Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Ffi'r drwydded, amodau, terfynau dalfa blynyddol a misol 2023-2024 arfaethedig ar gyfer cregyn moch

Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am farn am gynigion i newid agweddau ar bysgodfa cregyn moch Cymru drwy ymgynghoriad pythefnos rhwng 15 a 28 Tachwedd 2022. Mae'r newidiadau arfaethedig ar gyfer cyfnod trwydded cregyn moch 2023-2024 a fydd yn dechrau ar 1 Mawrth 2023 ac yn cynnwys:

  • ffi'r drwydded a sut y cafodd ei chyfrifo
  • un newid mân i amodau’r drwydded
  • •gostyngiad yn y Terfyn Dalfa Blynyddol (ACL)

Mae manylion am sut i ymateb i'r ymgynghoriad ar ddiwedd y ddogfen hon.

Ffi trwydded cregyn moch

Yn ymgynghoriad Mesurau Rheoli Cregyn Moch (2020) nododd Llywodraeth Cymru ei bwriad i godi ffi am drwyddedau cregyn moch. Bydd y ffi yn adlewyrchu costau gweinyddu a rheoli'r bysgodfa, gan gynnwys arolygon asesu stoc, ond ni fydd yn cynnwys dulliau gorfodi. Nododd ymgynghoriad 2020 hefyd y fethodoleg ar gyfer cyfrifo'r ffi a byddai'r swm gwirioneddol o ffioedd yn destun ymgynghoriad blynyddol gyda rhanddeiliaid cyn eu cyflwyno.

Mae’r broses o adennill costau a ysgwyddwyd gan Lywodraeth Cymru wrth reoli’r bysgodfa cregyn moch yn cael ei chynnal yn unol ag egwyddorion Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru (2016).

Ni chodwyd ffi yn y cyfnod trwydded cyntaf oherwydd ein bod eisiau deall y costau yn well a sicrhau eu bod yn cael eu cyfrifo a'u cymesur yn gywir.

Ers i'r bysgodfa trwyddedig agor, rydym wedi bod yn cofnodi'r costau perthnasol ond, ac eithrio arolygon asesu stoc, ni fydd gennym ddealltwriaeth lawn tan ychydig cyn i'r ail gyfnod trwydded ddechrau. Felly, ar gyfer cyfnod trwydded 2023-24, dim ond costau'r arolwg asesu stoc fydd yn cael eu hystyried.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o effeithiau'r pandemig byd-eang a’r newid yn yr hinsawdd economaidd ers ymgynghoriad 2020, yn benodol y cynnydd ym mhrisiau tanwydd a’r gostyngiad yn y galw a’r pris am gregyn y moch.

Y Fethodoleg a ddefnyddir i bennu ffi trwydded cregyn moch 2023-2024

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu adennill 50% o'r costau asesu stoc yn yr ail gyfnod trwydded hwn a gweithio tuag at adennill y gost lawn o fewn pum mlynedd gan hefyd ddod o hyd i fesurau effeithlonrwydd i leihau costau i bysgotwyr yn y dyfodol.

Roedd arolwg statws gwyddonol stociau cregyn moch Medi 2022 wedi costio £53,500.

Yn ystod y cyfnod trwydded blaenorol (2022-23), cyhoeddwyd 94 o drwyddedau.

Ffi’r drwydded fydd 50% o £53,500 wedi'i rannu â 94.

Ffi’r drwydded ar gyfer cyfnod trwydded 2023-24

Y ffi arfaethedig fydd £285 y drwydded. Mae'r ffi wedi'i gosod waeth beth yw'r gwir niferoedd o drwyddedau a roddir a phryd y gwneir cais am drwydded.

Amodau arfaethedig y drwydded cregyn moch ar gyfer cyfnod trwydded 2023-24

Rwyf hefyd yn ysgrifennu i ofyn am eich sylwadau ar y newidiadau arfaethedig canlynol i amodau'r drwydded:

Yr amodau a ddilëwyd:

  1. Mae’r drwydded hon yn ddilys o 00:01 ar 1 Mawrth 2022 tan 23:59 ar 28 Chwefror 2023.

Cyfiawnhad: Mae’r wybodaeth wedi’i chynnwys ar y drwydded ei hun.

Yr amodau a ychwanegwyd:

Ni chynigir unrhyw amodau trwydded ychwanegol ar gyfer 2023-2024.

Amodau trwydded arfaethedig ar gyfer cyfnod trwydded 2023-24

Gweler dogfen ganllaw 2022-23, tudalen 11-12 (Pysgodfa cregyn moch: canllawiau 2022 i 2023) am yr holl amodau trwydded arfaethedig.

Y Terfyn Dalfa Blynyddol (ACL)

Mae’r ACL yn gyfanswm o’r cregyn moch y gellir eu cymryd gan pob cwch trwyddedig yn ystod y cyfnod trwydded. Diben yr ACL yw gwarchod y stoc cregyn moch a sicrhau bod y bysgodfa yn gynaliadwy drwy atal gorbysgota.

Comisiynodd Llywodraeth Cymru Brifysgol Bangor i ddatblygu methodoleg y dylid ei ddefnyddio i gyfrifo'r ACL yn seiliedig ar ddata pysgodfeydd a thystiolaeth wyddonol. (Gweler Y Bysgodfa Cregyn Moch – y fethodoleg a ddefnyddir i gyfrifo terfynnau dalfeydd ar LLYW.CYMRU.)

Yn ystod y cyfnod trwydded sy'n dechrau ar 1 Mawrth 2022, yr ACL a bennwyd oedd 5,298 tunnell sef y dalfa cyfartalog dros gyfnod cyfeirio 2015-2019. Cyfeirir at hyn fel 'llinell sylfaen' yr ACL a'i diben yw sicrhau na fydd y gyfradd bysgota’n fwy na chyfartaledd y cyfnod cyfeirio. Dylid ystyried hyn fel nenfwd yn hytrach na tharged.

ACL cyfnod trwydded 2023-24

Roedd canlyniadau arolygon stoc gwyddonol 2022 (Cregyn moch Cymru - asesiad o ddangosyddion sy'n seiliedig ar hyd 2022 ar LLYW.CYMRU), wedi amlygu ychydig o ansicrwydd ynghylch iechyd y stoc, a hynny’n seiliedig ar y digonedd cymharol o gregyn moch o faint gwahanol.

Ar gyfer y cyfnod trwydded a fydd yn dechrau ar 1 Mawrth 2023, bydd 10% o ostyngiad neu ‘byffer’ yn cael ei gymhwyso i’r llinell sylfaen yn unol â'r fethodoleg uchod a chyfarwyddyd Cyngor Rhyngwladol Archwilio'r Môr (ICES, y corff gwyddonol sy'n gyfrifol am gynnal asesiadau stoc yng Ngogledd-ddwyrain Môr yr Iwerydd a’r Baltig) ar gyfer pysgodfa sy’n dlawd o ran data a bydd yn cael ei gosod ar 4,768 tunnell.

Y terfyn dalfa misol hyblyg cychwynnol (MCL)

Yr MCL yw uchafswm y cregyn moch y caiff unrhyw gwch trwyddedig ei gymryd â chewyll ym mharth Cymru mewn mis penodol. Bydd pob cwch trwyddedig yn cael yr un MCL.

Ar ôl penderfynu ar ACL y fflyd trwyddedig, i sicrhau cynaliadwyedd y bysgodfa, mae'n bwysig nad yw’r fflyd cychod yn dal mwy na’r ACL. Bydd yr MCL yn cael ei ddefnyddio i reoli faint o gregyn moch y bydd cychod trwyddedig yn cael eu dal bob mis i sicrhau nad ydynt yn dal mwy na’r ACL a bod manteision y bysgodfa yn cael eu rhannu dros gyfnod y drwydded yn unol â phatrymau pysgota hanesyddol. (Gweler Y Bysgodfa Cregyn Moch - y fethodoleg ar gyfer cyfrif terfynau dalfa Ffigur 2 a Ffigur 3 ar dudalen 12 ac 13 ar LLYW.CYMRU).  

Pennu MCL

Ar 1 Mawrth, ar ddechrau cyfnod pob trwydded, bydd MCL cychwynnol o 50 tunnell fesul cwch trwyddedig yn cael ei gyhoeddi oni bai bod tystiolaeth i awgrymu bod angen terfyn is.

Yn y misoedd sy'n dilyn, defnyddir y ffurflenni dalfa misol a lenwir gan ddeiliaid trwydded i asesu’r cynnydd at yr ACL o'i gymharu â phatrymau pysgota hanesyddol. Gellir lleihau MCL bob mis i sicrhau nad oes mwy o gregyn moch na’r ACL yn cael eu dal, neu ei gynyddu, os credir yn hyderus bod y stoc yn iach ac na fydd mwy o gregyn moch na’r ACL yn cael eu dal.

Yn ystod y cyfnod trwydded a ddechreuodd ar 1 Mawrth 2022, 50 tunnell oedd yr MCL ac ni fu unrhyw reswm dros gynyddu neu leihau’r gwerth hwn hyd yma. Bu ambell achos lle y mae deiliaid trwydded wedi agosáu at eu MCL ac mae cynnydd tuag at yr ACL wedi bod yn unol â’r patrymau pysgota hanesyddol disgwyliedig.

Yr MCL ar gyfer Mawrth 2023

Ar gyfer 1 Mawrth 2023, bydd yr MCL yn 50 tunnell.

Sut i ymateb

Os hoffech roi sylwadau ar y cynigion hyn, mae croeso i chi ymateb ar unrhyw ffurf ysgrifenedig ac anfon y sylwadau i MarineandFisheries@llyw.cymru neu eu hanfon i'r cyfeiriad post a nodir isod. Os ydych yn anfon e-bost, dylech gynnwys yr ymadrodd "Amodau Arfaethedig Trwydded Cregyn Moch 2023-24" neu “Proposed Whelk Permit Conditions 2023-24”yn y blwch pwnc.

Rhaid i’r ymatebion ddod i law erbyn dydd Llun 28 Tachwedd 2022 fan bellaf.

Os hoffech ragor o wybodaeth neu ofyn am gopi papur o'r ymgynghoriad anffurfiol neu wybodaeth bellach am gynnwys yr ymgynghoriad anffurfiol ei hun, cysylltwch ag Is-adran y Môr a Physgodfeydd drwy ddefnyddio'r manylion isod.

Yn gywir

Mark Tilling

Polisi Pysgodfeydd
Swyddfa Pysgodfeydd
Suite 3, Cedar Court
Haven’s Head Business Park
Aberdaugleddau
Sir Benfro
SA73 3LS

Yr Is-adran y Môr a Physgodfeydd

Ffôn: 03000 254803

Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Bydd Gweinidogion Cymru yn prosesu’r wybodaeth bersonol hon, yn unol â’u pwerau statudol, er mwyn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus ynghylch sut y maent yn arfer eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n ymdrin â’r materion sy’n berthnasol i’r ymgynghoriad hwn, neu wrth gynllunio ymgynghoriadau yn y dyfodol. Os bydd Llywodraeth Cymru am ddadansoddi’r ymatebion ymhellach, efallai y bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud gan drydydd parti achrededig (er enghraifft, sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori). Ymgymerir â gwaith o'r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn pennu gofynion llym ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, caiff enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i'w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • i ofyn (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael ei ‘ddileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i ofyn inni drosglwyddo’ch data i gorff arall
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a sut mae’n cael ei defnyddio, neu er mwyn arfer eich hawliau o dan y GDPR, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif ffôn: 01625 545 745 or 0303 123 1113