Neidio i'r prif gynnwy

Bydd miloedd o drigolion Prestatyn yn elwa ar amddiffyniad gwell rhag llifogydd arfordirol diolch i brosiect amddiffyn arfordirol mawr gwerth £26 miliwn sydd wedi'i gwblhau naw mis yn gynt na'r disgwyl.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd cartrefi a busnesau yn yr ardal nawr yn elwa ar lai o risg o lifogydd arfordirol diolch i'r cynllun amddiffyn rhag llifogydd arloesol sy'n cynnwys arglawdd newydd i storio dŵr o ymchwyddiadau stormydd a lleihau'r risg y byddant yn cyrraedd canol tref Prestatyn

Bydd yr amddiffynfeydd arfordirol newydd, a ddarperir gan Balfour Beatty ar ran Cyngor Sir Ddinbych, yn diogelu 2,297 o gartrefi ac 86 o fusnesau rhag y bygythiad cynyddol o ymchwyddiadau stormydd a chynnydd yn lefel y môr.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, sy'n gyfrifol am Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, a agorodd y cynllun yn swyddogol heddiw: 

Bydd y gwaith hwn yn cadw pobl yn ddiogel a bydd o fudd i'r gymuned am flynyddoedd i ddod. Dyma enghraifft wych o'r awdurdod lleol yn ymateb yn gyflym ac yn gweithredu cynllun sy'n lleihau'r risg o lifogydd yn y dyfodol.

Rwy'n ymwybodol iawn o effaith ddinistriol posibl llifogydd ar gartrefi, bywoliaeth a bywydau pobl. 

Mae diogelu ein cymunedau rhag canlyniadau trychinebus llifogydd ac erydu arfordirol o'r pwys mwyaf i mi yn y swydd hon, ac i'r Llywodraeth.

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu cefnogaeth ar lawr gwlad, a fydd yn amddiffyn ein cymunedau rhag bygythiadau newid hinsawdd.

Mae'r prosiect yn cynnwys arglawdd llifogydd newydd wedi'i osod yn ôl o'r amddiffyniad glan môr bresennol, o amgylch Cwrs Golff y Rhyl ac sy'n rhedeg ger Heol Arfordir y Rhyl.

Bydd y lleoliad strategol hwn yn dal unrhyw ddŵr sy'n gorlifo dros y prif amddiffynfeydd yn ystod tywydd eithafol, gan ei atal rhag llifo tuag at ganol Prestatyn. Mae mesurau diogelu ychwanegol yn cynnwys amddiffynfeydd craig newydd ym mhen gorllewinol y cynllun, gan ddarparu amddiffyniad rhag erydiad o amgylch y llithrfa, ynghyd â gwelliannau i'r cwlferi presennol ac adeiladu dau strwythur gollwng dŵr newydd.

Mae newid yn yr hinsawdd a chynnydd yn lefel y môr wedi cynyddu'r risgiau o lifogydd ar hyd y darn hwn o'r arfordir, gyda llifogydd wedi effeithio ar bron i 500 o eiddo gerllaw yn nwyrain y Rhyl yn ystod stormydd.

Darparodd Llywodraeth Cymru 85% (£22.2 miliwn) o'r cyllid adeiladu drwy ei Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol (CRMP), gyda Chyngor Sir Ddinbych yn cyfrannu'r 15% sy'n weddill. Ariannodd Llywodraeth Cymru y cam datblygu gwerth £1.75 miliwn yn llawn.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth:

Ar ôl gweld effeithiau dinistriol y llifogydd arfordirol a darodd y Rhyl ar 5 Rhagfyr 2013, mae'r gwaith hwn yn arbennig o agos at fy nghalon.

Agorodd y Cyngor Ganolfan Hamdden y Rhyl ar y pryd fel canolfan wacáu mewn argyfwng oherwydd y llifogydd difrifol, a bydd y darlun o weld fy mhreswylwyr yn dod i mewn yn wlyb yn glynu wrth eu hanifeiliaid annwyl yn byw yn fy nghof am byth.

Mae trigolion yn dal i ddod ataf hyd heddiw yn dweud pa mor ddiolchgar ydyn nhw gan eu bod bellach yn gallu cysgu'r nos heb orfod poeni am lifogydd yn eu cartrefi, felly rydw i mor falch o weld y rhan hon o'r prosiect yn cael ei chwblhau a fydd nawr yn rhoi tawelwch meddwl i bobl Prestatyn.

Yn ogystal â diogelu'r ardal rhag llifogydd, helpodd y cynllun gyflogaeth yn y rhanbarth yn ystod y cyfnod adeiladu gan fod 85% o'r swyddi lleol wedi’u rhoi i weithwyr o fewn 40 milltir i'r safle gwaith ac roedd 99% o wariant isgontractwyr lleol o fewn y 40 milltir hynny. Creodd y gwaith 8 swydd newydd a darparwyd dros 190 diwrnod o brofiad gwaith i bobl leol. Roedd dros 110 o fyfyrwyr wedi ymwneud â'r cynllun drwy weithgareddau'r cwricwlwm. Gwelodd y cynllun fanteision amgylcheddol hefyd, gydag 80% o'r deunyddiau a ddefnyddiwyd ar gyfer y wal gynnal yn dod o ffynonellau lleol a 99% o'r gwastraff a grëwyd yn cael ei ddargyfeirio o safleoedd tirlenwi.

Mae cynllun Prestatyn yn rhan o fuddsoddiad CRMP ehangach Llywodraeth Cymru sy’n werth £291 miliwn, a fydd yn ariannu cyfanswm o 15 o brosiectau amddiffyn arfordirol ledled Cymru ar ôl iddynt gael eu cwblhau, gan ddiogelu oddeutu 14,000 o eiddo ledled y wlad.