Neidio i'r prif gynnwy

Gyda chymorth y Gwasanaeth Ynni, uwchraddiodd Amgueddfa Cymru i system wresogi carbon isel ar draws pedwar o'i safleoedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb

Yn 2024, sicrhaodd Amgueddfa Genedlaethol Cymru dros £1 miliwn drwy Grant Gwres Carbon Isel y Sector Cyhoeddus i ddarparu uwchraddiadau gwresogi carbon isel mewn pedwar o'i saith safle. Gyda chefnogaeth Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, disodlodd yr amgueddfeydd boeleri tanwydd ffosil sy'n heneiddio â phympiau gwres ffynhonnell aer, gan wella effeithlonrwydd ynni a lleihau allyriadau carbon.

Ein cefnogaeth

Asesiadau technegol, cymorth â cheisiadau cyllid, a chanllawiau strategol ar ddylunio a chyflenwi system ar draws sawl safle.

Datrysiad technoleg

  • Sain Ffagan - Amgueddfa Werin Cymru: Amnewid pedwar boeler nwy (cyfanswm o 310 kW) â phympiau gwres ffynhonnell aer 210 kW.
  • Amgueddfa Lechi Cymru: Disodli boeler olew nwy 25 kW gyda phwmp gwres ffynhonnell aer 18 kW.
  • Amgueddfa Wlân Cymru: Amnewid dau foeler LPG (cyfanswm o 214 kW) â phympiau gwres ffynhonnell aer 153 kW.
  • Amgueddfa Lofaol Cymru: Disodli boeler nwy 79 kW gyda phwmp gwres ffynhonnell aer 64 kW.
  • Uwchraddio System Rheoli Adeiladau a gwelliannau inswleiddio ar draws pob safle.

Buddsoddiad

  • Dros £1 miliwn o Grant Gwres Carbon Isel y Sector Cyhoeddus.

Effaith

  • Arbedwyd tua 50 tCO₂e bob blwyddyn ar draws y pedwar safle.
  • Gwell rheolaeth o wresogi ac effeithlonrwydd system.
  • Dileu danfoniadau olew a LPG i safleoedd anghysbell, gan wella diogelwch ynni.
  • Cefnogi cynaliadwyedd hirdymor sefydliadau treftadaeth ddiwylliannol Cymru.

Mae'n wych gweld ein hamgueddfeydd yn bwrw ymlaen â'u taith i leihau allyriadau, hyn i gyd gyda chymorth cyllid Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn golygu y gallwn barhau i ddiogelu ein treftadaeth wrth groesawu technoleg newydd.

Huw Irranca-Davies, Dirprwy Brif Weinidog Cymru sy'n gyfrifol am y Newid Hinsawdd.