Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r amcangyfrifon canol blwyddyn yn cyfeirio i’r boblogaeth ar 30 Mehefin o’r flwyddyn a gyfeiriwyd ati ac fe’u cyhoeddir yn flynyddol.

Rhain yw’r set swyddogol o amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer y DU a’i gwledydd cyfansoddol, rhanbarthau a siroedd Lloegr, ac awdurdodau lleol a’u ardaloedd cyfwerth.

Seiliwyd y pennawd hwn ar amcangyfrifon poblogaeth canol-2017 ar gyfer Cymru a Lloegr, a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Cyhoeddodd yr ONS amcangyfrifon poblogaeth diwygiedig ar gyfer canol-2012 i ganol-2016 ddydd Iau 22 Mawrth 2018 oherwydd gwelliannau methodolegol. Mae'r ffigurau diwygiedig hyn yn cynnwys amcangyfrifon newydd o fewnfudo rhyngwladol ar gyfer awdurdodau lleol a dibynyddion lluoedd arfog tramor.

Prif bwyntiau

  • Ar 30 Mehefin 2017 amcangyfrifwyd yr oedd 3,125,000 o bobl yn byw yng Nghymru.
  • Amcangyfrifwyd bod mwy o bobl 65 oed a throsodd yn byw yng Nghymru (643,000) na phlant 0 i 15 oed (559,000).

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.