Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r datganiad ystadegol hwn yn dilyn yr 'Amcangyfrifon tlodi tanwydd wedi'u modelu ar gyfer Cymru (prif ganlyniadau): ym mis Hydref 2024' a gyhoeddwyd ym mis Awst 2025 ac mae'n darparu dadansoddiad manylach o'r amcangyfrifon tlodi tanwydd ar gyfer 2024. Mae'r datganiad ystadegol hwn yn cyflwyno amcangyfrifon tlodi tanwydd wedi’u modelu a gyfrifwyd ar gyfer Cymru, gan ddefnyddio Arolwg Cyflwr Tai Cymru 2017-18 fel sylfaen.

Mae dadansoddiad a gwybodaeth fanwl bellach ar gael trwy ein dangosfwrdd rhyngweithioltablau cyhoeddedig (amcangyfrifon tlodi tanwydd) ac adroddiad ar fethodoleg. Oherwydd gwahaniaethau mewn methodoleg, nid oes modd cymharu amcangyfrifon tlodi tanwydd 2024 yn uniongyrchol â ffigurau blaenorol, ond mae'n bosibl gwneud cymariaethau bras.

Prif bwyntiau

Hydref 2024

Math o aelwyd a statws agored i niwed

  • Roedd tua 340,000 o aelwydydd (25%) yng Nghymru mewn tlodi tanwydd, gan gynnwys 63,000 (5%) mewn tlodi tanwydd difrifol a 215,000 (16%) mewn perygl o dlodi tanwydd.
  • Roedd tua 304,000 o aelwydydd agored i niwed (26%) mewn tlodi tanwydd, gan gynnwys 46,000 (4%) mewn tlodi tanwydd difrifol a 198,000 (17%) mewn perygl o dlodi tanwydd.
  • Roedd tua 195,000 o aelwydydd incwm is (83%) mewn tlodi tanwydd, 56,000 (24%) mewn tlodi tanwydd difrifol a 28,000 (12%) mewn perygl o dlodi tanwydd.

Nodweddion aelwydydd

  • Roedd aelwydydd sy'n byw yn y sector rhentu preifat yn fwy tebygol o fod yn dlawd o ran tanwydd, ac roedd 30% o'r aelwydydd hyn yn byw mewn tlodi tanwydd o'i gymharu â 24% o berchen-feddianwyr a 22% o bobl mewn tai cymdeithasol.
  • Roedd aelwydydd pensiynwyr sengl heb blant yn fwy tebygol o fod yn dlawd o ran tanwydd, gyda 43% o'r aelwydydd hyn yn byw mewn tlodi tanwydd, tra bod 8% o’r aelwydydd gyda dau oedolyn a phlant mewn tlodi tanwydd.
  • Mae aelwydydd lle mae Person Cyswllt y Cartref (HRP) yn ddi-waith neu’n derbyn budd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd yn fwy tebygol o fod mewn tlodi tanwydd na'r rhai nad ydynt yn ddi-waith nac yn derbyn budd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd.
  • Roedd aelwydydd lle mae’r HRP yn 75 oed a throsodd yn fwy tebygol o fod yn dlawd o ran tanwydd, gyda 44% o’r aelwydydd yn byw mewn tlodi tanwydd, tra bod 10% o’r aelwydydd lle roedd yr ymatebydd rhwng 35 a 44 oed mewn tlodi tanwydd.

Nodweddion anheddau

  • Roedd aelwydydd sy'n byw mewn eiddo hŷn yn fwy tebygol o fod yn dlawd o ran tanwydd, gyda 33% o’r aelwydydd sy'n byw mewn anheddau a adeiladwyd cyn 1919 mewn tlodi tanwydd.
  • Roedd aelwydydd mewn anheddau â waliau solet yn fwy tebygol o fod yn dlawd o ran tanwydd (33%) nag aelwydydd mewn anheddau â waliau ceudod. Fodd bynnag, nid oedd y ffaith fod waliau ceudod wedi’u hinsiwleiddio (21%) neu heb eu hinsiwleiddio (22%) yn cael fawr ddim effaith ar statws tlodi tanwydd.
  • Roedd mwy na hanner yr aelwydydd sy'n byw mewn anheddau heb wres canolog (59%) yn dlawd o ran tanwydd o'i gymharu ag aelwydydd sydd â gwres canolog (23%).
  • Wrth i fand Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) yr annedd leihau, roedd y tebygolrwydd o fod yn dlawd o ran tanwydd yn cynyddu. Aelwydydd sy'n byw mewn anheddau band A i C (15%) oedd y lleiaf tebygol o fod yn dlawd o ran tanwydd o'i gymharu â'r rhai ym mandiau F neu G (59%).

Gwybodaeth gefndir

Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gynnal adolygiad cyfnodol o'r cynllun trechu tlodi tanwydd 2021 i 2035. Cyhoeddwyd y cynllun ym mis Mawrth 2021, a chyhoeddwyd yr adolygiad cyntaf ym mis Mehefin 2025. Comisiynwyd amcangyfrifon tlodi tanwydd wedi'u modelu 2024 gan y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BRE) i lywio'r adolygiad ac i helpu i baratoi targedau interim.

Defnyddio data Arolwg Cyflwr Tai Cymru 2017-18

Mae'r data a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer amcangyfrifon tlodi tanwydd yn seiliedig ar ffynonellau data hŷn (gan gynnwys Arolwg Cyflwr Tai Cymru 2017-18) sydd wedi'u hailosod gan ddefnyddio data gweinyddol er mwyn adlewyrchu safonau byw mwy diweddar. Er bod y dull gweithredu hwn yn parhau i fod yn gadarn, mae ein hyder yn yr amcangyfrifon yn lleihau wrth i ni symud ymhellach i ffwrdd o waelodlin 2017-18. Y rheswm am hyn yw'r nifer cynyddol o ragdybiaethau ac addasiadau sydd eu hangen, sy'n arwain at ansicrwydd cynyddol. Mae Arolwg Tai newydd wedi'i gynllunio ar gyfer 2027-28, a fydd yn darparu data crai mwy cyfredol fel sylfaen ar gyfer amcangyfrifon tlodi tanwydd yn y dyfodol, gan wella eu cywirdeb a'u dibynadwyedd.

Diffiniadau

Ystyrir bod aelwyd mewn tlodi tanwydd os na all yr aelwyd honno gadw'r cartref yn gynnes am gost resymol. Yng Nghymru, mesurir hyn fel unrhyw aelwyd a fyddai’n gorfod gwario mwy na 10% o'i hincwm (gan gynnwys budd-daliadau sy'n gysylltiedig â thai a heb y dreth gyngor) ar gynnal trefn wresogi ddigonol. Y diffiniad hwn yw'r prif fesur a ddefnyddir i fonitro tlodi tanwydd ac olrhain cynnydd dros amser. Am ragor o fanylion, gweler Atodiad A.

Diffinnir aelwyd sy'n gorfod gwario mwy nag 20% fel un sydd mewn tlodi tanwydd difrifol. Mae aelwyd y mae angen iddi wario rhwng 8% a 10% yn cael ei hystyried yn aelwyd sydd mewn perygl o dlodi tanwydd (h.y. mae’n agored i newidiadau cymharol fach mewn incwm neu gostau ynni).

Diffinnir aelwydydd sy'n agored i niwed fel y rhai sy’n gartref i berson 60 oed a throsodd, plentyn neu berson dibynnol o dan 16 oed, person sengl o dan 25 oed a/neu berson sy'n anabl neu sydd â salwch hirdymor.

Diffinnir aelwyd incwm is fel aelwyd y mae ei hincwm yn llai na 60% o incwm canolrifol aelwydydd yn y DU cyn costau tai fel y'u cyhoeddir yn flynyddol yn adroddiad HBAI [troednodyn 1].

Math o aelwyd a statws agored i niwed

Mae'r adran hon yn darparu crynodeb o dlodi tanwydd yng Nghymru ym mis Hydref 2024, ar sail y dangosydd 10% o dan y diffiniad incwm llawn, wedi'i ddadansoddi yn ôl math o aelwyd a statws agored i niwed. Mae amcangyfrifon o aelwydydd sydd mewn perygl o dlodi tanwydd (dangosydd 8-10%) ac aelwydydd sydd mewn tlodi tanwydd difrifol (dangosydd 20%) wedi'u cynnwys hefyd. Mae dadansoddiad o'r dangosyddion tlodi tanwydd hefyd wedi'i ddarparu ar gyfer aelwydydd sy'n agored i niwed ac aelwydydd incwm is. Mae delweddau manwl i'w gweld ar ein dangosfwrdd rhyngweithiol a'n tablau cyhoeddedig.

Pob aelwyd

Yn 2024, amcangyfrifwyd bod tua 340,000 o aelwydydd yng Nghymru (25%) mewn tlodi tanwydd o dan y diffiniad incwm llawn. Y ffigurau blaenorol oedd 196,000 o aelwydydd yng Nghymru (14%) yn 2021 a 155,000 (12%) yn 2018. Er bod y dulliau a ddefnyddiwyd i gyfrifo'r ffigurau hyn yn wahanol ac nad oes modd eu cymharu'n uniongyrchol, yn gyffredinol mae tlodi tanwydd wedi cynyddu dros amser. Mae hyn yn adlewyrchu'r cynnydd mewn costau tanwydd a'r gostyngiad (mewn termau real) mewn incwm aelwydydd dros y cyfnod hwn, fel y trafodir yn ddiweddarach.

Aelwydydd sy'n agored i niwed

Gall byw mewn amgylchedd oer, llaith waethygu problemau iechyd fel asthma a chyflyrau'r galon, felly un maes polisi sydd o ddiddordeb penodol yw ystyried lefel y tlodi tanwydd ymhlith aelwydydd sy'n cynnwys aelodau sy'n cael eu hystyried yn agored iawn i niwed oherwydd amodau oer yn y cartref. [troednodyn 2].

Diffinnir aelwydydd sy'n agored i niwed (at y dibenion hyn) fel y rhai sy’n gartref i berson 60 oed a throsodd, plentyn neu berson ifanc o dan 16 oed, person sengl o dan 25 oed a/neu berson sy'n anabl neu sydd â chyflwr cyfyngus hirdymor.

Yn 2024, amcangyfrifwyd bod tua 304,000 o aelwydydd agored i niwed yng Nghymru (26%) mewn tlodi tanwydd o dan y diffiniad incwm llawn. Er nad oes modd gwneud cymhariaeth uniongyrchol, amcangyfrifwyd bod y ffigur hwn yn 169,000 (14%) yn 2021.

Ffigur 1: canran yr aelwydydd mewn tlodi tanwydd yn ôl statws agored i niwed a blwyddyn, Cymru [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 1: siart bar sy'n dangos canran yr holl aelwydydd ac aelwydydd agored i niwed sydd mewn tlodi tanwydd.

Ffynhonnell: Model Ynni Domestig y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BREDEM) ac Arolwg Cyflwr Tai Cymru 2017-18

[Nodyn 1] Yn seiliedig ar 1.385 miliwn o aelwydydd yn 2024 ac 1.379 miliwn o aelwydydd yn 2021.

[Nodyn 2] Yn seiliedig ar amcangyfrifon tlodi tanwydd wedi'u modelu 2021, eu diwygio gan ddefnyddio prisiau tanwydd (trydan, nwy o'r prif gyflenwad ac olew gwresogi) o 1 Ebrill 2022, a rhagdybio bod y cap ar brisiau yn berthnasol i bob aelwyd.

Tlodi tanwydd difrifol

Diffinnir aelwyd sy’n gorfod gwario mwy nag 20 y cant o'i hincwm i gynnal safon gwresogi boddhaol fel un sydd mewn tlodi tanwydd difrifol.

Yn 2024, amcangyfrifwyd bod tua 63,000 o aelwydydd yng Nghymru (5%) yn byw mewn tlodi tanwydd difrifol. Er nad oes modd gwneud cymhariaeth uniongyrchol, amcangyfrifwyd bod 38,000 o aelwydydd yng Nghymru (3%) yn byw mewn tlodi tanwydd difrifol yn 2021.

Aelwydydd sydd mewn perygl o dlodi tanwydd

Mae aelwyd y mae angen iddi wario rhwng 8 a 10% o'i hincwm i gynnal safon gwresogi boddhaol yn cael ei hystyried yn aelwyd sydd mewn perygl o dlodi tanwydd (h.y. maent yn agored i newidiadau cymharol fach mewn incwm neu gostau ynni).

Yn 2024, amcangyfrifwyd bod tua 215,000 o aelwydydd yng Nghymru (16%) mewn perygl o dlodi tanwydd. Er nad oes modd gwneud cymhariaeth uniongyrchol, amcangyfrifwyd bod 153,000 o aelwydydd yng Nghymru (11%) mewn perygl o dlodi tanwydd yn 2021.

Ffigur 2: canran yr aelwydydd mewn tlodi tanwydd yn ôl math o dlodi tanwydd a blwyddyn, Cymru [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o ffigur 2: siart bar yn dangos canran yr holl aelwydydd mewn tlodi tanwydd yn ôl math o dlodi tanwydd. Mae tlodi tanwydd difrifol (20%) yn is-set o dlawd o ran tanwydd (10%).

Ffynhonnell: Model Ynni Domestig y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BREDEM) ac Arolwg Cyflwr Tai Cymru 2017-18

[Nodyn 1] Yn seiliedig ar 1.385 miliwn o aelwydydd yn 2024 ac 1.379 miliwn o aelwydydd yn 2021.

[Nodyn 2] Yn seiliedig ar amcangyfrifon tlodi tanwydd wedi'u modelu 2021, eu diwygio gan ddefnyddio prisiau tanwydd (trydan, nwy o'r prif gyflenwad ac olew gwresogi) o 1 Ebrill 2022, a rhagdybio bod y cap ar brisiau yn berthnasol i bob aelwyd.

Aelwydydd incwm is

Diffinnir aelwyd incwm is fel aelwyd y mae ei hincwm yn llai na 60% o incwm canolrifol aelwydydd yn y DU cyn costau tai.

Yn 2024, amcangyfrifwyd bod tua 195,000 o aelwydydd incwm is yng Nghymru (83%) yn byw mewn tlodi tanwydd. Er nad oes modd gwneud cymhariaeth uniongyrchol, amcangyfrifwyd bod 130,000 o aelwydydd incwm is yng Nghymru (59%) yn byw mewn tlodi tanwydd yn 2021.

Nodweddion aelwydydd

Mae'r adran hon yn darparu crynodeb o dlodi tanwydd yng Nghymru ym mis Hydref 2024, ar sail y dangosydd 10% o dan y diffiniad incwm llawn, wedi'i ddadansoddi yn ôl nodweddion aelwydydd. Mae delweddau manwl i'w gweld ar ein dangosfwrdd rhyngweithiol a thablau cyhoeddedig.

Math o aelwyd

Yn 2024, roedd tlodi tanwydd wedi effeithio ar aelwydydd un person yn fwy nag unrhyw fath arall o aelwyd (55% o'r holl aelwydydd sy'n dlawd o ran tanwydd). Ymhlith y rhain, y math mwyaf cyffredin o aelwyd oedd pensiynwyr sengl heb blant, sef 32% o'r holl aelwydydd tlawd o ran tanwydd. Yr ail fath mwyaf cyffredin o aelwyd oedd unigolion sengl nad ydynt yn bensiynwyr a heb blant, sef 16%. Fodd bynnag, roedd aelwydydd dau oedolyn â phlant yn cynrychioli 5% o'r holl aelwydydd tlawd o ran tanwydd.

Mae mathau o aelwydydd yn amrywio ledled Cymru, gyda bron i ddwywaith cymaint o aelwydydd pensiynwyr sengl ag aelwydydd rhiant sengl. Mae'r dosbarthiad anghyfartal hwn yn helpu i esbonio pam mae aelwydydd un person mor amlwg yn yr ystadegau tlodi tanwydd. Yn 2024, roedd 43% o aelwydydd pensiynwyr sengl yn dlawd o ran tanwydd, o'i gymharu â dim ond 8% o aelwydydd dau oedolyn â phlant.

Oedran Person Cyswllt y Cartref (HRP)

Person Cyswllt y Cartref yw enw'r person sy'n berchen ar yr eiddo neu'n ei rentu. Os yw dau berson yn berchen ar yr eiddo neu'n ei rentu, yr HRP yw'r un sy'n ennill y mwyaf. Os yw incwm y ddau yn gyfartal, yr HRP yw'r hynaf.

Yn 2024, roedd tlodi tanwydd wedi effeithio ar aelwydydd pobl hŷn yn fwy nag unrhyw aelwydydd eraill. Roedd yr HRP yn 65 oed neu'n hŷn mewn ychydig dros hanner (51%) yr holl aelwydydd tlawd o ran tanwydd. Aelwydydd â HRP 75 oed a hŷn oedd â’r gyfradd tlodi tanwydd uchaf (44%), a’r rhai 35 - 44 oed oedd â’r gyfradd tlodi tanwydd isaf (10%).

Deiliadaeth

Yn 2024, roedd mwy na dwy o bob tair aelwyd mewn tlodi tanwydd yn eiddo i berchen-feddianwyr (68%), yn bennaf gan mai dyma’r math mwyaf cyffredin o dai yng Nghymru. Fodd bynnag, y sector rhentu preifat oedd â'r gyfradd tlodi tanwydd uchaf, sef 30% o aelwydydd. Mae hyn yn cymharu â 24% o aelwydydd sy'n eiddo i berchen-feddianwyr a 22% o'r rhai sy'n byw mewn tai cymdeithasol

Statws cyflogaeth Person Cyswllt y Cartref (HRP)

Incwm yw un o'r tair prif elfen sy'n effeithio ar dlodi tanwydd, ac mae statws cyflogaeth yn rhan bwysig o faint o incwm sydd gan aelwyd.

Yn 2024, aelwydydd â HRP di-waith oedd y rhai mwyaf tebygol o fod mewn tlodi tanwydd (56%), a'r ail grŵp mwyaf tebygol oedd pobl economaidd anweithgar (37%). Aelwydydd â rhywun mewn cyflogaeth oedd y lleiaf tebygol o fod yn dlawd o ran tanwydd, gyda dim ond 10% yn cael eu heffeithio.

Budd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd

Yn 2024, roedd 40% o’r aelwydydd mewn tlodi tanwydd yn derbyn budd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd, gan gynnwys budd-daliadau sy'n gysylltiedig â thai. O'r holl aelwydydd a oedd yn derbyn y budd-daliadau hyn, roedd 19% yn dlawd o ran tanwydd o'i gymharu â 12% o'r aelwydydd nad oeddent yn derbyn budd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd.

Nodweddion anheddau

Mae'r adran hon yn darparu crynodeb o dlodi tanwydd yng Nghymru ym mis Hydref 2024, ar sail y dangosydd 10% o dan y diffiniad incwm llawn, wedi'i ddadansoddi yn ôl nodweddion anheddau. Mae delweddau manwl i’w gweld ar ein dangosfwrdd rhyngweithiol a thablau cyhoeddedig.

Math o annedd

Nid oedd y math o annedd yn cael effaith fawr ar statws tlodi tanwydd aelwydydd. Yn 2024, roedd canran yr aelwydydd mewn tlodi tanwydd yn debyg ym mhob math o annedd i raddau helaeth, gan amrywio o 23% o'r rhai sy'n byw mewn tŷ sengl i 28% o'r rhai sy'n byw mewn tŷ pen teras.

Oedran yr annedd

Yn 2024, roedd 33% o'r aelwydydd sy'n byw mewn eiddo hŷn (cyn 1919) yn dlawd o ran tanwydd o'i gymharu â 14% o'r rhai sy'n byw mewn eiddo mwy modern (ar ôl 1980).

Un rheswm tebygol am hyn yw priodweddau thermol yr adeiladwaith. Er enghraifft, waliau solet sydd gan y rhan fwyaf o eiddo a adeiladwyd cyn 1919. Mae waliau solet yn llai effeithlon wrth gadw gwres, sy'n golygu bod angen mwy o ynni i wresogi’r eiddo.

Prif system wresogi a math o danwydd

Un ffordd o amddiffyn aelwyd rhag tlodi tanwydd yw sicrhau dull costeffeithiol o wresogi'r annedd. Mae gwres canolog, ac yn enwedig gwres canolog sy'n defnyddio nwy o'r prif gyflenwad, yn cael ei ystyried yn un o'r systemau gwresogi mwyaf cost-effeithlon sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd yn y stoc dai yng Nghymru.

Mae systemau gwres canolog yn cynnwys: systemau boeleri gyda rheiddiaduron, systemau aer cynnes a systemau 'eraill' fel gwres o dan y llawr, a systemau cymunol. Mae aelwydydd nad oes ganddynt systemau gwres canolog yn gorfod talu costau tanwydd uwch nag aelwydydd sydd â systemau gwres canolog.

Yn 2024, roedd aelwydydd sy'n byw mewn anheddau heb wres canolog yn fwy tebygol o fod yn dlawd o ran tanwydd na'r rhai sydd â gwres canolog. Roedd 59% o’r aelwydydd heb wres canolog yn byw mewn tlodi tanwydd, o'i gymharu â 23% o'r rhai sydd â gwres canolog. Mae cyfraddau tlodi tanwydd ymhlith y rhai sydd â gwres canolog yn agos at y lefel nodweddiadol ar gyfer y boblogaeth gyfan.

Math o wal ac insiwleiddio

Yn 2024, roedd aelwydydd mewn anheddau â waliau solet yn fwy tebygol o fod yn dlawd o ran tanwydd (32%) nag aelwydydd mewn anheddau â waliau ceudod. Fodd bynnag, nid oedd y ffaith fod waliau ceudod wedi’u hinsiwleiddio (21%) neu heb eu hinsiwleiddio (22%) yn cael fawr ddim effaith ar statws tlodi tanwydd.

Effeithlonrwydd ynni: Dosbarthiad SAP a band EPC

Y fethodoleg a ddefnyddir gan y Llywodraeth i asesu a chymharu perfformiad ynni a pherfformiad amgylcheddol anheddau yw’r Weithdrefn Asesu Safonol (SAP).

Mae'r SAP yn gweithio trwy asesu faint o ynni y bydd annedd yn ei ddefnyddio wrth ddarparu lefel ddiffiniedig o gysur a darpariaeth gwasanaeth. Mae'r asesiad yn seiliedig ar ragdybiaethau safonedig ar gyfer deiliadaeth ac ymddygiad, a gellir ei ddefnyddio i gymharu perfformiad anheddau tebyg. Mae'r dosbarthiadau’n cael eu mynegi ar raddfa o 1 i 100, gyda 100 yn cynrychioli dim cost ynni.

Rhennir dosbarthiadau SAP yn fandiau A i G. Dyma'r bandiau a ddefnyddir ar gyfer Tystysgrifau Perfformiad Ynni (EPC). Mae'r gwerthoedd uchaf (h.y. y lefelau uchaf o effeithlonrwydd ynni) yn cael eu dyrannu i fand A a'r gwerthoedd isaf yn cael eu dyrannu i fand G.

Yn 2024, wrth i ddosbarthiad EPC yr annedd leihau, roedd y tebygolrwydd o fod yn dlawd o ran tanwydd yn cynyddu. Aelwydydd sy'n byw mewn anheddau band A i C (15%) oedd y lleiaf tebygol o fod yn dlawd o ran tanwydd o'i gymharu â'r rhai ym mandiau F i G (59%).

Lleoliad: dosbarthiad Trefol neu Gwledig

Defnyddir dosbarthiad ardaloedd Gwledig - Trefol 2011 y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). Mae dosbarthiad yn cael ei ddyrannu i ardaloedd cynnyrch bach y Cyfrifiad. Mae Ardaloedd Cynnyrch yn cael eu trin fel rhai 'trefol' os ydynt yn rhan o ardal adeiledig sy'n cynnwys 10,000 o bobl neu fwy. Mae ardaloedd gwledig yn cynnwys trefi a’u cyrion, pentrefi a phentrefannau ac ardaloedd anghysbell.

Roedd aelwydydd sy'n byw mewn ardaloedd gwledig yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi tanwydd. O'r holl aelwydydd mewn lleoliadau gwledig, roedd 26% yn dlawd o ran tanwydd, o'i gymharu â 24% o aelwydydd sy'n byw mewn ardaloedd trefol. Yn rhannol, gall hyn adlewyrchu’r ffaith bod cyfran uwch o aelwydydd mewn ardaloedd gwledig heb wres canolog.

Sbardunau tlodi tanwydd

Mae'r adran hon yn edrych ar sut mae prif elfennau tlodi tanwydd wedi newid rhwng WHCS 2017-18 (a ddefnyddiwyd i gyfrifo amcangyfrifon tlodi tanwydd 2018) a 2024, ac mae'n archwilio sut mae'r rhain yn effeithio ar lefelau tlodi tanwydd yn 2024. Mae adran 3 o'r adroddiad methodoleg yn cynnwys manylion y mesur incwm aelwydydd llawn a ddefnyddir yn y diffiniad o dlodi tanwydd yng Nghymru. Mae Adran 4 yn ymdrin â newidiadau i brisiau tanwydd, ac mae Adran 5 yn cynnwys manylion am yr uwchraddiadau i effeithlonrwydd ynni a safonau gwresogi.

Elfen incwm aelwydydd wedi'i fodelu

Cynyddodd incwm aelwydydd blynyddol canolrifol 33% rhwng 2018 a 2024, o £23,600 yn 2018 i £31,400 yn 2024. Cynyddodd 21% rhwng 2021 a 2024, o £25,900 i £31,400 yn 2024.

Ffigur 3: incwm aelwydydd canolrifol (£) yn ôl blwyddyn, Cymru

Image

Disgrifiad o ffigur 3: cyfres amser yn dangos incwm aelwydydd canolrifol wedi'i fodelu (£) yng Nghymru.

Ffynhonnell: Model Ynni Domestig y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BREDEM)

Elfen pris tanwydd wedi'i fodelu

Roedd costau tanwydd blynyddol cymedrig aelwydydd i gynnal safon gwresogi boddhaol wedi cynyddu rhwng 2018 a 2024 hefyd, sef cynnydd o 74%, o £1,343 yn 2018 i £2,335 yn 2024, a chynnydd o 48% rhwng 2021 a 2024, o £1,577 yn 2021 i £2,335 yn 2024.

Ffigur 4: prisiau tanwydd cymedrig (£) yn ôl blwyddyn, Cymru

Image

Disgrifiad o ffigur 4: cyfres amser yn dangos prisiau tanwydd cymedrig wedi'u modelu (£) yng Nghymru.

Ffynhonnell: Model Ynni Domestig y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BREDEM)

Mae'r newid mewn costau tanwydd rhwng 2018 a 2024 yn adlewyrchu cyfuniad o ffactorau: diweddariadau i fodelau ynni, newidiadau i brisiau tanwydd, gwelliannau i effeithlonrwydd ynni a defnyddio diffiniad safon gwresogi boddhaol 2024 i fodelu tlodi tanwydd.

Mae dadansoddiad o'r elfennau unigol sy'n effeithio ar lefelau tlodi tanwydd wedi dangos bod y ddwy elfen wedi cynyddu ers amcangyfrifon 2021, ond bod y cynnydd yn yr elfen pris tanwydd wedi bod yn fwy ar gyfartaledd. Mae hyn wedi cyfrannu'n sylweddol at y cynnydd yn y gyfradd tlodi tanwydd a welwyd yn 2024.

Effaith bosibl prisiau ynni

Yn 2024-25, amcangyfrifwyd bod bil ynni aelwydydd yn £1,850 ar gyfartaledd ar sail defnydd ynni safonol. Mae hyn 37% yn uwch nag yn 2021-22, pan oedd bil cyfartalog aelwydydd yn £1,360 [troednodyn 3]. O ganlyniad, mae mwy o aelwydydd yng Nghymru bellach yn gorfod gwario mwy na 10% o'u hincwm ar filiau ynni, sy'n golygu eu bod yn dlawd o ran tanwydd. Mae hyn yn golygu bod ganddynt lai o incwm ar gyfer hanfodion fel bwyd, rhent ac anghenion sylfaenol eraill.

Materion byd-eang sy'n bennaf cyfrifol am y cynnydd mewn costau ynni. Cafwyd cryn darfu ar y cyflenwad ynni byd-eang, mae chwyddiant wedi arwain at brisiau uwch ac mae problemau gyda chadwyni cyflenwi wedi golygu bod cludo tanwydd i'r DU yn costio hyd yn oed yn fwy. Mae'r ffactorau hyn yn golygu nad oes modd rhagweld lefelau biliau ynni, ac mae llawer o deuluoedd yn cael trafferth cadw i fyny â'r costau cynyddol.

Effaith bosibl chwyddiant

Mae chwyddiant wedi cynyddu costau byw yng Nghymru ers 2021, gan effeithio ar gyllidebau aelwydydd a chodi pris hanfodion. Yn 2021, roedd cyfradd chwyddiant y Mynegai Prisiau Defnyddwyr blynyddol gan gynnwys costau tai perchen-feddianwyr (CPIH) yn 2.5% ond, erbyn 2022, roedd wedi cynyddu i 7.9%, wedi'i sbarduno gan brisiau ynni cynyddol, costau bwyd a tharfu ar y gadwyn gyflenwi [troednodyn 4]. Er bod chwyddiant wedi gostwng ychydig yn 2024 i 3.3%, mae'n parhau i fod yn uchel, sy'n golygu bod teuluoedd yn talu mwy am hanfodion bob dydd nag yn 2021. Mae hyn wedi lleihau pŵer prynu cyflogau a budd-daliadau, sy'n golygu bod gan aelwydydd lai o arian i dalu costau ynni cynyddol.

Tlodi tanwydd yng ngwledydd eraill y DU

Mae pob gwlad yn y DU yn defnyddio dull ychydig yn wahanol i fesur tlodi tanwydd a chyfeirnodau amser gwahanol. O ganlyniad, nid oes modd cymharu ffigurau yn uniongyrchol. Mae'r adran nesaf yn darparu crynodeb o sut mae tlodi tanwydd yn cael ei gyfrifo ym mhob un o wledydd y DU. Er gwybodaeth, mae'r ystadegau diweddaraf ar gyfer Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ar gael yn eu cyhoeddiadau priodol ac mae'r ffigurau diweddaraf sydd ar gael wedi’u crynhoi ar ein dangosfwrdd rhyngweithiol.

Lloegr

Mae tlodi tanwydd yn Lloegr (Yr Adran Diogeledd Ynni a Sero Net) yn cael ei fesur trwy ddefnyddio'r dull 'Incwm Isel Effeithlonrwydd Ynni Isel' (LILEE). Mae aelwyd yn Lloegr yn cael ei hystyried yn dlawd o ran tanwydd os oes ganddi Sgôr Effeithlonrwydd Ynni Tlodi Tanwydd (FPEER) [troednodyn 5] band D neu is, ac os yw ei hincwm gweddilliol islaw'r ffin tlodi swyddogol ar ôl talu’r costau ynni wedi'u modelu sydd eu hangen i gynnal safon gwresogi boddhaol.

Y diffiniad o 'safon gwresogi boddhaol' yn Lloegr yw 21°C yn yr ystafell fyw a 18°C mewn ystafelloedd eraill, am 16 awr mewn cyfnod o 24 awr mewn aelwydydd ar gyfer pobl yn ystod y dydd. Ar gyfer aelwydydd eraill, mae angen tymheredd o 21°c yn yr ystafell fyw a 18° mewn ystafelloedd eraill am naw awr mewn cyfnod o 24 awr yn ystod yr wythnos, ac am 16 awr mewn cyfnod o 24 awr ar benwythnosau.

Cyfrifir incwm fel gwerth incwm cyfwerthedig blynyddol Ar ôl Costau Tai ar gyfer yr aelwyd, sef incwm blynyddol net llawn yr aelwyd (incwm o bob ffynhonnell, gan gynnwys budd-daliadau a chynilion a buddsoddiadau), ac eithrio incwm sy'n gysylltiedig â'r prif fudd-daliadau anabledd a didyniadau ar gyfer costau tai.

Gogledd Iwerddon

Mae tlodi tanwydd yng Ngogledd Iwerddon (Prif Swyddfa Tai Iwerddon y Gogledd) yn cael ei fesur trwy ddefnyddio'r dangosydd 10%, lle mae aelwyd yn dlawd o ran tanwydd os yw'r costau tanwydd sydd eu hangen i gynnal safon gwresogi boddhaol yn fwy na 10% o incwm yr aelwyd. Mae mesur incwm llawn yn cael ei ddefnyddio yn y cyfrifiad tlodi tanwydd, ac mae incwm yn cynnwys budd-dal tai, Taliadau Tanwydd Gaeaf ac ad-daliadau ardrethi llai ardrethi aelwydydd.

Y diffiniad o 'safon gwresogi boddhaol' yng Ngogledd Iwerddon yw 21°C yn yr ystafell fyw a 18°C mewn ystafelloedd eraill, am 16 awr mewn cyfnod o 24 awr mewn aelwydydd ar gyfer pobl yn ystod y dydd. Ar gyfer aelwydydd eraill, mae angen tymheredd o 21°C yn yr ystafell fyw a 18°C mewn ystafelloedd eraill am naw awr mewn cyfnod o 24 awr yn ystod yr wythnos, ac am 16 awr mewn cyfnod o 24 awr ar benwythnosau. Y diffiniad o incwm yw incwm blynyddol net llawn yr aelwyd (incwm o bob ffynhonnell, gan gynnwys budd-daliadau a chynilion a buddsoddiadau), sydd yr un fath â'r incwm a ddefnyddir yn y ffigurau tlodi tanwydd a gyfrifir trwy ddefnyddio prif fesur 10% Cymru.

Yr Alban

Mae tlodi tanwydd yn yr Alban (Llywodraeth yr Alban) wedi'i amlinellu yn adran 3 o Ddeddf Tlodi Tanwydd (Targedau, Diffiniad a Strategaeth) (Yr Alban) 2019. Nodir bod aelwyd mewn tlodi tanwydd yn y sefyllfaoedd canlynol:

  • er mwyn cynnal safon gwresogi boddhaol, mae cyfanswm y costau tanwydd sydd eu hangen ar gyfer yr aelwyd yn fwy na 10% o incwm net yr aelwyd wedi'i addasu (h.y. ar ôl costau tai)
  • ar ôl didynnu'r costau tanwydd, budd-daliadau a dderbynnir ar gyfer angen gofal neu anabledd a chostau gofal plant, os nad yw’r incwm net wedi'i addasu sy'n weddill ar yr aelwyd yn ddigonol i gynnal safon byw dderbyniol

Rhaid i'r incwm net wedi'i addasu sy'n weddill fod o leiaf 90% o Safon Isafswm Incwm y DU (MIS) (Prifysgol Loughborough) i gael ei ystyried yn safon byw dderbyniol, gyda swm ychwanegol wedi'i ychwanegu ar gyfer aelwydydd mewn ardaloedd gwledig anghysbell, trefi bach anghysbell ac ynysoedd.

Mae'r safonau gwresogi yn yr Alban wedi'u hamlinellu yn Rheoliadau Tlodi Tanwydd (Gwresogi Gwell) (Yr Alban) 2020.

Amlinelliad o'r fethodoleg

Mae'r adran ganlynol yn crynhoi amlinelliad o'r fethodoleg. Mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adroddiad ar fethodoleg. Defnyddir tair prif elfen wrth gyfrifo tlodi tanwydd, sef:

  • incwm blynyddol aelwyd
  • prisiau tanwydd aelwyd
  • defnydd ynni gofynnol blynyddol aelwyd

Mae amcangyfrifon tlodi tanwydd ar gyfer Cymru wedi cael eu cyfrifo eto gan y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BRE) yn unol â'r sefyllfa ym mis Hydref 2024, gan ddefnyddio data sylfaenol Arolwg Cyflwr Tai Cymru 2017-18 a newidiadau i fodelau incwm aelwydydd a phrisiau tanwydd rhwng 2017 a mis Hydref 2024. Dewiswyd mis Hydref 2024 fel y pwynt cyfeirio gan ei fod yn cyd-fynd â'r adolygiadau o'r capiau ar brisiau ynni. Mae gwelliannau effeithlonrwydd ynni i gartrefi wedi'u cymhwyso yn unol â'r mesurau sy'n debygol o fod wedi'u gosod yn y stoc dai yn ystod y cyfnod hwnnw [troednodyn 6].

Mae ffigurau 2024 wedi'u cyfrifo o dan y diffiniad incwm llawn,[troednodyn 7] a defnyddiwyd Model Ynni Domestig y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BREDEM 2012 fersiwn 1.1) i fodelu gofynion ynni aelwydydd.

Mae Arolwg Cyflwr Tai Cymru yn creu darlun o stoc dai Cymru trwy arolygu sampl o anheddau o bob cwr o'r wlad. Mae angen cymhwyso ffactor pwysoli i'r data er mwyn creu ffigurau sy'n adlewyrchu'r stoc gyfan yng Nghymru, ar gyfer preswylwyr anheddau. Yn 2017/18, amcangyfrifwyd bod 1.33 miliwn o aelwydydd yng Nghymru. Mae gwybodaeth StatsCymru yn dangos bod nifer yr aelwydydd wedi cynyddu ers 2017. Gan ddefnyddio data ar yr amcangyfrifon o niferoedd aelwydydd yng Nghymru yn 2017 (1,328,269) a 2023 (1,377,071), a gan ragdybio bod yna duedd linol hyd at 2024, addaswyd y ffactorau pwysoli mewn ffordd unffurf i gynrychioli 1.39 miliwn o aelwydydd yng Nghymru yn 2024. Nid yw hyn yn ystyried unrhyw addasiad yn y stoc dai, felly mae angen cymryd gofal wrth ddefnyddio a dehongli niferoedd aelwydydd wrth ddefnyddio ffactor pwysoli 2024.

Methodoleg Arolwg Cyflwr Tai Cymru 2017-18

Cwblhawyd Arolwg Cyflwr Tai Cymru 2017-18 gan BRE ar ran Llywodraeth Cymru. Fe aeth syrfewyr cymwysedig ati i gwblhau arolygiadau nad oeddent yn tarfu ar aelwydydd mewn 2,549 o eiddo ledled Cymru rhwng mis Awst 2017 a mis Ebrill 2018. Defnyddir data o arolygiadau Arolwg Cyflwr Tai Cymru i nodi effeithlonrwydd ynni'r cartref ac, felly, faint o ynni sydd ei angen i'w gynhesu. Er mwyn amcangyfrif costau tanwydd aelwydydd, mae BRE yn ystyried defnydd ynni gofynnol yr aelwyd ac yn cyfuno hynny â'r pris tanwydd hysbys ar gyfer y dull talu a ddefnyddir gan yr aelwyd a lleoliad yr aelwyd yng Nghymru.

Roedd y sampl ar gyfer Arolwg Cyflwr Tai Cymru yn deillio o aelwydydd cymwys a gymerodd ran yn Arolwg Cenedlaethol Cymru 2017-18. Os mai'r ymatebydd oedd Person Cyswllt y Cartref (HRP), neu ei briod/partner, roedd yr arolwg yn cynnwys set fanwl o gwestiynau am incwm a chostau tai er mwyn gallu cyfrifo incwm blynyddol aelwydydd ar gyfer achosion Arolwg Cyflwr Tai Cymru.

Mae rhagor o wybodaeth lefel uchel am y fethodoleg a ddefnyddiwyd i gynhyrchu'r amcangyfrifon hyn ar gael yn Atodiad A.

Atodiad A

Isod mae crynodeb byr sy’n cynnwys disgrifiadau o'r fethodoleg a ddefnyddiwyd i gyfrifo amcangyfrifon tlodi tanwydd wedi'u modelu ar gyfer Cymru 2024 o dan y diffiniad 10%. Gweler yr adroddiad llawn ar fethodoleg am ragor o wybodaeth.

Diffiniadau

Diffinnir bod aelwyd yn dlawd o ran tanwydd os yw'n gwario mwy na 10% o'i hincwm ar danwydd. Cyfrifir hyn gan ddefnyddio’r hafaliad isod:

Image

Os yw'r gymhareb o'r hafaliad uchod yn fwy na 0.1, diffinnir bod yr aelwyd yn dlawd o ran tanwydd. Caiff cyfanswm y costau tanwydd ar gyfer aelwyd eu modelu trwy ddefnyddio safonau gwresogi safonol sy'n ystyried faint o arian y byddai angen i'r aelwyd ei wario ar gostau tanwydd er mwyn cyrraedd y safonau sefydledig ar gyfer cysur yn seiliedig ar safon gwresogi boddhaol. Diffinnir safon gwresogi boddhaol fel 23°C yn yr ystafell fyw a 18°C mewn ystafelloedd eraill am 16 awr mewn cyfnod o 24 awr mewn aelwydydd â phobl hŷn (60 oed neu hŷn) neu anabl (pobl sy'n byw gyda salwch cyfyngus hirdymor neu sy'n anabl). Ar gyfer aelwydydd eraill, mae angen tymheredd o 21°C yn yr ystafell fyw a 18°C mewn ystafelloedd eraill am naw awr mewn cyfnod o 24 awr yn ystod yr wythnos, ac am 16 awr mewn cyfnod o 24 awr ar benwythnosau.

Diffinnir aelwyd sy'n gorfod gwario mwy nag 20% fel un sydd mewn tlodi tanwydd difrifol.

Mae aelwyd y mae angen iddi wario rhwng 8 a 10% yn cael ei hystyried yn aelwyd sydd mewn perygl o dlodi tanwydd (h.y. maent yn agored i newidiadau cymharol fach mewn incwm neu gostau ynni).

Cyfrifo prif elfennau tlodi tanwydd

Mae tair prif elfen a ddefnyddir i gyfrifo tlodi tanwydd: incwm, prisiau ynni a gofynion ynni. Mae crynodeb isod o’r modd y caiff yr elfennau hyn eu cyfrifo.

Incwm

Mae angen dau ddiffiniad gwahanol o incwm.

Incwm sylfaenol

Caiff hyn ei gyfrifo trwy adio incymau personol pawb yn yr aelwyd (16 oed a hŷn) at ei gilydd, yn ogystal ag unrhyw fudd-dal neu daliadau o ffynhonnell incwm arall y mae’r aelwyd yn eu derbyn (o incwm a enillir, budd-daliadau’r wladwriaeth a chynilion ac ati) i ddarparu incwm y Brif Uned Budd-daliadau. Os yw’n berthnasol, caiff incwm o unedau budd-daliadau eraill a’r Taliad Tanwydd Gaeaf ei ychwanegu wedyn i roi’r ‘incwm sylfaenol’.

Incwm llawn

Mae hyn yn adeiladu ar ‘incwm sylfaenol’ trwy adio incwm sy'n gysylltiedig â thai, gan gynnwys: budd-daliadau tai a Budd-dal Treth Gyngor. Caiff unrhyw Dreth Gyngor sy’n daladwy ei didynnu ohono. Dyma ‘Incwm llawn y cartref’.

Prisiau ynni

Mae elfen pris tanwydd cyfrifiad tlodi tanwydd yn cynhyrchu prisiau tanwydd y gellir eu cyfuno’n rhwydd ag allbynnau gofynion ynni aelwyd i gynhyrchu costau tanwydd.

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn casglu gwybodaeth am ddull taliadau nwy a thrydan, ond nid yw'n casglu gwybodaeth am yr union dariff neu gyflenwr. Mae ffynonellau data'r Adran Diogeledd Ynni a Sero Net (DESNZ) yn darparu 'pris cyfartalog uned' a 'chostau cyfartalog sefydlog' (ffioedd sefydlog) nwy a thrydan ar gyfer rhanbarthau cyflenwi ynni ledled y DU. Wedyn, caiff y cyfuniad o ddata gan Arolwg Cenedlaethol Cymru a'r cyhoeddiad Prisiau Ynni Chwarterol [troednodyn 8] a ddarperir gan DESNZ eu cyfuno i gyfrifo ffigur pris tanwydd terfynol. Darperir data arall ar gyfer tanwyddau nad ydynt ar fesurydd o gyhoeddiad Sutherland Tables ac ar gyfer rhai tanwyddau, defnyddir gwerthoedd diofyn SAP 2012 ac maent yn cael eu chwyddo gan ddefnyddio data Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI).

Gofynion ynni

Un o elfennau tlodi tanwydd yw faint o danwydd sydd ei angen i ddarparu ar gyfer anghenion pob aelwyd, ac o gyfuno hyn â phrisiau tanwydd, mae’n cynhyrchu’r bil tanwydd wedi'i fodelu.

O dan y diffiniad tlodi tanwydd, gellir grwpio'r ynni sydd ei angen i wresogi a phweru cartref yn bedwar categori, sef:

  1. Gwresogi gofod: Es (GJ)
  2. Gwresogi dŵr: Ew (GJ)
  3. Goleuadau ac offer: ELA (GJ)
  4. Coginio: Ec (GJ)

Defnyddir methodoleg Model Ynni Domestig y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BREDEM) [troednodyn 9i ragfynegi gofynion ynni aelwyd lle mae:

Cyfanswm gofynion ynni aelwyd = ES+ EW+ ELA+ EC

Mae cyfanswm gofynion ynni aelwyd yn cynnwys gwresogi gofod a dŵr (i fodloni safonau diffiniedig), ynni ar gyfer goleuadau ac offer (gan gynnwys gofynion ar gyfer pympiau, ffaniau a chawodydd trydan, ac ynni a gynhyrchir gan ynni adnewyddadwy), ac ynni ar gyfer coginio. Bydd faint o ynni sydd ei angen i wresogi annedd yn dibynnu ar fanyleb yr adeilad, fel lefelau insiwleiddio, systemau gwresogi, lleoliad daearyddol yr annedd, a'r math o adeilad. Bydd galw aelwyd am ynni yn dibynnu ar nifer y bobl sy'n byw o fewn yr aelwyd, arferion yr unigolion hyn a’u ffordd o fyw. Defnyddir gwybodaeth o Arolwg Cenedlaethol Cymru ac Arolwg Cyflwr Tai Cymru i ddarparu manylion am anheddau ac aelwydydd fel ei gilydd. Defnyddir rhagdybiaethau Data SAP Gostyngol (RdSAP) i ddelio â data coll a gellir eu gweld yn nogfen gweithdrefn SAP [troednodyn 10]. Dylid nodi bod y ffigurau bellach yn ymgorffori gwerthoedd diwygiedig, sef Gwerthoedd-U (U-values) fel y'u cyhoeddwyd yn RdSAP v9.93.

Darperir data ar nodweddion y ddeiliadaeth, a’r rhanbarth, gan Arolwg Cenedlaethol Cymru. Wedyn, bydd Arolwg Cyflwr Tai Cymru yn darparu gwybodaeth am nodweddion ffisegol y cartref, a ddefnyddir i lywio modelu defnydd ynni aelwydydd ar gyfer tlodi tanwydd, gan gynnwys:

  • gwybodaeth fanwl am y dimensiynau
  • math o annedd a’i hoedran
  • systemau gwresogi a dŵr poeth
  • ffabrig yr annedd ac amlygiad/cysgodi
  • mesurau effeithlonrwydd ynni

Troednodiadau

[1] Ystadegau Cartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog (Adran Gwaith a Phensiynau). Dywedir bod aelwyd ag incwm cymharol isel os yw ei hincwm aelwyd cyfwerthedig net yn is na’r trothwy a osodwyd ar 60% o incwm aelwydydd cyfartalog (canolrifol) y DU.

[2] Mae lleithder yn broblem fawr yng Nghymru. Mae'n gallu arwain at bob math o broblemau iechyd, gan gynnwys asthma, anghysur a phroblemau iechyd meddwl. Cost Lawn Tai Gwael yng Nghymru (Iechyd Cyhoeddus Cymru) a Cartrefi ar gyfer iechyd a llesiant (Iechyd Cyhoeddus Cymru).

[3] Biliau ynni domestig blynyddol (Yr Adran Diogeledd Ynni a Sero Net). Mae data biliau ynni blynyddol cyfartalog yn seiliedig ar y lefelau defnydd sefydlog (3,400 kWh ar gyfer trydan, 11,200 kWh ar gyfer nwy) wedi dangos anwadalrwydd. 2021-22: £1,360, 2022-23: £2,370, 2023-24: £2,240 a 2024-25: £1850.

[4] Chwyddiant a mynegeion prisiau (SYG). Y Mynegai Prisiau Defnyddwyr gan gynnwys costau tai perchen-feddianwyr (CPIH) yw'r mesur mwyaf cynhwysfawr o chwyddiant. Mae'n ymestyn y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) i gynnwys mesur o'r costau sy'n gysylltiedig â bod yn berchen ar eich cartref eich hun, ei gynnal a’i gadw a byw ynddo, a elwir yn gostau tai perchen-feddianwyr (OOH), ynghyd â'r Dreth Gyngor. Mae'r ddau yn dreuliau sylweddol i lawer o aelwydydd ac nid ydynt wedi'u cynnwys yn y CPI.

[5] Mae'r radd effeithlonrwydd ynni tlodi tanwydd (FPEER) yn seiliedig ar SAP, ond mae'n ystyried effaith polisïau sy'n gostwng biliau ynni aelwydydd (e.e. y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes). Methodoleg FPEER (Yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd).

[6] Yn seiliedig ar dueddiadau o Arolygon Cyflwr Tai blaenorol Cymru, data o Arolwg Tai Lloegr, data defnyddio solar ffotofoltäig, a gwybodaeth am gynlluniau Llywodraeth y DU megis ECO a'r Cymhelliad Gwres Adnewyddadwy.

[7] Gweler Atodiad A.

[8] Mae'r data prisiau tanwydd mesurydd a ddefnyddir yn y cyfrifiadau tlodi tanwydd yn deillio o brisiau ynni chwarterol DESNZ, yn nhablau QEP 2.2.4 a QEP 2.3.4.

[9] Defnyddir methodoleg BREDEM a ddisgrifir yn Henderson J, Hart J, BREDEM 2012 A technical description of the BRE Domestic Energy Model , f1.1, Ionawr 2015.

[10] BRE 2017. Appendix S: Reduced Data SAP for existing dwellings , RdSAP 2012 v9.93.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Datganiad cydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Mae ein hymarfer ystadegol yn cael ei reoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR). Y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau sy’n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gydymffurfio â nhw.

Caiff ein holl ystadegau eu cynhyrchu a'u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau er mwyn gwella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae’r rhain wedi’u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.

Mae'r ystadegau swyddogol hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.

Hygrededd

Rydym wedi sicrhau bod yr ystadegau hyn ar gael mewn modd amserol i ddiwallu anghenion defnyddwyr. Rydym wedi dilyn protocolau perthnasol ar gyfer cyhoeddi'r ystadegau hyn, gan sicrhau nad ydynt wedi cael eu rhannu ond â derbynwyr cymwys cyn eu cyhoeddi.

Ansawdd

Rydym wedi gwneud cyfyngiadau'r data hwn yn glir i ddefnyddwyr (er enghraifft, tynnu sylw at ble na ellir gwneud cymariaethau ar draws amcangyfrifon blaenorol oherwydd methodoleg). Mae gwybodaeth am gryfderau a chyfyngiadau amcangyfrifon tlodi tanwydd yn yr adroddiad ar fethodoleg.

Gwerth

Rydym wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr ystadegau hyn yn hygyrch i ddefnyddwyr, gan ddefnyddio iaith glir a chryno (er enghraifft, rydym wedi ehangu’r sylwadau i gynnwys rhagor o gyd-destun polisi ac economaidd). Bydd hyn yn cael ei gefnogi gan ein Tlodi tanwydd yng Nghymru: dangosfwrdd rhyngweithiol a’n tablau cyhoeddedig (Amcangyfrifon tlodi tanwydd).

Mae croeso i chi gysylltu â ni yn uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau ynghylch sut rydym yn bodloni'r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu ag OSR trwy e-bostio regulation@statistics.gov.uk neu drwy wefan OSR.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn pennu saith nod llesiant i Gymru. Amcanion y nodau hyn yw creu Cymru sy’n fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach, a chyfrifol ar lefel fyd-eang, ac yn cynnwys cymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n gorfod cael eu defnyddio at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fydd Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, rhaid iddynt (a) gyhoeddi'r dangosyddion diwygiedig a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Cafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn eu gosod gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a gyflwynwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r rhai a gyflwynwyd ar 16 Mawrth 2016.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig, yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai'r ystadegau sydd wedi'u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd roi naratif ategol i'r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â'u hasesiadau llesiant lleol a'u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: James Koe
E-bost: ystadegau.tai@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 70/2025