r boblogaeth rhwng 16 a 64 oed yng nghanol 2024 (tua 1,948,000 o bobl). Mae’r nifer wedi cynyddu 2.0% yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, ers canol 2014.
Roedd plant a phobl ifanc 0 i 15 oed yn cyfrif am y 17.1% arall o'r boblogaeth yng nghanol 2024 (tua 546,000 o blant a phobl ifanc). Mae hyn wedi gostwng 1.1% yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, ers canol 2014.
Poblogaeth yn ôl awdurdod lleol
Amcangyfrifir bod y boblogaeth wedi cynyddu ym mhob un ond un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru rhwng canol 2023 a chanol 2024, gyda'r cynnydd mwyaf yng Nghasnewydd (cynnydd o 1.7%), Caerdydd (cynnydd o 1.1%) a Wrecsam (cynnydd o 1.0%).
Ynys Môn yw'r unig awdurdod lleol yng Nghymru yr amcangyfrifir bod ei boblogaeth wedi gostwng rhwng canol 2023 a chanol 2024, gan ostwng 0.2%, neu tua 140 o bobl.
Yng Nghymru, gwelodd pob awdurdod lleol fudo rhyngwladol net positif yn y flwyddyn hyd at 2024, a gwelodd 18 allan o 22 awdurdod lleol fudo mewnol net positif. Gwelodd Gaerdydd, Abertawe, Rhondda Cynon Taf a Gwynedd fudo mewnol net negyddol yn y flwyddyn hyd at ganol 2024.
Caerdydd a Chasnewydd oedd yr unig awdurdodau lleol a welodd fwy o enedigaethau na marwolaethau yn y flwyddyn hyd at ganol 2024.
Ffigur 5: newid canrannol yn y boblogaeth yng Nghymru rhwng canol 2023 a chanol 2024, yn ôl awdurdod lleol
Disgrifiad o ffigur 5: mae'r map hwn yn dangos mai Casnewydd sydd wedi gweld y newid canrannol mwyaf yn ei phoblogaeth rhwng canol 2023 a chanol 2024. Ynys Môn oedd yr unig awdurdod lleol yng Nghymru i weld gostyngiad canrannol yn y boblogaeth yn ystod yr un cyfnod.
Ffynhonnell: Amcangyfrifon poblogaeth y SYG.
Amcangyfrifon poblogaeth seiliedig ar ddata gweinyddol
Mae amcangyfrifon canol-blwyddyn o'r boblogaeth sy'n seiliedig ar ddata gweinyddol (ABPEs) yn cael eu cynhyrchu gan y SYG ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr. Ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad (y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau) yw'r rhain tra bo’r SYG yn mireinio ei dulliau a'r ffynonellau data sy'n cael eu defnyddio. Nid ydynt yn disodli'r amcangyfrifon poblogaeth canol-blwyddyn swyddogol ac ni ddylid eu defnyddio i wneud penderfyniadau. Ni ddylid atgynhyrchu'r allbynnau hyn heb y rhybudd hwn.
Mae'r SYG wedi cyhoeddi ABPEs ochr yn ochr â’r amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn swyddogol achrededig. Mae ABPEs yn defnyddio dulliau newydd arloesol ac ystod ehangach o ffynonellau data. Mae gwahaniaethau rhwng y dulliau a'r ffynonellau data a ddefnyddir yn golygu nad yw'r SYG yn disgwyl i'r ddwy set o amcangyfrifon gyd-fynd yn union. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr erthygl Deall amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn sy'n seiliedig ar ddata gweinyddol ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr (y SYG). Cyhoeddodd y SYG hefyd Amcangyfrifon poblogaeth seiliedig ar ddata gweinyddol: astudiaethau achos awdurdod lleol, Cymru a Lloegr, canol 2023 (y SYG) ym mis Tachwedd 2024, a oedd yn cynnwys Caerdydd fel un o'r astudiaethau achos.
Ar gyfer canol 2024, roedd yr ABPE ar gyfer Cymru tua 3,177,600. Mae hyn 0.3% yn is na'r amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn swyddogol.
Ym mis Mai 2025, cyhoeddodd y SYG asesiad o barodrwydd i amcangyfrifon poblogaeth seiliedig ar ddata gweinyddol ddod yn amcangyfrifon swyddogol o boblogaeth Cymru a Lloegr (y SYG). Mae'r SYG yn gweithio i fodloni'r meini prawf (y SYG) yn llwyddiannus ac mae'n anelu at yr ABPEs i ddod yn amcangyfrifon swyddogol o'r boblogaeth yn 2026.
Mae'r SYG yn anelu i'r ABPEs ddod yn amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn swyddogol yn 2025. Byddant yn ymgysylltu yn ystod tymor yr hydref 2024 i gasglu adborth ar y dull newydd, gan gynnwys gydag awdurdodau lleol fel y gallant ddefnyddio arbenigedd lleol wrth iddynt wella'r amcangyfrifon. Bydd yr adborth hwn gan ddefnyddwyr yn cael ei ddefnyddio fel rhan o'r meini prawf i gefnogi'r penderfyniad ynghylch pryd y daw'r ABPEs yn amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn swyddogol. Maent hefyd wedi gofyn am asesiad (y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau) o’r ABPEs ac yn gweithio i fodloni’r safonau a ddisgwylir o ystadegau swyddogol achrededig (y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau) erbyn haf 2025.
Mae manylion pellach am yr ABPEs ynglŷn â sicrhau ansawdd, eu defnyddio'n briodol, eu cryfderau a'u cyfyngiadau, ar gael yn adroddiad Amcangyfrifon poblogaeth sy'n seiliedig ar ddata gweinyddol yn Gwybodaeth Ansawdd a Methodoleg Cymru a Lloegr (y SYG).
Amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer y DU
Amcangyfrifon poblogaeth y DU, canol 2024
Mae’r SYG yn bwriadu cyhoeddi set lawn o amcangyfrifon poblogaeth y DU ar gyfer canol 2024 yn ystod tymor hydref 2025. Bydd hyn yn cynnwys amcangyfrifon ar gyfer Gogledd Iwerddon a gynhyrchwyd gan Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac amcangyfrifon ar gyfer yr Alban a gynhyrchwyd gan Gofnodion Cenedlaethol yr Alban. Bydd amcangyfrifon ar gyfer canol 2011 i ganol 2023 yn cael eu diwygio i gyd-fynd ag amcangyfrifon poblogaeth diwygiedig yr Alban.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Statws ystadegau swyddogol
Dylai'r holl ystadegau swyddogol ddangos safonau'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau'r DU).
Ystadegau swyddogol achrededig yw'r amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn, a gyhoeddir gan y SYG. Cawsant eu hadolygu'n annibynnol gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ym mis Tachwedd 2020. Maent yn cydymffurfio â'r safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir ar gyfer achredu. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i fodloni'r safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ar unwaith. Gellir canslo neu atal achrediad unrhyw bryd os na chaiff y safonau uchaf eu cynnal, a'i adfer pan gaiff safonau eu hadfer.
Caiff ystadegau swyddogol achrededig eu galw'n Ystadegau Gwladol yn Neddf Ystadegau a'r Gwasanaeth Cofrestru 2007.
Datganiad cydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau
Mae ein hymarfer ystadegol yn cael ei reoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau. Y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau sy'n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gydymffurfio â nhw.
Caiff ein holl ystadegau eu cynhyrchu a'u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau er mwyn gwella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.
Mae'r ystadegau swyddogol achrededig (y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau) yn dangos y safonau a disgwylir mewn perthynas â dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.
I gael gwybodaeth am sut y mae'r ystadegau swyddogol achrededig hyn, a gyhoeddir gan y SYG, yn dangos y safonau a ddisgwylir ynghylch dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus, gweler adroddiad ansawdd a methodoleg ONS ar amcangyfrifon canol-blwyddyn o'r boblogaeth.
Mae croeso ichi gysylltu â ni yn uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau ynghylch sut rydym yn bodloni'r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau drwy e-bostio regulation@statistics.gov.uk neu drwy fynd i'w gwefan.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn pennu saith nod llesiant i Gymru. Y rhain yw creu Cymru fwy cyfartal, lewyrchus, cydnerth ac iach, sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang, â chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n gorfod cael eu defnyddio at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) cyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Fel dangosyddion cenedlaethol o dan y Ddeddf, rhaid cyfeirio atynt yn y dadansoddiadau o lesiant lleol a gynhyrchir gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus pan fyddant yn dadansoddi cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardaloedd.
Mae'r Ddeddf yn datgan bod rhaid gosod cerrig milltir “...y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddent yn cynorthwyo i fesur a oes cynnydd yn cael ei wneud tuag at gyrraedd y nodau llesiant.” Wrth wneud hynny, rhaid i Weinidogion Cymru bennu sut y byddwn yn gwybod bod carreg filltir genedlaethol wedi'i chyflawni ac erbyn pryd y mae angen ei chyflawni.
Nid yw cerrig milltir cenedlaethol yn dargedau perfformiad ar gyfer unrhyw sefydliad unigol ond, yn hytrach, maent yn fesurau llwyddiant ar y cyd i Gymru.
Mae rhai o'r dangosyddion cenedlaethol a'r cerrig milltir cenedlaethol yn defnyddio amcangyfrifon canol-blwyddyn o'r boblogaeth fel enwadurion, i gyfrifo cyfraddau, er enghraifft.
Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai'r ystadegau sydd wedi'u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd roi naratif ategol i'r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â'u hasesiadau llesiant lleol a'u cynlluniau llesiant lleol.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Dan Boon a Steph Harries
E-bost: ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SB 22/2025
