Neidio i'r prif gynnwy

Mae AMPLYFI i greu deugain o swyddi newydd yng Nghaerdydd yn dilyn cymorth gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

  • Mae AMPLYFI yn arbenigo ym maes cloddio yr Is-We 
  • Benthyciad gan Lywodraeth Cymru yn helpu i greu 40 o swyddi
  • Mae’r benthyciad yn dilyn buddsoddiad mawr gan buddsoddwyr BBaCh Cyllid Cymru 

Bydd benthyciad o £400,000 yn ddi-log gan Gronfa Ad-daladwy Llywodraeth Cymru ar gyfer BBaCh yn galluogi AMPLYFI i gyflogi mwy o staff â sgiliau uwch i gynnal a mireinio ei blatfform gwybodaeth busnes, sef DataVoyant.

Mae’r cyllid yn dilyn buddsoddiad ym mis Awst 2016 gan buddsoddwyr BBaCh Grŵp Cyllid Cymru i gyflymu twf busnesau yng Nghymru sydd â photensial uchel.  

Symudodd AMPLYFI i Gaerdydd ym mis Rhagfyr 2015 ble y mae wedi bod yn datblygu a threialu DataVoyant, eu prif gynnyrch.  Mae DataVoyant yn cyfuno canfod data y We a’r Is-we, deallusrwydd artiffisial a data gweledol mewn un platfform hawdd ei ddefnyddio – am y tro cyntaf yn y diwydiant.   

Roedd rhaglen dreilau, oedd yn cynnwys rhai o gwmnïau mwyaf y byd, yn hynod llwyddiannus ac yn cynnig canlyniadau gwerthfawr i’r rhai gymerodd ran.  Roedd y rhaglen yn arddangos hyfywedd masnachol ar draws y meysydd awyrofod ac amddiffyn, bancio, ynni, yswiriant, ecwiti preifat, cwmnïau fferyllol a gwasanaethau proffesiynol.  

Yn dilyn y llwyddiant hwnnw mae gan AMPLYFI bellach nifer o gwsmeriaid pendant.  Mae’r gwasanaeth cychwyn busnes yn mireinio DataVoyant gydag adborth sydd wedi ei ddarparu gan gwsmeriaid cynnar.  

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ken Skates: 

“Mae AMPLYFI yn gwmni technolegol arloesol newydd sydd eisoes wedi dangos gallu o safon ryngwladol.  Dwi’n falch iawn o fod wedi cyfarfod â’r tîm a chlywed am fwriad y cwmni i ddatblygu yn ogystal â’r swyddi o safon uchel fydd yn cael eu creu.   

“Bydd y cyllid yn helpu AMPLYFI i gyflymu’r broses o fasnachu ac i sbarduno eu gwerthiant a’u timau datblygu.  Mae twf ac agwedd ryngwladol AMPLYFI yn dangos yn glir y cyfleoedd sydd ar gael yng Nghymru i gwmnïau technegol sy’n datblygu’n gyflym ac sy’n ystyried sefydlu eu hunain yma.”  

Meddai Chris Ganje, cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol AMPLYFI, 

“Mae benthyciad Llywodraeth Cymru o £400,000 yn gyfle gwych inni.  Byddwn  yn defnyddio’r cyllid hwn i gyflogi rhai o’r peiriannwyr meddalwedd a’r rhaglenwyr gwych yr ydym eisoes wedi eu cyfarfod.  Dyma’r union gymorth fydd yn parhau i feithrin entrepreneuriaeth leol, ond hefyd yn denu mwy o gwmnïau technolegol i Gymru.”  

Mae AMPLYFI hefyd yn manteisio o fod yn rhan o raglen cyflymu busnes Entrepreneurial Spark gan NatWest gyda chefnogaeth KPMG, Dell EMC a Pinsent Masons. Mae’r cyflymydd wedi rhoi rhwydweithiau ychwanegol i AMPLYFI a chyflwyniadau allweddol i gefnogi eu twf a’u datblygiad.  

Cafodd AMPLYFI sylw yn ddiweddar fel cwmni deallusrwydd artiffisial newydd arloesol yn Ewrop, a’i enwi fel un o’r “Dwsin Digidol” o gwmnïau newydd, gan roi Cymru ar y map arloesi digidol.  

Cafodd Chris Ganje y Prif Swyddog Gweithredol ei enwi hefyd fel un o’r 35 o bobl fusnes amlycaf o dan 35 mlwydd oed yng Nghymru.