Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r amcangyfrifon canol blwyddyn yn cyfeirio i’r boblogaeth ar 30 Mehefin o’r flwyddyn a gyfeiriwyd ati ac fe’u cyhoeddir yn flynyddol.

Rhain yw’r set swyddogol o amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer y DU a’i gwledydd cyfansoddol, rhanbarthau a siroedd Lloegr, ac awdurdodau lleol a’u ardaloedd cyfwerth.

Seiliwyd y pennawd hwn ar amcangyfrifon poblogaeth canol-2019 ar gyfer Cymru a Lloegr, a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Prif bwyntiau

  • Ar 30 Mehefin 2019 amcangyfrifwyd yr oedd 3,153,000 o bobl yn byw yng Nghymru, cynnydd o 0.5% (14,200) ers canol-2018, sydd yn debyg yn gyffredinol i’r tueddiad a welwyd yn y blynyddoedd blaenorol.
  • Amcangyfrifwyd bod mwy o bobl 65 oed neu drosodd yn byw yng Nghymru (662,000) na phlant 0 i 15 oed (564,000).
  • Roedd pobl 65 oed neu drosodd yn cyfrif am ychydig dros un ymhob pump o gyfanswm y boblogaeth yng Nghymru yng nghanol-2019, y gyfran uchaf o holl wledydd y Deyrnas Unedig.
  • Amcangyfrifir bod y boblogaeth wedi tyfu yn 19 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru rhwng canol-2018 a chanol-2019.
  • Amcangyfrifir bod y twf mwyaf i’w weld ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gyda chynnydd o 1.5% (2,200) ers canol-2018.
  • Amcangyfrifir bod y boblogaeth wedi gostwng yng Ngheredigion, Wrecsam a Phowys rhwng canol-2018 a chanol-2019.

Er mwyn helpu dadansoddi effeithiau'r pandemig coronafeirws ar boblogaeth y Deyrnas Unedig, mae'r ONS wedi cyhoeddi set dros dro o amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer canol-2019. Mae'r adroddiad hwn o reidrwydd yn is-set o'r wybodaeth y maent yn ei chyhoeddi'n rheolaidd ym mis Mehefin, gan ganolbwyntio'n bennaf ar faint, strwythur oedran a daearyddiaeth poblogaeth y Deyrnas Unedig.

Cyhoeddir gwybodaeth am gydrannau newid y boblogaeth ym mhob ardal leol ym mis Mehefin.

Mae unrhyw newidiadau i'r amcangyfrifon poblogaeth rhwng nawr a mis Mehefin yn debygol o fod yn fach, ond mae'n bosibl y bydd yr amcangyfrifon a ryddhawyd ym mis Mehefin 2020 ychydig yn wahanol i'r rhai a gyhoeddir yma.

Nodyn

Fel y cytunwyd gyda’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, bydd yr ystadegau hyn yn cael eu diweddaru am 12.30yh ar y diwrnod y bydd yr ONS yn eu cyhoeddi. Bydd tablau StatsCymru yn dilyn maes o law.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.