Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) wedi cyhoeddi amcangyfrifon canol 2025 o’r boblogaeth ar gyfer Cymru a Lloegr gyfan. Mae’r bwletin hwn yn cyfeirio’n benodol at amcangyfrifon ar gyfer Cymru.

Mae'r holl ddata yn yr adroddiad hwn o amcangyfrifon canol blwyddyn a gymerwyd ar 30 Mehefin y flwyddyn berthnasol. Pan gyfeiriwn at amcangyfrifon ar gyfer 2025, er enghraifft, mae hyn yn golygu amcangyfrifon canol 2025, neu amcangyfrifon ar 30 Mehefin 2025. Mae’r data yn y datganiad hwn yn cyfeirio’n bennaf at 30 Mehefin 2025, gyda chymariaethau â’r flwyddyn flaenorol (30 Mehefin 2024).

Mae amcangyfrifon ar gyfer 2022 i 2024 wedi’u diwygio gan y SYG i ymgorffori gwell data am fudo rhyngwladol.

Gwelir rhagor o wybodaeth am effaith y diwygiadau ym mwletin y SYG (y SYG).

Mae amcangyfrifon poblogaeth Cymru wedi’u diwygio i lawr i:

  • 3,132,700 yn 2022, sef gostyngiad o 1,500 (0.05%) o’r amcangyfrif a gyhoeddwyd yn flaenorol
  • 3,165,100 yn 2023, sef gostyngiad o 2,300 (0.07%) o’r amcangyfrif a gyhoeddwyd yn flaenorol
  • 3,177,900 yn 2024, sef gostyngiad o 8,600 (0.27%) o’r amcangyfrif a gyhoeddwyd yn flaenorol

Prif bwyntiau

  • Roedd tua 3,175,200 o bobl yn byw yng Nghymru, gostyngiad bach o 0.1%, tua 2,800 yn llai o bobl.
  • Dyma’r gostyngiad cyntaf yn y boblogaeth ers rhwng 2014 a 2015.
  • Mae’r gostyngiad diweddar yn y boblogaeth wedi cael ei ysgogi gan newid naturiol negyddol a mudo rhyngwladol net sy’n gostwng.
  • Roedd dros bumed o’r bobl yn 65 oed neu’n hŷn (22.2%, neu 705,100 o bobl).
  • Casnewydd welodd y cynnydd canrannol mwyaf yn y boblogaeth (cynnydd o 0.7%).
  • Roedd cynnydd o 0.4% yn y boblogaeth yn Lloegr ar gyfer yr un cyfnod.

Ffigur 1: amcangyfrifon o’r boblogaeth yng Nghymru, 1995 i 2025 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o ffigur 1: mae’r siart linell hon yn dangos, ers 1995, yr amcangyfrifir bod poblogaeth Cymru wedi cynyddu o 2.89 miliwn i 3.18 miliwn erbyn 2025. Ers 2021, mae’r boblogaeth wedi cynyddu’n fwy sydyn cyn gostwng yn y flwyddyn ddiweddaraf.

Ffynhonnell: Amcangyfrifon o’r boblogaeth gan y SYG.

[Nodyn 1] Mae’r ffigurau ar gyfer 2022 i 2024 wedi’u diwygio.

[Nodyn 2] Nid yw’r echelin y ar y siart hon yn dechrau ar sero.

Cydrannau newid poblogaeth

Y cydrannau newid poblogaeth yw’r ffactorau sy’n cyfrannu at newidiadau yn y boblogaeth. Mae hyn yn cynnwys genedigaethau a marwolaethau, y cyfeirir atynt yn gyffredinol fel newid naturiol, a mudo net.

Mudo net

Mudo net yw’r gwahaniaeth rhwng nifer y bobl sy’n dod i fyw mewn ardal (mewnfudo) a nifer y bobl sy’n gadael i fyw yn rhywle arall (allfudo).

Pan fydd mwy o bobl yn dod i mewn i’r ardal nag sy’n gadael, mae mudo net yn uwch na sero ac felly yn ychwanegu at y boblogaeth.

Wrth gyfrifo mudo net, ystyrir mudo rhyngwladol a mudo mewnol.

Mudo mewnol

Symudiadau rhwng awdurdodau lleol yn y Deyrnas Unedig (y DU) yw mudo mewnol.

Mudo rhyngwladol

Symudiadau rhwng Cymru a gwledydd eraill y byd y tu allan i’r DU yw mudo rhyngwladol.

Ffigur 2: amcangyfrifon mudo mewnol a mudo rhyngwladol net ar gyfer Cymru, 2005 i 2025 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 2: mae’r siart linell hon yn dangos bod mudo rhyngwladol net wedi gostwng bron i 90% yn 2025 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Cynyddodd mudo mewnol net ychydig yn 2025 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Ers 2020, mae patrymau mudo wedi newid. Cyrhaeddodd mudo mewnol net uchafbwynt adeg dechrau pandemig COVID-19, tra bo mudo rhyngwladol net wedi bod yn uwch na mudo mewnol net yn y blynyddoedd ers 2021 i 2024. Yn y flwyddyn ddiweddaraf, roedd mudo rhyngwladol net yn is na mudo mewnol net.

Ffynhonnell: Amcangyfrifon o’r boblogaeth gan y SYG.

[Nodyn 1] Mae’r ffigurau ar gyfer 2022 i 2024 wedi’u diwygio.

Roedd mudo rhyngwladol net i Gymru tua 1,700 rhwng 2024 a 2025. Mae hyn yn ostyngiad o bron i 90% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae ar ei lefel isaf ers 2010.

Mae’r datganiad mudo rhyngwladol hirdymor, dros dro: blwyddyn sy’n dod i ben ym mis Rhagfyr 2025 gan y SYG yn esbonio sut, ar lefel y DU, mae mudo net wedi syrthio. Mae hyn oherwydd bod llai o bobl nad ydynt yn wladolion yr Undeb Ewropeaidd (UE+) wedi cyrraedd ar fisâu sy’n gysylltiedig â gwaith.

Roedd mudo mewnol net i Gymru o wledydd eraill y DU tua 4,900 rhwng 2024 a 2025. Mae hyn yn gynnydd bach (i fyny 1.6%) o’r flwyddyn flaenorol (4,800).

Ffigur 3: genedigaethau a marwolaethau yng Nghymru, 2005 i 2025 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 3: mae’r siart linell hon yn dangos, rhwng 2006 a 2017, fod nifer y genedigaethau yn uwch na nifer y marwolaethau. Ers y cyfnod hwnnw, mae nifer y marwolaethau wedi bod yn fwy na nifer y genedigaethau. Ers 2011, mae nifer y genedigaethau wedi gostwng yn raddol. Mae nifer y marwolaethau wedi bod yn cynyddu yn gyffredinol yn ystod yr un cyfnod.

Ffynhonnell: Amcangyfrifon o’r boblogaeth gan y SYG.

[Nodyn 1] Nid yw’r echelin y ar y siart hon yn dechrau ar sero.

Rhwng 2024 a 2025, roedd y sefyllfa yn parhau bod mwy o farwolaethau na genedigaethau, neu roedd newid naturiol negyddol. Roedd tua 35,600 o farwolaethau rhwng 2024 a 2025.

Roedd nifer y genedigaethau rhwng 2024 a 2025 tua 26,500, gostyngiad o tua 1,000 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Poblogaeth yn ôl oedran

Ffigur 4: grŵp oedran eang y boblogaeth, 2005 i 2025 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 4: mae’r siart far hon yn dangos, ers 2005, fod canran y boblogaeth 65 oed neu’n hŷn wedi cynyddu, tra bo canran y plant a phobl ifanc 0 i 15 oed wedi gostwng ychydig. Mae canran y bobl 16 i 64 oed hefyd wedi gostwng ychydig yn ystod yr un cyfnod.

Ffynhonnell: Amcangyfrifon o’r boblogaeth gan y SYG.

[Nodyn 1] Mae’r ffigurau ar gyfer 2022 i 2024 wedi’u diwygio.

Roedd dros bumed o’r bobl yn 65 oed neu’n hŷn (22.2%, neu 705,100 o bobl) yn 2025. Ers 2015, mae nifer y bobl 65 oed neu’n hŷn wedi cynyddu 13.6%. Mae nifer y bobl 75 oed neu’n hŷn wedi cynyddu dros chwarter yn ystod yr un cyfnod, i fyny 26.0%. Cynyddodd hyn o tua 276,400 o bobl yn 2015 i tua 348,300 o bobl yn 2025.

Roedd 61.0% o’r boblogaeth yn 16 i 64 oed yn 2025, tua 1,936,200 o bobl. Mae hyn wedi cynyddu 1.9% ers 2015.

Roedd yr 16.8% sy’n weddill o’r boblogaeth yn blant a phobl ifanc 0 i 15 oed (tua 533,900). Mae hyn wedi gostwng 3.2% ers 2015.

Poblogaeth yn ôl awdurdod lleol

Mae'r amcangyfrifon hyn yn destun ansicrwydd ystadegol, yn enwedig ar gyfer ardaloedd daearyddol llai a dadansoddiadau manwl o oedran a rhyw. Mae'r SYG wedi cyhoeddi mesurau ansicrwydd ystadegol sy'n seiliedig ar ymchwil ochr yn ochr â'r amcangyfrifon, y gellir eu canfod yn y setiau data cysylltiedig.

Gallwch ddefnyddio'r offeryn rhyngweithiol ar wefan y SYG i weld yr amcangyfrifon poblogaeth diweddaraf, a mesurau ansicrwydd ystadegol, ar gyfer eich ardal leol.

Gostyngodd y boblogaeth ym mhob un ond 7 o’r 22 o awdurdodau lleol rhwng 2024 a 2025. Roedd y cynnydd mwyaf yn:

  • Casnewydd (cynnydd o 0.7%)
  • Sir Ddinbych (cynnydd o 0.4%)
  • Sir Fynwy (cynnydd o 0.2%)

Roedd y gostyngiadau mwyaf yn:

  • Merthyr Tudful (gostyngiad o 0.6%)
  • Abertawe (gostyngiad o 0.5%)
  • Castell-nedd Port Talbot (gostyngiad o 0.4%)

Caerdydd a Chasnewydd oedd yr unig awdurdodau lleol a welodd fwy o enedigaethau na marwolaethau rhwng 2024 a 2025.

Gwelodd 7 o’r 22 o awdurdodau lleol fudo rhyngwladol net cadarnhaol rhwng 2024 a 2025. Gwelodd 16 o’r 22 o awdurdodau lleol fudo mewnol net cadarnhaol.

Ffigur 5: newid canrannol yn y boblogaeth yng Nghymru rhwng 2024 a 2025, yn ôl awdurdod lleol

Image

Disgrifiad o ffigur 5: mae’r map hwn yn dangos bod Casnewydd a Sir Ddinbych wedi gweld y cynnydd canrannol mwyaf yn eu poblogaeth rhwng 2024 a 2025.

Ffynhonnell: Amcangyfrifon o’r boblogaeth gan y SYG.

Amcangyfrifon poblogaeth seiliedig ar ddata gweinyddol

Ar 4 Mawrth, cyhoeddodd y SYG ei diweddariad chwarterol ar ystadegau poblogaeth a mudo. Yn yr erthygl hon, dywedwyd nad oedd amcangyfrifon poblogaeth seiliedig ar ddata gweinyddol yn cael eu mabwysiadu fel amcangyfrifon swyddogol o’r boblogaeth.

Daethpwyd i’r casgliad y dylid parhau i ddefnyddio dulliau sefydledig ar gyfer amcangyfrifon canol blwyddyn o’r boblogaeth, yn dilyn adolygiad yn erbyn y meini prawf penderfynu a gyhoeddwyd a’r cyhoeddiad y cynhelir cyfrifiad yn 2031. Mae’r dulliau hyn wedi’u hamlinellu yn yr amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer Cymru a Lloegr, canol 2025: canllaw ar y dulliau (y SYG). Bydd defnyddio’r dulliau sefydledig yn sicrhau y gellir mynd ati i gynhyrchu amcangyfrifon poblogaeth mewn modd dibynadwy, gan ddefnyddio systemau a phrosesau effeithlon a chynaliadwy.

Bydd y SYG yn symud i fodel o wella amcangyfrifon poblogaeth yn barhaus, gan dynnu ar yr ymchwil a’r profiad o ddatblygu amcangyfrifon poblogaeth seiliedig ar ddata gweinyddol. Byddant yn gwneud gwelliannau iteraidd i’r data a’r dulliau sy’n sail i gydrannau newid poblogaeth, gyda phwyslais ar fudo mewnol a dadgyfuno amcangyfrifon mudo rhyngwladol hirdymor i lefel yr awdurdod lleol. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn y diweddariad chwarterol ar ystadegau poblogaeth a mudo (y SYG).

Amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer y DU

Amcangyfrifon poblogaeth y DU, canol-2025

Nod y SYG yw cyhoeddi set lawn o amcangyfrifon poblogaeth y DU ar gyfer 2025 yn nhymor hydref 2026. Bydd yn cynnwys amcangyfrifon ar gyfer Gogledd Iwerddon a gynhyrchir gan Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon, ac amcangyfrifon ar gyfer yr Alban a gynhyrchir gan Gofnodion Cenedlaethol yr Alban. Cyhoeddwyd amcangyfrifon poblogaeth yr Alban ar gyfer 2025 ar 14 Gorffennaf. Mae disgwyl i amcangyfrifon poblogaeth Gogledd Iwerddon ar gyfer 2025 gael eu cyhoeddi ym mis Medi i fis Hydref.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn

Cynhyrchir amcangyfrifon poblogaeth gan ddefnyddio’r dull cydrannau carfan. Mae hwn yn ddull demograffig safonol sy’n amcangyfrif maint y boblogaeth gan ddefnyddio cydrannau newid poblogaeth, fel amcangyfrif y cyfrifiad, i ddiweddaru sylfaen poblogaeth. Mae’r rhain yn ystadegau swyddogol achrededig (Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau).

Un cyfyngiad ar y dull cydrannau carfan a ddefnyddir i gynhyrchu amcangyfrifon poblogaeth yw eu bod yn destun ansicrwydd ystadegol sy'n gysylltiedig â:

  • mesur y sylfaen gyfrifiad y cânt eu treiglo ymlaen ohoni
  • mesur pob cydran o newid poblogaeth

Mae ansicrwydd ystadegol ar ei isaf yn syth ar ôl cyfrifiad, ac ar ei fwyaf yn syth cyn y cyfrifiad nesaf. Mae hyn oherwydd bod gwallau'n cronni dros amser wrth i amcangyfrifon gael eu treiglo ymlaen i'r flwyddyn ganlynol. I gael rhagor o wybodaeth gweler canllaw ansawdd a dulliau amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer Cymru a Lloegr (y SYG).

Poblogaeth sy’n preswylio fel arfer yn y wlad

Mae’r data hyn yn amcangyfrif y ‘boblogaeth sy’n preswylio fel arfer’ mewn gwlad. Dyma ddiffiniad safonol y Cenhedloedd Unedig a amlinellir ar dudalen 40 o Egwyddorion ac Argymhellion ar gyfer Cyfrifiadau Poblogaeth a Thai (CU). Dim ond pobl sy’n preswylio mewn gwlad am 12 mis neu ragor, sy’n golygu eu bod yn preswylio fel arfer yn y wlad honno, sy’n cael eu cynnwys yn y diffiniad. Mae ymwelwyr a mudwyr tymor byr wedi’u heithrio.

Statws ystadegau swyddogol

Dylai’r holl ystadegau swyddogol ddangos safonau’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau'r DU).

Mae amcangyfrifon canol blwyddyn o’r boblogaeth yn ystadegau swyddogol achrededig, a gyhoeddwyd gan SYG. Maent yn cydymffurfio â’r safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Ar 11 Mai 2026, cyhoeddodd y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wiriad cydymffurfiaeth o amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn ar gyfer Cymru a Lloegr.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r safonau a ddisgwylir ar gyfer achredu. Os byddwn yn poeni a yw’r ystadegau hyn yn parhau i fodloni’r safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ar unwaith. Gellir dileu achrediad neu ei atal dros dro ar unrhyw adeg pan na fydd y safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir ei adfer pan fydd y safonau wedi’u hailsefydlu.

Gelwir ystadegau swyddogol achrededig yn Ystadegau Gwladol yn Neddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007.

Datganiad o gydymffurfiaeth â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Mae ein hymarfer ystadegol yn cael ei reoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau. Y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau sy’n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gydymffurfio â nhw.

Mae ein holl ystadegau yn cael eu cynhyrchu a’u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae’r rhain wedi’u nodi yn Natganiad o Gydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.

Mae’r ystadegau swyddogol achrededig (OSR) hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir mewn perthynas â dibynadwyedd, ansawdd, a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.

Ansawdd

Cynhyrchir amcangyfrifon canol blwyddyn o'r boblogaeth gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn sicrhau ansawdd amcangyfrifon poblogaeth Cymru. Yna caiff y bwletin ystadegol ei ddrafftio, ei gymeradwyo gan uwch ystadegwyr a'i gyhoeddi yn unol â'r datganiad ar gyfrinachedd a mynediad at ddata sy'n cael ei lywio gan y golofn ymddiriedaeth sydd wedi'i chynnwys yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau'r DU).

Am ragor o wybodaeth am sut mae'r ystadegau swyddogol achrededig hyn, a gyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn dangos y safonau disgwyliedig o amgylch ymddiriedaeth, ansawdd a gwerth cyhoeddus, gweler adroddiad ansawdd a methodoleg y SYG ar amcangyfrifon canol blwyddyn o’r boblogaeth.

Mae croeso ichi gysylltu â ni yn uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau ynghylch sut rydym yn bodloni’r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau drwy anfon e-bost i regulation@statistics.gov.uk neu drwy fynd i’w gwefan.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn pennu saith nod llesiant i Gymru. Creu Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth ac iach, sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang, â chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu yw’r nodau hynny. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, pan fydd Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, wneud y canlynol: (a) cyhoeddi’r dangosyddion fel y’u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Cafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn eu gosod gerbron y Senedd yn 2021. Mae’r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli’r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig, ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Fel dangosyddion cenedlaethol o dan y Ddeddf, rhaid cyfeirio atynt yn y dadansoddiadau o lesiant lleol a gynhyrchir gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus wrth ddadansoddi cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu hardaloedd.

Mae’r Ddeddf yn datgan bod rhaid gosod cerrig milltir “...y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddent yn cynorthwyo i fesur a oes cynnydd yn cael ei wneud tuag at gyrraedd y nodau llesiant.” Wrth wneud hynny, rhaid i Weinidogion Cymru bennu sut y byddwn yn gwybod bod carreg filltir genedlaethol wedi’i chyflawni ac erbyn pryd y mae angen ei chyflawni.

Nid targedau perfformiad ar gyfer sefydliad unigol yw’r cerrig milltir cenedlaethol ond, yn hytrach, mesurau llwyddiant ar y cyd i Gymru ydynt.

Mae rhai o’r dangosyddion cenedlaethol a’r cerrig milltir cenedlaethol yn defnyddio amcangyfrifon canol blwyddyn o’r boblogaeth fel enwaduron, i gyfrifo cyfraddau, er enghraifft.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd gynnig naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegau poblogaeth a’r cyfrifiad
E-bost: ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru 

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 64/2026

Image